Ymateb i Coronafeirws: cyngor a gwybodaeth ddiweddaraf

Croeso o'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Students walking on the beach with the Great Hall in the background

Croeso i Abertawe! Mae Wythnos Sefydlu mis Ionawr 2023 bellach wedi dod i ben.

Os gwnaethoch ddechrau ym mis Ionawr 2023 ac wedi colli unrhyw weithgareddau neu ddigwyddiadau sefydlu, gallwch ddod o hyd i adnoddau a gwybodaeth ar ein Hybiau Canvas.

Cysylltwch â'r Tîm Profiad a Gwybodaeth  Myfyrwyr os oes gennych gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Abertawe. 

Gallwch hefyd gysylltu â'ch cydlynwyr modiwlau os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich modiwlau neu angen help gyda dal i fyny os ydych wedi colli unrhyw sesiynau addysgu. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth gyswllt cydlynwyr eich modiwlau drwy'r dudalen modiwl berthnasol ar Canvas neu cysylltwch â Thîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr am arweiniad.

Byddwn yn ychwanegu diweddariadau ac arweiniad am Wythnos Sefydlu mis Medi 2023 at y dudalen we hon wrth i ni nesáu at ddechrau blwyddyn academaidd 2023/24.

 

Os oes gennych chi gwestiynau, e-bostiwch dîm tîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr. Mae'r tîm ar gael trwy e-bost, ffôn, Sgwrsio Byw, WeChat, apwyntiad Zoom, ac apwyntiadau wyneb yn wyneb ar y campws ac rydym bob amser yn hapus i helpu.

Amserlenni eich Wythnos Sefydlu

Cyhoeddir yr amserlenni sefydlu cyn wythnos sefydlu mis Medi 2023