Cais i'r Cynllun Myfyrwyr Llysgennad

Mae Cais y Cynllun Myfyrwyr Llysgennad yn cynnwys adrannau gwahanol. Bydd yn dechrau drwy gasglu gwybodaeth gefndirol amdanoch cyn cyrraedd y cwestiynau lle byddwch yn amlygu eich sgiliau a'ch profiadau.

Argymhellir yn fawr eich bod yn darllen y wybodaeth a'r tudalennau gwe isod cyn dechrau ar eich caisBydd hyn yn eich helpu i ymgyfarwyddo â'r rôl a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â hi fel y gallwch deilwra eich atebion yn briodol.

Os oes angen cymorth ac arweiniad arnoch o ran llunio eich cais, cysylltwch â'r Ymgynghorwyr Gyrfaoedd neu trefnwch apwyntiad unigol ag aelod o'u tîm.

CANLLAWIAU YMGEISIO LLYSGENHADON MYFYRWYR