Crynodeb

Fel Myfyriwr Llysgennad, mae Prifysgol Abertawe bellach yn eich cyflogi'n ffurfiol ac mae'n rhaid i chi ddilyn ei pholisïau a'i gweithdrefnau. Rheolwr y Cynllun Myfyrwyr Llysgennad yw eich rheolwr llinell chi bellach, ac mae'n cael ei gefnogi gan ddau Gynorthwy-ydd y Cynllun Myfyrwyr Llysgennad.

Sut mae'r Cynllun Myfyrwyr Llysgennad yn gweithio?

Fel Myfyriwr Llysgennad, mae gennych gontract heb oriau sefydlog ac nid oes angen i chi weithio isafswm o oriau felly. Y rheswm dros hyn yw rhoi hyblygrwydd i chi drefnu’r gwaith i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau academaidd ac unrhyw gyfrifoldebau eraill. 

Mae'r Cynllun Myfyrwyr Llysgennad yn wasanaeth a ddarperir i adrannau ledled y Brifysgol ac, ar adegau, y tu allan i'r Brifysgol. Dim ond ychydig gyfleoedd gwaith, megis Diwrnodau Agored neu Ymgyrchoedd Galw a gynhelir bob blwyddyn, sy'n galw am niferoedd mawr o Lysgenhadon i'w cefnogi. Ceir braslun syml isod o'r ffordd y caiff cyfleoedd gwaith eu prosesu.  

Cylch Bywyd Cyfleoedd Gwaith 

  1. Bydd adrannau'n gofyn am Lysgenhadon drwy ddefnyddio ffurflen ar-lein.  
  2. Yna bydd tîm y Cynllun Myfyrwyr Llysgennad yn anfon y cais at y Myfyrwyr Llysgennad, a gallwch fynegi eich diddordeb yn y gwaith.  
  3. Bydd tîm y Cynllun yn casglu'r ymatebion ac yn eu cyflwyno i'r adran a ofynnodd am y cymorth, a fydd yn dewis Llysgenhadon i weithio. 
  4. Bydd tîm y Cynllun yn cadarnhau'r Llysgenhadon sydd wedi cael eu dewis drwy e-bost, a bydd yr adran yn cysylltu â nhw i roi rhagor o wybodaeth a chyfarwyddiadau.  
  5. Bydd yr Adran yn cadw cofnod o'r Llysgenhadon a weithiodd ac yn cyflwyno'r oriau hynny i dîm y Cynllun ar ddiwedd y mis. 
  6. Bydd tîm y Cynllun yn prosesu'r holl oriau sydd wedi'u cyflwyno gyda'r adran Gyflogres a fydd yn talu'r Llysgennad ar ddiwedd y mis canlynol (er enghraifft, Pe bai chi wedi gweithio oriau yn ystod mis Ionawr, byddech yn derbyn eich cyflog ar ddiwrnod gwaith olaf mis Chwefror).  

Fel rhan o'ch proses gynefino, gofynnwyd i chi gwblhau ffurflen casglu data ar gyfer y gronfa ddata. Gwnaeth y ffurflen hon holi am fanylion eich cwrs, gweithgareddau allgyrsiol, diddordebau gwaith a'ch taith wrth gyflwyno cais i Brifysgol Abertawe. Yna rydym yn rhannu'r wybodaeth hon â'n cleientiaid sy'n defnyddio'r wybodaeth i deilwra cyfleoedd gwaith a phrosiectau Marchnata/Recriwtio ar sail yr wybodaeth hon. Ceir rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd gwahanol y gallwch gymryd rhan ynddynt ar ein tudalen Cyfleoedd Gwaith 

MWY O WYBODAETH