Bydd eich sesiwn 'Camau Cyntaf' yn ystod yr Wythnos Groeso yn cyflwyno'r prif blatfformau TG rydym yn eu defnyddio yn y Brifysgol, a bydd eich darlithwyr yn rhoi gwybod i chi am unrhyw feddalwedd benodol i'r cwrs y byddwch yn ei defnyddio wrth astudio.
Cyn i chi gyrraedd, gallech chi baratoi drwy lawrlwytho Canvas, ein platfform dysgu digidol. Bydd tudalennau ar Canvas ar gyfer pob un o'ch modiwlau, lle bydd llawer o'r adnoddau dysgu y bydd eu hangen arnoch chi'n cael eu storio. Hefyd, bydd gennych fynediad at Hyb y Ysgol ar Canvas, sef eich siop dan yr unto ar gyfer gwybodaeth, adnoddau, manylion cyswllt a digwyddiadau allweddol yn yr Ysgol, y Gyfadran a'r Brifysgol drwy gydol eich astudiaethau.
Mae'r Brifysgol yn cynnal llawer o gyfarfodydd, cynadleddau a sesiynau gwybodaeth drwy Zoom, felly mae'n syniad da lawrlwytho hwn. Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn gallu mewngofnodi gan ddefnyddio eich cyfrif yn y Brifysgol ar eich cyfrifiadur, eich llechen neu eich ffôn. Os nad ydych yn gyfarwydd â Zoom, mae'r Brifysgol wedi llunio gwybodaeth bellach a chanllawiau i ddefnyddwyr.