Beth yw Myfyriwr Llysgennad

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus i fod yn fyfyrwyr llysgennad yn cael amrywiaeth eang o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau megis diwrnodau agored i israddedigion ac ôl-raddedigion, ymgyrchoedd galw, marchnata digidol a chymaint yn fwy.

Mae myfyrwyr llysgennad yn gwneud cyfraniad anferth at ein digwyddiadau, gan fod yn gyfrifol am sicrhau bod ymwelwyr â'r Brifysgol yn cael profiad pleserus o safon uchel, cynrychioli'r Brifysgol mewn amrywiaeth o rolau a thywys darpar fyfyrwyr a'u rhieni o gwmpas campysau'r Brifysgol ar deithiau a drefnwyd.
Ar ben hynny, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cynllun Myfyrwyr Llysgennad wedi rhoi cymorth aruthrol i'r Brifysgol yn ystod y pandemig megis gweithio yn y canolfannau lle cynhaliwyd profion am Covid a'r mannau arlwyo ar y campws. Mae'r rôl yn amrywiol iawn a chaiff cyfleoedd newydd eu creu bob blwyddyn i'r llysgenhadon gymryd rhan ynddynt.

Mae llawer o resymau dros fod yn Fyfyriwr Llysgennad ym Mhrifysgol Abertawe:

  • Cynllun Myfyrwyr Llysgennad cyflogedig gyda hyfforddiant lawn wrth ennill profiadau gwych i’w hychwanegu ar eich CV.
  • Cwrdd â ffrindiau newydd a chynrychioli Prifysgol Abertawe mewn amryw o ddigwyddiadau Cymraeg a Saesneg; gyda chyfleoedd i weithio am dâl mewn adrannau arall ar draws y Brifysgol.
  • Digwyddiadau cymdeithasol drwy gydol y Flwyddyn Academaidd.
  • Cyfle i ymgeisio i fod yn Uwch-fyfyriwr Llysgennad ar ôl blwyddyn fel Myfyriwr Llysgennad.
  • Gweithio tuag at Wobr Llysgennad y Swyddfa Recriwtio Myfyrwyr ac Achrediad WOWee gydag Academi Cyflogadwyedd Abertawe a/neu Gwobr Academi Hywel Teifi a gydnabyddir ar eich tystysgrif HEAR wrth raddio.

ARWEINIAD I RECRIWTIO MYFYRWYR LLYSGENNAD