CYFLWYNIAD I RÔL MYFYRWYR LLYSGENNAD

Er mwyn cyflawni ei huchelgais o fod ymysg y 30 o brifysgolion gorau, mae angen gweithlu gwasanaethau proffesiynol ar Brifysgol Abertawe. Rhaid i'r gweithlu hwnnw feddu ar y sgiliau amrywiol i sicrhau y gall gyflawni rhagoriaeth drwy systemau a phrosesau effeithlon ac effeithiol sy'n manteisio ar ddatblygiadau technolegol.

Coleg/Ysgol: Cyfarwyddiaeth Academïau
Teitl y Swydd: Myfyriwr Llysgennad
Adran/Pwnc: Academi Cyflogadwyedd Abertawe
Cyflog: £9.90 yr awr (Gradd 1.3 Graddfa Gyflog y Brifysgol)
Oriau gwaith: Ceir cyfleoedd i weithio drwy gydol y flwyddyn mewn digwyddiadau amrywiol ar draws y Brifysgol. Gallwch gofrestru i weithio i gyd-fynd â'ch amserlen a'ch argaeledd. Rydym yn chwilio am unigolion ymroddedig sy'n barod i gofrestru'n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.
Contract: Ionawr/Mai 2023 i ddiwedd gradd
Lleoliad: Bydd deiliad y swydd hon yn gweithio ar Gampws Parc Singleton ac ar Gampws y Bae. Gyda rhywfaint o weithio o bell neu oddi ar y campws yn ôl yr angen.

ADRANNAU DISGRIFIAD SWYDD MYFYRWYR LLYSGENNAD