Gweler isod y broses a'r gofynion ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu rhaglen MSc ym mis Medi y mae ganddynt asesiadau atodol ym mis Awst, ond sy'n dymuno canslo eu hestyniad awtomatig i gyflwyno eu traethawd estynedig erbyn 15 Rhagfyr 2025. Mae rhai myfyrwyr yn dymuno cadw at ddyddiad gwreiddiol cyflwyno eu traethawd estynedig, sef 30 Medi 2025*.
* Gweler Llawlyfr Traethodau Estynedig eich Adran am eich dyddiad cyflwyno penodol.
I wneud hyn, cwblhewch y Ffurflen Ildio Hawl ar 2024-25 gyfer rhaglenni ôl-raddedig a addysgir a'i chyflwyno i Oruchwyliwr eich Traethawd Estynedig, gan sicrhau eich bod wedi llofnodi adran 'Llofnod Myfyriwr' y ffurflen.
Nid yw'r broses ildio hawl yn berthnasol i fyfyrwyr ar raglenni MSc mewn Gwyddor Perfformiad Chwaraeon Uwch, MSc mewn Arweinyddiaeth a Rheoli Peirianneg ac MSc mewn Gwyddor Actiwaraidd. Mae rheoliadau hyblyg yn berthnasol i'r myfyrwyr hyn.
Rhoddir cymeradwyaeth fel a ganlyn:
- Os ydych chi wedi methu UN modiwl, gall Goruchwyliwr y Traethawd Estynedig roi cymeradwyaeth.
- Mewn amgylchiadau eithriadol, os ydych chi wedi methu DAU fodiwl, yna byddai angen i chi gael cymeradwyaeth gan Gydlynydd y Rhaglen MSc yn ogystal â Goruchwyliwr y Traethawd Estynedig.
Sylwer:
- Mae penderfyniad Goruchwyliwr y Traethawd Estynedig a/neu Gydlynydd y Rhaglen MSc yn derfynol.
- Ni fyddwch yn cael cyflwyno eich traethawd estynedig oni bai i chi gael penderfyniad 'Pasio a Symud Ymlaen' ar ôl cyfarfod y bwrdd asesiadau atodol ym mis Medi. Os ydych chi'n cael unrhyw benderfyniad arall, ni fyddwch yn cael cyflwyno'r traethawd estynedig ac ni fyddwch yn derbyn unrhyw farciau, adborth na chredyd ar gyfer y modiwl traethawd estynedig.
- Rhaid i Oruchwyliwr eich Traethawd Estynedig ddychwelyd y ffurflen Ildio Hawl ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a addysgir erbyn dydd Iau 15 Gorffennaf 2025 fan bellaf.
- Os bydd gennych amgylchiadau esgusodol ar ôl i'r cais am ildio gael ei gadarnhau, bydd rhaid i chi gyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol drwy'r dull yma.
Os oes gennych gwestiynau am y broses hon, Cysylltwch â Ni - Prifysgol Abertawe.