Bydd croeso ac Ymsefydlu ar gyfer y rhaglen yn dechrau am 4yp, dydd Iau y'r 26ain o Fedi ar Gampws Singleton yn Ystafell 107, Llawr Cyntaf, Adeilad Technium Digidolc yn para tan tua 5:30yp. Bydd lluniaeth yn cael ei ddarparu, fel rydyn ni'n deall y byddwch yn debygol o gyrraedd yn syth o'r gwaith.
Mae'r amserlen hon yn berthnasol i fyfyrwyr ôl-raddedig newydd a addysgir wrth astudio'r pynciau canlynol:
- MA Addysg (Cymru)
- MA Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth
- MA Addysg (Cymru): Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cwestiynau Cyffredin
Beth yw Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol?
Mae'r Brifysgol yn seiliedig ar dair cyfadran, a byddwch chi'n ymuno â Chyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (FHSS). Mae pedair ysgol gan y Gyfadran:
-
Yr Ysgol Diwylliant A Chyfathrebu
-
Ysgol Y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
-
School Of Management
- Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Yn ystod eich amser yma, cewch eich addysgu yn eich ysgol gartref, neu eich ysgolion cartref os ydych yn rhan o raglen gydanrhydedd, ond rydym ni i gyd yn rhan o gymuned fywiog y gyfadran. Mae hyn yn golygu y bydd llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol, academaidd a chymunedol yn cael eu cynnal i'r gyfadran gyfan drwy gydol y flwyddyn, lle cewch gyfle i gwrdd, cymdeithasu a dysgu gyda chydweithwyr a myfyrwyr o'r Ysgolion eraill.
Pa apiau a systemau TG bydda i'n eu defnyddio?
Bydd eich sesiwn 'Camau Cyntaf' yn ystod yr Wythnos Groeso yn cyflwyno'r prif blatfformau TG rydym yn eu defnyddio yn y Brifysgol, a bydd eich darlithwyr yn rhoi gwybod i chi am unrhyw feddalwedd benodol i'r cwrs y byddwch yn ei defnyddio wrth astudio.
Cyn i chi gyrraedd, gallech chi baratoi drwy lawrlwytho Canvas, ein platfform dysgu digidol. Bydd tudalennau ar Canvas ar gyfer pob un o'ch modiwlau, lle bydd llawer o'r adnoddau dysgu y bydd eu hangen arnoch chi'n cael eu storio. Hefyd, bydd gennych fynediad at Hyb yr Ysgol ar Canvas, sef eich siop dan yr unto ar gyfer gwybodaeth, adnoddau, manylion cyswllt a digwyddiadau allweddol yn yr Ysgol, y Gyfadran a'r Brifysgol drwy gydol eich astudiaethau.
Mae'r Brifysgol yn cynnal llawer o gyfarfodydd, cynadleddau a sesiynau gwybodaeth drwy Zoom, felly mae'n syniad da lawrlwytho hwn. Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn gallu mewngofnodi gan ddefnyddio eich cyfrif yn y Brifysgol ar eich cyfrifiadur, eich llechen neu eich ffôn. Os nad ydych yn gyfarwydd â Zoom, mae'r Brifysgol wedi llunio gwybodaeth bellach a chanllawiau i ddefnyddwyr.
Sut gallaf gofrestru?
Ewch i dudalennau gwe Cofrestru y Brifysgol er mwyn derbyn arweiniad ar sut i gofrestru.
Os byddwch chi’n profi anawsterau o ran cofrestru ar-lein, e-bostiwch MyUniHub a bydd y tîm yn hapus i’ch helpu chi.