Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn edrych ymlaen at groesawu ein myfyrwyr nesaf ym mis Medi 2024. Os hoffech edrych ar y rhaglenni sydd ar gael, gwneud cais neu sgwrsio ag aelod o'r Tîm Derbyn, ewch i'n Tudalennau Cyrsiau Israddedig ac Ôl-raddedig.

Amserlenni Addysgu - Ar gyfer ein myfyrwyr presennol, gallwch ddod o hyd i'ch amserlen addysgu, a hynny drwy https://mytimetable.swan.ac.uk.

Lle alla i fynd am help? - Tîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yw eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyngor, cyfeirio ac ymholiadau cyffredinol. Yn ogystal â'u hanfon trwy studentsupport-socialsciences@swansea.ac.uk neu ffonio 01792 602121, gallwch alw heibio i weld rhywun o'r tîm o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am i 4pm yn y Llawr Maes Technium Digidol, Campws Singleton.