Llongyfarchiadau ar ddod yn rhan o Gynllun Myfyrwyr Llysgennad Prifysgol Abertaw

Fel Myfyriwr Llysgennad, byddwn yn chwarae rôl hanfodol wrth gynorthwyo rhanddeiliaid a chleientiaid y Cynllun ynghylch pob agwedd ar eu hymweliad, yn ogystal â chyfleoedd drwy gydol y flwyddyn i weithio gyda Chyfadrannau ac Adrannau ledled y Brifysgol.  

Yn ogystal â bod yn ased i'r Brifysgol, gall Myfyrwyr Llysgennad hefyd gael profiad gwerthfawr iddyn nhw eu hunain a'u Hynt Graddedigion. Mae'r Cynllun Myfyrwyr Llysgennad yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i gymryd rhan, sydd o fudd i'ch datblygiad personol a'ch sgiliau cyflogadwyedd, er mwyn eich paratoi ar gyfer byd gwaith ar ôl i chi raddio o Abertawe. 

Rydym yn gwneud ein gorau glas i 'Feithrin Diwylliant o Gymuned ac Ymrwymiad' gan eich galluogi a'ch grymuso i ffynnu a chyfrannu at y Brifysgol ehangach a'i heffaith yn fyd-eang. 

Gwerthoedd y Gwasanaethau Proffesiynol 

Fe'ch cyflogir bellach yn Fyfyriwr Llysgennad yn y Brifysgol; mae hyn yn golygu eich bod yn rhan o'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Proffesiynol a bod yn rhaid i chi ddilyn y Gwerthoedd Gwasanaethau Proffesiynol  

Mae holl feysydd Gwasanaethau Proffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe yn gweithredu'n unol â set ddiffiniedig o Werthoedd Craidd, a disgwylir i bawb allu dangos ymrwymiad i'r gwerthoedd hyn o adeg cyflwyno cais am swydd i gyflawni'u rôl o ddydd i ddydd.

Ein gwerthoedd:  

Rydym yn Cydweithio 

Rydym yn ymfalchïo mewn amgylchedd gweithio rhagweithiol a chydweithredol o gydraddoldeb, ymddiriedaeth, parch, cydweithio a her, i ddarparu gwasanaethau sy'n ceisio rhagori ar anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid.  

Rydym yn Broffesiynol 

Rydym yn ymfalchïo mewn defnyddio ein gwybodaeth, ein sgiliau, ein creadigrwydd, ein gonestrwydd a'n doethineb i ddarparu gwasanaethau arloesol, effeithiol ac effeithlon ynghyd ag atebion o safon ardderchog. 

Rydym yn Ofalgar 

Rydym yn derbyn cyfrifoldeb am wrando ar ein myfyrwyr, ein cydweithwyr, ein partneriaid allanol a'r cyhoedd, eu deall ac ymateb yn hyblyg iddynt, fel bod pob cysylltiad rhyngddynt a ni yn brofiad personol a chadarnhaol. 

Rhagor o wybodaeth i'ch helpu yn eich rôl

Drwy'r dolenni isod bydd modd i chi ddarllen am rôl y Myfyriwr Llysgennad a'i deall.  

Llawlyfr Myfyrwyr Llysgennad

Llawlyfr digidol sy'n cynnwys awgrymiadau a gwybodaeth i'ch helpu yn eich rôl

Aerial view of the marina