Doethur mewn Athroniaeth (PhD) drwy Waith Cyhoeddedig
1. Cyflwyniad
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.
1.1
Dyfernir graddau doethurol i fyfyrwyr sydd wedi dangos eu bod wedi cyflawni'r canlynol:
- Creu a dehongli gwybodaeth newydd, trwy ymchwil gwreiddiol neu ysgolheictod uwch arall, sydd o ansawdd sy'n bodloni adolygiad cymheiriaid, sy'n estyn ffiniau'r ddisgyblaeth ac sy'n deilwng o gael ei gyhoeddi;
- Caffael a deall yn systematig corff sylweddol o wybodaeth sydd ar flaen y gad mewn disgyblaeth academaidd neu faes o ymarfer proffesiynol;
- Y gallu cyffredinol i gysyniadu, cynllunio a gweithredu prosiect er mwyn creu gwybodaeth, cymwysiadau neu ddealltwriaeth newydd sydd ar flaen y gad o fewn y ddisgyblaeth, ac addasu cynllun y prosiect yn wyneb problemau nas rhagwelwyd;
- Dealltwriaeth fanwl o dechnegau cymwys ar gyfer ymchwil ac ymholi academaidd uwch.
Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y pethau canlynol:
- Dod i farn wybodus ar faterion cymhleth mewn meysydd arbenigol, yn aml yn absenoldeb data cyflawn, a gallu mynegi eu syniadau a'u casgliadau yn glir ac yn effeithiol i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg;
- Parhau i ymgymryd ag ymchwil a datblygu pur a/neu gymwysedig ar lefel uwch, gan gyfrannu'n sylweddol i ddatblygu technegau, syniadau neu ymagweddau newydd.
A bydd gan y deiliaid:
- Y rhinweddau a'r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth lle mae gofyn iddynt arfer cyfrifoldeb personol a menter annibynnol i raddau helaeth mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu darogan mewn amgylchedd proffesiynol neu gyfatebol.
1.2
Rhaid i’r holl ymgeiswyr gofrestru’n fyfyrwyr Prifysgol Abertawe a thalu’r ffioedd priodol a bennir gan y Brifysgol. Fel myfyrwyr cofrestredig, rhaid i’r ymgeiswyr gydymffurfio â rheoliadau academaidd a chyffredinol y Brifysgol.
1.3
Ni chaiff ymgeiswyr radd arall sy’n arwain at ddyfarnu cymhwyster yn y brifysgol hon neu mewn prifysgol/sefydliad arall heb ganiatâd penodol Cadeirydd y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd.
1.4
Rhaid i'r holl ymgeiswyr fonitro’r cyfrif e-bost a roddwyd iddynt gan y Brifysgol trwy gydol cyfnod yr ymgeisyddiaeth gan y bydd yr holl ohebiaeth electronig oddi wrth y Brifysgol yn cael ei hanfon i gyfrif e-bost Prifysgol yr ymgeisydd. Awgrymir yn gryf bod pob ymgeisydd yn defnyddio’r cyfrif e-bost Prifysgol a roddwyd iddynt wrth gyfathrebu â’r Brifysgol.
1.5
Lefel astudio'r radd ymchwil a reolir gan y rheoliadau hyn fydd Lefel 8 y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch.
2. Amodau Derbyn
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.
2.1
Rhaid i ymgeisydd am radd PhD drwy Waith a Gyhoeddwyd fod â gradd gychwynnol o Brifysgol yn y DU neu brifysgol arall a gymeradwywyd gan Senedd ac fel arfer bod â gradd Meistr o brifysgol yn y DU neu brifysgol arall a gymeradwywyd gan Senedd.
2.2
Rhaid i bob ymgeisydd fod yn aelod cyfredol o staff Prifysgol Abertawe. Rhaid ei fod wedi bod mewn swydd yn y Brifysgol hon am gyfnod parhaus o dair blynedd o leiaf ar sail amser llawn (neu gyfnod cyfatebol ar sail ran-amser) yn union cyn cyflwyno'r gwaith a gyhoeddwyd. Rhaid i ymgeisydd fod yn aelod o staff ar yr adeg yr arholir y gwaith cyhoeddedig.
2.3
Bydd yr ymgeisydd yn cyflwyno rhestr o'r gwaith a gyhoeddwyd sydd i'w ystyried yn ogystal â datganiad am gyfraniad yr ymgeisydd i unrhyw bapurau aml-awdur neu waith cydweithredol i'r Deon Gweithredolperthnasol neu ei enwebai. Bydd y penderfyniad i dderbyn ymgeisydd i raglen arfaethedig o ymchwil yn gyfrifoldeb y Deon Gweithredol neu ei enwebai.
2.4
Rhaid i bob ymgeisydd fatriciwleiddio cyn cyflwyno gwaith i’w arholi, yn unol â rheoliadau cyffredinol y Brifysgol ynghylch matriciwleiddio.
2.5
Rhaid i bob ymgeisydd gydymffurfio â'r Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.
3. Cyfnod Ymgeisyddiaeth
3.1
Mae'n ofynnol i ymgeisydd gwblhau cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf o chwe mis o'r dyddiad cofrestru, ac yn ystod yr amser hwnnw bydd yr ymgeisydd yn paratoi'r cyflwyniad a'r adolygiad beirniadol dan gyfarwyddyd ymgynghorydd (fel yr amlygir yn adran 5 islaw).
4. Dyddiad Cyflwyno
4.1
Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd gyflwyno ei gais am y radd heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl cofrestru.
4.2
Pan fydd ymgeisydd yn methu cyflwyno'r cais erbyn y dyddiad cyflwyno olaf gall y Brifysgol fynnu bod yr ymgeisyddiaeth yn cael ei therfynu.
5. Cynghorwr
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllaw’r Brifysgol i Radd Doethuriaeth mewn Athroniaeth trwy Waith a Gyhoeddwyd.
5.1
Bydd gan bob ymgeisydd ymgynghorydd a benodir gan Deon Gweithredol neu ei enwebai.
5.2
Rhaid bod yr ymgynghorydd yn aelod o staff Prifysgol Abertawe. Bydd yr ymgynghorydd yn cefnogi, cynghori a thywys yr ymgeisydd trwy'r broses o gyflwyno ac arholi'r gwaith a gyhoeddwyd.
6. Gwaith sydd i’w Gyflwyno
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllaw’r Brifysgol i Radd Doethuriaeth mewn Athroniaeth trwy Waith a Gyhoeddwyd.
6.1
Fel rheol, dim ond gwaith cyhoeddedig mewn cyfnodolion a llyfrau ysgolheigaidd a fydd yn gymwys i’w ystyried. Rhaid i’r holl waith fod wedi’i gyhoeddi mewn modd sy’n golygu ei fod ar gael yn gyffredinol i’w ddarllen gan ysgolheigion neu bobl eraill sydd â diddordeb ynddo.
6.2
Rhaid i'r gwaith a gyflwynir ar gyfer y radd fod yn gorpws cyhoeddi sy'n tueddu at thesis cydlynol, yn hytrach na chyfres o gyhoeddiadau digyswllt.
6.3
Rhaid i'r gwaith a gyflwynir ar gyfer y radd fod wedi'i gyhoeddi yn ystod y saith mlynedd cyn y dyddiad cyflwyno.
6.4
Rhaid i'r gwaith a gyflwynir ar gyfer y radd fod yn sylweddol wahanol i unrhyw waith a gyflwynwyd yn flaenorol am unrhyw radd naill ai yn y sefydliad hwn neu mewn sefydliad arall.
6.5
Bydd y gwaith sydd i’w gyflwyno yn cynnwys:
- Crynodeb o'r gwaith a gyhoeddwyd sy'n cynnwys yr holl brif gysyniadau a chasgliadau, heb fod yn hwy na 300 gair;
- Taflen grynhoi sy’n rhestru’r holl waith cyhoeddedig a gyflwynir, ynghyd â datganiad ynghylch maint cyfraniad yr ymgeisydd i waith sydd â mwy nag un awdur;
- Copi o bob cyhoeddiad, wedi’u rhifo, yn unol â 6.5 b) uchod;
- Adolygiad beirniadol sy'n datgan amcanion a natur yr ymchwil, y rhyngberthynas rhwng y gwaith a gyhoeddwyd, a phrif gyfraniad neu ychwanegiad y gwaith a gyhoeddwyd i ysgolheictod;
- Tystiolaeth o statws yr holl waith cyhoeddedig a gyflwynir.
6.6
Mae'n ofynnol bod ymgeiswyr am radd Doethuriaeth mewn Athroniaeth trwy Waith a Gyhoeddwyd yn cyflwyno dau gopi o'r gwaith i'w arholi, fel y disgrifir yn 6.5 uchod.
7. Asesu
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllaw’r Brifysgol i Radd Doethuriaeth mewn Athroniaeth trwy Waith a Gyhoeddwyd.
7.1
Caiff ymgeiswyr am y radd Doethur mewn Athroniaeth trwy Waith a Gyhoeddwyd eu harholi mewn tair rhan:
- Y rhan gyntaf fydd adolygiad beirniadol rhwng 5,000 a 10,000 o eiriau o hyd, sy'n datgan amcanion a natur yr ymchwil, y rhyngberthynas rhwng y gwaith a gyhoeddwyd, a phrif gyfraniad neu ychwanegiad y gwaith a gyhoeddwyd i ysgolheictod;
- Yr ail ran fydd y gwaith a gyhoeddwyd;
- Y drydedd ran fydd arholiad llafar (viva voce) fel y nodir ym mharagraff 9 isod.
7.2
Caiff Deon Gweithredol ddirprwyo’r tasgau gweinyddol ynghylch cyflwyno ac arholi traethawd ymchwil i aelod o staff a bydd hefyd yn enwebu Cadeirydd y Bwrdd Arholi a ddylai fod yn aelod o staff y Gyfarwyddiaeth/Ysgol, sy’n meddu ar brofiad addas ac na fu ganddo gysylltiad uniongyrchol arall â’r gwaith o baratoi'r cyflwyniad neu'r cyhoeddiadau sy'n ei gyfansoddi.
7.3
Gall y Bwrdd Arholi fynnu bod yr ymgeisydd yn sefyll arholiad ysgrifenedig.
8. Cyfansoddiad y Bwrdd Arholi
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
8.1
Bydd pob Bwrdd Arholi ar gyfer ymgeiswyr yn cynnwys yr unigolion canlynol:
- Cadeirydd annibynnol, a fydd yn Ddeon Gweithredol neu’n aelod o staff a chanddo brofiad addas a enwebwyd gan y Ddeon Gweithredolrholwr allanol, a benodir yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
8.2
Bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn annibynnol yn y broses arholi a bydd yn atebol i’r Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig parthed cynnal yr arholiad.
8.3
Ni chaniateir i oruchwylwyr yr ymgeisydd nac unrhyw aelod o staff sydd ynghlwm wrth oruchwylio’r ymgeisydd fod yn rhan o’r Bwrdd Arholi, ond gall Cadeirydd y Bwrdd Arholi eu gwahodd, wedi cael caniatâd ysgrifenedig penodol yr ymgeisydd ymlaen llaw, i fynychu’r arholiad llafar mewn rôl ymgynghorol. Ni chaiff ymgynghorydd siarad ond ar ôl cael ei wahodd i wneud hynny gan y Cadeirydd.
9. Arholiad Llafar (viva voce)
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
9.1
Bydd disgwyl i’r Bwrdd Arholi gynnal arholiad llafar ar gyfer bob ymgeisydd ar gyfer gradd ymchwil.
9.2
Rhaid cynnal arholiad llafar ym Mhrifysgol Abertawe o fewn chwe mis i ddyddiad cyflwyno'r cais am y radd.
9.3
Rhaid i ymgeisydd y mae angen darpariaeth arbennig arno ar gyfer yr arholiad llafar roi gwybod i'r Ddeon Gweithredol neu enwebai cyn cyflwyno’r traethawd ymchwil. Gwneir trefniadau yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
9.4
Bydd gan ymgynghorydd yr ymgeisydd hawl i gyfleu i Gadeirydd y Bwrdd Arholi unrhyw bryderon ynghylch cyflwyniad ymgeisydd, neu ynghylch ei arholi, y teimla’r ymgynghorydd y dylai’r Bwrdd eu hystyried cyn gwneud ei benderfyniad. Bydd yr ymgynghorydd yn cyfleu’r pryderon hyn, mewn ysgrifen, i’r Cadeirydd ac i’r ymgeisydd cyn gynted ag y bo modd wedi'r cyflwyno i'r Bwrdd Arholi ac yn ddigon cynnar i roi digon o amser i’r ymgeisydd, cyn arholi’r cyflwyniad (gan gynnwys unrhyw arholiad llafar), ystyried y pwyntiau a wnaed a pharatoi ymateb.
9.5
Cynhelir yr arholiad llafar yn unol â'r Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil. Bydd argymhelliad y Bwrdd Arholi'n cael ei gyflwyno i Grŵp Gweithredol y Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig i’w gadarnhau.
10. Graddau Aegrotat ac Wedi Marwolaeth
10.1
Dilynwch y ddolen isod i weld y rheoliadau ar raddau Aegrotat.
Rheoliadau Dyfarniadau Aegrotat
Dilynwch y ddolen isod i weld y rheoliadau ar raddau wedi marwolaeth.
11. Apeliadau Academaidd
11.1
Caiff ymgeiswyr nad yw’r Bwrdd Arholi wedi’u hargymell ar gyfer y dyfarniad y cyflwynwyd y traethawd ymchwil ar ei gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad a gofyn am apêl academaidd. Cynhelir pob apêl academaidd yn unol â gweithdrefnau Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd a gweithdrefnau Apeliadau Academaidd Prifysgol Abertawe.
12. Camymddygiad Academaidd
12.1
Caiff honiadau o arfer annheg eu hystyried yn unol â gweithdrefnau a rheoliadau Camymddygiad Academaidd Prifysgol Abertawe. Caiff unrhyw honiadau o arfer annheg a ddaw i law’r Brifysgol ar ôl cyflwyno’r radd i’r ymgeisydd eu hystyried gan y sefydliad sy’n dyfarnu’r radd.
13. Addasrwydd i Ymarfer
13.1
Caiff honiadau yn ymwneud ag addasrwydd i ymarfer eu hystyried yn unol â rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.
14. Cwynion
14.1
Dylai myfyrwyr sy’n anfodlon ar y dysgu a’r addysgu, y cyfleusterau neu'r gwasanaethau a ddarperir gan y Brifysgol, neu’r modd y mae’r Brifysgol, ei myfyrwyr, neu ei staff wedi ymddwyn neu heb ymddwyn, ddilyn y camau gweithredu a amlygir yng Ngweithdrefn Achwyn Prifysgol Abertawe.
15. Myfyrwyr Rhyngwladol a Gofynion Teitheb
15.1
Os oes angen teitheb ar fyfyrwyr rhyngwladol i'w galluogi i astudio yn y Brifysgol, dylent sylwi bod eu hawl i astudio yn y Brifysgol yn amodol ar fodloni amodau eu teitheb a'r terfynau amser a bennir gan Swyddfa Teithebau a Mewnfudo Swyddfa Gartref y Deyrnas Unedig. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/browse/visas-immigration/study-visas.
15.2
Gwneir penderfyniadau gan y Brifysgol ynghylch statws cofrestru, perfformiad academaidd, dilyniant a dyfarniad ymgeisydd yn unol â rheoliadau academaidd ac ariannol y Brifysgol, ac ni fydd cyfyngiadau teitheb a therfynau amser a bennir gan y Swyddfa Gartref yn effeithio arnynt. Fodd bynnag, mae'r hawl i barhau i astudio yn amodol ar fodloni gofynion cofrestru'r Brifysgol a chanllawiau'r Swyddfa Gartref sy'n mynnu bod teitheb ddilys yn hanfodol. Ni chaiff myfyriwr rhyngwladol sy'n gymwys i symud i'r lefel astudio nesaf, neu'r flwyddyn astudio nesaf, barhau i astudio yn y Brifysgol heb deitheb ddilys.
Dylai myfyrwyr sydd â phryderon neu ymholiadau ynghylch eu teitheb gysylltu â Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol www.swansea.ac.uk/isas.