Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn gyfle i dreulio blwyddyn mewn cyflogaeth yn ystod eich astudiaethau, ac mae ar gael i bob myfyriwr israddedig sy’n astudio yng Nghyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.

Mae credydau ynghlwm wrth y cynllun lleoliadau 12 mis (sy'n werth 120 o gredydau), a chaiff ei asesu fel rhan o raglen radd 4 blynedd. Mae hyn yn golygu y caiff eich perfformiad yn yr asesiad ac wrth gwblhau'r lleoliad effaith ar eich dosbarthiad gradd terfynol, yn union fel blwyddyn o fodiwlau wedi'u haddysgu.

Os oes gennych ddiddordeb mewn profiad gwaith ond nid ydych chi am wneud lleoliad mewn diwydiant am flwyddyn, ewch i'n tudalen Chyflogadwyedd.

A HOFFECH CHI SIARAD GYDA YMGYNGHORYDD GYRFAOEDD?

Gall aelod o’r tîm helpu gyda chwestiynau am:

  •  Cyfleoedd Lleoliad a'r rolau cyffrous sydd ar gael.
  • Cwestiynau am sut brofiad yw gwneud 'Blwyddyn mewn Diwydiant'.
  • Cwestiynau gan fyfyriwr presennol ar Flwyddyn Mewn Diwydiant.

Bydd y Sgwrs Fyw ar gyfer Blwyddyn mewn Diwydiant yn ailagor ddydd Llun 10 Mehefin rhwng 2pm - 4pm a bydd ar gael bob yn ail wythnos o'r dyddiad hwn.

 

Academaidd
female student writing

 

  • Bydd y sgiliau sy'n cael eu meithrin ar leoliad yn gwella dysgu myfyrwyr a gellir eu rhoi ar waith mewn modiwlau yn ystod blwyddyn olaf eu hastudiaethau.
  • Mae tystiolaeth yn dangos bod lleoliad yn cael effaith gadarnhaol ar berfformiad academaidd myfyrwyr oherwydd bod myfyrwyr yn aml yn canolbwyntio'n well ac wedi'u paratoi'n well ar gyfer y farchnad recriwtio graddedigion.

 

Profiad a Chyflogadwyedd Ariannol Datblygiad a Sgiliau Proffesiynol Datblygiad Personol

Beth yw manteision blwyddyn mewn diwydiant?

Gyda mwy a mwy o gyflogwyr yn chwilio am raddedigion â phrofiad gwaith yn ogystal â chyflawniad academaidd, mae lleoliadau gwaith yn dod yn fwyfwy pwysig i fyfyrwyr, ac maent hefyd yn cynnig manteision sylweddol.

Lauren Stodolnic

Student Image

DISGRIFIA LAUREN EI LLEOLIAD GWAITH FEL "ARDDERCHOG"

Cred Lauren fod ei lleoliad gwaith wedi bod o fudd mawr iddi oherwydd dyma ei swydd gyntaf mewn swyddfa a oedd wedi ei galluogi i "ddysgu ymddygiad swyddfa briodol." Gan ei fod yn gwmni bach, roedd Lauren wedi elwa'n fawr  drwy weithio a helpu mewn amrywiaeth o adrannau a’i helpodd i ennill dealltwriaeth well o'r maes yr oedd hi eisiau gweithio ynddo.

Cwmni'r lleoliad gwaith: Holly & Co
Cwrs: BSc Economeg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant  

DISGRIFIA CARYS EI LLEOLIAD GWAITH FEL UN SYDD WEDI "NEWID BYWYD"

Cred Carys fod ei lleoliad wedi bod o fudd mawr iddi oherwydd mae hi'n teimlo ei bod wedi "datblygu'n fawr fel unigolyn ac fel gweithiwr proffesiynol." Mae hi wedi "gweddnewid o unigolyn swil i ddynes hyderus, annibynnol a phenderfynol."

Cwmni'r lleoliad gwaith: London Group
Cwrs: 
BA (Anrh) Y Cyfryngau, Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Carys Evans

Three Students

Ria Gupta

Student Sitting

DISGRIFIA RIA EI LLEOLIAD GWAITH FEL "ANHYGOEL"

DISGRIFIA RIA EI LLEOLIAD GWAITH FEL "ANHYGOEL"

Noda Ria fod "cwblhau blwyddyn lleoliad gwaith gyda brand moeth sydd ag enw da fel Ferarri wedi bod yn freuddwyd." Trwy gydol ei blwyddyn gyda Ferarri, dysgodd lawer am y busnes a'r cwmni a chafodd brofiad o'r maes gwerthiannau. Roedd modd i Ria wella ei sgiliau rhwydweithio, excel a dadansoddi data.

Cwmni'r lleoliad gwaith: Ferrari
Cwrs: BSc Rheoli Busnes gyda Blwyddyn mewn Diwydiant