Darllenwch yr atebion i rai cwestiynau cyffredin isod. Os nad yw’ch cwestiwn wedi’i ateb yn yr wybodaeth isod, e-bostiwch engoffice@abertawe.ac.uk
Yr Wythnos Groeso - Cwestiynau Cyffredin
Beth yw'r Wythnos Groeso?
Yr Wythnos Groeso yw'r wythnos cyn wythnos gyntaf addysgu, ac yn gyfle inni groesawu pawb i Brifysgol Abertawe a'r Coleg Peirianneg a'r Ysgol Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
Bydd yr Wythnos Groeso ar gyfer y rhai sy'n dechrau ym mis Ionawr yn dechrau ddydd Llun 18 Ionawr.
Rydym ni'n gwybod efallai na fydd modd i rai myfyrwyr ymuno â ni ar unwaith, ac efallai byddi di'n poeni nad wyt ti mor barod â hoffet ti fod, ac rydym ni'n gweithio'n galed i sicrhau y bydd llawer o gyfleoedd a chymorth ar gael i ti cyn i ti ddechrau dy astudiaethau.
Bydd yr holl weithgareddau sefydlu rydym ni'n eu trefnu yn rhoi gwybodaeth hanfodol i ti er mwyn ymsefydlu, cyfleoedd i gwrdd â myfyrwyr newydd eraill a myfyrwyr presennol sydd ar lefel uwch, a gofyn cwestiynau sydd gen ti cyn dechrau dy astudiaethau.
A fydd gweithgareddau'r Wythnos Groeso yn cael eu cynnal ar-lein?
Bydd, ar y cyfan rydym ni'n cynllunio wythnos o weithgareddau ar-lein er mwyn rhoi cyfle i bawb gymryd rhan. Hefyd, byddwn ni'n recordio'r sesiynau Gweminar allweddol a'u gwneud ar gael i bobl nad oes modd iddynt fod yn bresennol, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael mynediad at wybodaethbwysig.
Mae amserlenni'r Wythnos Groeso ar gael yma.
Yn yr amserlenni, byddi di'n gweld dolenni i gofrestru am ddigwyddiadau, ac mae'n bwysig dy fod yn mewngofnodi ac yn cofrestru am dy sesiynau cyn yr Wythnos Groeso.
Hefyd, byddi di'n gweld sesiynau Zoom nad oes angen i ti gofrestru amdanynt ymlaen llaw. Ar gyfer y sesiynau hyn, byddi di'n gweld y manylion Zoom yn lle dolen gofrestru (dolen, rhif adnabod y cyfarfod, a chyfrinair). Dilyna'r ddolen a theipia'r manylion sydd eu hangen ar ddechrau'r sesiwn.
Gwiria'r amserlenni yn nes at yr amser, rhag ofn y bydd newidiadau.
Hefyd, rydym ni'n cynllunio sesiynau wyneb-yn-wyneb ar y campws ond byddwn ni'n glynu wrth gyngor y Llywodraeth ar gyfer y rhain. Ym mhob lleoliad, bydd uchafswm o ran y niferoedd sy'n gallu bod yn bresennol, a bydd angen i ti gadw lle yn y sesiynau hyn ymlaen llaw er mwyn sicrhau ein bod yn glynu wrth ganllawiau cadw pellter cymdeithasol
Ym mha fformat fydd y gweithgareddau?
Bydd rhai sesiynau ar ffurf Gweminar.Mae gweminar Zoom yn blatfform lle gellir gwylio'n unig, nid oes modd i'r cyfranogwyr weld ei gilydd, ac nid oes modd i'r Gwesteiwr weld y cyfranogwyr. Bydd digon o gyfle i ryngweithio yn ystod y sesiynau Gweminar hyn, drwy sgwrsio, holiaduron a sesiynau Holi ac Ateb.
Efallai caiff sesiynau eraill eu cynnal ar ffurf Zoom agored, lle gellir gweld pawb sy'n bresennol a bydd pawb yn cael defnyddio eu camerâu fideo a'u sain. Yn ystod y sesiynau hyn, rydym ni'n gofyn i ti gadw'r meic wedi'i ddiffodd wrth i'r cyflwynwyr gyflwyno gwybodaeth allweddol, ond eto bydd digon o amser i ryngweithio yn ystod y sesiynau Holi ac Ateb. Os na fydd hi'n bosibl i ti droi dy gamera ymlaen, cei di ei gadw wedi'i ddiffodd, ond ceisia gyfranogi yn y sesiwn.
Termau Zoom allweddol eraill i fod yn ymwybodol ohonynt:
Gwesteiwr/Gwesteiwyr - Prif siaradwr/siaradwyr y sesiwn.
Ystafelloedd Aros - O fan hyn mae'r gwesteiwr yn gallu caniatáu i ddefnyddwyr ymuno â’r sesiwn Zoom. Byddwn ni'n defnyddio'r rhain ar gyfer y sesiynau Holi ac Ateb galw heibio ar ddiwedd yr wythnos er mwyn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr i ofyn cwestiynau yn unigol.
Ystafelloedd Ymneilltuo - Bydd gweithgareddau mewn grwpiau bach gan rai o'r sesiynau Zoom agored, er mwyn i ti allu cwrdd â myfyrwyr eraill sydd ar dy gwrs a sgwrsio â nhw.
Dylet ti ymgyfarwyddo â'r feddalwedd Zoom cyn i'r Wythnos Groeso ddechrau:https://myuni.swansea.ac.uk/cy/bywyd-academaidd/gwasanaethau-tg/zoom/
Hefyd, rydym ni'n cynllunio sesiynau wyneb-yn-wyneb ar y campws ond byddwn ni'n glynu wrth gyngor y Llywodraeth ar gyfer y rhain. Ym mhob lleoliad, bydd uchafswm o ran y niferoedd sy'n gallu bod yn bresennol, a bydd angen i ti gadw lle yn y sesiynau hyn ymlaen llaw er mwyn sicrhau ein bod yn glynu wrth ganllawiau cadw pellter cymdeithasol
Beth yw dyddiadau'r Flwyddyn Academaidd?
Ceir dyddiadau'r tymhorau yma:
https://www.swansea.ac.uk/cy/astudio/dyddiadausemesterathymor/
Beth bydda i'n ei astudio a ble galla i ddod o hyd i'r manylion?
Mae pob semester yn cynnwys rhaglen astudio a fydd yn cynnwys modiwlau gwerth uchafswm o 60 credyd fel arfer. Bydd pob blwyddyn academaidd yn cynnwys modiwlau gwerth cyfanswm o 120 credyd. Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn werth 10 credyd ac felly byddet ti fel arfer yn astudio 6 modiwl bob semester. Fodd bynnag, mae rhai modiwlau sy'n werth 5, 20 a 30 credyd a dylet ti nodi y gallai'r rhain ymestyn dros semestrau. Sylwer bod rhai modiwlau Gwyddor Chwaraeon yn werth 15 credyd.
Cer i https://collegeintranet.swan.ac.uk ac edrycha ar lawlyfr y cwrs ar gyfer y strwythur sy'n benodol i dy ddisgyblaeth di.
Beth yw'r llawlyfr a ble bydda i'n dod o hyd iddo?
Mae'r llawlyfrau'n manylu ar y strwythur, y rheolau a'r rheoliadau ar gyfer dy gwrs ac mae'n bwysig iawn dy fod yn eu darllen a'u deall. Mae Rhan Un yn cynnwys rheolau a rheoliadau cyffredinol. Mae Rhan Dau yn manylu ar strwythur y cwrs a manylebau modiwlau.
Mae ar gael ar-lein yn https://collegeintranet.swan.ac.uk
Sut mae CV-19 wedi effeithio ar flwyddyn academaidd 2020-21?
Am ddiweddariadau, gweler tudalen we’r Coleg ynghylch y Flwyddyn Academaidd Nesaf - https://myuni.swansea.ac.uk/college-of-engineering/engineering-coronavirus-guidance/next-year/ a thudalennau gwe canolog y Brifysgol sy'n cynnwys arweiniad ynghylch y Coronafeirws - https://www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/amdanom-ni/coronafeirws/
Pa fesurau diogelwch sy'n cael eu rhoi ar waith?
Am ddiweddariadau, gweler tudalen we’r Coleg ynghylch y Flwyddyn Academaidd Nesaf - https://myuni.swansea.ac.uk/college-of-engineering/engineering-coronavirus-guidance/next-year/ a thudalennau gwe canolog y Brifysgol sy'n cynnwys arweiniad ynghylch y Coronafeirws - https://www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/amdanom-ni/coronafeirws/
Pa galedwedd cyfrifiaduron bydd ei hangen arnaf ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf?
Isafswm Manylebau Caledwedd Cyfrifiaduron a Argymhellir
Myfyrwyr Newydd/sy'n Cyrraedd – Bydd myfyrwyr sy'n astudio ein rhaglenni Peirianneg fel arfer yn defnyddio sawl pecyn meddalwedd drwy gydol eu gradd. Er mwyn gwneud y gorau o’r rhain a’r amser wrth astudio ar-lein, mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr yn dewis prynu gliniadur o safon ar gyfer eu hastudiaethau, a bydd hyn yn hynod ddefnyddiol yn ystod sefyllfa bresennol y pandemig er mwyn dy alluogi i weithio o bell.
Nid oes angen prynu cyfarpar newydd os oes gyda ti rywbeth eisoes i’w ddefnyddio ar gyfer gweithio o bell.
Fodd bynnag, os wyt ti’n bwriadu prynu gliniadur newydd unrhyw bryd, gweler isod isafswm manylebau caledwedd cyfrifiaduron a argymhellir gan y Coleg:
- System Weithredu: Windows 10 (Windows 7; ni chefnogir system weithredu Mac)
- Uned Brosesu Ganolog: Intel i5 4 core (AMD r5)
- RAM: 16GB
- Gyriant caled: SD 512GB
- Cydraniad: 1080 x 1920 (1080p)
- Ar gyfer VR GPU: Nvidia 1070
Sylwer: Ni chefnogir y rhan fwyaf o feddalwedd beirianneg ar System Weithredu Mac. Felly, argymhellir dy fod yn cael mynediad iddi drwy’r ateb ar y Cwmwl os wyt ti’n defnyddio Mac fel prif ddyfais ar gyfer dy astudiaethau.
Ateb ar y Cwmwl (CBS) ar gyfer Mynediad at Feddalwedd
Mae Ateb ar y Cwmwl (CBS) ar gyfer Mynediad at Feddalwedd yn cael ei ddatblygu, y gellir ei gyrchu ar ddyfais wedi’i chysylltu â’r we drwy borwr gwe (Chrome, Edge, Firefox, Safari etc.). Y prif reswm am hyn yw galluogi myfyrwyr i gyrchu meddalwedd sy’n berthnasol i beirianneg fel:
- Meddalwedd Autodesk (AutoCAD, Moldflow, etc.)
- Solidworks
- Matlab
- Meddalwedd Aspentech (Aspen Plus, Aspen Hysys, etc.)
- Microsoft Visio
- Microsoft Teams
Gyda’r Ateb ar y Cwmwl, gelli di weithio dim ond ar ffeiliau sydd wedi’u creu/cadw yn dy OneDrive myfyriwr. Bydd Tîm TG y Brifysgol yn dosbarthu rhagor o fanylion wrth i’r gwaith ddatblygu.
Ga i weld y rhestrau darllen ar gyfer y modiwlau bydda i'n eu hastudio?
Er bod rhestr wedi'i chynnwys yn y llawlyfr ar gyfer pob modiwl, efallai y bydd y darlithydd yn dewis eu hamrywio ychydig wrth i argraffiadau newydd gael eu cyhoeddi bob blwyddyn. Ar hyn o bryd, mae llawlyfrau 2019-20 ar gael ar Fewnrwyd y Coleg, a'r bwriad yw rhyddhau'r fersiwn ar gyfer 2020-21 yng nghanol mis Medi.
Hefyd, gelli di ddefnyddio adnoddau'r Llyfrgell er mwyn chwilio am y llyfrau y gallai fod eu hangen arnat ti, gan gynnwys e-lyfrau:
Oes angen i mi brynu llyfrau testun?
Nid oes angen prynu llyfrau cyn i'th gwrs ddechrau. Mae'r holl lyfrau testun a argymhellir ar gael yn y llyfrgell, a byddem yn dy annog i edrych ar y rhain yn gyntaf cyn penderfynu a ydynt yn addas i ti ai peidio, cyn prynu copi personol. Mae'r llyfrgell wedi sefydlu gwasanaeth clicio a chasglu ar gyfer 2020-21. Mae'r llyfrgell hefyd yn darparu testunau a argymhellir ar ffurf e-lyfrau pan fo'n bosibl, felly bydd modd i ti gael mynediad at rai o dy lyfrau testun ar-lein.
Edrycha ar dudalen we'r llyfrgell ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf am fynediad i adeiladau'r llyfrgell a stoc ffisegol https://www.swansea.ac.uk/cy/ggs/llyfrgelloedd/.
Beth gallaf ei wneud er mwyn paratoi?
Yn ogystal â llawlyfrau'r Coleg Peirianneg a nodwyd eisoes, mae nifer o adnoddau academaidd mwy cyffredinol a allai dy helpu i baratoi ar gyfer dechrau dy astudiaethau.
Cymorth ac Adnoddau Academaidd
Mae hyn yn cynnwys dolenni i adnoddau mathemateg a sgiliau astudio ar-lein sydd ar gael i fyfyrwyr cyn iddynt gofrestru.
Y Ganolfan Llwyddiant Academaidd
Mae’r Ganolfan Llwyddiant Academaidd wrthi’n datblygu cwrs cyn-cyrraedd er mwyn helpu i baratoi myfyrwyr i ddechrau eu hastudiaethau. Bydd hyn yn cynnwys cipolwg ar sgiliau astudio hanfodol, defnyddio Zoom a Canvas, etc. Er bod hwn ar y gweill o hyd, rydym ni'n gobeithio y bydd ar gael i fyfyrwyr yr wythnos cyn yr Wythnos Groeso. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn nes at ddyddiad y cwrs.
Mae gen i gwestiynau eraill nad ydynt wedi cael eu hateb.
Mae'n bosibl y bydd rhai o'r tudalennau hyn ar y we yn helpu i ateb dy gwestiynau eraill.
Cofrestru –
https://myuni.swansea.ac.uk/cy/bywyd-academaidd/cofrestru/cwestiynau-cyffredin-cofrestru/
Tudalennau MyUni y Coleg Peirianneg
https://myuni.swansea.ac.uk/cy/colegau-academaidd/peirianneg/
Diweddariadau'r Coleg Peirianneg ynghylch y Coronafeirws
https://myuni.swansea.ac.uk/college-of-engineering/engineering-coronavirus-guidance/
Cronfa ddata Cwestiynau Cyffredin Prifysgol Abertawe
Diweddariadau penodol Prifysgol Abertawe ynghylch y Coronafeirws
https://www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/amdanom-ni/coronafeirws/
Ac os bydd dy gwestiwn heb ei ateb o hyd, e-bostia Dîm Gwybodaeth y Myfyrwyr yn engoffice@abertawe.ac.uk
Meddalwedd a TG
Asesu ac Adborth
Cyffredinol
Pryd bydd yr amserlen addysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 19-20 yn cael ei chyhoeddi?
Nid oes dyddiad cyhoeddi penodol ar gyfer amserlenni addysgu 19-20, ond mae’n debygol y byddant yn cael eu cyhoeddi ddiwedd mis Medi. Byddant ar gael ar fewnrwyd y Coleg (https://collegeintranet.swan.ac.uk) pan fyddant yn barod.
Collais fy ngherdyn myfyriwr, ble/sut galla i gael un newydd?
Ewch i'r Ddesg Wybodaeth yn Llyfrgell y Bae neu Llyfrgell Parc Singleton.
Beth y dylwn ei wneud os bydd arnaf angen llythyr i brofi fy mod yn fyfyriwr?
Efallai y bydd arnoch angen llythyr sy'n profi eich statws myfyriwr ar gyfer gwahanol bethau, er enghraifft er mwyn agor cyfrif banc, i gael eich eithrio o'r dreth gyngor ac i gofrestru gyda'r heddlu. Mae'r Gwasanaethau Academaidd yn llunio'r datganiadau hyn. Gallwch wneud cais yn bersonol trwy'r Hybiau Myfyrwyr (Bloc y Stablau ar Gampws Parc Singleton a Chanolfan Wybodaeth y Tŵr ar Gampws y Bae) neu trwy anfon neges e-bost i academic.registry@swansea.ac.uk.
Oes gwobrau ar gyfer cyflawniadau academaidd?
Dyfernir gwobrau ym mhob disgyblaeth, ar lefelau amrywiol. Gofynnwch am wybodaeth bellach wrth Dderbynfa’r Coleg.
Beth yw dyddiadau'r Flwyddyn Academaidd?
Gellir dod o hyd i ddyddiadau'r tymor yma:
http://www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/safon-fyd-eang/dyddiadautymorasemester/
Sut y byddaf yn cael fy addysgu?
Mae ein rhaglenni'n cael eu haddysgu trwy gyfuniad o ddulliau gwahanol, gan gynnwys:
- Darlithoedd
- Sesiynau Labordy
- Seminarau
- Tiwtorialau
Mae cydbwysedd y rhain yn amrywio o fodiwl i fodiwl ac o gwrs i gwrs. At hynny, disgwylir i fyfyrwyr astudio'n unigol ac mewn grŵp.
Sut y bydd y Coleg yn cysylltu â mi?
Nodwch y bydd y Coleg, Swyddfa Weinyddol Ganolog y Brifysgol a'r Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau (ISS) yn cyfathrebu'n bennaf â chi trwy e-bost. Bydd gohebiaeth electronig swyddogol o'r fath yn cael ei hanfon i'ch cyfrif e-bost Prifysgol, a ddarperir gan Outlook, cyfrif y bydd pob myfyriwr yn ei gael wrth gofrestru. Mae cyfeiriad e-bost myfyriwr yn seiliedig ar Rif Adnabod chwe digid y myfyriwr, er enghraifft '123456@swan.ac.uk’. Dylech wirio eich cyfrif Outlook Prifysgol bob dydd, er mwyn sicrhau nad ydych yn colli unrhyw wybodaeth bwysig yn ymwneud â'ch cwrs neu'ch cyllid, na gwybodaeth gan y Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau. Gallwch ddefnyddio'r Rhyngrwyd i gyrchu eich cyfrif e-bost trwy agor y porwr Internet Explorer a rhoi'r URL canlynol yn y ffenestr cyfeiriad:
Gwasanaethau Lles
Sut y gallaf drefnu i gwrdd ag un o'm darlithwyr?
Fel arfer, bydd angen i chi aros i'w weld yn ystod y ddarlith neu'r dosbarth ymarferol nesaf. Efallai na fydd staff academaidd bob amser yn gallu ymateb trwy e-bost i bob ymholiad gan fyfyriwr. Fel arall, gallwch ymweld â swyddfa'r darlithydd i ganfod pryd y mae ei 'Awr Swyddfa' wythnosol nesaf. Mae Oriau Swyddfa yn ffordd dda o ofyn cwestiynau y tu allan i'r darlithoedd hynny sydd wedi cael eu trefnu.
At bwy y gallaf droi os bydd arnaf angen cymorth mewn perthynas â rhywbeth nad yw'n fater academaidd?
Mae gan y Coleg Peirianneg a'r Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer Corff dîm Gwybodaeth i Fyfyrwyr ymroddedig, sydd wedi'i leoli yn Swyddfa Derbynfa'r Coleg yn Adeilad Canolog Peirianneg (ar agor rhwng 9:00 a 4:45pm o ddydd Llun i ddydd Gwener). Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, bryderon neu ofidiau, cofiwch bob amser y gallwch gysylltu â'r Tîm trwy anfon neges e-bost i engoffice@swansea.ac.uk, ffonio 01792 605514, neu drefnu sgwrs wyneb yn wyneb.
Mae gan y Brifysgol hefyd dîm o arbenigwyr y gallwch eu gweld yn uniongyrchol, sy'n rhan o'r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, neu efallai y bydd y tîm Profiad Myfyrwyr yn eich cyfeirio atynt, sef:
- Y Gwasanaeth Lles – Nod y Gwasanaeth Lles yw eich cefnogi chi drwy roi’r sgiliau i chi wella eich iechyd meddwl a’ch lles, a’ch helpu i geisio cymorth pan fydd ei angen arnoch.
- Arian@BywydCampws – yn cynnig arweiniad ymhob agwedd ar gyllid myfyrwyr, gan gynnwys y grantiau, y benthyciadau, y bwrsariaethau a'r budd-daliadau sydd ar gael, yn ogystal â'ch helpu i reoli eich arian yn fwy effeithiol.
- Y Swyddfa Anableddau – os oes gennych anabledd, gyflwr meddygol neu angen penodol arall, nid oes yna reswm pam y dylai eich profiad yn y brifysgol fod yn wahanol i brofiad unrhyw un arall, ac mae'r Swyddfa Anableddau yno i'ch cefnogi.
- Rhyngwladol@BywydCampws – yn darparu ystod o wasanaethau cymorth ar gyfer y gymuned o fyfyrwyr rhyngwladol yn Abertawe.
A yw'r Coleg yn darparu cymorth bugeiliol?
Bydd pob myfyriwr yn cael Mentor Academaidd, a hwn fydd eich cyswllt personol allweddol ar gyfer y flwyddyn. Mae rôl y Mentor Academaidd yn cynnwys cefnogi eich datblygiad academaidd a chynorthwyo eich datblygiad personol trwy ddarparu cymorth bugeiliol, yn ogystal â nodi a'ch cyfeirio at wasanaethau cymorth canolog os oes arnoch eu hangen. Mae pob Mentor Academaidd yn cynnal sesiynau tiwtorial gyda'u myfyrwyr; bydd manylion pellach yn cael eu dosbarthu trwy e-bost i gyfrifon e-bost y myfyrwyr ar ddechrau'r Flwyddyn Academaidd.
Mae gennyf anhawster neu anabledd dysgu penodol. Sut gallaf wneud yn siŵr bod cefnogaeth yn ei lle cyn i fi ddechrau astudio?
Anogwn chi i drefnu apwyntiad gyda DSA (Lwfansau Myfyrwyr Anabl) cyn gynted â phosib. Ceir rhagor o wybodaeth yma.
Oes cymorth ychwanegol ar gyfer gwaith Mathemateg a Chyfrifiadurol?
Mae'r Coleg yn cynnal Caffi Mathemateg a Pheirianneg â Chymorth Cyfrifiadur fel adnodd ychwanegol i helpu gyda chwestiynau am fathemateg neu raglenni meddalwedd cyfrifiadurol y byddwch yn eu defnyddio yn eich modiwlau. Mae'r sesiynau hyn yn y caffi yn gyfle anffurfiol i fyfyrwyr drafod problemau mathemateg a pheirianneg â chymorth cyfrifiadur gyda staff ac arddangoswyr. Er nad yw staff yn gallu gwneud y gwaith ar eich rhan, gallant eich helpu chi i gychwyn ar eich gwaith. Mae'r caffi hefyd yn lle da i eistedd a gweithio ar bethau'n annibynnol, gyda staff wrth law pan fydd gennych gwestiynau. Bydd y Caffi'n dechrau yn ystod yr ail wythnos o addysgu ac fe'i cynhelir yn Adeilad Canolog Peirianneg.
Oes unrhyw gaffis cefnogaeth eraill?
Oes, mae’r coleg yn cynnal caffis i’ch cefnogi gydag ysgrifennu, meddalwedd a VR (rhith-wirionedd) hefyd. Ceir manylion pellach yma.
Mynediad i Adnoddau
Sut y mae cael mynediad at fy nodiadau darlith?
Mae'r holl nodiadau darlith ar gyfer myfyrwyr y Coleg Peirianneg ar gael ar-lein yn unig, a hynny fel arfer trwy Blackboard, sef y system rheoli dysgu ar y We. Disgwylir i fyfyrwyr lawrlwytho/darllen y nodiadau hyn yn ystod/cyn/ar ôl eu darlithoedd, gan eu bod yn rhan bwysig iawn o'r broses ddysgu.
Ni fydd y nodiadau darlith yn cael eu hargraffu ymlaen llaw ar gyfer y myfyrwyr, gan fod y Coleg Peirianneg yn ceisio creu amgylchedd â 'llai o bapur'. Fodd bynnag, os bydd y myfyrwyr am argraffu eu nodiadau darlith, gallant wneud hynny yn Labordai Cyfrifiaduron y Myfyrwyr yn y Coleg ac yn y Llyfrgell.
Beth y byddaf yn ei astudio, a ble y gallaf ddod o hyd i fanylion?
Mae pob semester yn cynnwys rhaglen astudio, sy'n cynnwys modiwlau sy'n creu cyfanswm o 60 credyd. Yna, bydd pob blwyddyn academaidd yn cynnwys modiwlau sy'n creu cyfanswm o 120 credyd. Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn werth 10 credyd yr un, ac felly, byddwch fel arfer yn astudio chwe modiwl yn ystod pob semester. Fodd bynnag, mae yna rai modiwlau sy'n werth 5, 20 a 30 credyd, a dylech nodi y gellir rhannu'r rhain dros gyfnod o fwy nag un semester. Nodwch fod rhai modiwlau Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer Corff yn werth 15 credyd.
Er mwyn gweld y llawlyfr ar gyfer strwythur eich disgyblaeth benodol, dilynwch y ddolen hon: https://collegeintranet.swan.ac.uk.
Ble y gallaf ddod o hyd i fy amserlen?
Ar-lein, trwy ddilyn y ddolen hon: https://collegeintranet.swan.ac.uk
Gall yr amserlenni newid, felly dylech wirio'r fersiwn ar-lein yn rheolaidd; dylech hefyd wirio eich cyfrif e-bost bob dydd, er mwyn cadw llygad ar hysbysiadau ynghylch newid neu ganslo darlithoedd.
Beth yw'r llawlyfr, a ble y gallaf ddod o hyd iddo?
Mae'r llawlyfr yn manylu ar y strwythur, y rheolau a'r rheoliadau ar gyfer eich cwrs ac mae'n bwysig iawn eich bod yn ei ddarllen ac yn ei ddeall. Mae Rhan Un yn cwmpasu'r rheolau a'r rheoliadau cyffredinol. Mae Rhan Dau yn manylu ar strwythur y cwrs a manylebau'r modiwl. Gallwch ddod o hyd iddo ar-lein trwy ddilyn y ddolen hon: https://collegeintranet.swan.ac.uk.
Presenoldeb
Beth y dylwn ei wneud os na allaf fynd i ddosbarthiadau neu cyflwynwch aseiniadau ar amser, neu os bydd gennyf broblem a fydd yn effeithio ar fy astudiaethau?
Yr hyn sy'n bwysig i'w gofio yw bod cyfathrebu yn allweddol. Mae angen i ni wybod beth sy'n digwydd, felly rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Eich cyfrifoldeb chi, fel myfyriwr, yw rhoi gwybod i'r Coleg am unrhyw beth sy'n effeithio ar eich presenoldeb neu eich perfformiad academaidd, er mwyn i ni geisio eich helpu. Os byddwch yn absennol oherwydd salwch, neu'n dioddef o unrhyw fath o broblemau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, rhaid i chi lenwi'r ffurflen/ffurflenni perthnasol, cyn gynted â phosibl. Ar hyn o bryd, mae yna ddwy ffurflen ar wahân:
- ‘Ffurflen Amgylchiadau Esgusodol ar gyfer Asesu Parhaus‘. Defnyddir y ffurflen hon ar gyfer gwaith cwrs a phrofion dosbarth, ac mae ar gael yn electronig trwy ddilyn y ddolen hon: https://collegeintranet.swan.ac.uk.
- ‘Ffurflen Gohirio Arholiad'. Defnyddir y ffurflen hon pan fydd myfyriwr yn profi amgylchiadau esgusodol a/neu yn colli arholiad yn ystod y cyfnod arholi. Rhaid i'r ffurflen hon gael ei llenwi naill ai ymlaen llaw neu o fewn pum niwrnod i ddyddiad yr arholiad.
A ffurflen copi caled:
Gellir dod o hyd i'r rheoliadau a'r canllawiau llawn ar gyfer yr uchod trwy ddilyn y ddolen hon: https://myuni.swansea.ac.uk/cy/bywyd-academaidd/rheoliadau-academaidd/polis%C3%AFau/polisi-ar-amgylchiadau-esgusodol/
A fydd fy mhresenoldeb mewn darlithoedd/labordai yn cael ei fonitro?
Mae'r Brifysgol wedi datblygu Polisi, Canllawiau a System newydd i Fonitro Presenoldeb Myfyrwyr, a hynny'n rhan o'i hymrwymiad i ddarparu amgylchedd dysgu cefnogol a phrofiad rhagorol i fyfyrwyr.
Disgwylir i fyfyrwyr fynd i bob sesiwn ddysgu, a bydd eich presenoldeb yn cael ei fonitro trwy ddefnyddio darllenydd cardiau a'ch cerdyn myfyriwr. Gosodir darllenydd cardiau ymhob ystafell addysgu. Mae'n hanfodol eich bod yn sganio eich cerdyn wrth fynd i mewn i'ch lleoliad addysgu. Nodwch: mewn sesiynau tiwtorial, bydd eich presenoldeb yn cael ei fonitro'n uniongyrchol gan eich tiwtor.
Gallai absenoldeb parhaus, neu achosion o beidio â sweipio eich cerdyn myfyriwr, arwain at fyfyriwr yn cael ei dynnu oddi ar ei gwrs yn y Brifysgol.
Pethau Pwysig i'w Cofio:
- Gallwch wirio a yw eich cerdyn yn gweithio'n iawn yn llyfrgell Campws y Bae. Os bydd nam ar eich cerdyn, efallai y byddwch yn gymwys i gael un arall yn ei le, a hynny'n rhad ac am ddim.
- Sicrhewch eich bod yn sweipio eich cerdyn ym mhob sesiwn ddysgu sydd wedi cael ei threfnu. Os byddwch yn anghofio eich cerdyn, sicrhewch eich bod yn dod ag ef, ac yn ei sweipio, yn y dyfodol. Nid yw'n bosibl cofnodi eich presenoldeb ar ôl y digwyddiad.
- Pan fyddwch yn sganio eich cerdyn, cofiwch ei dynnu allan o'ch waled neu eich pwrs cyn ei sganio.
- Os byddwch yn colli eich cerdyn, rhowch wybod ei fod ar goll ac ewch i'r Llyfrgell i gael un arall yn ei le cyn gynted â phosibl.
- Gallai achosion parhaus o beidio â sweipio arwain at fyfyriwr yn cael ei dynnu oddi ar ei gwrs yn y Brifysgol.
Bydd y Brifysgol yn cysylltu â chi ynghylch eich presenoldeb trwy anfon neges e-bost i'ch cyfrif myfyriwr. Cyfathrebir â myfyrwyr yn bennaf trwy e-bost, felly mae'n bwysig eich bod yn darllen eich negeseuon e-bost bob dydd, a hynny fel ymrwymiad proffesiynol.
Os bydd eich presenoldeb yn wael, byddwch yn cael eich gwahodd i fynd i gyfarfod â'r Tîm Gwybodaeth i Fyfyrwyr a'r Uwch-staff Academaidd. Mae'r cyfarfodydd hyn yn orfodol, a gallai peidio â mynd iddynt arwain at fyfyriwr yn cael ei dynnu oddi ar ei gwrs yn y Brifysgol.
Os byddwch yn wynebu unrhyw anawsterau neu'n profi amgylchiadau esgusodol sy'n effeithio ar eich presenoldeb, cysylltwch â'r Tîm Gwybodaeth i Fyfyrwyr.
Sut y mae cysylltu â'r Tîm Gwybodaeth i Fyfyrwyr?
E-bost: engoffice@swansea.ac.uk
Ffôn: 01792 295514
Wyneb yn wyneb: Galwch heibio'r Dderbynfa Peirianneg, sydd ar agor rhwng 9.15 a 4.45pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Anogir myfyrwyr yn gryf i wneud hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cymorth priodol. Hoffwn ailadrodd a rhoi sicrwydd i chi fod yna wasanaethau cymorth ar waith yn y Brifysgol i'ch helpu, os bydd angen. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r system monitro presenoldeb myfyrwyr (SAMS), dilynwch y dolenni isod:
Blwyddyn Dramor
A fydd cyfle imi astudio dramor?
Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, bydd gennych lawer o opsiynau o ran astudio dramor fel rhan o’ch cynllun gradd. Gwiriwch gyda chydlynydd academaidd cynllun blwyddyn dramor y Coleg, Nikki Boniwell (Administrative officer) neu gyda'r Mynd Yn Fyd-Eang i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau.
Cyfarpar a Chyfleusterau
A allaf ddefnyddio'r cyfleusterau ar gampws Parc Singleton?
O fis Medi 2015, bydd Prifysgol Abertawe yn gweithredu ar ddau gampws – Parc Singleton a Champws y Bae. Gall myfyrwyr Prifysgol Abertawe ddefnyddio'r cyfleusterau ar y ddau gampws, h.y. y llyfrgelloedd a'r cyfleusterau chwaraeon, ac ati.
A oes angen i mi ddod ag unrhyw offer i'r labordai?
Bydd rhai o'n cyrsiau yn cynnwys dosbarthiadau labordy, lle bydd angen i chi wisgo cyfarpar diogelwch. Bydd y Brifysgol yn darparu'r holl gyfarpar; y cyfan a ofynnwn i'r myfyrwyr ei wneud yw cydymffurfio â'r Rheoliadau Iechyd a Diogelwch drwy wisgo dillad priodol ar gyfer y dosbarthiadau hyn, gan gynnwys esgidiau â blaen iddynt.
A oes angen i mi brynu gwerslyfrau?
Gall y gwerslyfrau a argymhellir newid bob blwyddyn. Er bod rhestr yn cael ei chynnwys yn y llawlyfr o dan bob modiwl, gall y darlithydd amrywio rhywfaint ar y rhain, a hynny wrth i argraffiadau newydd gael eu cyhoeddi bob blwyddyn. Byddem yn eich cynghori i aros tan y bydd y cwrs wedi dechrau er mwyn gweld pa lyfrau y mae'r darlithydd yn eu hargymell ar gyfer y flwyddyn honno. Mae pob gwerslyfr a argymhellir ar gael yn y llyfrgell, a byddem yn eich annog i edrych ar y rhain yn gyntaf i benderfynu a ydynt yn addas ar eich cyfer, cyn prynu eich copïau eich hun. Felly, rydym yn awgrymu nad oes angen prynu unrhyw lyfrau cyn i'ch cwrs ddechrau.
A oes mannau astudio ar gael er mwyn gweithio?
Yn ogystal â Llyfrgell y Bae, mae amryw o leoedd astudio ar gael ar Gampws y Bae. Mae mwy o fanylion yma.
Llais Myfyrwyr
Sut y mae myfyrwyr Peirianneg a gwyddoniaeth chwaraeon ac ymarfer corff yn cael eu cynrychioli?
Ar ddechrau pob blwyddyn academaidd, mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal rhaglen ar-lein i ethol cynrychiolwyr y myfyrwyr ar gyfer pob grŵp blwyddyn ymhob disgyblaeth, yn ogystal â chynrychiolydd penodol ar gyfer rhaglen y Flwyddyn Sylfaen.
Cynrychiolwyr y myfyrwyr yw eich llais chi, ac maent yn cael y cyfle i leisio eich barn a'ch problemau yn ystod fforymau a chyfarfodydd pwyllgor y Myfyrwyr/Staff, yn ogystal ag yn ystod cymorthfeydd â'r Pennaeth Dysgu ac Addysgu a'r Pennaeth Profiad Myfyrwyr.
Beth yw Unitu?
Llwyfan ar-lein yw Unitu lle gallwch bostio am faterion, syniadau neu gwestiynau sydd gennych, a thrafod negeseuon gyda myfyrwyr eraill a staff. Ceir byrddau trafod ar wahân ar gyfer eich cwrs, y Coleg a’r Brifysgol. Mae staff a’ch cynrychiolwyr yn gwirio Unitu yn rheolaidd.
Cofrestrwch eich cyfrif Unitu yma, os nad ydych eisoes wedi gwneud.