Myfyrwyr Newydd/Ar Gyrraedd – Fel arfer bydd myfyrwyr sy’n astudio’n rhaglenni Peirianneg yn defnyddio nifer o becynnau meddalwedd drwy gydol eu gradd. Er mwyn cael y budd gorau o’r rhain a manteisio i’r eithaf ar yr amser tra’n astudio ar-lein, mae’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr yn dewis prynu gliniadur o safon dda ar gyfer eu hastudiaethau, a bydd hyn yn enwedig o ddefnyddiol yn ystod sefyllfa bresennol y pandemig gan y bydd yn caniatáu ichi weithio o bell.
Nid oes rhaid ichi brynu cyfarpar newydd os oes gennych chi rywbeth yn ei le eisoes ar gyfer gweithio o bell. Fodd bynnag, os ydych chi’n bwriadu prynu gliniadur newydd ar unrhyw adeg, dyma isod isafswm y manylebau y mae’r Coleg yn eu hargymell ar gyfer caledwedd CPau.
OS: Windows 10 (Windows 7; Ni fydd Mac OS yn cael ei gefnogi).
CPU: Intel i5 4 core (AMD r5).
RAM: 16GB.
Gyriant Caled: SD 512GB.
Cydraniad: 1080 x 1920 (1080p).
Ar gyfer VR GPU: Nvidia 1070.
Noder: Nid yw’r rhan fwyaf o feddalwedd peirianneg yn cael ei chefnogi ar Mac OS. Felly, argymhellir mynediad drwy’r datrysiad a seilir ar Gwmwl os mai Mac yw’r brif ddyfais rydych chi’n ei defnyddio ar gyfer eich astudiaethau.