Rheoliadau Cyffredinol
RHEOLIADAU CYFFREDINOL - DYFARNIADAU ÔL-RADDEDIG A ADDYSGIR
1. Cyflwyniad
1.1
Gall ymgeiswyr gymhwyso am ddyfarniad Prifysgol Abertawe dan y rheoliadau hyn pan fyddant wedi cwblhau un o’r rhaglenni astudio modiwlaidd cymeradwy canlynol yn llwyddiannus: Tystysgrif Ôl-raddedig, Diploma Ôl-raddedig neu Radd Meistr (MA, MSc, LLM, MBA, MFin). Gall ymgeiswyr ddilyn rhaglen ar sail amser llawn neu ran-amser neu gyfuniad o’r ddau (modd mynychu cymysg).
1.2
Caiff pob rhaglen Meistr ei hasesu trwy arholiad/gwaith cwrs a thrwy gyflwyno darn neu ddarnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
Diffinnir dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd fel darn unigol, neu sawl darn, o ddysgu hunangyfeiriedig (a wneir dan gyfarwyddyd goruchwyliwr) sy'n cynnig cyfanswm o 60 credyd, sy'n darparu cyfle i ymgymryd ag ymchwil estynedig i un agwedd neu fwy ar faes llafur y rhaglen. Gall y gwaith annibynnol fod ar sawl ffurf, a ddewisir i gydweddu orau â'r rhaglen a/neu i wella rhagolygon cyflogadwyedd y myfyrwyr. Gellir diffinio hyn wrth gymeradwyo'r rhaglen, a bydd yn gyfwerth â'r ymdrech angenrheidiol i baratoi traethawd hir o hyd at 20,000 o eiriau.
1.3
Rhaid i bob ymgeisydd gofrestru'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe a thalu’r ffioedd priodol a bennir gan y Brifysgol. Fel myfyrwyr cofrestredig, rhaid i’r ymgeiswyr gydymffurfio â rheoliadau academaidd a chyffredinol y Brifysgol.
1.4
Ni chaiff fel rheol ymgeiswyr amser llawn am Dystysgrif Ôl-raddedig, Diploma Ôl-raddedig neu radd Meistr gofrestru ar yr un pryd ar Dystysgrif Ôl-raddedig, Diploma Ôl-raddedig neu raglen gradd Meistr* arall sy’n arwain at ddyfarnu cymhwyster yn y brifysgol hon neu mewn prifysgol/sefydliad arall heb ganiatâd penodol Cadeirydd y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
*Mae aelodau o staff a gofrestrwyd ar y cynllun TAR Addysg Uwch fel amod o’u cyflogaeth neu eu cyfnod prawf wedi’u heithrio rhag y rheoliad cofrestru cydamserol a nodwyd uchod.
Mae myfyrwyr a gofrestrwyd ar raglenni ar y cyd rhwng Abertawe a sefydliad arall/sefydliadau eraill wedi’u heithrio rhag y rheoliad cofrestru cydamserol uchod i’r graddau y mae’n ymwneud â chofrestriad cydamserol yn y sefydliad(au) partner ar gyfer yr un rhaglen.
1.5
Fel rheol, bydd ymgeisiaeth myfyrwyr sy'n torri Rheoliad 1.3 uchod yn cael ei dileu ar unwaith.
1.6
Caiff Cyfadran/Ysgol sy'n destun achredu proffesiynol a/neu ofynion Corff Noddi ddefnyddio rheoliadau mwy llym ar yr amod bod y myfyrwyr wedi'u rhybuddio ymlaen llaw a bod hyn yn ofyniad Corff Proffesiynol neu Gorff Noddi.
2. Amodau Derbyn
2.1
Rhaid i ymgeisydd am ddyfarniad ôl-raddedig a addysgir feddu ar un o’r cymwysterau canlynol cyn dechrau astudio:
- Gradd Baglor gychwynnol (fel arfer 2.2 neu well) neu radd Meistr gan Brifysgol yn y Deyrnas Unedig.
- Gradd Baglor gychwynnol (fel arfer 2.2. neu'n well) neu Radd Meistr gan Brifysgol gydnabyddedig, yn Ewrop neu dramor, a gymeradwywyd eisoes neu a gymeradwyir wedyn gan UK ENIC.
- Gradd Baglor gychwynnol (fel arfer 2.2 neu'n well) neu radd Meistr gan Brifysgol gydnabyddedig, yn Ewrop neu dramor, a gymeradwywyd gan Is-bwyllgor Matriciwleiddio’r Brifysgol.
- Cymhwyster nad yw’n radd, y tybia'r Brifysgol ei fod cyfwerth â gradd.
Ar ben hynny, mae'n bosib y bydd amodau derbyn mwy llym neu fwy penodol ar gyfer rhai rhaglenni oherwydd gofynion Corff Proffesiynol neu Gorff Noddi.
2.2
Os nad oes gradd israddedig gan ymgeiswyr am raglenni ôl-raddedig a addysgir, rhaid iddynt feddu ar brofiad gwaith perthnasol sylweddol neu brofiad arall sydd, ym marn y Dewiswyr Derbyn, yn briodol ar gyfer derbyn yr ymgeiswyr i’r rhaglen berthnasol.
2.3
Dylai darpar ymgeisydd sydd eisoes yn meddu ar gymhwyster ar lefel doethuriaeth (gan gynnwys PhD, y Ddoethuriaeth Beirianneg a Doethuriaethau a Addysgir etc.) ddangos bod y rhaglen ôl-raddedig a addysgir mae'n bwriadu ei dilyn mewn maes gwahanol i'r maes y dyfarnwyd y radd ddoethurol ar ei gyfer.
2.4
Ni waeth beth yw cymwysterau mynediad yr ymgeisydd, mae’r Brifysgol yn cadw'r hawl i'w bodloni ei hun bod ymgeisydd yn cyrraedd y safon academaidd sy’n ofynnol i gwblhau’r rhaglen astudio arfaethedig.
2.5
Cyn derbyn ymgeiswyr i’r rhaglen astudio, rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion sicrhau eu bod yn gallu cyfathrebu’n effeithiol yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Bydd profion TOEFL neu IELTS (neu brofion cyfatebol) yn berthnasol, a gellir cael arweiniad gan y Swyddfa Derbyn ynghylch y lefel lwyddo sy’n briodol ar gyfer astudiaeth benodol neu’r addysgu cyn y cwrs a allai fod yn angenrheidiol cyn caniatáu i ymgeisydd ddechrau rhaglen astudio ôl-raddedig. Mae’r Brifysgol yn gosod lleiafswm o 6.5 dan IELTS (neu brawf cyfatebol) ar gyfer ymgeiswyr ôl-raddedig. Gellir cyflwyno cais i'r Pwyllgor Derbyn i osod lefel is neu uwch.
2.6
Rhaid i ymgeiswyr ddatgelu unrhyw broblem o ran cymeriad neu addasrwydd, yn unol â gofynion y Brifysgol neu ofynion eraill, mewn perthynas â'u rhaglen astudio. Cyfrifoldeb ymgeiswyr yw darparu unrhyw dystiolaeth sydd, yn eu tyb, yn angenrheidiol ac yn briodol i alluogi'r Brifysgol i benderfynu ar eu cais. Os na fydd ymgeisydd yn datgelu problem o ran cymeriad neu addasrwydd, neu dystiolaeth sy'n angenrheidiol ac yn briodol i alluogi'r Brifysgol i benderfynu ar gais, gall y Brifysgol dynnu myfyriwr yn ôl o raglen neu beidio â derbyn ymgeisydd i raglen astudio.
2.7
Matriciwleiddio yw derbyn ymgeiswyr yn ffurfiol i raglen astudio sy’n arwain at radd neu ddyfarniad academaidd arall y Brifysgol. Rhaid i ymgeiswyr nad ydynt wedi astudio ym Mhrifysgol Abertawe gynt ddarparu tystiolaeth o'u gradd neu gymhwyster cyfwerth yn ôl cais y Swyddfa Derbyn Myfyrwyr. Bydd y dystiolaeth hon ar ffurf tystysgrif Baglor swyddogol neu drawsgrifiad swyddogol sy'n cadarnhau dyfarnu'r radd.
2.8
Rhaid bod ymgeiswyr wedi ennill cymhwyster cydnabyddedig gan sefydliad 'cymeradwy' (fel a nodir gan UK ECCTIS). Os na fydd sefydliad/cymhwyster penodol yn cael ei gydnabod, rhaid i'r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr gyflwyno achos arbennig i Cadeirydd y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn a fydd yn penderfynu a yw'r cymwysterau a gyflwynwyd yn dderbyniol neu beidio. Os caiff achos penodol ei wrthod, byddai cynnig lle'r ymgeisydd (a fyddai wedi bod yn amodol ar gymeradwyaeth o'i gymwysterau) yn cael ei dynnu yn ôl a/neu bydd y myfyriwr yn anghymwys i gofrestru.
2.9
Ystyrir nad yw ymgeiswyr yn gymwys i gofrestru pan nad ydynt yn bodloni gofynion y Brifysgol o ran matriciwleiddio (gweler Rheoliadau 2.7 a 2.8 uchod). Lle tybir nad yw'r ymgeisydd yn gymwys i gofrestru a/neu os nad yw'n cofrestru o fewn cyfnod cofrestru penodedig, bydd ei ymgeisyddiaeth yn dod i ben a bydd yn rhaid i’r ymgeisydd dynnu'n ôl o’r Brifysgol (gweler Rheoliad 4).
Monitro'r Polisi Newydd
Cedwir yr hawl i fonitro'r polisi a heb gyfyngiadau i ddilysu tystiolaeth yn annibynnol gan ddefnyddio Gwasanaeth Gwirio Cymwysterau neu wiriad data Gradd Addysg Uwch neu gyfwerth. At ddibenion asesu cyflwyno'r polisi newydd, bydd 5% o'r myfyrwyr newydd yn cael eu dilysu'n annibynnol. Caiff y canlyniadau eu hadrodd ym Mhwyllgor Recriwtio a Derbyn mis Chwefror i sicrhau bod y polisi'n addas at y diben.
2.10
Bydd y Brifysgol yn hysbysu'r awdurdodau perthnasol, o fewn cyfnod penodol yn unol â deddfau’r Deyrnas Unedig sy'n llywodraethu astudio yn y DU, am fyfyrwyr y tynnwyd eu henwau yn ôl am iddynt fethu â chofrestru ar raglen astudio o fewn y cyfnod cofrestru penodol.
3. Dyddiadau Dechrau
3.1
Caiff Cyfadrannau/Ysgolion gynnig mwy nag un dyddiad dechrau ar gyfer rhai rhaglenni, ar y pwyntiau canlynol yn ystod y flwyddyn: Medi, Ionawr, Mai a Mehefin. Rhaid i Cyfadrannau/Ysgolion nodi'r dyddiadau dechrau yn holl lenyddiaeth y rhaglen.
4. Cofrestru
4.1
Mae’r Brifysgol yn disgwyl i'r holl ymgeiswyr gofrestru er mwyn cael eu cydnabod fel myfyrwyr y Brifysgol. Dylai pob ymgeisydd gofrestru yn unol â chyfarwyddiadau cofrestru'r rhaglen astudio benodol ac o fewn y cyfnod cofrestru a bennir.
4.2
Mae’n rhaid i ymgeiswyr gofrestru o fewn y cyfnod a bennwyd ar gyfer cofrestru:
- Os ydynt yn cofrestru yn y brifysgol am y tro cyntaf.
- Os ydynt yn cofrestru ar raglen astudio benodol am y tro cyntaf.
- Os ydynt yn symud ymlaen i lefel nesaf eu hastudiaethau, blwyddyn nesaf eu hastudiaethau neu, mewn rhai achosion, rhan nesaf eu hastudiaethau, ac yn fyfyrwyr amser llawn neu ran-amser.
- Os yw’r Brifysgol yn disgwyl i ffi gael ei thalu yn unol â rheoliadau’r Brifysgol sy'n berthnasol i gyllid a ffioedd myfyrwyr.
4.3
Er mwyn cofrestru yn y Brifysgol, mae’n ofynnol i ymgeiswyr, lle bynnag y bo'n briodol, ddarparu tystiolaeth o’u hawl i astudio yn y Brifysgol yn unol â:
- Gofynion penodol y rhaglen.
- Rheoliadau’r Brifysgol o ran matriciwleiddio.
- Y ddeddfwriaeth ynghylch astudio yn y Deyrnas Unedig.
- Ffitrwydd i ddychwelyd i reoliadau astudio.
4.4
Os nad yw'r ymgeisydd yn darparu tystiolaeth foddhaol o hawl i astudio yn y Brifysgol yn unol â Rheoliad 4.3 uchod ac erbyn y dyddiad cau a bennir gan y Gwasanaethau Addysg, bernir bod yr ymgeisydd yn anghymwys i gofrestru (oni bai bod Rheoliad 4.5 isod yn gymwys).
4.5
Pan fo'r ymgeisydd yn bodloni'r holl ofynion i gofrestru (yn unol â Rheoliad 4.3) ac eithrio gofynion y Brifysgol sy'n ymwneud â matriceiddio, caniateir i'r ymgeisydd, yn ôl disgresiwn y Swyddfa Dderbyn, gofrestru dros dro am gyfnod penodol o amser, yn amodol ar i'r ymgeisydd gytuno i fodloni gofynion y Brifysgol sy'n llywodraethu dyblygu erbyn y dyddiad cau a bennir gan y Swyddfa Dderbyn. Os bydd yr ymgeisydd wedyn yn methu â bodloni gofynion y Brifysgol sy'n llywodraethu dyblygu erbyn y dyddiad cau a bennir gan y Swyddfa Derbyn, bydd y cofrestriad dros dro yn dod i ben, bernir bod yr ymgeisydd yn anghymwys i gofrestru a bydd Rheoliad 4.6 isod yn gymwys.
4.6
Os na fydd yr ymgeisydd yn gallu cofrestru o fewn cyfnod cofrestru penodedig, bydd hyn yn golygu bod ymgeisyddiaeth yr ymgeisydd yn dod i ben a bydd rhaid i’r ymgeisydd dynnu'n ôl o’r Brifysgol am nad yw wedi cofrestru.
4.6.1
Ailsefydlu'r ymgeisiaeth a chaniatâd i gofrestru'n hwyr.
Gwneir y penderfyniad i gymeradwyo neu beidio â chymeradwyo caniatâd i gofrestru'n hwyr gan Bennaeth Cofnodion Academaidd neu ei enwebai. I ofyn am ganiatâd i gofrestru myfyrwyr hwyr, rhaid cyflwyno ffurflen Caniatâd i Gofrestru o fewn 10 niwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr/e-bost i'r myfyrwyr yn cadarnhau eu bod yn tynnu yn ôl am beidio â chofrestru.
Wrth ystyried ceisiadau o'r fath, bydd Pennaeth Cofnodion Academaidd neu ei enwebai, yn ystyried y canlynol:
Amseru'r cais; yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais hwyr; argymhellion gan Gyfadran/Ysgol y myfyriwr; gofynion cyfreithlon ac ariannol y cofrestriad; y gyfraith sy'n llywodraethu'r hawl i astudio yn y brifysgol; yr amodau a/neu ddiddymu fisa'r myfyriwr (lle bo'n briodol); argymhellion gan reolwyr derbyn/cydymffurfio/cyllid/cofnodion myfyrwyr (lle bo'n briodol).
4.6.2
Adolygiad terfynol
I ofyn am adolygiad terfynol o'r penderfyniad i beidio â chymeradwyo ailsefydlu ymgeisyddiaeth a chaniatâd i gofrestru'n hwyr, gweler Gweithdrefn Adolygiad Terfynol Prifysgol Abertawe. Dylai myfyrwyr sylwi bod rhaid cyflwyno unrhyw gais am adolygiad terfynol i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg o fewn 14 diwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr/e-bost yn cadarnhau’r penderfyniad i beidio â chymeradwyo ailsefydlu’r myfyriwr a rhoi chaniatâd iddo gofrestru’n hwyr, yn unol â'r Weithdrefn Adolygiad Terfynol.
4.7
Bydd y Brifysgol yn hysbysu’r awdurdodau perthnasol, o fewn cyfnod a bennwyd yn unol â chyfreithiau’r Deyrnas Unedig sy’n llywodraethu astudio yn y DU, am fyfyrwyr sydd wedi cael eu tynnu’n ôl am beidio â chofrestru ar raglen astudio o fewn y cyfnod cofrestru a bennwyd.
4.8
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n astudio ar raglen a ddarperir mewn partneriaeth Brifysgol a’r â sefydliad arall gofrestru gyda'r sefydliad partner yn unol â'r gweithdrefnau cofrestru a gyhoeddir gan y sefydliad partner unigol a’r Brifysgol.
4.9
Drwy gwblhau'r broses gofrestru, bydd myfyrwyr yn cadarnhau y byddant yn ufuddhau i reoliadau'r sefydliad(au) dan sylw ac, yn achos rhaglenni a ddarperir ar y cyd â phartneriaid, yn cadarnhau y byddant yn ufuddhau i reoliadau'r ddau sefydliad, gan adlewyrchu eu statws fel myfyrwyr cofrestredig ym mhob sefydliad.
5. Strwythur Rhaglenni
5.1
Mae rhaglen Meistr a Addysgir yn gasgliad o gydrannau addysgol unigol y bernir bod eu lefel academaidd a’u cynnwys yn briodol ar gyfer y dyfarniad mewn maes pwnc penodol.
5.2
Gall ymgeiswyr fod yn gymwys i ennill dyfarniad os byddant wedi cwblhau rhaglen astudio fodiwlaidd gymeradwy’n llwyddiannus, naill ai ar sail amser llawn neu ran-amser. Dylai cynnwys academaidd rhaglen ran-amser fod yn gyfwerth â chynnwys academaidd rhaglen amser llawn, a rhaid i’r asesiad gynnwys darn neu ddarnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
5.3
Tystysgrif Ôl-raddedig | 60 credyd. |
---|---|
Diploma Ôl-raddedig | 120 credyd. |
Gradd Meistr Safonol | 180 credyd (120 credyd mewn modiwlau a addysgir yn Rhan Un a 60 credyd o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn Rhan Dau). |
Gradd Meistr Estynedig | 240 credyd (120 credyd mewn modiwlau a addysgir yn Rhan Un a 60 credyd mewn modiwlau a addysgir neu fodiwlau lleoliad a 60 credyd o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn Rhan Dau). |
Gradd Meistr Hyblyg | 180 credyd (120 credyd mewn modiwlau a addysgir yn Rhan Un a 60 credyd o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, i'w hastudio naill ai ar yr un pryd â'r modiwlau a addysgir, mewn modd strwythuredig ac ar wahân, neu fel elfen gynhenid o'r elfennau a addysgir). |
5.4
Rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion bennu strwythur a dull cyflwyno rhaglen pan gymeradwyir y rhaglen.
5.5
Rhaid i bob Rhaglen Meistr Ôl-raddedig a Addysgir gynnig 60 credyd o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd neu drefniant amgen cymeradwy a awdurdodir gan y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
6. Categorïau o Fyfyrwyr
6.1
Bydd y categorïau canlynol o fyfyrwyr yn cael eu cydnabod:
- Ymgeiswyr amser llawn.
- Ymgeiswyr rhan-amser (sydd fel rheol yn astudio am 60 neu lai o gredydau'r flwyddyn).
- Ymgeiswyr allanol (myfyrwyr y caniateir iddynt, yn eithriadol, gofrestru er mwyn sefyll arholiadau yn unig),
- Aelodau staff sydd wedi cofrestru fel myfyrwyr.
- Myfyrwyr cysylltiol (myfyrwyr nad ydynt yn dilyn rhaglen a enwir ond sy'n astudio modiwlau unigol) neu fyfyrwyr Cyfnewid sy'n astudio modiwlau Lefel 7.
7 Modiwlau o Fewn Rhaglen
7. Modiwlau o Fewn Rhaglen
7.1
Cydran addysgol unigol o fewn rhaglen yw modiwl. Bydd pob rhaglen yn cynnwys modiwlau a addysgir - a all fod yn fodiwlau sengl sy’n werth o leiaf 5 credyd Prifysgol Abertawe ond na fyddant fel arfer yn werth mwy na 30 credyd. Yn achos Rhaglenni Meistr, bydd hefyd 60 credyd ychwanegol o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd neu drefniant amgen a gymeradwywyd.
7.2
Yn ogystal â hyn, ar gyfer pob modiwl:
- Dynodir côd cyfeirio unigryw.
- Dynodir lefel astudio sy’n adlewyrchu safon academaidd y modiwl a’i ddeilliannau dysgu.
- Caiff credydau’r System Trosglwyddo Credydau Ewropeaidd (ECTS) eu pennu iddo (yn fras, mae 5 credyd y system honno’n gyfwerth â 10 credyd Prifysgol Abertawe).
- Gall modiwl fod â rhagofynion a/neu gyd-ofynion.
7.3
Gellir grwpio modiwlau yn y categorïau canlynol yn ôl y prif ddull dysgu: darlithoedd; gwaith ymarferol; ymarfer allanol; dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd; traethawd hir; gwaith cyfrifiadurol; gwaith maes; lleoliad neu ddysgu yn y gweithle, neu gyfuniad priodol o’r categorïau hyn (modiwl cyfansawdd).
7.4
Bydd pob modiwl ar gyfer unrhyw gymhwyster a gynigir dan y rheoliadau hyn yn cyfateb i Lefel 7 y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch.
8. Modiwlau Gorfodol
8.1
Bydd y rhan fwyaf o raglenni gradd yn cynnwys modiwlau gorfodol a bennir gan y Gyfadran(nau)/Ysgol(ion) dan sylw. Dylai pob Cyfadran/Ysgolnodi’r cyfryw fodiwlau a'u rhestru yn llawlyfrau'r Gyfadran/Ysgol.
9. Modiwlau Dewisol
9.1
Yn ogystal â’r modiwlau gorfodol, efallai y bydd disgwyl i ymgeiswyr ddilyn modiwlau dewisol o restr o ddewisiadau a bennir yn y maes (meysydd) pwnc arbenigol. Dylai ymgeiswyr ofyn am arweiniad y Gyfadran/Ysgol sy’n ‘gartref’ iddynt wrth ddewis y modiwlau dewisol.
10. Modiwlau Craidd
10.1
Efallai y bydd Cyfadrannau/Ysgolion yn nodi modiwlau sy’n hanfodol ar gyfer rhaglen. Gall Cyfadrannau/Ysgolion fynnu bod yn rhaid i ymgeisydd astudio'r modiwlau ‘craidd’ hynny a llwyddo ynddynt cyn y gall symud ymlaen i ran nesaf y rhaglen astudio neu fod yn gymwys i ennill y dyfarniad. Mae’n rhaid gwneud yn iawn am unrhyw fodiwlau craidd sy’n cael eu methu.
11. Modiwlau Amgen
11.1
Fel rheol, caiff y modiwlau hyn eu hastudio yn lle modiwlau a fethwyd o'r blaen (ar y cais cyntaf yn unig). Caiff ymgeiswyr wneud cais i'w Gyfadran/Ysgol cartref am ganiatâd i ddilyn modiwl(au) amgen. Bydd y marc ar gyfer modiwl amgen yn cael ei gapio, ni waeth beth yw'r marc mewn gwirionedd.
12. Trosglwyddo Rhwng Modiwlau
12.1
Caniateir i ymgeiswyr drosglwyddo o un modiwl i fodiwl arall ar yr amod bod y trosglwyddo’n cael ei gymeradwyo gan y Gyfadran(nau)/Ysgol(ion) perthnasol o fewn y raddfa amser ganlynol:
Modiwlau dwys byr (2 wythnos): cyn diwedd yr ail ddiwrnod o addysgu ar y modiwl dan sylw.
Modiwlau byr (11 wythnos): cyn diwedd ail wythnos yr addysgu ar y modiwl dan sylw.
Modiwlau hir (22 wythnos): cyn diwedd y bedwaredd wythnos o addysgu ar y modiwl dan sylw.
12.2
Mewn achosion eithriadol yn unig, a chyda chymeradwyaeth Cadeirydd Pwyllgor Addysgu’r Gyfadran/Ysgol y cymeradwyir trosglwyddo y tu allan i’r terfynau amser hyn.
12.3
Disgwylir i fyfyrwyr ddilyn y gweithdrefnau trosglwyddo a fabwysiadwyd gan Senedd y Brifysgol ac sydd mewn grym ar y pryd.
13. Newid Dull Astudio
13.1
Gellir caniatáu i ymgeiswyr amser llawn a rhan-amser ar gwrs ôl-raddedig a addysgir newid eu dull mynychu cyn dechrau eu rhaglen gradd, ar yr amod nad yw hynny’n groes i reolau sy’n berthnasol i deithebau a nawdd/ysgoloriaethau ymchwil. Gall ymgeiswyr amser llawn a rhan-amser newid eu dull mynychu rhwng un a phedair wythnos ar ôl dechrau eu rhaglen gyda chymeradwyaeth y Deon Gweithredol neu ei enwebai. Fel arfer, bydd ymgeiswyr sy’n dymuno newid eu modd astudio ar ôl y terfynau amser hyn yn cael eu cynghori i ohirio eu hastudiaethau a dychwelyd ar gyfer y sesiwn ganlynol. Fodd bynnag, gyda chefnogaeth ddatganedig y Deon Gweithredol, gellir cyflwyno achos i Wasanaethau Addysg a fydd yn ystyried yr achos yn weinyddol, ar ran y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
14. Trosglwyddo Rhwng Rhaglenni
14.1
Fel rheol, ni chaniateir i ymgeiswyr ar gyrsiau ôl-raddedig a addysgir newid eu rhaglen astudio oni bai fod y newid hwnnw o fewn rhaglen sy’n cynnig opsiynau arbenigol amrywiol. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir caniatáu i ymgeiswyr ar gwrs ôl-raddedig a addysgir newid eu rhaglen astudio os teimlir, ar ôl ymgynghori â’r Deon Gweithredol (y Gyfadran/Ysgol ‘cartref’ fel rheol) neu ei enwebai, y byddai trosglwyddo er lles yr ymgeisydd. Fel rheol, bydd newidiadau o’r fath yn digwydd cyn diwedd y pythefnos cyntaf ar ôl dyddiad dechrau'r rhaglen. Yn ystod y broses gymeradwyo, rhoddir sylw priodol i'r gofynion derbyn a'r goblygiadau ariannol sy'n gysylltiedig â'r newid, gan gynnwys barn/amodau noddwyr (gan gynnwys ysgoloriaethau ymchwil).
14.2
Dylai pob cais i newid rhaglen ar ôl ail wythnos blwyddyn gyntaf rhaglen astudio gael ei gymeradwyo'n weinyddol ar ran y Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau, ar ôl ymgynghori â'r Gyfadran/Ysgol. Fel rheol, ni fydd ceisiadau i newid rhaglen ar ôl pedair wythnos gyntaf y rhaglen yn cael eu hawdurdodi. Gellir cyfeirio ceisiadau o'r fath at Gadeirydd y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
14.3
Ni chymeradwyir cais i newid rhaglen oni bai fod yr ymgeisydd yn gallu cwblhau’r rhaglen neu Ran Un y rhaglen (yn achos rhaglenni meistr safonol) o fewn y cyfnod disgwyliedig. Os bydd modiwl wedi’i addysgu a’i asesu erbyn i'r cais i newid rhaglen gael ei gymeradwyo, neu os bydd y myfyriwr wedi colli cymaint o sesiynau addysgu’r modiwl nes ei bod yn amhosibl iddo gwblhau’r asesiad, dylid cynghori’r ymgeisydd i ohirio ei astudiaethau.
14.4
Ni fydd cyfnod yr ymgeisiaeth yn cael ei estyn yn awtomatig ar gyfer myfyrwyr sy’n newid rhaglen ac mae angen iddynt ohirio eu hastudiaethau. Fodd bynnag, gall ymgeiswyr o’r fath wneud cais i estyn eu hymgeisiaeth yn unol â rheoliadau’r Brifysgol.
14.5
Ni chaiff ymgeiswyr sy'n newid rhaglen roi mwy na'r nifer arferol o gynigion i gwblhau'r lefel (h.y. dau gynnig ar gyfer pob modiwl), felly:
- Bydd ymgeiswyr sy’n newid rhaglen ar ôl methu modiwl yn eu rhaglen wreiddiol, yn cael un cynnig arall yn unig mewn modiwlau amgen ar y rhaglen newydd.
- Os bydd ymgeisydd eisoes wedi rhoi un cynnig ar fodiwl, dylai’r Gyfadran/Ysgol:
- Ystyried a oes modd trosglwyddo credydau ar gyfer y modiwlau hynny y llwyddwyd ynddynt.
- Hysbysu’r ymgeisydd mai un cynnig arall yn unig fydd ganddo ar fodiwlau amgen a sicrhau nad yw cynigion o’r fath yn cael eu capio.
14.6
Ni fydd ymgeiswyr sydd eisoes wedi rhoi dau gynnig arni’n cael newid eu rhaglen astudio.
14.7
Os nad yw ymgeisydd wedi rhoi cynnig ar fodiwlau yn ei raglen wreiddiol, caniateir dau gynnig i'r ymgeisydd yn ei raglen newydd.
14.8
Ni chaniateir i ymgeiswyr y gofynnwyd iddynt dynnu'n ôl, neu sy’n gadael rhaglen â Diploma neu Dystysgrif Ôl-raddedig, lenwi ffurflen gais ar-lein i Newid Rhaglen. Fodd bynnag, ni fydd ymgeiswyr o’r fath yn cael eu hatal rhag gwneud cais drwy’r llwybr derbyn arferol os ydynt am gael eu derbyn i raglen arall.
14.9
Mae’n rhaid i'r ffurflen ar-lein briodol ar gyfer gwneud cais i Newid Rhaglen gael ei llofnodi gan yr ymgeisydd, ei hawdurdodi gan yr aelod(au) priodol o staff academaidd a’i chyflwyno i Wasanaethau Addysg. Mae’r weithdrefn hon yn berthnasol i bob cais i newid rhaglen, gan gynnwys trosglwyddiadau mewnol o fewn Cyfadran/Ysgol. Mae'r ffurflen ar-lein ar gael ar fewnrwyd y Brifysgol.
14.10
Yn achos myfyrwyr rhyngwladol a noddir gan y Brifysgol, mae trosglwyddo rhwng rhaglenni'n amodol ar feddu ar fisa ddilys Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt). Cyn y caiff y myfyriwr drosglwyddo i raglen arall, asesir a yw'r broses drosglwyddo'n bodloni deddfwriaeth Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) gyfredol cyn y caiff y cais ei gymeradwyo. Bydd yr asesiad yn cyfeirio at lefel y rhaglen newydd, cyfnod caniatâd i aros presennol y myfyriwr, y terfynau amser cyfredol sy'n llywodraethu astudio Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt); asesir a yw'r rhaglen newydd yn bodloni 'dyheadau go iawn' y myfyriwr o ran ei yrfa ac ystyrir unrhyw ofynion eraill a bennir gan Swyddfa Teithebau a Mewnfudo'r DU. Lle nad oes modd cwblhau'r rhaglen newydd o fewn y cyfnod caniatâd i aros sy'n weddill o dan Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), bydd angen i'r myfyriwr adael y DU i gyflwyno cais pellach am ganiatâd i aros er mwyn cwblhau'r rhaglen. Os oes angen cymeradwyaeth gan y Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS) ar raglen, bydd rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol gael cymeradwyaeth a darparu copi o'r dystysgrif ATAS i'r Brifysgol cyn y gellir cymeradwyo cais i newid rhaglen.
15. Trosglwyddiadau Dilyniant
15.1
Gellir caniatáu i ymgeiswyr sy’n astudio am ddyfarniad ôl-raddedig a addysgir newid i astudio am ddyfarniad uwch yn yr un maes pwnc, gyda chymeradwyaeth y Deon Gweithredol (neu ei enwebai), yn unol â’r tabl isod:
Cymhwyster a enillwyd: |
Caniateir trosglwyddo i: |
Tystysgrif Ôl-raddedig |
Diploma Ôl-raddedig neu Radd Meistr Ôl-raddedig a Addysgir |
Diploma Ôl-raddedig |
Gradd Meistr Ôl-raddedig a Addysgir |
15.2
Yn achos ymgeisydd sydd wedi cwblhau rhaglen, bydd newid o’r fath yn cael ei weithredu cyn cyflwyno’r dyfarniad.
16. Estyn Ymgeisiaeth
16.1
Mae gan bob rhaglen gyfnod ymgeisiaeth hwyaf posib. Nod pennu'r cyfnod hwyaf posib yw rhoi cyfle i fyfyrwyr gwblhau eu gradd hyd yn oed os yw amgylchiadau wedi torri ar draws eu hastudiaethau am ba reswm bynnag. Rhaid i fyfyrwyr geisio cwblhau eu rhaglen erbyn y dyddiadau cau a bennir ar gyfer y rhaglen. Bydd ymgeisiaeth yn dod i ben (felly ni chaiff yr ymgeisydd ei arholi) os na chwblheir y rhaglen o fewn y terfynau amser a bennwyd gan y Brifysgol.
16.2
Gellir estyn y terfynau amser, mewn achosion eithriadol yn unig ac yn unol â’r meini prawf canlynol:
- Fel arfer, ni chaniateir estyn terfynau amser ond oherwydd rhesymau tosturiol neu resymau sy'n ymwneud â salwch, anawsterau difrifol gartref neu ymrwymiadau proffesiynol eithriadol y gellir dangos eu bod wedi cael effaith niweidiol ar yr ymgeisydd. Rhaid i’r Gyfadran/Ysgol gyflwyno achos llawn a rhesymegol, a gefnogir gan gynllun gwaith a thystiolaeth feddygol briodol neu dystiolaeth annibynnol arall, i Wasanaethau Addysg ei ystyried. Bydd Gwasanaethau Addysg yn prosesu achosion o'r fath yn weinyddol ar ran y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
- Yn achos ymgeiswyr rhan-amser sy’n nodi ymrwymiadau proffesiynol eithriadol, rhaid i’r cais gael ei gyflwyno gyda chadarnhad a disgrifiad ysgrifenedig gan y cyflogwr o’r llwyth gwaith eithriadol y mae’r ymgeisydd wedi ei ysgwyddo ynghyd â datganiad sy’n nodi nad oedd modd rhagweld yr ymrwymiadau.
- Mewn achosion sy’n deillio o salwch:
- Rhaid darparu tystiolaeth feddygol foddhaol, gan gynnwys tystysgrif feddygol. (Mae difrifoldeb a natur y salwch, fel y'u disgrifir ar y dystysgrif, yn hynod werthfawr wrth asesu’r achos.)
- Rhaid darparu datganiad clir sy'n dangos bod y Gyfadran/Ysgol dan sylw wedi gwerthuso sefyllfa’r ymgeisydd o ganlyniad i’r salwch a'i fod o'r farn bod yr estyniad a geisir yn briodol. Lle bynnag y bo modd, dylai datganiad o’r fath ddilyn cyswllt uniongyrchol rhwng yr ymgeisydd a’r Gyfadran/Ysgol.
16.3
Rhaid i geisiadau am estyniad gael eu cyflwyno gan oruchwyliwr yr ymgeisydd, neu yn achos tystysgrifau a diplomâu ôl-raddedig, Cyfarwyddwr y rhaglen, i Wasanaethau Addysg lle caiff yr achos ei ystyried yn weinyddol ar ran y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
16.4
Ni chaniateir estyniad i ymgeisiaeth myfyrwyr sy’n ailgyflwyno darn o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
16.5
Nid fydd ceisiadau am estyniadau a gyflwynir gan fyfyrwyr gradd Ymchwil ar sail cofrestriad cydamserol yn unig yn cael eu rhoi i aelodau staff sydd wedi'u cofrestru ar yr un pryd ar y Dystysgrif Ôl-radd mewn Addysgu mewn Addysg Uwch (PGCtHE), oherwydd gofyniad cytundebol y PGCtHE fel amod cyflogaeth.
17. Lefel Astudio
17.1
Bydd y lefel astudio ar Lefel 7 y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch.
18. Llawlyfrau
18.1
Darperir llawlyfr y Gyfadran/Ysgol i bob ymgeisydd ar ddechrau ei astudiaethau neu cyn hynny. Bydd y ddogfen enghreifftiol a ddarperir gan Wasanaethau Addysg yn pennu'r manylion y mae'n ofynnol eu cynnwys yn llawlyfrau'r Cyfadrannau/Ysgolion.
19. Gohirio Astudiaethau
19.1
Ystyrir ceisiadau i ohirio astudiaethau yn unol â Rheoliadau Prifysgol Abertawe ynghylch Gohirio Astudiaethau.
20. Monitro Cynnydd a Cyfranogiad
20.1
Disgwylir i ymgeiswyr fynd i holl sesiynau dysgu'r amserlen sy'n gysylltiedig â phob modiwl maent wedi dewis ei ddilyn.
20.2
Caiff cyfranogiad ei fonitro yn unol â Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr a Addysgir.
20.3
Bydd cynnydd yn cael ei fonitro drwy gynnal sesiynau trafod rheolaidd gyda thiwtoriaid a thrwy Fyrddau Arholi.
21. Absenoldeb Myfyrwyr
21.1
Os yw salwch wedi torri ar draws gwaith ymgeisydd am gyfnod sy’n hwy na saith niwrnod, bydd rhaid i'r ymgeisydd hwnnw hysbysu’r Gyfadran/Ysgol yn ysgrifenedig a chyflwyno tystysgrif feddygol.
21.1
Mae'n ofynnol i ymgeisydd sydd wedi bod yn absennol o arholiad gyflwyno esboniad ysgrifenedig i'r Gyfadran/Ysgol yn ddi-oed ac o fewn pum niwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr arholiad. Yn achos salwch, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd gyflwyno tystysgrif feddygol hefyd.
21.3
Dylai ymgeiswyr sylwi mai nhw sy'n gyfrifol am hysbysu eu Cyfadran/Ysgol, cyn gynted â phosibl, am unrhyw amgylchiadau esgusodol a allai effeithio ar eu perfformiad, naill ai yn ystod y flwyddyn academaidd neu yn ystod arholiadau, yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu. Nid ystyrir apeliadau academaidd sy’n seiliedig ar amgylchiadau esgusodol y gellid bod wedi’u dwyn i sylw’r Gyfadran/Ysgol priodol cyn i’r byrddau arholi gyfarfod.
22. Darpariaeth Arbennig
22.1
Os oes angen darpariaeth arbennig ar ymgeisydd ar gyfer gwaith cwrs neu arholiad, dylai gyflwyno cais ysgrifenedig yn y lle cyntaf i'r Deon Gweithredol (neu ei enwebai), a fydd yn ymgynghori â Phennaeth Gwasanaethau Myfyrwyr (neu swyddog priodol o’r Brifysgol) cyn gynted â phosib. Rhaid darparu tystiolaeth ddogfennol i gefnogi’r cais. Ar ôl ymgynghori â Phennaeth Gwasanaethau Myfyrwyr (neu swyddog priodol o’r Brifysgol) caniateir i'r Deon Gweithredol neu ei enwebai ddiystyru ceisiadau am ddarpariaeth arbennig os na chânt eu cefnogi gan dystiolaeth ddogfennol briodol.
22.2
Os caiff y Deon Gweithredol neu ei enwebai ei hysbysu y dylai ymgeisydd dderbyn darpariaeth arbennig, bydd yn anfon y cais, ynghyd â chopïau o'r dystiolaeth ddogfennol sy’n cefnogi’r cais, at Bennaeth Gwasanaethau Myfyrwyr (neu swyddog priodol o’r Brifysgol) cyn gynted â phosib. Yn achos ymgeiswyr â dyslecsia, rhaid derbyn adroddiad sydd wedi’i ddyddio o fewn tair blynedd i ddyddiad mynediad yr ymgeisydd i’r rhaglen astudio. Rhaid i’r adroddiad gael ei gyflwyno gan seicolegydd cymwys sydd â phrofiad o weithio gydag oedolion dyslecsig, neu gan rywun sydd â chymhwyster ar ôl dilyn cwrs hyfforddi proffesiynol a oedd yn ymwneud ag asesu oedolion â dyslecsia.
22.3
Os oes angen darpariaeth arbennig neu ystyriaeth arbennig ar ymgeisydd ar gyfer gwaith cwrs neu arholiad oherwydd amgylchiadau annisgwyl, dylai'r ymgeisydd hwnnw hysbysu y Deon Gweithredol neu ei enwebai cyn gynted â phosib. Oni bai fod y Gyfadran/Ysgol yn derbyn manylion ynghylch amgylchiadau esgusodol a chais am estyniad, tybir nad oedd yr amgylchiadau penodol wedi effeithio’n ormodol ar y myfyriwr wrth baratoi ar gyfer yr asesiad dan sylw.
Os yw’n briodol, bydd y Deon Gweithredol yn gwneud trefniadau addas ar ôl ymgynghori â’r ymgeisydd.
23. Myfyrwyr Rhyngwladol a Gofynion Teitheb
23.1
Os oes angen teitheb ar fyfyrwyr rhyngwladol i'w galluogi i astudio yn y Brifysgol, dylent sylwi bod eu hawl i astudio yn y Brifysgol yn amodol ar fodloni amodau eu teitheb a'r terfynau amser a bennir gan Swyddfa Teithebau a Mewnfudo Swyddfa Gartref y Deyrnas Unedig. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/browse/visas-immigration/study-visas.
23.2
Gwneir penderfyniadau gan y Brifysgol ynghylch statws cofrestru, perfformiad academaidd, dilyniant a dyfarniad ymgeisydd yn unol â rheoliadau academaidd ac ariannol y Brifysgol, ac ni fydd cyfyngiadau teitheb a therfynau amser a bennir gan y Swyddfa Gartref yn effeithio arnynt. Fodd bynnag, mae'r hawl i barhau i astudio yn amodol ar fodloni gofynion cofrestru'r Brifysgol a chanllawiau'r Swyddfa Gartref sy'n mynnu bod teitheb ddilys yn hanfodol. Ni chaiff myfyriwr rhyngwladol sy'n gymwys i symud i'r lefel astudio nesaf, neu'r flwyddyn astudio nesaf, barhau i astudio yn y Brifysgol heb deitheb ddilys.
Dylai myfyrwyr sydd â phryderon neu ymholiadau ynghylch eu teitheb gysylltu â International@CampusLife.
24. Cyflwyno Gwaith
Bydd Cyfadrannau/Ysgolion yn pennu dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno gwaith i'w asesu. Mae Polisi Asesu, Marcio ac Adborth Prifysgol Abertawe'n nodi gwybodaeth sy'n ymwneud ag amserlenni, cyflwyno asesiadau a chyflwyno asesiadau'n hwyr.
25. Byrddau Arholi a Phenodi Arholwyr
25.1
Bydd yr holl arholiadau’n cael eu cynnal dan awdurdod Rheoliadau a Gweithdrefnau Cynnal Arholiadau'r Brifysgol. Bydd y Bwrdd Arholi yn gweithredu yn unol â'r Rheoliadau Asesu ar gyfer Dyfarniadau Ôl-raddedig a Addysgir.
25.2
Caiff arholwyr allanol eu henwebu a’u penodi yn unol â’r gweithdrefnau a amlygir yng Nghôd Ymarfer Prifysgol Abertawe ar gyfer Arholi Allanol.
25.3
Rhaid bod gan diwtoriaid/arholwyr cyswllt statws proffesiynol amlwg diweddar neu gyfredol mewn maes ymarfer sydd â chysylltiad agos â’r rhaglen astudio.
25.4
Bydd curriculum vitaellawn yn cael ei ddarparu i’r Pwyllgor Addysg i gymeradwyo statws Arholwr Cyswllt.
26. Arholiadau
26.1
Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn y sefydliad lle maent wedi dilyn y rhaglen astudio.
26.2
Gall unrhyw ymgeisydd sy’n dilyn rhaglen astudio yn y Brifysgol wneud cais – ni waeth ai Saesneg neu Gymraeg yw prif iaith asesu’r rhaglen dan sylw – i gyflwyno sgriptiau arholiad neu waith i'w asesu yn Gymraeg neu Saesneg. Ymdrinnir â cheisiadau o’r fath yn unol â’r Canllawiau ar Asesu ac Arholi yn Gymraeg neu mewn Iaith Arall ar wahân i Iaith yr Addysgu.
26.3
Mewn achosion lle gellir tybio ei bod yn briodol cyflwyno traethawd ymchwil mewn iaith heblaw Cymraeg/Saesneg am resymau academaidd, gall y Gyfadran/Ysgol ganiatáu hynny os oes achos rhesymegol wedi’i gyflwyno i’w gymeradwyo, fel arfer cyn i’r ymgeisydd gofrestru i astudio. Serch hynny, ni fydd y Gyfadran/Ysgol yn cymeradwyo ceisiadau sy’n seiliedig ar ddiffyg gallu’r ymgeisydd i gynhyrchu gwaith i’w gyflwyno yn Gymraeg neu Saesneg.
27. Trosglwyddo Credydau
27.1
Caiff ceisiadau i drosglwyddo credydau eu hystyried yn unol â pholisi a gweithdrefnau Prifysgol Abertawe ar gyfer cydnabod dysgu blaenorol. Dim ond credydau a enillwyd o fewn y pum mlynedd ddiwethaf y bydd y Brifysgol yn eu derbyn. Fel arfer, ni ddylai uchafswm y credydau a drosglwyddir gynrychioli mwy na thraean yr holl gredydau, sef 20 credyd ar gyfer Tystysgrifau ôl-raddedig, 40 credyd ar gyfer Diplomâu ôl-raddedig a 60 credyd ar gyfer rhaglenni Meistr ôl-raddedig a Addysgir, gan gynnwys y rhaglenni Meistr Estynedig. Fodd bynnag, gellir caniatáu eithriadau, er enghraifft oherwydd Rheoliadau Cyrff Proffesiynol.
Ni chaiff myfyriwr gyflwyno cais am eithriad credydau ar sail methiant academaidd blaenorol. Nid ystyrir ceisiadau gan fyfyrwyr y dyfarnwyd cymhwyster gadael iddynt oherwydd methiant academaidd ar y rhaglen honno.
27.2
Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn unol â pholisi a gweithdrefnau Prifysgol Abertawe ar gyfer cydnabod dysgu blaenorol, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr a oedd wedi dilyn rhaglen Gradd Meistr Ôl-raddedig a Addysgir yn y Brifysgol o'r blaen, ac a ddewisodd adael y rhaglen â thystysgrif neu ddiploma ôl-raddedig yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
28. Derbyn i Radd
28.1
Bydd ymgeiswyr sydd wedi cymhwyso i ennill eu dyfarniadau yn cael eu derbyn i’w graddau yn eu habsenoldeb drwy ordinhad Is-ganghellor Prifysgol Abertawe. Gwahoddir yr ymgeiswyr i seremoni ddyfarnu yn ddiweddarach i ddathlu eu dyfarniad.
29. Apeliadau Academaidd
29.1
Gall ymgeiswyr nad yw’r Bwrdd Arholi wedi’u hargymell ar gyfer y dyfarniad apelio yn erbyn y penderfyniad a gofyn am apêl academaidd. Cynhelir pob apêl academaidd yn unol â gweithdrefnau Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd neu weithdrefnau Apeliadau Academaidd Prifysgol Abertawe.
30. Camymddwyn Academaidd
30.1
Caiff unrhyw honiad ynghylch arfer annheg ei ystyried yn unol â Gweithdrefnau Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe.
31. Addasrwydd i Ymarfer
31.1
Ystyrir honiadau ynghylch addasrwydd i ymarfer yn unol â Rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.
32. Dyfarniadau Aegrotat
32.1
Bydd ceisiadau gan Gyfadrannau/Ysgolion am ddyfarniadau Aegrotat yn cael eu hystyried yn unol â gweithdrefnau’r Brifysgol ar gyfer Dyfarnu Graddau Aegrotat.
33. Dyfarniadau Ar Ôl Marwolaeth
33.1
Caiff ceisiadau gan Gyfadrannau/Ysgolion am ddyfarniadau ar ôl marwolaeth eu hystyried yn unol â gweithdrefnau’r Brifysgol ar gyfer Dyfarniadau ar ôl Marwolaeth.