Sgip i brif cynnwys
Prifysgol Abertawe
  • Offer Hygyrchedd
  • English
Mewngofnodi
Prifysgol Abertawe Mewngofnodi
  • Offer Hygyrchedd
  • English
  1. Cartref i Fyfyrwyr Presennol
  2. Bywyd Academaidd
  3. Rheoliadau Academaidd
  4. Rheoliadau Graddau Ymchwil
  5. Doethuriaethau Proffesiynol
  • Eich Prifysgol
    • Cyfadrannau ac Ysgolion
      • Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
      • Yr Ysgol Reolaeth
      • Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
      • Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
      • Yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
      • Hwb Ysgol Seicoleg
      • Medical School Hub
      • Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg
      • Yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg
      • Yr Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Gyffredinol a Mecanyddol
      • Yr Ysgol Peirianneg a’r Gwyddorau Cymhwysol
      • Y Coleg, Prifysgol Abertawe
    • Eich Prifysgol - Astudio yn Abertawe
      • Ffurflenni Academaidd
      • Monitro Presenoldeb
      • Arholiadau
      • Canvas
      • Amgylchiadau Esgusodol
      • Gwasanaeth Cyrchu Cyfrifiadur o Bell
      • Dyddiadau Tymhorau a Semestrau
      • Mannau Astudio yn y Llyfrgell
      • Lleoedd Astudio Anffurfiol
    • Gwasanaethau Defnyddiol
      • Llety
      • Lleoedd Bwyta
      • Iechyd a Diogelwch
      • Cymorth TG
      • Gwasanaethau Llyfrgell MyUni
      • Cynlluniwr Teithiau Bws
      • Teithio Myfyrwyr
      • Undeb y Myfyrwyr
  • Cymorth a Lles
  • MyUniHub
  • Newyddion Myfyrwyr
  • Digwyddiadau
  • Croeso 2025
  • Cofrestru a Sefydlu
  • Cymorth Costau Byw
  1. Cartref i Fyfyrwyr Presennol
  2. Bywyd Academaidd
  3. Rheoliadau Academaidd
  4. Rheoliadau Graddau Ymchwil
  5. Doethuriaethau Proffesiynol

Doethuriaethau Proffesiynol

Tudalennau cysylltiedig
  • Cyfadrannau
  • Newyddion Myfyrwyr
  • Desg Gymorth TG
  • Lleoedd Astudio Anffurfiol
  • MyUniVoice
  • Ymchwil Ôl-raddedig
  • FyAbertawe
  • Sut rydym yn cyfathrebu â chi
  • Undeb Myfyrwyr
  • Cysylltu â ni

Rheoliadau Academaidd ar gyfer Doethuriaethau Proffesiynol Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol 

Dylid darllen y rheoliadau academaidd hyn ar y cyd â'r canllawiau canlynol ar gyfer Prifysgol Abertawe sy'n ehangu ar y rheoliadau ac yn darparu arweiniad gweithdrefnol: 

  • Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil 
  • Canllawiau ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil 
  • Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Drosglwyddo a Thynnu’n ôl  
  • Canllawiau i Ohirio Astudiaethau ac Estyniadau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil  
  • Canllawiau i Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil 
  • Canllawiau ar Gyflogi Myfyrwyr Ymchwil 
  • Arweiniad i Fyfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil 
  • Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil 
  • Canllawiau i Oruchwyliaeth Ymchwil Ôl-raddedig 

1. Cyflwyniad 

Mae'r gyfres o ddoethuriaethau proffesiynol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn rhaglenni rhan-amser sydd wedi'u cynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac arweinwyr ar draws pob sector; y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r sector nid er elw: 

  • Doethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg (EdD)  
  • Doethuriaeth Broffesiynol mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol (DCrim)  
  • Doethuriaeth Broffesiynol mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus (SPPD) 

Bydd dysgwyr yn ymgymryd ag ymchwil gymhwysol, gan ddefnyddio damcaniaeth sefydledig ac arloesol i ymdrin â materion ymarferol eu sefydliadau. Byddant yn datblygu ac yn cyfoethogi ymarfer yn eu maes, yn ogystal â chyfrannu at ein dealltwriaeth o sylfaen ddamcaniaethol y gwaith. 

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau'r Brifysgol ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.

1.1       

Dyfernir graddau doethurol i fyfyrwyr sydd wedi dangos: 

  • Eu bod wedi creu a dehongli gwybodaeth newydd trwy ymchwil wreiddiol neu ysgolheictod uwch arall, o ansawdd digon da i fodloni adolygiad gan gymheiriaid, sy’n ymestyn rheng flaen y ddisgyblaeth ac sy’n deilwng i'w chyhoeddi.
  • Wedi caffael corff sylweddol o wybodaeth mewn ffordd systematig a datblygu dealltwriaeth dda ohono; a hwnnw’n cynnwys gwybodaeth sydd ar reng flaen disgyblaeth academaidd neu faes ymarfer proffesiynol.
  • Bod ganddynt y gallu cyffredinol i gysyniadu, cynllunio a gweithredu prosiect er mwyn creu gwybodaeth, cymwysiadau neu ddealltwriaeth newydd sydd ar flaen y gad o fewn y ddisgyblaeth, ac i addasu cynllun y prosiect yn wyneb problemau nas rhagwelwyd.
  • Dealltwriaeth fanwl o'r technegau perthnasol ar gyfer ymchwil ac ymholi academaidd uwch. 

Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y pethau canlynol: 

  • Llunio barn wybodus ar faterion cymhleth mewn meysydd arbenigol, yn aml yn absenoldeb data cyflawn, a gallu cyfleu eu syniadau a'u casgliadau yn glir ac yn effeithiol i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol. 
  • Parhau i ymgymryd ag ymchwil a datblygu pur a/neu gymwysedig ar lefel uwch, gan gyfrannu'n sylweddol i ddatblygiad technegau, syniadau neu ymagweddau newydd. 
     
    A bydd gan y deiliaid: 
     
  • Y rhinweddau a'r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth lle mae gofyn iddynt arfer cyfrifoldeb personol a menter annibynnol i raddau helaeth mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu darogan mewn amgylchedd proffesiynol neu gyfatebol. 

1.2       

Rhaid i bob ymgeisydd gofrestru fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe a thalu'r ffioedd priodol a ragnodir gan y Brifysgol. Fel myfyrwyr cofrestredig, rhaid iddynt gydymffurfio â rheoliadau academaidd a chyffredinol y Brifysgol. 

1.3       

Fel arfer, ni all myfyrwyr fod wedi’u cofrestru ar yr un pryd ar raglen arall sy’n dwyn dyfarniad yn y brifysgol hon neu unrhyw brifysgol/sefydliad arall. 
 
Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, gellir derbyn myfyriwr ar radd ymchwil tra ei fod wedi’i gofrestru ar raglen arall sy’n dwyn dyfarniad pan: 

  • Mae’r myfyriwr wedi cwblhau unrhyw fodiwlau a addysgir ar y rhaglen arall sy’n dwyn dyfarniad ac mae’n paratoi i gyflwyno traethawd hir; 
  • Nid yw’r myfyriwr bellach yn atebol am ffioedd ar gyfer y rhaglen arall sy’n dwyn dyfarniad; 
  • Mae'r myfyriwr yn aelod o staff ac mae'n ofynnol yn gytundebol iddo gael ei gofrestru ar y PGC tHE fel amod cyflogaeth. 

Dylid ymgynghori â Chadeirydd y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau ar gyfer unrhyw eithriadau eraill.    

1.4     

Mae'n ofynnol i bob myfyriwr fonitro'r cyfrif e-bost Prifysgol dynodedig drwy gydol cyfnod yr ymgeisyddiaeth gan mai dim ond i gyfrif e-bost y myfyriwr yn y Brifysgol y bydd pob gohebiaeth electronig o'r Brifysgol yn cael ei hanfon. Cynghorir pob myfyriwr yn gryf i ddefnyddio cyfrif e-bost dynodedig y Brifysgol wrth gyfathrebu â'r Brifysgol. 

1.5       

Bydd lefel astudio'r radd ymchwil sy’n cael ei llywodraethu gan y rheoliadau hyn ar Lefel 8 y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ Lefel 8).

2. Amodau Derbyn

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau'r Brifysgol ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.

2.1     

Fel arfer rhaid i ymgeiswyr am ddoethuriaeth broffesiynol Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol feddu ar radd israddedig o brifysgol gymeradwy a rhaid iddynt fod wedi ennill o leiaf ddosbarthiad ail ddosbarth uwch (2:1), neu gymhwyster cyfwerth. Hefyd, fel arfer bydd gan ymgeiswyr radd meistr neu gymhwyster FHEQ Lefel 7 tebyg o brifysgol gymeradwy, neu dylent fod yn astudio am gymhwyster o'r fath.

*Mae prifysgolion cymeradwy yn cynnwys holl brifysgolion y DU a'r rhan fwyaf o brifysgolion rhyngwladol blaenllaw. Am restr lawn, cysylltwch ag astudio.

Yn ogystal â'r uchod, bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar o leiaf dair blynedd o brofiad perthnasol mewn rôl broffesiynol.

Bydd dau gynrychiolydd o dîm arweinyddiaeth y rhaglen (gan gynnwys cyfarwyddwr y rhaglen fel arfer) yn cyfweld â'r ymgeiswyr, a disgwylir i ymgeiswyr ddangos y cymhelliad a'r gallu deallusol i ymgymryd â'r rhaglen.

2.2     

Mae’n rhaid i'r holl ymgeiswyr nad y Saesneg yw eu hiaith frodorol ddarparu tystiolaeth o hyfedredd yn yr iaith Saesneg sy’n ddigonol ar gyfer astudiaethau ymchwil.  Gofynnir i fyfyrwyr ddarparu prawf o’u cymwysterau iaith Saesneg cyn y caniateir iddynt gofrestru’n llawn gyda’r Brifysgol.

2.3     

Bydd y penderfyniad ynghylch a ddylid derbyn ymgeisydd i raglen ymchwil arfaethedig yn nwylo'r Deon Gweithredol perthnasol neu un a enwebwyd ganddo mewn ymgynghoriad â Chyfarwyddwr y Rhaglen neu ei enwebai. Dylai penderfyniadau fod yn seiliedig ar y ffactorau canlynol:

  • A yw'r Ysgol yn fodlon bod yr ymgeisydd o'r safon academaidd ofynnol i gwblhau'r rhaglen ymchwil a gynigir, waeth beth yw cymhwyster yr ymgeisydd;
  • A yw'r pwnc ymchwil a ddewiswyd gan yr ymgeisydd yn briodol i'w astudio yn y dyfnder sy'n ofynnol ar gyfer y radd;
  • A ellir darparu goruchwyliaeth ddigonol gan aelod priodol o staff yn unol â pharagraff 7;
  • A oes adnoddau a chyfleusterau priodol ar waith i gefnogi'r rhaglen ymchwil arfaethedig;
  • A yw’n ymddangos yn rhesymol y gellid cwblhau’r rhaglen arfaethedig o fewn y cyfnod byrraf posibl a bennwyd.

2.4    

Rhaid i bob myfyriwr fatricwleiddio o fewn tri mis cyntaf yr ymgeisyddiaeth yn unol â rheoliadau cyffredinol y Brifysgol sy'n llywodraethu Matricwleiddio.

2.5     

Rhaid i bob myfyriwr gydymffurfio â Chanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Derbyn Myfyrwyr Ymchwil.

3. Strwythur y Rhaglen

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau'r Brifysgol ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.

3.1     

Gall myfyriwr astudio ar gyfer doethuriaethau proffesiynol Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol fel myfyriwr rhan-amser, drwy gynnal ymchwil naill ai yn y Brifysgol (Dull A) neu'n allanol (Dull C).

3.2     

 Ni cheir dyfarnu gradd Doethuriaeth Broffesiynol Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol fel gradd er anrhydedd.

3.3     

Rhaid i fyfyriwr ddilyn rhaglen astudio dan gyfarwyddyd, gan gynnwys cyfnodau o ymarfer a hyfforddiant proffesiynol/diwydiannol cymeradwy (yr elfen hyfforddiant) a gymeradwywyd gan gyfarwyddwr y rhaglen briodol, ynghyd â rhaglen ymchwil (yr elfen ymchwil) ar gyfer y cyfnod a ragnodwyd.

3.4

Bydd yr elfen a addysgir yn cynnwys nifer o fodiwlau, hyd at uchafswm o 180 o gredydau, a gymeradwywyd gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau perthnasol.

Mae'r elfen a addysgir o ddoethuriaethau proffesiynol Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn cynnwys pum modiwl a astudir dros dair blynedd, yn seiliedig ar gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai, seminarau ar-lein ac ysgolion haf. 

3.5   

Bydd elfen ymchwil y rhaglen yn cynnwys llunio traethawd ymchwil. Byddwch yn datblygu traethawd ymchwil y ddoethuriaeth dan arweiniad goruchwyliwr doethurol a gaiff ei ddynodi ar ddechrau'r rhaglen. Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi gan gyfarwyddwr y rhaglen, eu tiwtor personol, goruchwyliwr a thîm ymroddedig o staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol, ynghyd â siaradwyr o amrywiaeth eang o sectorau.

4. Cyfnod Ymgeisyddiaeth

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau'r Brifysgol ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil a Chanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Drosglwyddo a Thynnu yn Ôl.

4.1     

Rhaid i fyfyriwr ddilyn rhaglen o astudio dan oruchwyliaeth, gan gynnwys datblygu sgiliau ymchwil a sgiliau generig fel myfyriwr rhan-amser. Nodir y cyfnodau byrraf posibl ar gyfer astudio dan oruchwyliaeth, o'r dyddiad cofrestru, yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil.

Cyfnod Astudio ar gyfer Doethuriaethau Proffesiynol Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Dull Astudio: Rhan-amser

Cyfnod lleiaf yr ymgeisyddiaeth: 6

Cyfnod hwyaf: 7

4.2    

Fel arfer, bydd disgwyl i fyfyrwyr Doethuriaeth Broffesiynol Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol astudio’r rhaglen gyfan ym Mhrifysgol Abertawe ac ni fyddant fel arfer yn cael trosglwyddo credydau am yr elfen a addysgir o sefydliadau eraill nac o raglenni eraill ym Mhrifysgol Abertawe. Ceir ystyried achosion eithriadol yn unigol yn ôl disgresiwn y Deon Gweithredol neu ei enwebai (Cyfarwyddwr y Rhaglen). Mewn achosion o'r fath, bydd disgwyl i'r ymgeisydd gyflwyno cais i gael ei dderbyn yn y ffordd arferol. Byddai modd i fyfyrwyr sy’n trosglwyddo o sefydliad arall, ar argymhelliad y Deon Gweithredol perthnasol neu ei enwebai, sicrhau cydnabyddiaeth ar gyfer y cyfnod astudio yn y sefydliad arall. Fel arfer, bydd myfyrwyr sy'n trosglwyddo o un sefydliad yn gorfod cwblhau o fewn blwyddyn (neu'r cyfnod cyfatebol rhan-amser) o'r ymgeisyddiaeth fyrraf. Bydd y Brifysgol yn ceisio cadarnhad ysgrifenedig gan y sefydliad gwreiddiol nad oes unrhyw wrthwynebiad i drosglwyddo’r myfyriwr.

4.3     

Mewn rhai achosion, gall myfyrwyr gyflwyno cais i'r Bwrdd Achosion Myfyrwyr, neu efallai bydd yn ofynnol iddynt gyflwyno cais, er mwyn trosglwyddo rhaglen astudio fel y nodir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Trosglwyddo Myfyrwyr Ymchwil neu eu Tynnu'n Ôl. Mewn achosion o’r fath bydd y Brifysgol yn pennu cyfnod cofrestredig byrraf diwygiedig. Rhaid i fyfyrwyr hefyd gael cefnogaeth gan eu tîm goruchwylio a'u Cyfadran/Hysgol. 

4.4      

Cyn i fyfyriwr ystyried trosglwyddo i sefydliad arall, mae’n bwysig ei fod yn trafod hyn gyda’i oruchwylwyr a/neu Bennaeth y Gyfadran/Ysgol neu enwebai a’i fod yn trefnu apwyntiad gyda’r Gwasanaethau Addysg fel bod modd ystyried opsiynau posibl eraill cyn gwneud penderfyniad terfynol. Anogir myfyrwyr rhyngwladol yn gryf i gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol cyn gwneud penderfyniad terfynol, oherwydd gallai fod goblygiadau o ran statws mewnfudo. Gwaherddir myfyrwyr rhag trosglwyddo eu hymgeisyddiaeth i sefydliad arall ar ôl i’r cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf ddod i ben.

5. Dyddiad Cyflwyno

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau'r Brifysgol ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil.

5.1      

Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd gyflwyno traethawd ymchwil erbyn y dyddiad cyflwyno olaf fel y nodir ym mharagraff 1 o Ganllawiau'r Brifysgol ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil, sy'n gyfredol adeg ei dderbyn ac fel y nodir yn y Llythyr Cynnig ffurfiol. 

5.2     

Pan fydd myfyriwr yn methu cyflwyno traethawd ymchwil erbyn y dyddiad cyflwyno hwyraf, efallai y bydd y Brifysgol yn mynnu terfynu'r ymgeisyddiaeth.

6. Gwaharddiadau ac Estyniadau Ymgeisyddiaeth

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau'r Brifysgol i Ohirio Astudiaethau ac Estyniadau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil a Chanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Trosglwyddo Myfyrwyr Ymchwil a'u Tynnu'n Ôl.

6.1     

O dan amgylchiadau eithriadol, efallai y bydd gofyn i fyfyriwr ohirio ymgeisyddiaeth (gweler y Canllaw i Ohirio Astudiaethau ac Estyniadau i Fyfyrwyr Ymchwil) oherwydd rhesymau academaidd, disgyblu neu ariannol. Mewn achosion o’r fath, hysbysir y myfyriwr bod ei astudiaethau wedi’u gohirio a chaiff ei hysbysu am y rhesymau dros y penderfyniad. Pan fo’n briodol, rhoddir dyddiad dychwelyd i astudio i’r myfyriwr a rhoddir gwybod iddo am unrhyw amodau y mae’n rhaid eu bodloni cyn y caiff ailgychwyn astudio.

6.2     

Mewn amgylchiadau eithriadol, gall myfyrwyr ofyn am ohirio ymgeisyddiaeth neu am estyniad i ymgeisyddiaeth. Dylid gwneud pob cais am ohirio ymgeisyddiaeth ac estyniadau i ymgeisyddiaeth yn unol â pharagraff 2 o Ganllawiau'r Brifysgol i Ohirio Astudiaethau ac Estyniadau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil.

6.3     

Pan fydd myfyriwr yn gohirio ei ymgeisyddiaeth, fel yr amlinellir ym mharagraffau 6.1 a 6.2 uchod, rhaid pennu dyddiad dychwelyd i astudio ar adeg y gohiriad.

6.4     

Pan fydd myfyriwr yn methu  ailddechrau astudio erbyn y dyddiad dychwelyd i astudio, ystyrir bod yr ymgeisydd wedi tynnu'n ôl o'r rhaglen fel y nodir ym mharagraff 7 o Ganllawiau'r Brifysgol ar gyfer Trosglwyddo Myfyrwyr Ymchwil a'u Thynnu'n Ôl.

6.5     

Fel arfer, byddai'n ofynnol i fyfyrwyr ymchwil sefydledig sydd wedi cwblhau blwyddyn neu fwy o'u hastudiaeth ymchwil amser llawn ond sydd wedi mynd y tu hwnt i'r uchafswm  amser gohirio a ganiateir, dynnu'n ôl ar gais y Bwrdd Achosion Myfyrwyr; fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl y caniateir i'r myfyrwyr hyn ail-ymgeisio i ailgofrestru ar yr un cam â'r ymchwil blaenorol (o fewn cyfnod hwyaf o 2 flynedd o'r dyddiad tynnu'n ôl). Dim ond yn yr amgylchiadau hyn y caniateir i fyfyriwr gael cyfnod ymgeisyddiaeth wedi’i fyrhau.

7. Goruchwyliaeth

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllaw'r Brifysgol i Oruchwyliaeth Ymchwil.

7.1     

Bydd myfyrwyr yn cael eu goruchwylio, ar sail reolaidd a pharhaus yn unol â'r gweithdrefnau ar gyfer goruchwylio myfyrwyr ôl-raddedig fel y nodir yng Nghanllaw'r Brifysgol i Oruchwylio Ymchwil Ôl-raddedig.

7.2     

Bydd gan bob myfyriwr oruchwyliwr a benodir gan Ddeon Gweithredol y myfyriwr neu ei enwebai. Bydd y tîm goruchwylio'n cynnwys o leiaf ddau oruchwyliwr mewnol sy'n gymwys i gael eu penodi fel y nodir yng Nghanllaw y Brifysgol i Oruchwyliaeth Ymchwil. Bydd un goruchwyliwr yn cael ei ddynodi’n oruchwyliwr cyntaf/yn brif oruchwyliwr.

7.3     

Rhaid i'r goruchwylwyr mewnol fod yn aelodau o staff ym Mhrifysgol Abertawe fel y nodir yng Nghanllaw'r Brifysgol i Oruchwyliaeth Ymchwil. Bydd gan y prif oruchwyliwr brif gyfrifoldeb am adrodd am gynnydd i Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Ysgol, fel y nodir ym mharagraff 8.

8. Monitro Cynnydd

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau'r Brifysgol i Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil

8.1     

Mae’n ofynnol i’r Gyfadran/yr Ysgol gadarnhau ymgeisiaeth myfyriwr i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau Ymchwil o fewn tri mis ar ôl cofrestru’r myfyriwr am y tro cyntaf.  Drwy wneud hynny, mae’r Gyfadran/yr Ysgol yn cadarnhau bod y myfyriwr wedi bodloni’r gofynion gweinyddol a nodwyd, ei fod yn barod yn academaidd i ymgymryd â’r prosiect ymchwil a gytunwyd, y tybir ei fod o safon academaidd ddigonol i wneud hynny, a bod ganddo'r gallu i'w wneud (gweler y Canllaw i Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil am ragor o fanylion).

8.2    

Os na all y Gyfadran/yr Ysgol gadarnhau ymgeisyddiaeth ymgeisydd o fewn tri mis i gofrestru'r ymgeisyddiaeth yn y lle cyntaf, efallai y bydd gofyn i'r myfyriwr ohirio neu dynnu'n ôl o'r rhaglen.

8.3     

Bydd cynnydd myfyriwr drwy gydol cyfnod a addysgir y rhaglen yn cael ei fonitro'n rheolaidd gan ei diwtor personol, cyfarwyddwr y rhaglen a'r bwrdd dilyniant rhaglenni a addysgir.

Bydd cynnydd myfyriwr mewn ymgeisyddiaeth leiaf y Cyfnod Ymchwil yn cael ei fonitro'n rheolaidd gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau er mwyn penderfynu a fydd yr ymgeisydd yn cael caniatâd i symud ymlaen. Caiff cynnydd ei fonitro ar adegau penodol fel y nodir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil.

8.4     

Bydd myfyrwyr sy'n mynd y tu hwnt i hyd cychwynnol ymgeisyddiaeth yn parhau i gael eu monitro'n rheolaidd bob mis gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau nes cyflwyno'r traethawd ymchwil neu ddiwedd yr ymgeisyddiaeth.

8.5     

Os bernir bod cynnydd myfyriwr yn anfoddhaol gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau, efallai y bydd gofyn i'r myfyriwr drosglwyddo i raglen arall, neu efallai y bydd yn ofynnol iddo dynnu'n ôl o'r rhaglen.

8.6     

Yn achos paragraffau 8.2 ac 8.5 uchod, bydd gan fyfyrwyr yr effeithir arnynt yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau dilyniant yn unol â gweithdrefnau Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd neu weithdrefnau Apeliadau Academaidd Prifysgol Abertawe.

9. Asesu Gradd

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil.

9.1  

Bydd myfyrwyr sy'n ymgeiswyr ar gyfer gradd Doethuriaeth Broffesiynol Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn cael eu harholi ar gyfer y cyfnod ymchwil fel a ganlyn:

  • Traethawd ymchwil sy'n ymgorffori dulliau a chanlyniadau'r prosiect ymchwil, a gyflwynir yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol i Gyflwyno Traethawd Ymchwil ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil.
  • Arholiad llafar (Viva Voce).

9.2 

Y terfyn geiriau ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yw 60,000 ar gyfer y prif destun. Nid yw'r terfyn geiriau’n cynnwys atodiadau (os oes rhai), troednodiadau hanfodol, rhannau a datganiadau rhagarweiniol neu’r llyfryddiaeth a’r mynegai.

9.3  

Caiff y Deon Gweithredol ddirprwyo'r tasgau gweinyddol sy'n ymwneud â chyflwyno ac arholi traethawd ymchwil i aelod o'u staff a bydd hefyd yn enwebu Cadeirydd y Bwrdd Arholi. Dylai'r Cadeirydd fod yn aelod o staff yr Ysgol sydd â phrofiad priodol nad yw wedi ymwneud yn uniongyrchol â goruchwylio'r myfyriwr fel arall.

9.4  

Efallai y bydd y Bwrdd Arholi yn ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr sefyll arholiad ysgrifenedig.

Y Cyfnod a Addysgir - Dilyniant

9.5  

O ran yr elfen a addysgir o'r rhaglen, mae'n ofynnol i fyfyrwyr sefyll arholiadau a chyflwyno aseiniadau erbyn y dyddiadau cau a bennir. Bydd methu  sefyll arholiad neu fethu cyflwyno gwaith erbyn y dyddiad penodol yn arwain at gofnodi marc o 0%.

Gall myfyrwyr nad ydynt yn gallu bodloni'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eu gwaith am reswm da, gyflwyno cais i ystyried amgylchiadau esgusodol yn unol â'r polisi Amgylchiadau Esgusodol. 

9.6  

Y marc pasio ar gyfer pob modiwl a addysgir fydd 50% ac ni fydd unrhyw fethiannau a oddefir.

9.7  

Bydd myfyrwyr yn cael un cyfle i wneud iawn am gredydau os byddant yn methu credydau a addysgir.

9.8

Disgwylir i fyfyrwyr wneud iawn am gredydau a fethwyd ar y cyfle nesaf sydd ar gael yn ystod y cyfnod ailsefyll atodol dynodedig. 

9.9

Ni chaiff y marc ei gapio mewn achos myfyrwyr sy'n pasio'r modiwl ar ei ail ymgais.

9.10

Bydd methu modiwl(au) ar yr ail ymgais yn golygu bod yr Ysgol yn argymell i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau rhaglenni a addysgir bod y myfyriwr naill ai:

  • Yn cael ei orfodi i adael y rhaglen â dyfarniad ymadael os yw'n gymwys, neu
  • Yn cael ei orfodi i adael y rhaglen a'r Brifysgol.

Dilyniant o Flynyddoedd 1 i 2 a Blynyddoedd 2 i 3

Mae myfyrwyr sy'n cronni 60 credyd ar y cam cynnydd, yn cymhwyso'n awtomatig i barhau i'r flwyddyn astudio nesaf.

Gall myfyrwyr sy'n cronni 30 credyd ar y cam cynnydd, ond llai na 60 credyd, barhau i'r flwyddyn astudio nesaf, ar yr amod: 

  • Y bydd yn gwneud iawn am fethu'r modiwl ar y cyfle nesaf sydd ar gael yn ystod y cyfnod ailsefyll atodol dynodedig.

Bydd myfyrwyr sy'n methu 60 credyd ar yr ymgais gyntaf yn cael un cyfle arall i wneud iawn am fethu, yn ystod y cyfnod atodol dynodedig. Bydd parhau i'r flwyddyn ganlynol yn amodol ar ganlyniad llwyddiannus.

Bydd methu modiwl(au) ar yr ail ymgais yn golygu bod yr Ysgol yn argymell i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau rhaglenni a addysgir bod y myfyriwr naill ai:

  • Yn cael ei orfodi i adael y rhaglen â dyfarniad ymadael os yw'n gymwys, neu
  • Yn cael ei orfodi i adael y rhaglen a'r Brifysgol.

Dilyniant o Flwyddyn 3 (Cyfnod a Addysgir) i Flynyddoedd 4-6 (Cyfnod Ymchwil)

Mae myfyrwyr sy'n cronni 60 credyd ar y cam cynnydd yn cymhwyso'n awtomatig i symud ymlaen i gam ymchwil ei astudiaethau.

  • Bydd gofyn i fyfyrwyr sy'n methu cronni 60 credyd ar y cam cynnydd wneud iawn am fethu ar y cyfle nesaf sydd ar gael yn ystod y cyfnod ailsefyll atodol dynodedig.

Er mwyn bod yn gymwys i symud ymlaen o'r Cyfnod a Addysgir i'r Cyfnod Ymchwil, rhaid i fyfyrwyr fod wedi cronni 180 o gredydau a addysgir.

9.11

Bydd canlyniadau asesiadau ar gyfer yr elfen hyfforddi yn cael eu gweld a’u cymeradwyo gan Fwrdd Arholi'r Gyfadran/yr Ysgol ym mhresenoldeb arholwr allanol y rhaglen a fydd yn cael ei enwebu a’i benodi yn unol â Chôd Ymarfer Prifysgol Abertawe ar gyfer Arholwyr Allanol. Gall arholwr allanol y rhaglen fod yn gyfrifol, neu’n rhannol gyfrifol, hefyd am raglenni eraill wedi’u haddysgu neu am elfennau rhaglenni ymchwil.

9.12  

Bydd cyfarwyddwr y rhaglen yn gyfrifol am gasglu canlyniadau’r elfen a addysgir ac am gyflwyno canlyniadau pob ymgeisydd i’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau ar gyfer graddau a addysgir.

9.13  

Bydd myfyrwyr y mynnir eu bod yn tynnu’n ôl o’r Brifysgol yn cael cyfle i apelio trwy weithdrefnau Prifysgol Abertawe ar Gywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd neu ei triniaeth ar gyfer Apeliadau Academaidd.

10. Cyflwyno Traethawd Ymchwil

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil a Chanllawiau'r Brifysgol ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

10.1  

Bydd myfyrwyr yn hysbysu’r Brifysgol o'u bwriad i gyflwyno traethawd ymchwil i'w arholi, o leiaf dri mis cyn y dyddiad cyflwyno disgwyliedig.

10.2  

Wedi cwblhau cyfnod byrraf posibl yr ymgeisyddiaeth caniateir i fyfyriwr gyflwyno copïau o draethawd ymchwil i’w arholi yn unol ag Arweiniad y Brifysgol i Gyflwyno Traethawd Ymchwil ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil.

10.3  

Yn ogystal â chopïau o'r traethawd ymchwil a gyflwynir yn unol â pharagraff 10.2 uchod, rhaid i bob myfyriwr gyflwyno copi electronig hefyd cyn iddo gael ei arholi. Dylid cyflwyno copi electronig o'r traethawd ymchwil wedi'i ddiwygio ar ôl yr arholiad os gwneir unrhyw gywiriadau neu newidiadau.

10.4  

Gall unrhyw fyfyriwr sy'n dilyn rhaglen ymchwil yn y Brifysgol ddewis cyflwyno traethawd ymchwil neu waith arall naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae'n ofynnol i fyfyriwr sy'n dymuno cael ei asesu mewn iaith nad yw'n brif iaith hyfforddi/asesu ar gyfer y rhaglen dan sylw hysbysu'r Bwrdd Achosion Myfyrwyr cyn diwedd  cyfnod gofynnol yr ymgeisyddiaeth. Gwneir trefniadau yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghanllaw'r Brifysgol ar gyfer Arholi Myfyrwyr Ymchwil. Hefyd, mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau i gael eu hasesu yn Gymraeg drwy'r Gyfadran/Ysgol cyn diwedd  cyfnod gofynnol yr ymgeisyddiaeth er mwyn i drefniadau cyfieithu gael eu gwneud.

10.5  

Mewn achosion lle ystyrir ei bod yn briodol i draethawd ymchwil gael ei gyflwyno mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg am resymau academaidd neu os yw cyflwyno'r traethawd ymchwil mewn iaith arall yn ofyniad y rhaglen benodol, gall y Bwrdd Achosion Myfyrwir roi caniatâd pan fo achos rhesymegol wedi’i gyflwyno ar gyfer ei gymeradwyo. Fodd bynnag, ni fydd y Bwrdd Achosion Myfyrwyr yn cymeradwyo ceisiadau yn seiliedig ar ddiffyg gallu'r myfyriwr i gynhyrchu gwaith i'w gyflwyno yn Gymraeg neu yn Saesneg.

10.6  

Ar ôl hysbysiad o'r bwriad i gyflwyno, bydd y Deon Gweithredol neu'r sawl a enwebwyd ganddo yn enwebu aelodau o'r Bwrdd Arholi a gyfansoddir yn unol â pharagraff 12 isod ac fel y nodir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil. Bydd y myfyriwr yn cael gwybod am enwau aelodau arfaethedig y Bwrdd Arholi. Bydd penodiad aelodau'r Bwrdd Arholi yn cael ei gadarnhau gan y Pwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig.

10.7  

Bydd gofyn i fyfyrwyr sy'n ailgyflwyno traethawd ymchwil sydd wedi methu bodloni'r Arholwyr yn flaenorol gyflwyno'r traethawd ymchwil wedi'i addasu yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil. Efallai y bydd gofyn i'r myfyriwr dalu ffi ailgyflwyno ychwanegol.

11. Argaeledd Traethawd Ymchwil

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil a Chanllawiau'r Brifysgol ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil

11.1  

Fel arfer, bydd traethawd ymchwil a gyflwynir ar gyfer gradd uwch ar gael yn agored heb unrhyw weithdrefnau diogelwch na chyfyngiad o ran mynediad.

11.2  

Er gwaethaf paragraff 11.1, gellir caniatáu i'r Brifysgol, ar argymhelliad arbennig a gymeradwywyd gan y Deon Gweithredol neu'r sawl a enwebwyd ganddo, osod ataliad ar fynediad i waith myfyriwr am gyfnod o hyd at bum mlynedd. Dylid gwneud cais am ataliad ar fynediad i'r Deon Gweithredol neu'r sawl a enwebwyd ganddo cyn i’r traethawd ymchwil gael ei arholi.

12. Cyfansoddiad y Bwrdd Arholi

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau'r Brifysgol ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

12.1  

Bydd pob Bwrdd Arholi ar gyfer myfyrwyr yn cynnwys yr unigolion canlynol:

  • Cadeirydd annibynnol, sef y Deon Gweithredol neu aelod o staff sydd â phrofiad priodol ac sydd wedi'i enwebu gan y Deon Gweithredol. Mae'n ofynnol i Gadeirydd y Bwrdd Arholi gadeirio'r arholiad llafar ac unrhyw gyfarfod o'r arholwyr.
  • Arholwr neu arholwyr allanol a benodir yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
  • Arholwr mewnol a benodir yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

12.2  

Bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn annibynnol yn y broses arholi a bydd yn atebol i'r Pwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig am y ffordd y cynhelir yr arholiad.

12.3  

Ni chaniateir i oruchwylwyr y myfyriwr, nac unrhyw aelod o staff sy'n ymwneud â goruchwylio'r myfyriwr, fod yn rhan o'r Bwrdd Arholi, ond gellir eu gwahodd gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi, gyda chaniatâd ysgrifenedig penodol y myfyriwr ymlaen llaw, i ddod i'r arholiad llafar mewn rôl ymgynghorol. Dim ond ar wahoddiad y Cadeirydd y bydd modd i gynghorydd siarad.

12.4  

Yn achos myfyriwr sy'n aelod o staff y Brifysgol ar adeg yr arholiad, bydd y Bwrdd Arholi yn cynnwys yr unigolion canlynol:

  • Cadeirydd, fel y disgrifir ym mharagraff 12.1 a) uchod.
  • Dau arholwr allanol, a benodir yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

12.5  

Bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn gyfrifol am sicrhau bod yr arholwr neu arholwyr mewnol, a’r arholwr neu arholwyr allanol, yn derbyn copïau o’r traethawd ymchwil i’w arholi ynghyd ag unrhyw ddogfennau perthnasol eraill fel y nodir yn y Canllawiau Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

13. Arholiad llafar (Viva Voce)

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil a Chanllawiau'r Brifysgol ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

13.1  

Bydd yn ofynnol i'r Bwrdd Arholi gynnal arholiad llafar i fyfyrwyr ar gyfer graddau ymchwil ym mhob achos. Yn achos myfyriwr sy'n cael ailgyflwyno o fewn 12 mis, byddai disgwyl ail arholiad viva fel arfer. Fodd bynnag, mewn achosion eithriadol, gellir hepgor y gofyniad am ail arholiad llafar lle mae achos manwl dros hepgor yr arholiad llafar wedi'i ddarparu yn adroddiad ysgrifenedig Cadeirydd y Bwrdd Arholi. Bydd yn rhaid cytuno ar yr adroddiad ysgrifenedig a bydd angen iddo gael ei ddilysu drwy lofnod gan holl aelodau'r Bwrdd Arholi.

13.2  

Fel arfer, byddai pob arholiad llafar yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Abertawe o fewn chwe mis i ddyddiad cyflwyno'r traethawd ymchwil. Byddai'n rhaid cytuno ar unrhyw eithriadau naill ai fel eithriad neu er mwyn adlewyrchu natur yr amgylchiadau.

Ar yr amod bod y canllawiau hyn yn cael eu dilyn, gall myfyrwyr, drwy ymgynghori â'u tîm goruchwylio, gyflwyno cais i gael eu harholiad llafar naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein. Dylai myfyrwyr ddewis fformat eu harholiad llafar drwy ddefnyddio'r ffurflen Hysbysiad o Fwriad i Gyflwyno.  

Pan fydd myfyriwr yn gofyn i'w arholiad gael ei gynnal wyneb yn wyneb, rhaid ystyried cyfyngiadau teithio neu UKVI o ran yr Arholwr Allanol. Oherwydd goblygiadau penodol y gall hyn eu hachosi, efallai mai ar-lein neu gyfarfod hybrid fydd yr unig ateb ymarferol. Mewn achosion pan fydd myfyriwr wedi cyflwyno cais am arholiad llafar wyneb yn wyneb ond nid yw pob aelod o'r panel yn gallu bod yn bresennol, caniateir opsiwn hybrid. Mae hyn yn golygu y bydd rhai aelodau o'r panel yn bresennol a bydd eraill yn ymuno ar-lein.

Pan fydd myfyriwr yn cyflwyno cais i gynnal ei arholiad llafar ar-lein (yn llawn neu hybrid), bydd y dull ar-lein drwy blatfform Zoom y Brifysgol a gefnogir, ond gellir defnyddio platfformau eraill os bydd pawb yn cytuno â hyn.

Lle bynnag y bo'n bosib, bydd dewis y myfyriwr ar gyfer fformat yr arholiad llafar yn cael blaenoriaeth. Os ceir amgylchiadau lle na all panel ddod i gytundeb ynghylch a ddylid cynnal yr arholiad llafar wyneb yn wyneb, ar-lein neu drwy fformat hybrid, bydd y Swyddfa Ôl-raddedig yn asesu'r sefyllfa ac yn gwneud penderfyniad terfynol.

13.3  

Mae'n ofynnol i fyfyriwr y mae arno angen darpariaeth arbennig ar gyfer yr arholiad llafar hysbysu'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau cyn cyflwyno'r traethawd ymchwil. Gwneir trefniadau yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Arholi Myfyrwyr Ymchwil. 

13.4  

Bydd gan oruchwylwyr myfyriwr yr hawl i gyfleu i Gadeirydd y Bwrdd Arholi unrhyw bryderon sy'n berthnasol i brosiect ymchwil myfyriwr, y traethawd ymchwil sy'n deillio o hynny neu’r broses arholi ar gyfer y traethawd y mae'r goruchwylwyr yn ystyried y dylai'r Bwrdd eu hystyried cyn dod i'w benderfyniad. Bydd y goruchwylwyr yn cyfleu'r pryderon hyn, yn ysgrifenedig, i'r Cadeirydd ac i'r myfyriwr cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i’r traethawd ymchwil gael ei gyflwyno a, beth bynnag, yn ddigon cynnar i alluogi digon o amser i'r myfyriwr ystyried y pwyntiau a wnaed a pharatoi ymateb cyn i’r traethawd ymchwil fod yn destun arholiad (gan gynnwys unrhyw arholiad llafar).

13.5  

Bydd yr arholiad llafar yn cael ei gynnal yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil. Bydd argymhelliad y Bwrdd Arholi yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau i'w gadarnhau.

14. Cymwysterau Ymadael

14.1  

Gall myfyriwr a gofrestrwyd ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ond sydd ymhen amser yn methu neu’n cael ei wahardd rhag cwblhau’r cyfryw radd, gan ddibynnu ar lefel yr astudiaethau a gyflawnwyd, fod yn gymwys i dderbyn un o gymwysterau canlynol y Brifysgol:

Gall myfyriwr adael gyda chymhwystra ar gyfer:

Cronni CredydauDyfarniad YmadaelTeitl
60 Dystysgrif Ôl-raddedig Astudiaethau Ymarfer Proffesiynol
120 Diploma Ôl-raddedig Astudiaethau Ymarfer Proffesiynol
180 MRes Astudiaethau Ymarfer Proffesiynol

15. Gwobrau Aegrotat ac Ar Ôl Marwolaeth

15.1  

Ar gyfer rheoliadau canllawiau Aegrotat cyfeiriwch at y Rheoliadau Graddau Aegrotat.

Ar gyfer rheoliadau canllawiau ar ôl marwolaeth, cyfeiriwch at y Rheoliadau Graddau ar ôl Marwolaeth.

16. Apêl Academaidd

16.1  

Gall myfyrwyr nad ydynt yn cael eu hargymell gan y Bwrdd Arholi ar gyfer dyfarnu'r radd y maent wedi cyflwyno'u traethawd ymchwil mewn perthynas ag ef apelio yn erbyn y penderfyniad a wnaed a gofyn am apêl academaidd. Cynhelir pob apêl academaidd yn unol â gweithdrefnau Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd a gweithdrefnau Apeliadau Academaidd Prifysgol Abertawe.

17. Camymddygiad Academaidd

17.1  

Bydd honiadau o gamymddygiad academaidd yn cael eu hystyried yn unol â gweithdrefnau a rheoliadau Camymddygiad Academaidd. Bydd honiadau o gamymddygiad academaidd a gyflwynir gerbron y Brifysgol ar ôl i'r radd gael ei rhoi i'r myfyriwr yn cael eu hystyried gan y sefydliad a ddyfarnodd y radd.

18. Addasrwydd i Ymarfer

18.1  

Ystyrir honiadau ynghylch addasrwydd i ymarfer yn unol â rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.

19. Cwynion

19.1  

Dylai myfyrwyr sy’n anfodlon ar y dysgu a’r addysgu, y cyfleusterau neu'r gwasanaethau a ddarperir gan y Brifysgol, neu’r modd y mae’r Brifysgol, ei myfyrwyr, neu ei staff wedi ymddwyn neu heb ymddwyn, ddilyn y camau gweithredu a amlygir yng Ngweithdrefn Achwyn Prifysgol Abertawe.

20. Myfyrwyr Rhyngwladol a Gofynion Fisa

20.1

Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa i astudio yn y Brifysgol fod yn ymwybodol bod parhad eu hastudiaethau yn y Brifysgol yn ddibynnol ar fodloni amodau eu fisâu a'r terfynau amser a bennir gan Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI). Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at https://www.gov.uk/browse/visas-immigration/student-visas.

20.2

Gwneir penderfyniadau gan y Brifysgol mewn perthynas â statws cofrestru myfyriwr, ei berfformiad academaidd, dilyniant a dyfarniadau, yn unol â rheoliadau academaidd ac ariannol y Brifysgol ac ni chânt eu llywio gan gyfyngiadau fisa a therfynau amser a bennir gan UKRI. Fodd bynnag, mae parhad astudiaethau yn amodol ar fodloni gofynion y Brifysgol a meddu ar fisa ddilys.

Dylai myfyrwyr sydd ag unrhyw bryderon neu ymholiadau ynghylch eu fisâu gysylltu â Rhyngwladol@BywydCampws.

  • Cyfadrannau
  • Newyddion Myfyrwyr
  • Desg Gymorth TG
  • Lleoedd Astudio Anffurfiol
  • MyUniVoice
  • Ymchwil Ôl-raddedig
  • FyAbertawe
  • Sut rydym yn cyfathrebu â chi
  • Undeb Myfyrwyr
  • Cysylltu â ni
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342