CYNADLEDDA ZOOM

GYDA CHEFNOGAETH O’R RHWYDWAITH FIDEO CYMRU

Zoom banner

CROESO I ZOOM

Fel myfyrwyr Prifysgol Abertawe bydd eich tanysgrifiad Zoom yn eich galluogi i ymuno â darlithoedd, a gynnal cyfarfodydd cynhadledd fideo ar neu oddi ar y campws, gydag unrhyw un, ar unrhyw adeg. Gallwch chi gymryd rhan mewn cyfarfodydd o'ch cyfrifiadur neu dyfais bersonol (ffonau, tabledi, gliniaduron, ac ati). Mae rhai o'r prif nodweddion mae Zoom yn cynnig yn cynnwys:

  • Amserlennu, cynnal, neu ymuno â chyfarfodydd
  • Rhannu cynnwys a chydweithio ar ddogfennau
  • Recordio fideo o’r cyfarfod i'r cwmwl neu'n lleol
  • Trawsgrifiadau a gynhyrchir yn awtomatig
  • Defnyddio sgwrs, polau, ac is-ystafelloedd yn ystod y gynhadledd

I gael cyngor ac arweiniad ar ddysgu'n effeithiol trwy gyfarfodydd Zoom gweler y canllaw hwn.

Mae gan Zoom dudalen bwrpasol gydag adnoddau wedi'u coladu sy'n ymdrin â gweithio o bell ac addysgu yn ystod y pandemig COVID-19 yma.

BLE I DDOD O HYD I GEFNOGAETH?

Isod fe welwch wybodaeth ar sut i agor Zoom, y ffordd orau i defnyddio Zoom, a gwybodaeth I helpu datrys problemau. Mae mwy o wybodaeth ar gael o Zoom, yn gynnwys gwybodaeth fanwl, hyfforddiant fideo, gwybodaeth am statws Zoom, a dolenni i wasanaethau cymorth 24/7 Zoom.

Am gymorth pellach: https://suprod.service-now.com neu anfon ebost i ITServiceDesk@swansea.ac.uk

arweiniad am ddefnyddio Zoom