FEL MYFYRIWR LLYSGENNAD I BRIFYSGOL ABERTAWE, BYDDAF:

  1. Yn frwdfrydig ac yn gadarnhaol am fy mhrofiad ym Mhrifysgol Abertawe. 
  2. Yn cefnogi Academi Cyflogadwyedd Abertawe a staff eraill sy'n cynnal y digwyddiad, drwy ddilyn cyfarwyddiadau a gosod esiampl dda. 
  3. Yn trin pobl eraill â pharch, gan fod yn gynhwysol o amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb, gan gynnwys rhywedd, oedran, tarddiad ethnig, crefydd a chred, cyfeiriadedd rhywiol, neu anabledd. 
  4. Yn gwneud fy ngorau glas i sicrhau bod pawb sy'n cymryd rhan yn cael eu cynnwys a'u gwerthfawrogi, heb wneud rhagdybiaethau am eu cefndiroedd. 
  5. Yn gwneud fy ngwaith mewn modd proffesiynol. 

PROFFESIYNOLDEB A DIBYNADWYEDD, BYDDAF:

  1. Yn brydlon ar gyfer yr holl ddigwyddiadau a gweithgareddau rwyf yn cymryd rhan ynddynt.
  2. Yn rhoi gwybod i staff cyn y digwyddiad os nad oes modd i mi fod yn bresennol, gan roi o leiaf 48 awr o rybudd.
    (gweler canslo a hwyrder).
  3. Yn cyflwyno fy hun mewn modd proffesiynol: yn gwisgo dillad addas ar gyfer fy rôl, gan gynnwys crys polo neu hwdi, ynghyd â chortyn gwddf a bathodyn adnabod.
  4. Yn defnyddio iaith briodol bob amser; gan gynnwys wrth sefydlu cyn y digwyddiad a chlirio ar ei ôl.
  5. Yn defnyddio fy ffôn symudol ar gyfer argyfyngau yn unig neu ar gyfer cyfathrebu sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r digwyddiad.
  6. Yn dilyn polisi dim ysmygu oni bai fod rhywun yn dweud fel arall, ac yn osgoi ysmygu o flaen pobl rydym yn gweithio gyda nhw myfyrwyr, staff ac yn gyhoeddus wrth gynrychioli'r brifysgol.
  7. Yn trin unrhyw beth a drafodir mewn ystafelloedd staff ysgolion a cholegau yn gyfrinachol ac ni ddylid ei ailadrodd y tu allan i’r mannau hyn.
  8. Yn rhoi gwybod i staff am anawsterau o ran fy rôl, er mwyn darparu cymorth a chyngor cynnar fel y bo'n briodol.
  9. Yn cadw cyfrinachedd a chadw at ganllawiau diogelu data wrth drin data personol a/neu sensitif
  10. Ni fyddaf yn dod i weithio'n feddw nac yn sâl fore trannoeth

CANSLO A HWYRDER, BYDDAF:

  1. Yn rhoi o leiaf 48 awr o rybudd os oes rhaid i mi ganslo gweithio ar gyfer digwyddiad.
  2. Yn ffonio ac yn siarad ag aelod o'r tîm yn uniongyrchol os bydd amgylchiadau annisgwyl yn golygu bod yn rhaid i mi ganslo o fewn 48 awr i ddigwyddiad.
  3. Rhowch rybudd o ganslo digwyddiad bore Llun cyn 5pm ddydd Gwener.
  4. Yn cysylltu â staff os byddaf yn hwyr ar ddiwrnod y digwyddiad.
  5. Byddwch yn wynebu camau disgyblu os nad ydych yn rhoi rhybudd yn unol â'r mesurau uchod

IECHYD A DIOGELWCH, BYDDAF

  1. Yn diogelu fy iechyd a diogelwch fy hun a phobl eraill, gan fod yn ofalus i beidio â rhoi fy hun neu bobl eraill mewn perygl.
  2. Yn rhoi gwybod i aelod o staff os bydd damwain neu anaf ac yn peidio â cheisio rhoi cymorth cyntaf oni bai fy mod wedi fy ardystio ac wedi nodi argyfwng sy'n bygwth bywyd
  3. Yn rhoi gwybod i staff am unrhyw fater meddygol neu anghenion ychwanegol pan allai hyn effeithio ar fy niogelwch i neu ddiogelwch pobl eraill.
  4. Yn darparu manylion llawn am unrhyw ddamwain i aelod o staff er mwyn rhoi gwybod amdano yn swyddogol.

ENW DA PRIFYSGOL ABERTAWE A HAWLIAU DEFNYDDWYR, BYDDAF:

  1. Yn cadw llygad ar y diweddaraf o ran negeseuon marchnata allweddol y Brifysgol, gan fod yn ofalus i rannu ffeithiau cywir yn unig.
  2. Yn gofalu i beidio â chodi disgwyliadau'n amhriodol wrth siarad am elfennau o fywyd Prifysgol Abertawe a all newid bob blwyddyn, megis argaeledd modiwlau, costau llety a chymorth ariannol.
  3. Yn ymatal rhag ysmygu, yfed alcohol neu unrhyw weithgaredd arall a allai ddwyn anfri ar y Brifysgol wrth wisgo crys polo neu hwdi Myfyrwyr Llysgennad Prifysgol Abertawe.
  4. Yn postio mewn ffordd gyfrifol yn y cyfryngau cymdeithasol wrth gael fy adnabod fel Myfyriwr Llysgennad neu wrth gynrychioli Prifysgol Abertawe.

GWEITHDREFN DDISGYBLU

Anaml y bydd angen camau disgyblu, gan fod y rhan fwyaf o Fyfyrwyr Llysgennad yn ymfalchïo'n fawr yn eu gwaith. Fodd bynnag, bydd methu  glynu wrth y Côd Ymddygiad yn arwain at gychwyn y weithdrefn ganlynol.

Mae polisi tair streic ar waith. Os cewch dair streic yn ystod eich cyflogaeth, ni fydd gofyn i chi weithio fel Myfyriwr Llysgennad eto. Gellir cael streic o ganlyniad i un o'r pethau canlynol:

  • Cyrraedd dros bum munud yn hwyr i'r gwaith ar fwy nag un achlysur.
  • Canslo gwaith heb 48 awr o rybudd neu reswm dilys, megis salwch, argyfwng, neu ail-drefnu darlith yn annisgwyl.
  • Canslo'r gwaith gyda llai na 48 awr o rybudd, a methu ffonio'r swyddfa i roi rhybudd.
  • Methu cyrraedd y gwaith heb rybudd nac esboniad ymlaen llaw.
  • Dod i'r gwaith yn feddw neu â phen mawr fore trannoeth.
  • Iaith neu ymddygiad amhriodol (gan gynnwys ysmygu, neu yfed alcohol yn gyhoeddus) wrth wisgo eich crys-t neu wisg Myfyriwr Llysgennad.
  • Derbyn adborth gwael gan aelod o staff, y cyhoedd, neu gyd-Fyfyriwr Llysgennad fwy nag unwaith.
  • Defnyddio ffôn symudol yn gyson wrth weithio, y tu hwnt i'r defnydd sy'n gysylltiedig â gwaith neu ddefnydd brys y cytunwyd arno.
  • Ymddangos fel eich bod yn rhoi golwg negyddol ar y Brifysgol wrth weithio, gan gynnwys drwy'r cyfryngau cymdeithasol.
  • Torri cyfrinachedd yn enwedig mewn perthynas â lles person ifanc.
  • Camymddwyn difrifol, a all arwain at ddiswyddo ar unwaith.
  • Bydd unrhyw un o'r amgylchiadau hyn neu unrhyw doriad difrifol neu gyson arall o'r côd ymddygiad yn cael ei ymchwilio'n llawn.
  • Bydd Myfyrwyr Llysgennad yn cael eu gwahodd i gyfarfod unigol i drafod y mater. Cofnodir streic yn eich cofnod Myfyriwr Llysgennad. Os bydd myfyriwr yn derbyn tair streic, bydd yn cael ei ddiswyddo yn ôl disgresiwn Rheolwr y Cynllun Myfyrwyr Llysgennad