Mae ein gwasanaethau cymorth yma i ti

Mae bod i ffwrdd yn y brifysgol yn amser cyffrous iawn, ond efallai bydd cyfnodau pan rwyt ti'n teimlo bod angen ychydig o gymorth neu gyngor ychwanegol arnat ti.


Yma yn Abertawe, mae gennym ni lawer o wasanaethau gwych i dy helpu i ffynnu a manteisio i'r eithaf ar dy brofiad fel myfyriwr.


Edrycha ar yr wybodaeth isod i ddysgu am yr holl ffyrdd y gallwn dy gefnogi yn ystod dy daith yn y brifysgol.