Mae llwyth o ffyrdd i gwrdd â phobl newydd ym Mhrifysgol Abertawe. Gelli di ymuno â chymdeithasau a chlybiau chwaraeon, neu wirfoddoli gydag elusennau lleol! Mae creu rhwydwaith cymorth yn ffordd wych o wella dy iechyd a dy les meddyliol. Dyma ychydig o ffyrdd y gelli di wneud hynny:
Ymaelodi â chymdeithas a chwrdd â phobl newydd
Ffordd wych o gwrdd â ffrindiau newydd a chwrdd â phobl o'r un meddylfryd yw ymaelodi â chymdeithas. Mae dy Undeb Myfyrwyr yn gofalu am dros 150 o gymdeithasau, o Anime i Ddartiau, ac o Quidditch i Ffotograffiaeth.
Mae rhywbeth i bawb. Edrycha ar y rhestr lawn o gymdeithasau yma.
Gwirfoddoli gyda Discovery!
Yma ym Mhrifysgol Abertawe, mae gennym ein helusen gwirfoddoli myfyrwyr ein hunain. Wedi'i sefydlu gan fyfyrwyr dros 50 mlynedd yn ôl, mae'n dal i gael ei rheoli ar gyfer myfyrwyr a chan fyfyrwyr â cymorth tîm bach o staff ymroddedig.
Gelli di wirfoddoli ar ystod enfawr o brosiectau gan gynnwys cyfleoedd gyda phlant, pobl hŷn, oedolion anabl, a phrosiectau amgylcheddol. Mae gan Discovery amrywiaeth o gyfleoedd arweinyddiaeth hefyd.
Mae gwirfoddoli yn cael effeithiau cadarnhaol enfawr ar dy iechyd meddwl, felly cymera ran!
Gelli di ymrwymo i brosiect sy'n cael ei gynnal yn wythnosol, bob pythefnos neu bob mis neu gelli di ddod i sesiynau unigol pryd bynnag fo'r awydd gennyt ti. Mae gan Discovery raglen hyfforddi lawn a phroses sefydlu gefnogol i wneud yn siŵr dy fod yn gyfforddus ac yn hyderus â beth bynnag rwyt ti'n ei ddewis.
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ddod i adnabod cymuned Abertawe, gwneud gwahaniaeth cadarnhaol a chwrdd â phobl newydd, yn enwedig myfyrwyr eraill sy'n gwirfoddoli. A hynny wrth feithrin dy sgiliau a chael profiadau anhygoel i ychwanegu at dy CV.
Dyma beth dywedodd un o'n Cydlynwyr Prosiect gwych:
''Gwirfoddoli gyda Discovery oedd y peth gorau a wnes i yn y brifysgol; fe wnaeth gymaint o wahaniaeth i fy hyder ac fe wnes i gynifer o ffrindiau. Hefyd, fe helpodd i sicrhau fy swydd gyntaf ar ôl y brifysgol. Gwnaeth Discovery greu ail deulu a fy nghyflwyno i ystod eang o bobl sydd bellach yn rhai o fy ffrindiau agosaf. Mae'r gwersi dwi wedi'u dysgu wrth fod yn rhan o Discovery wedi gwella fy lles, wedi hybu fy nghyflogadwyedd ac wedi fy helpu i nodi'r
Dysgu rhagor am Discovery
Ymuno â grŵp Facebook swyddogol a chwrdd â dy gymdogion!
Mae ymuno â grŵp Facebook swyddogol yn ffordd gyfleus o gwrdd â phobl a fydd yn byw yn yr un Preswylfeydd â thi. Clicia ar y ddolen berthnasol isod i ymuno:
Bay Campus , Campws y Bae | Facebook
Singeton Park Campus, Campws Parc Singleton | Facebook
Dysgu awgrymiadau gwych ar gyfer cwrdd â ffrindiau!
Nid yw cwrdd â ffrindiau yn y Brifysgol bob amser yn hawdd i bawb. Rydym i gyd yn gweithio drwy'r amser i wella ein sgiliau cymdeithasol ac mae'n dod yn haws wrth i ni gael rhagor o brofiad. Mae cwrdd â phobl newydd yn frawychus!
Mae tîm BywydCampws wedi paratoi awgrymiadau defnyddiol ynghylch sut i gwrdd â ffrindiau. Wedi'r cyfan, mae ffrindiau o'r brifysgol yn ffrindiau am oes! Edrycha ar y rhestr o ddosbarthiadau isod.
Mynd i ddigwyddiadau!
Mae rhywle i fynd a rhywbeth i'w wneud drwy'r amser ym Mhrifysgol Abertawe. Mae mynd allan, rhoi cynnig ar bethau newydd, a chwrdd â phobl yn gallu cael effeithiau cadarnhaol mawr ar dy hyder a dy iechyd meddwl.
Edrycha ar Galendr Digwyddiadau MyUni, neu tudalen digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr.