Diwygiwyd Ionawr 2024
Polisi iechyd meddwl myfyrwyr
A. Datganiad Polisi
1. Cyflwyniad
Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i annog cynhwysiant a hyrwyddo amrywiaeth, cyfle cyfartal a diwylliant o les i'w myfyrwyr. Mae creu amgylchedd prifysgol cefnogol, hygyrch sy'n caniatáu i fyfyrwyr ffynnu yn flaenoriaeth. Er mai cymuned addysgol yw pwrpas craidd y brifysgol ac na all efelychu gwasanaethau iechyd statudol na gweithredu in loco parentis, mae ganddi rwymedigaeth i ddarparu diogelwch a chefnogaeth. Mae'r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses ymgeisio ac yn parhau drwy gydol taith y myfyriwr, gan ymgorffori dull prifysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl.
2. Cyd-destun
Mae ehangu cyfranogiad, cynnydd yn nifer y myfyrwyr a newidiadau i ddeddfwriaeth anabledd wedi bod yn gysylltiedig â chynnydd nodedig yn nifer y myfyrwyr ag anawsterau iechyd meddwl sylweddol sy'n mynd i addysg uwch. Mae'n ddealladwy bod myfyrwyr a'u teuluoedd yn disgwyl i Sefydliadau Addysg Uwch fod yn fwy na darparwr addysg yn unig a darparu cefnogaeth gyfannol i bob myfyriwr.
Cafodd pandemig Covid-19 2020 effaith sylweddol ar iechyd meddwl myfyrwyr oherwydd bod y profiad prifysgol wedi troi'n brofiad nad oeddent yn ei adnabod, mwy o unigedd a rhwystrau o ran cael mynediad at rwydweithiau a gwasanaethau cymorth arferol. Byddai'n esgeulus hefyd peidio â fframio'r polisi hwn yng nghyd-destun tirwedd gymdeithasol, wleidyddol, economaidd a diwylliannol y blynyddoedd diwethaf. Roeddent yn cwmpasu'r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, newidiadau cyflym yn y llywodraeth, yr argyfwng costau byw a sylw penodol ar drais rhywiol a diogelwch menywod. O ganlyniad, mae iechyd meddwl myfyrwyr wedi dod yn flaenoriaeth gynyddol mewn AU ac mae pwyslais o hyd ar brifysgolion i ystyried iechyd meddwl fel blaenoriaeth strategol.
Mae'r polisi hwn yn cael ei lywio gan ddeddfwriaeth genedlaethol a chanllawiau a fframweithiau AU sy'n ymwneud ag iechyd meddwl:
- Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd, 2001
- Deddf Iechyd Meddwl, 2007
- Deddf Cydraddoldeb, 2010
- UMHAN, Higher Education Institutions' Support For Students With Mental Health Difficulties, 2009
- UMHAN, Practical Guidance for the Development and Day-to-Day Provision of a Higher Education Institution Mental Health Service, 2010
- Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), 2015
- Universities UK, Suicide-Safer Universities, 2018
- Student Minds, The University Mental Health Charter, 2019
- Universities UK, Stepchange: Mentally Healthy Universities , 2020
- Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, Mental Health of Higher Education Students, 2021
- Student Minds, University Mental Health: Life in a Pandemic, Awst 2021, Wave II,, Medi 2021 a Wave III,, Ionawr 2022
3. Diffiniadau a Therminoleg
Darperir y diffiniadau a'r derminoleg dan sylw at ddibenion y polisi hwn ac mewn rhai achosion maen nhw'n cyfeirio at derminoleg fewnol y brifysgol o fewn cyd-destun AU ac nid diffiniadau cyfreithiol o reidrwydd.
Llesiant |
Term eang i ddisgrifio cyflwr cyffredinol person, gan gynnwys iechyd meddwl, iechyd corfforol, ymdeimlad o berthyn cymdeithasol, diogelwch ac ymreolaeth. |
Iechyd meddwl |
Sbectrwm o brofiadau seicolegol o iechyd meddwl da i fod â chyflwr iechyd meddwl. |
Anawsterau iechyd meddwl |
Profiadau emosiynol neu seicolegol sy'n effeithio ar allu myfyriwr i ffynnu yn y brifysgol. Gall y rhain fod yn barhaus, yn dod i'r amlwg, neu'n cael effaith andwyol dros dro yn unig. |
Cyflwr (cyflyrau) iechyd meddwl |
Cyflwr seiciatrig sydd wedi cael diagnosis sy'n effeithio ar emosiynau, ymddygiad, hwyliau a ffordd o feddwl. Mae enghreifftiau'n cynnwys Iselder, Gorbryder, Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol, Anhwylder Deubegynol. |
Anabledd |
Anhawster meddyliol, corfforol, cymdeithasol neu ddysgu sy'n effeithio'n andwyol ar fywyd bob dydd ac sydd yn hirdymor, neu'n debygol o fod yn hirdymor Mae enghreifftiau'n cynnwys problemau symudedd, colli clyw neu olwg, problemau iechyd meddwl, cyflyrau niwroamrywiol, a gwahaniaethau dysgu penodol. |
Niwroamrywiaeth |
Term a ddefnyddir i ddisgrifio gwahaniaethau niwrolegol sy'n effeithio ar brosesu, dysgu a meddwl. Mae enghreifftiau'n cynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), Dyspracsia a Dyslecsia. |
Addasiadau rhesymol |
Addasiadau priodol a theg i'r addysgu, dysgu, asesu ac amgylcheddau ffisegol ar gyfer myfyrwyr ag anableddau neu amgylchiadau dros dro er mwyn osgoi gwahaniaethu. Mae enghreifftiau'n cynnwys amser ychwanegol mewn arholiadau, llety wedi'i addasu, mynediad at ysgrifennydd. |
Gwahaniaethu |
Pan fydd myfyriwr yn cael ei drin yn llai ffafriol ar sail nodwedd neu gyflwr, neu pan fo system, polisi neu weithred yn peri anfantais i'r myfyriwr. |
4. Egwyddorion
- Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr a staff o broblemau, gwasanaethau a gweithdrefnau iechyd meddwl.
- Darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth iechyd meddwl.
- Creu ethos nad yw'n stigmateiddio lle mae sensitifrwydd ac urddas pawb yn cael eu parchu.
- Ystyried iechyd meddwl a llesiant wrth wneud penderfyniadau ehangach.
- Datblygu polisi wedi'i lywio drwy gysylltu â myfyrwyr, staff ac asiantaethau allanol perthnasol a monitro ac adolygu'n rheolaidd.
5. Nodau
- Hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol drwy amrywiaeth o fentrau, gan gynnwys ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth, hyfforddiant iechyd meddwl i staff a myfyrwyr, a darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl.
- Darparu amrywiaeth o gymorth integredig, hygyrch i fyfyrwyr mewn gwahanol gyfryngau ac sy'n briodol i'w hanghenion i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd llawn.
- Lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig ag anawsterau iechyd meddwl ac annog myfyrwyr i ddatgelu anawsterau iechyd meddwl cyn gynted â phosibl gan wybod y byddant yn cael cymorth priodol.
- Hyrwyddo amgylchedd prifysgol cefnogol trwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu cymdeithasol, hyrwyddo ffyrdd iach o fyw, a mynd i'r afael â ffynonellau posibl o straen neu orbryder.
- Rhoi gwybodaeth a hyfforddiant i staff am sut y gallant ymateb i fyfyrwyr sy'n profi anawsterau iechyd meddwl.
- Datblygu perthynas â sefydliadau iechyd meddwl allanol i ddarparu cymorth ac adnoddau ychwanegol i'w myfyrwyr. Mae'r sefydliadau hyn yn cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl lleol y GIG, elusennau a grwpiau cymorth.
- Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bwysigrwydd rhannu gwybodaeth lle bo hynny'n rhesymol ac yn angenrheidiol a sicrhau bod unrhyw wybodaeth yn cael ei datgelu'n briodol ac yn effeithiol.
- Sicrhau bod y Brifysgol yn cyflawni ei rhwymedigaethau cyfreithiol.
6. Rolau a Chyfrifoldebau
Mae gan Brifysgol Abertawe a'i staff a'i myfyrwyr ran yn y broses o greu amgylchedd sy'n derbyn ac yn cefnogi iechyd meddwl.
6.1 Staff
Disgwylir i'r holl staff:
- Arfer dyletswydd gofal wrth ymdrin â myfyrwyr. Os bydd unigolyn yn dangos arwyddion o anawsterau iechyd meddwl, dylai staff gynnig neu geisio cymorth priodol.
- Trin pob myfyriwr ag urddas.
- Gweithio o fewn ffiniau eu rolau, gan wybod ble, pryd a sut i atgyfeirio achos.
- Ymdrin â gwybodaeth a ddatgelir yn sensitif ac arfer cyfrifoldeb ynghylch datgelu.
- Cyfrannu tuag at adeiladu cymuned nad yw'n stigmateiddio.
6.2 Myfyrwyr
- Dylai pob myfyriwr gyfrannu at greu cymuned nad yw'n stigmateiddio.
- Anogir myfyrwyr ag anawsterau iechyd meddwl i ddefnyddio'r gwasanaethau cymorth mewnol a/neu allanol amrywiol, ac i hysbysu staff perthnasol os nad ydynt yn gallu cyflawni ymrwymiadau academaidd fel y gall y Brifysgol roi cymorth personol ac academaidd priodol iddynt.
- Dylai myfyrwyr sy'n cynorthwyo ffrindiau a chyfoedion sy'n profi problemau iechyd meddwl fod yn ymwybodol o'u terfynau personol a gwybod ble, pryd a sut i atgyfeirio achos.
7. Datblygu a Chefnogi Staff
Mae'n bwysig bod staff y Brifysgol yn gweithio o fewn eu lefel cymhwysedd wrth geisio cefnogi neu gynghori myfyrwyr. Dylai'r holl staff fod yn gyfarwydd â'r Canllawiau Staff ar gyfer Gweithio gyda Myfyrwyr ag Anawsterau Iechyd Meddwl sydd ar gael yn Atodiad A.
Mae sesiynau ar gefnogi myfyrwyr ag anawsterau iechyd meddwl wedi'u cynnwys yn y rhaglen Datblygu Staff. Mae cwrs hyfforddi ar-lein penodol ar gyfer Mentoriaid Academaidd sy'n cynnwys sut i ymateb i fyfyrwyr sydd â phroblemau llesiant (gan gynnwys rheoli sefyllfaoedd argyfyngus, gwybodaeth gymorth, opsiynau atgyfeirio a chyfeirio a hunanofal staff). Mae cyrsiau hyfforddi ar-lein ychwanegol ar Addasiadau Rhesymol i Fyfyrwyr sy'n cynnwys canllawiau ar adnabod a chefnogi myfyrwyr ag anghenion iechyd meddwl. Mae'r brifysgol yn cynnig hyfforddiant amrywiol hefyd sy'n agored i'r holl staff, gan gynnwys, Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, Ymwybyddiaeth Hunanladdiad SafeTALK, Staff sy'n cefnogi myfyrwyr ag anableddau a Beth yw Cyflyrau ar y Sbectrwm Awtistiaeth.
Dylai staff sydd angen gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau perthnasol neu gymorth wrth ymdrin ag achosion penodol uwchgyfeirio i'w rheolwyr llinell neu ofyn am gyngor gan Bywyd Myfyriwr lle y bo hynny'n briodol.
8. Monitro, Gwerthuso ac Adolygu
Mae'r polisi hwn wedi'i lunio gan Bywyd Myfyriwr mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol ar draws y brifysgol.
Bydd y polisi’n cael ei fonitro gan y Bwrdd Iechyd a Llesiant, gan wneud unrhyw argymhellion angenrheidiol i Uwch Dîm Arweinyddiaeth Prifysgol Abertawe.
B. Cyfrifoldeb
1. Fframwaith cyfreithiol
Yn gyffredinol, mae gan y Brifysgol rwymedigaeth i:
- Gyflawni dyletswydd gofal tuag at bob myfyriwr wrth ddarparu gwasanaethau addysg a gwasanaethau eraill, gan gynnwys gofal bugeiliol yn ogystal ag addysgu a goruchwylio.
- Cynnig a darparu cefnogaeth i'w holl fyfyrwyr lle bo hynny'n briodol.
- Cymryd camau cadarnhaol rhesymol i hyrwyddo llesiant myfyrwyr.
- Sicrhau iechyd, diogelwch a lles yn y gwaith ar gyfer pawb sydd ar y safle [“yn gyfreithlon”].
- Rhoi sylw dyledus i'r angen i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon yn seiliedig ar anabledd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred (gan gynnwys diffyg cred), oedran, ailbennu rhywedd a beichiogrwydd a mamolaeth, oedran ac ailbennu rhywedd.
- Gwneud addasiadau rhesymol i gynorthwyo myfyrwyr ag anableddau, fel addysgu wedi'i addasu, amgylcheddau dysgu a byw ac asesiadau amgen.
2. Ein contract gyda'r myfyriwr
Mae cyfraith contract defnyddwyr yn sail gyfreithiol i berthynas y Brifysgol â myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys gofal bugeiliol yn ogystal ag addysgu a goruchwylio, ac mae graddau hynny’n dibynnu ar delerau'r contract myfyrwyr. Mae'r Brifysgol yn egluro'r gwasanaethau y mae'n eu darparu yn ei phrosbectws a deunyddiau ysgrifenedig ac electronig eraill. Mae safon y gofal a'r sgiliau y mae'n rhaid i'r Brifysgol eu bodloni yr un fath a'r hyn a ddarperir gan y sefydliad cymwys arferol. Mewn perthynas ag aelodau staff sy'n gweithio gyda myfyrwyr ag anawsterau iechyd meddwl, dylai gwasanaethau a ddarperir bob amser fod o safon neu ymarfer a dderbynnir y gellir ei ddisgwyl gan yr unigolyn medrus cyffredin sy'n dweud bod ganddo sgìl arbennig. O'r herwydd, gall y safon ofynnol fod yn uwch ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hyfforddedig (fel cwnselwyr) nag ar gyfer staff eraill sy’n rhoi cymorth i fyfyrwyr.
Lle nad yw'r Brifysgol yn darparu gwasanaeth penodol neu â mynediad at hynny, dylid egluro hyn i fyfyrwyr a dylid eu hannog i chwilio am wasanaethau allanol eraill sydd ar gael iddynt. Yng nghyd-destun iechyd meddwl, mae hyn yn aml yn golygu annog neu gynorthwyo myfyrwyr i gysylltu â'u meddyg teulu neu wasanaethau iechyd meddwl lleol.
3. Dyletswydd Gofal
- Mae gan sefydliadau ddyletswydd gofal cyfraith gyffredin i fyfyrwyr a staff
- Yr egwyddor gyffredinol yw bod safon “gofal rhesymol” yn gymwys i staff addysgu a “gweithwyr proffesiynol addysgol” eraill fel staff cymorth academaidd neu staff Bywyd Myfyriwr.
- Dyletswydd i gymryd camau cadarnhaol rhesymol ynghylch llesiant myfyrwyr. Bydd yr hyn sy'n rhesymol yn dibynnu ar amgylchiadau ffeithiol pob achos.
- Mae dyletswydd i arfer sgiliau a gofal rhesymol wrth ddarparu gwasanaethau addysg neu wasanaethau eraill a nodi a/neu ddiwallu anghenion addysgol myfyrwyr yn ymhlyg yn y contract myfyrwyr.
- Cyfrifoldeb i gymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw'r gofynion ar fyfyrwyr, fel mynychu dosbarthiadau, cyflwyno gwaith neu ymgymryd â lleoliadau neu arholiadau yn achosi niwed y gellir yn rhesymol ei ragweld.
- Dyletswydd i gymryd camau rhesymol i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles myfyrwyr a staff.
- Dyletswydd uwch yn achos grwpiau agored i niwed fel plant dan 18 oed, myfyrwyr rhyngwladol a'r rhai sydd ag anableddau ac anghenion eraill, gan gynnwys anghenion sy'n gysylltiedig ag anawsterau iechyd meddwl.
- Angen cydbwyso dyletswydd gofal ar gyfer un myfyriwr gyda'r ddyletswydd sy'n ddyledus i fyfyrwyr a staff eraill.
D.S. Mae myfyrwyr sy'n 18 oed neu'n hŷn yn oedolion yn gyfreithiol. Mae ganddynt yr hawl i wneud eu penderfyniadau eu hunain, gan gynnwys ymddwyn mewn ffyrdd y gallai eraill eu hystyried yn amhriodol. Gall fod yn her dod o hyd i ffordd o gydbwyso'r egwyddorion ymreolaeth a dyletswydd gofal sy'n ymddangos yn groes i’w gilydd fel ein bod yn cefnogi ymreolaeth bersonol wrth arfer dyletswydd gofal.
4. Cyfrinachedd a Diogelu Data
- Mae dyletswydd cyfrinachedd yn ddyledus i bob myfyriwr mewn cyfraith gyffredin os yw hyn yn cael ei addo iddynt neu os yw'n weddol glir y dylai person sy'n derbyn gwybodaeth yn gyfrinachol gadw'r wybodaeth honno yn gyfrinachol.
- Yn ogystal, mae GDPR y DU a Deddf Diogelu Data (2018) yn berthnasol i'r holl ddata personol a gedwir gan y Brifysgol.
- Rhaid cofnodi neu brosesu'r holl wybodaeth yn rhesymol, yn deg ac yn gyfreithlon a dim ond ei rhannu'n fewnol neu'n allanol â'r rhai y mae angen iddynt fod yn ymwybodol ac yn unol â'r seiliau cyfreithlon o dan Erthygl 6 (data personol) neu Erthygl 9 (data categori arbennig) o GDPR y DU.
- Gellir datgelu data personol neu ddata personol categori arbennig, er enghraifft gyda chydsyniad neu lle gellir cyfiawnhau datgelu yn unol ag amodau budd sylweddol y cyhoedd (e.e. diogelu unigolion sydd mewn perygl) neu at ddibenion darparu gofal iechyd neu driniaeth ar yr amod bod hyn yn rhesymol ac yn angenrheidiol o dan yr amgylchiadau.
- Mae gan wrthrychau data hawl i ofyn am gopi o'r holl ddata personol a gedwir.
4.1 Datgelu Gwybodaeth
Gall myfyriwr ddewis datgelu ei fod yn profi (neu wedi profi) anawsterau iechyd meddwl ar unrhyw adeg yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol, o'r adeg y cyflwynir cais hyd at gwblhau ei gwrs astudio. Dylid annog myfyrwyr yn gadarnhaol i ddatgelu ar y sail y dylai hyn arwain at ganlyniadau cadarnhaol. Lle bynnag y bo'n bosibl, dylid hysbysu myfyrwyr sut fyddai gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng staff neu asiantaethau allanol lle bo hynny'n briodol. Efallai y bydd myfyrwyr yn dewis peidio byth â datgelu eu hanawsterau a dylai pob aelod staff gofio bod ganddynt hawl i ddewiis gwneud hynny. Fodd bynnag, lle bynnag y bo'n bosibl, dylai staff egluro i fyfyrwyr mewn modd sensitif y gallai peidio â datgelu olygu na all y Brifysgol ymateb yn uniongyrchol i'w hanghenion penodol. Dylid atgoffa myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau gydag elfen ymarfer proffesiynol fod ganddynt rwymedigaeth i ddatgelu unrhyw gyflwr a allai effeithio ar eu haddasrwydd i ymarfer. (Gweler Gweithdrefnau - Adran 11 Addasrwydd i Ymarfer).
4.2 Cyfrinachedd
Oherwydd natur sensitif gwybodaeth sy'n ymwneud â llesiant meddyliol unrhyw fyfyriwr, mae'n hanfodol, pan wneir datgeliadau, nad yw staff yn dweud wrth fyfyriwr y bydd yr wybodaeth yn parhau'n gyfrinachol ac y gallai fod angen ei rhannu os ystyrir hyn yn rhesymol ac yn briodol. Rhaid i staff weithio gyda myfyrwyr yn unol â'r polisi hwn, o fewn y canllawiau proffesiynol presennol, a GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018 a bod yn atebol am y sail gyfreithlon y datgelir gwybodaeth o dani.
Mae angen i fyfyrwyr deimlo'n hyderus y bydd unrhyw wybodaeth y maen nhw'n ei rhoi yn cael ei thrin â pharch a'i bod ar gael i eraill ar sail angen gwybod yn unig, neu i ddiogelu buddiannau hanfodol myfyrwyr.
Pan gedwir nodiadau ysgrifenedig o gysylltiadau â myfyrwyr, dylid rhoi gwybod i fyfyrwyr am hyn ymlaen llaw. Dylid nodi pryderon am lesiant myfyriwr ynghyd ag unrhyw gamau a gymerwyd. Dylai nodiadau fod yn ffeithiol ac yn wrthrychol ac nid ddylent gynnwys unrhyw sylwadau goddrychol.
Mae staff yn gyfrifol am sicrhau nad yw gwybodaeth bersonol am unrhyw fyfyriwr byth yn cael ei datgelu'n amhriodol. Er mwyn lleihau'r posibilrwydd o unrhyw ddatgeliad amhriodol yn digwydd, dylid cydymffurfio â’r pwyntiau canlynol:
- Dylid cael cydsyniad neu ganiatâd ysgrifenedig penodol cyn rhannu gwybodaeth bersonol a dylai myfyrwyr gael gwybod pwy fydd yn derbyn yr wybodaeth a pha wybodaeth fydd yn cael ei chyfathrebu. Dylid rhannu gwybodaeth ar sail 'angen gwybod' yn unig.
- Yn absenoldeb cydsyniad ysgrifenedig penodol, dim ond pan fydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith y gellir datgelu gwybodaeth gyfrinachol (e.e. yn ofynnol gan orchymyn llys neu yn unol â gofyniad statudol) neu gellir cyfiawnhau'r datgeliad er budd y cyhoedd (e.e. bernir bod myfyriwr yn peryglu ei hun neu eraill). Dylid ystyried datgeliad o'r fath yn absenoldeb caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw yn ofalus a'i gyfiawnhau'n glir fesul achos.
- Er mwyn osgoi torri cyfrinachedd, ni ddylai staff y Brifysgol addo y byddai unrhyw wybodaeth a ddatgelir yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Yn hytrach, dylent ddatgan y bydd yr wybodaeth yn cael ei thrin yn sensitif.
- Dylai pawb sydd â mynediad at ddata personol fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau a'u rhwymedigaethau i barchu a diogelu cyfrinachedd, cwblhau'r holl hyfforddiant gorfodol perthnasol a dylent gydymffurfio â'r gyfraith a chanllawiau'r Brifysgol ar storio gwybodaeth bersonol.
- Dylid sicrhau bod unrhyw drafodaeth am iechyd meddwl myfyriwr yn cael ei chynnal yn breifat. Dylid cael cyn lleied â phosibl o gyfathrebiadau e-bost, dylent fod yn ddienw os yw'n bosibl a'u marcio fel rhai cyfrinachol. Dylid anfon e-byst sy'n cynnwys data categori arbennig yn unol â gweithdrefnau'r brifysgol.
I gael canllawiau llawn ar Ddiogelu Data a GDPR yng nghyd-destun y Brifysgol, ewch i Diogelu Data - Prifysgol Abertawe
5. Deddfwriaeth Cydraddoldeb
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd gadarnhaol ar bob corff cyhoeddus, gan gynnwys Sefydliadau Addysg Uwch, i roi sylw dyledus i'r angen i ddileu gwahaniaethu ac aflonyddu anghyfreithlon a hyrwyddo cyfle cyfartal i'r holl staff, myfyrwyr a defnyddwyr eraill cyfleusterau a gwasanaethau a meithrin cysylltiadau da.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu fframwaith cyfreithiol i ddiogelu hawliau unigolion a hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb. Mae'n rhoi cyfraith wahaniaethu i Brydain sy'n gwarchod unigolion rhag triniaeth annheg ac sy'n hyrwyddo cymdeithas deg a mwy cyfartal.
Mae gan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus dri nod. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i Sefydliadau Addysg Uwch roi sylw dyledus i'r angen i wneud y canlynol:
- Dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon a mathau eraill o ymddygiad a waherddir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
- Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a'r rhai nad ydynt – mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael â rhagfarn a hyrwyddo dealltwriaeth rhwng pobl o wahanol gefndiroedd
- Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a'r rhai nad ydynt.
6. Dyletswyddau statudol eraill
Mae'r Ddeddf Hawliau Dynol (1998) yn rhoi amrywiaeth eang o hawliau i unigolion. Gall y Ddeddf hon, ynghyd â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, gael ei defnyddio gan fyfyrwyr sy'n hawlio triniaeth annheg neu anghyfartal, neu mewn achosion lle na chymerwyd camau i atgyfeirio myfyrwyr at gymorth priodol lle'r oedd risgiau amlwg i'w llesiant.
Mae'r polisi hwn yn rhoi ystyriaeth hefyd i rannau perthnasol o God Ymarfer QAA er mwyn sicrhau ansawdd a safonau academaidd mewn addysg uwch a Chanllaw arfer da Prifysgolion y DU ar gyfer Lles meddyliol myfyrwyr mewn addysg uwch.
Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb hefyd, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, i sicrhau iechyd, diogelwch a lles gweithwyr a phawb sydd ar y safle [“yn gyfreithlon”].
C. Gweithdrefnau (Rhan 1)
1. Cais a Mynediad
Dylai unrhyw brosbectws, llenyddiaeth diwrnod agored neu ddeunydd hyrwyddo arall gynnwys datganiadau cadarnhaol sy'n datgan ymrwymiad y Brifysgol i feithrin cymuned ddysgu nad yw'n stigmateiddio ac i weithio gyda myfyrwyr i nodi eu hanghenion unigol a mynd i'r afael â nhw. Mae'r Brifysgol yn cydnabod yn llawn yr hawl i astudio, ac eithrio mewn achosion sy'n gysylltiedig â rhai rhaglenni proffesiynol a nodir yn glir yn y llenyddiaeth berthnasol.
Mae gwybod pwy sy’n ymgeiswyr sydd â chyflwr iechyd meddwl yn flaenoriaeth, waeth beth fo llwybr neu amseriad mynediad i'r Brifysgol. Wrth wneud cais, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny, anogir darpar fyfyrwyr i ddatgelu unrhyw wybodaeth berthnasol. Yna gall staff derbyn wneud tiwtoriaid a staff perthnasol y gwasanaeth yn ymwybodol o'r sefyllfa, gan helpu i ddarparu cymorth cychwynnol os oes angen. Dylid hyrwyddo'r casgliad o wasanaethau Bywyd Myfyriwr er mwyn hwyluso atgyfeiriad cynnar os oes angen.
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ag anghenion cymorth ychwanegol. Anogir ymgeiswyr i gysylltu â'r Gwasanaeth Llesiant ac Anabledd cyn gynted â phosibl i ddarganfod pa fath o gymorth a allai fod ar gael a pha wybodaeth sydd ei hangen. Mae presenoldeb Bywyd Myfyriwr mewn diwrnodau agored a digwyddiadau pontio yn helpu darpar fyfyrwyr a'u teuluoedd a'u ffrindiau i gael gwybodaeth a chyngor gwerthfawr sy'n gysylltiedig â'u hanghenion cymorth.
Bydd ymgeiswyr sy'n datgan anabledd yn cael eu hystyried yn unol â'r un egwyddorion ag ymgeiswyr eraill. Mae nifer fach o raglenni proffesiynol fel Nyrsio, Meddygaeth a Gwaith Cymdeithasol yn rhoi cymhwysedd i ymarfer yn y proffesiwn perthnasol. O ganlyniad, mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb i'r cyhoedd, cyflogwyr, a'r proffesiynau i sicrhau bod darpar fyfyrwyr yn gallu cyflawni'r deilliannau dysgu a bennir gan y cyrff proffesiynol a statudol a'u bod yn “addas i ymarfer”. Yn yr achosion hyn, byddai cynnig yn cael ei wneud “yn amodol ar gymeradwyaeth y Panel Addasrwydd i Ymarfer”. Mae manylion llawn ar y tudalennau gwe ar gyfer y rhaglenni perthnasol.
Ar ôl i gynnig gael ei wneud, anfonir gwybodaeth i ymgeiswyr am anabledd a chymorth ac fe'u gwahoddir i lenwi holiadur yn gofyn am wybodaeth am natur y cyflwr ac unrhyw ofynion cymorth. Mae hyn er mwyn sicrhau y gall y Brifysgol drefnu unrhyw gymorth ychwanegol, gwneud unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen a chynghori ar gyllid fel Lwfans Myfyrwyr Anabl mewn pryd ar gyfer dechrau'r rhaglen. Os bydd ymgeiswyr yn dewis peidio â datgelu eu hanabledd, yn darparu'r wybodaeth hon ar fyr rybudd cyn i'w rhaglen ddechrau, neu os nad ydynt yn darparu gwybodaeth lawn cyn eu rhaglen astudio, bydd y Brifysgol yn darparu cymaint o gymorth â phosibl, ond efallai na fydd yn gallu darparu'r holl gymorth a allai fod ar gael fel arall neu efallai y bydd oedi cyn darparu'r cymorth hwnnw.
Dylai myfyrwyr a darpar fyfyrwyr o'r tu allan i'r DU fod yn ymwybodol nad yw myfyrwyr rhyngwladol yn gymwys i gael Lwfans Myfyrwyr Anabl. Cynghorir myfyrwyr i gysylltu â'u Llywodraeth gartref i gael gwybodaeth am unrhyw gyllid a allai fod ar gael i fyfyriwr anabl. Mae gan y brifysgol ddarpariaethau ar waith i dalu am elfennau o gymorth anabledd i fyfyrwyr y gwrthodwyd pob opsiwn arall iddynt o ran cyllid. Dylai myfyrwyr ar raglenni cyfnewid geisio cyllid gan eu sefydliad 'cartref'. Mae myfyrwyr ar raglenni astudio byr yn annhebygol hefyd o dderbyn arian Lwfans Myfyrwyr Anabl.
Caiff myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr ar raglenni astudio byr eu cynghori'n gryf i gysylltu â gwasanaeth perthnasol y Brifysgol cyn gwneud cais ffurfiol i'r Brifysgol. Bydd hyn yn rhoi amser i fyfyrwyr archwilio a deall yn llawn y cymorth y bydd ei angen arnynt ac i ba raddau y gall y Brifysgol ddarparu hynny.
2. Croeso, Cofrestru a Sefydlu
Cyn cyrraedd, anfonir gohebiaeth e-bost at fyfyrwyr yn eu cyflwyno i'r holl wasanaethau cymorth yn y Brifysgol. Anogir myfyrwyr sydd angen cymorth iechyd meddwl neu sydd angen datgelu anabledd, i wneud hynny gyda'r Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr (ISSS).
Cyn cyrraedd, rhoddir cyfle i fyfyrwyr gwblhau modiwl llesiant ar-lein. Datblygwyd y modiwl gyda Togetherall, ac mae'n ymdrin â phynciau fel rheoli newid, ymdrin â hwyliau isel, gofalu amdanoch eich hun, a datblygu gwytnwch. Anogir rhieni/gwarcheidwaid i gwblhau modiwl ar wahân hefyd, sy'n rhoi trosolwg o bynciau myfyrwyr, pecyn cymorth i gefnogi eu plentyn trwy'r materion hyn, cyflwyniad i wasanaethau cymorth a gwybodaeth am berthynas y rhiant/sefydliad a sut i gysylltu â ni os oes ganddynt bryderon.
Mae myfyrwyr yn defnyddio e-byst/swyddogaeth sgwrs fyw MyUniHub ar gyfer cofrestru, lle mae'r tîm yn asesu ac yn brysbennu myfyrwyr i'r gwasanaeth priodol o fewn ISSS, yn seiliedig ar angen.
Mae staff a myfyrwyr gwirfoddol ar gael, ar y campws yn ystod y cyfnod cyrraedd i groesawu myfyrwyr a'u helpu i symud i'r llety. Mae staff gwasanaethau cymorth o'r timau Llesiant a Lles wrth law i siarad â myfyrwyr mewn trallod, gydag ystafelloedd penodol ar gael ar gyfer trafodaethau.
Mae meddygfeydd lleol yn bresennol ar y campws, drwy gydol y cyfnod cyrraedd, i annog myfyrwyr i gofrestru gyda meddyg teulu. Gwahoddir meddygfeydd yn ôl i'r campws ar wahanol adegau drwy gydol y flwyddyn a darperir gwybodaeth yn ystod cyfnod sefydlu'r gyfadran ac mae yna ymgyrchoedd drwy gydol y flwyddyn i annog myfyrwyr i gofrestru. Mae gwasanaethau eraill, gan gynnwys yr ap 'Safezone', ar gael hefyd.
Rhoddir cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ymgyfarwyddo i feithrin ymdeimlad o gymuned a pherthyn. Trefnir y rhain ar y cyd gan Bywyd Myfyriwr, Undeb y Myfyrwyr a'r cyfadrannau.
Arweinir sesiynau sefydlu'r cyfadrannau gan dimau gwybodaeth myfyrwyr gyda ffocws penodol ar sut mae myfyrwyr yn cael mynediad at gymorth academaidd a bugeiliol. Darperir gwybodaeth am wasanaethau cymorth drwy gydol yr wythnos sefydlu ac o bryd i'w gilydd drwy gydol y tymor trwy ddulliau cyfathrebu amrywiol. Mae Bywyd Myfyriwr a'r cyfadrannau'n cydweithio ag Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod amser yn cael ei neilltuo i fyfyrwyr fynychu ffair y glas yn ystod yr wythnos sefydlu. Mae Undeb y Myfyrwyr yn trefnu awr hygyrch a thawel i fyfyrwyr sy'n dymuno mynychu gyda'r ystyriaethau hyn mewn golwg.
Trefnir digwyddiadau Arddangos Bywyd Myfyriwr o fewn y pedair wythnos gyntaf cyn y prif 'gyfnodau' cyrraedd. Dyma gyfle pellach i gyflwyno gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr.
3. Perthynas Agosaf a Chysylltiadau Dibynadwy
Pan fydd myfyrwyr yn cofrestru, mae'n ofynnol iddynt ddarparu manylion Perthynas Agosaf. Perthynas agosaf yw person y mae myfyriwr yn dynodi y dylid cysylltu ag ef os bydd argyfwng meddygol, damwain, neu sefyllfa frys arall lle mae buddiannau hanfodol myfyriwr mewn perygl. Pwrpas perthynas agosaf yw rhoi hysbysiad ar unwaith i rywun a all wneud penderfyniadau ar ran y myfyriwr a darparu'r cymorth angenrheidiol ac mae'n wybodaeth orfodol y mae'n rhaid i bob myfyriwr ei darparu wrth gofrestru. Fel arfer, mae perthynas agosaf yn rhiant, yn warcheidwad, neu'n briod.
Mae myfyrwyr yn cael y dewis darparu manylion Cyswllt Dibynadwy hefyd. Gall y Brifysgol gysylltu â'r unigolyn hwn os bydd pryder difrifol am les y myfyriwr. Y bwriad yw darparu haen ychwanegol o gymorth i fyfyrwyr, yn enwedig y rhai a allai fod yn profi anawsterau neu a allai fod mewn perygl.
Mae manylion llawn y Polisi Cyswllt Dibynadwy i’w gweld yma - Polisi Cyswllt Dibynadwy - Prifysgol Abertawe
4. Llety
Mae'r Gwasanaethau Preswyl yn darparu gwybodaeth i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr am opsiynau llety prifysgol, ymgeisio a gweithdrefnau dyrannu.
Gall myfyrwyr sy'n dymuno byw yn y sector preifat gael cymorth i ganfod llety addas, dod o hyd i bobl i rannu tŷ a chael cymorth gyda chytundebau tenantiaeth o Ganolfan Cyngor a Chymorth Undeb y Myfyrwyr.
Mae myfyrwyr ag anableddau sydd â gofynion llety penodol yn cael eu cydnabod fel grŵp blaenoriaeth pan ddyrennir llety Prifysgol. Mae'r Gwasanaethau Preswyl yn cydweithio'n agos â Bywyd Myfyriwr i nodi anghenion myfyrwyr sydd wedi datgan anabledd, cyflwr meddygol, angen penodol neu anhawster iechyd meddwl a, lle bo hynny'n bosibl, mae'r anghenion hynny'n cael eu diwallu o fewn cyfyngiadau'r stoc llety sydd ar gael. Mae'n bwysig bod anghenion llety myfyrwyr ag anawsterau iechyd meddwl yn cael eu nodi cyn gynted â phosibl fel y gellir dyrannu lleoedd priodol.
I fyfyrwyr ag anawsterau iechyd meddwl, gall gofynion llety berthyn i sawl categori. Er enghraifft:
- Myfyrwyr sy'n parhau sy'n dymuno aros mewn neuadd breswyl y tu hwnt i'w blwyddyn gyntaf er mwyn elwa o ddiogelwch y system fugeiliol a ddarperir mewn neuaddau.
- Dyrannu llety ar y campws neu'n agos at y campws i fyfyriwr sydd ag angen cydnabyddedig i gael mynediad hawdd at gyfleusterau cymorth.
- Mae gan holl ystafelloedd neuaddau preswyl fynediad WiFi a desg astudio a chadair, fel y gall myfyriwr astudio yn ei ystafell pan fydd yn teimlo na all fynd i'r campws.
- Helpu myfyriwr i rannu llety gydag un neu fwy o ffrindiau sy'n darparu cymorth anffurfiol gwerthfawr.
- Blaenoriaethu mynediad i lety'r Brifysgol i fyfyriwr ar ôl cyfnod yn yr ysbyty.
Mae'r ffurflen gais am lety yn cynnwys lle i ddarparu gwybodaeth am anabledd, cyflwr meddygol neu anhawster iechyd meddwl.
Mae'r Gwasanaeth Llesiant ac Anabledd yn mynd i'r afael ag anghenion llety yn dilyn trafodaeth gyda'r myfyriwr am ei anghenion. Mewn achosion lle gallai fod angen i Wasanaethau Preswyl wneud addasiadau rhesymol neu ymgymryd â phroses fonitro briodol, fe'u cynghorir i drafod hyn gyda'r Gwasanaeth Llesiant ac Anabledd a'r myfyriwr.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma - https://myuni.swansea.ac.uk/media/2023-2024-RS-ALLOCATION-POLICY.pdf
5. Cymorth
Os yw myfyriwr yn profi trallod meddyliol a allai gael effaith niweidiol ar ei allu i ddilyn ei astudiaethau, gall gael mynediad at amrywiaeth o gymorth gan ei Gyfadran neu Bywyd Myfyriwr. Mae'r opsiynau cymorth yn cynnwys:
Tiwtor Personol – Pwynt cyswllt allweddol yn y gyfadran academaidd i arwain a chefnogi myfyrwyr gyda datblygiad academaidd, proffesiynol a phersonol.
Timau Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr – Ar gael ym mhob Cyfadran, ac yn rhoi cymorth i fyfyrwyr gydag ymholiadau a phryderon sy'n gysylltiedig â'u hastudiaethau academaidd.
Bywyd Campws – Darparu cyfres o wasanaethau cynghori, arwain a chymorth sy'n cynorthwyo ac yn grymuso myfyrwyr i gyflawni. Cymorth gyda Ffydd, Cymuned, Materion Rhyngwladol, Arian, Cyfranogiad a Llesiant.
Togetherall – Gwasanaeth iechyd meddwl digidol am ddim i fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe sy'n darparu cymorth 24/7 gyda chlinigwyr hyfforddedig, yn ogystal ag amrywiaeth o offer ac adnoddau defnyddiol.
Gwasanaeth Llesiant ac Anabledd – Cyngor arbenigol, arweiniad ac opsiynau cymorth i fyfyrwyr sy'n profi heriau yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol. Ar gyfer myfyrwyr sy'n profi anawsterau emosiynol a phersonol yn ogystal ag anableddau hirdymor mwy cymhleth. Mae’n cynnwys Gwasanaeth Iechyd Meddwl, Gwasanaeth Cwnsela, Gwasanaeth Anabledd a Gwasanaeth ar gyfer Cyflyrau ar y Sbectrwm Awtistiaeth.
Diogelwch a Safezone – Mae tîm cyfeillgar a phrofiadol o weithwyr diogelwch proffesiynol yn darparu gwasanaeth diogelwch 24/7 ar draws y campysau. Mae'r ap SafeZone rhad ac am ddim yn galluogi myfyrwyr a staff ar y campws i gael cymorth gan y Tîm Diogelwch yn gyflym mewn argyfwng personol neu os oes angen cymorth cyntaf neu gymorth cyffredinol ar rywun.
Canolfan Cyngor a Chymorth Undeb y Myfyrwyr – Tîm o Gynghorwyr hyfforddedig a all roi cyngor a chynrychiolaeth ddiduedd a chyfrinachol am ddim, yn annibynnol ar y Brifysgol. Gallant gefnogi myfyrwyr drwy nifer o ffrydiau cymorth fel materion Academaidd gan gynnwys Apeliadau ac Addasrwydd i Ymarfer, Tai, Cyfryngu, EDIB (cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn), cwynion Prifysgol/Undeb a chwynion Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol, Arian, Cyflogaeth, Iechyd a Lles, Materion Personol, Budd-daliadau Lles, aflonyddu a digwyddiadau casineb ac ati.
5.1 Darparu Cymorth yn y Gymraeg
Mae darparu cymorth iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad gan Safonau'r Gymraeg ac mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i gynnal hyn. Mae'n bwysig bod myfyrwyr yn cael cyfle i gyfleu eu sefyllfa yn y Gymraeg os ydynt yn dewis.
Gall myfyrwyr gael mynediad at gyngor ac arweiniad yn ogystal â chymorth iechyd meddwl, cwnsela, anabledd ac Awtistiaeth arbenigol trwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir cyrchu'r holl adnoddau ar-lein ac ysgrifenedig a chyfathrebiadau e-bost trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.
Myf Cymru - Adnodd iechyd meddwl a llesiant ar gyfer myfyrwyr addysg uwch sy'n siarad Cymraeg sy'n astudio yng Nghymru a thu hwnt.
Mae safbwynt y Brifysgol ar y Gymraeg a'r Rheoliadau llawn ar Safonau'r Gymraeg ar gael yma - Cydymffurfiaeth Y Gymraeg - Prifysgol Abertawe
5.2 Cymorth i Grwpiau Penodol
Efallai y bydd rhai myfyrwyr mewn mwy o berygl nag eraill o brofi anawsterau iechyd meddwl ac yn fwy tebygol o wynebu rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael gafael ar gymorth. Mae gan Brifysgol Abertawe gymorth ac argymhellion pwrpasol ar gyfer gwasanaethau arbenigol sy'n cynnig cymorth â ffocws. Mae'r rhain yn cynnwys:
LHDT+ - gwybodaeth, cymorth ac adnoddu sydd ar gael yn y Brifysgol, yn lleol ac yn genedlaethol i fyfyrwyr LHDT+, trawsryweddol ac anneuaidd.
Ffydd@BywydCampws - ar gyfer myfyrwyr, staff a'r gymuned fel y gallan nhw archwilio ffydd mewn amgylchedd agored a chynhwysol, gan gynnig cefnogaeth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol ac anfeirniadol.
Race Equality First – cynnig cwnsela a chymorth iechyd meddwl yn y gymuned i bobl Ddu ac Ethnig Leiafrifol. Gall myfyrwyr hunanatgyfeirio neu gael eu hatgyfeirio'n uniongyrchol gan Wasanaeth Llesiant ac Anabledd Prifysgol Abertawe.
Mind Out – gwasanaeth iechyd meddwl sy'n cael ei redeg gan ac ar gyfer y gymuned LGBTQ+ sy'n cynnig cwnsela arbenigol, cefnogaeth gan gymheiriaid, cymorth ar-lein, ac eiriolaeth.
Sanctuary – cyngor, arweiniad, a gwybodaeth i unigolion sydd wedi'u dadleoli, gan gynnwys adnoddau iechyd meddwl a llesiant.
CALM – cynnig cymorth iechyd meddwl a hunanladdiad i bawb ond mae'n ymgyrchu'n benodol er mwyn herio'r stigma sy'n gysylltiedig â lles meddyliol dynion.
6. Diogelu
Er bod pryderon iechyd meddwl yn cyd-daro â phryderon diogelu yn aml, mae yna ddiffiniadau cyfreithiol allweddol sy'n gwahanu'r ddau. Yng Nghymru, mae diogelu'n ymwneud â:
Phlentyn sy’n wynebu risg
- Dan 18 oed
- Profi camdriniaeth, esgeulustod neu niwed neu mewn perygl ohono
- Anghenion gofal a chymorth
Oedolyn sy’n wynebu risg:
- Profi camdriniaeth, esgeulustod neu niwed neu mewn perygl ohono
- Anghenion gofal a chymorth
- O ganlyniad i'r anghenion hynny, ni allant amddiffyn eu hunain rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed
Mae gan Brifysgol Abertawe Dîm Diogelu arbenigol, Swyddogion Diogelu Dynodedig hyfforddedig a Pholisi Diogelu ar gyfer unrhyw un a hoffai gael cyngor a chymorth gyda phryderon diogelu posibl.
Mae manylion llawn y ddarpariaeth a'r polisi diogelu ar gael yma - Diogelu - Prifysgol Abertawe
7. Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)
Mae DSA yn grant heb brawf modd a ddyfernir gan Gyllid Myfyrwyr i ddarparu cymorth academaidd i fyfyrwyr sydd â chyflyrau meddygol neu anableddau hirsefydlog, gan gynnwys cyflyrau iechyd meddwl, tra byddant mewn addysg. Nid oes angen talu DSA yn ôl a gall helpu i dalu am:
- Offer arbenigol ar gyfer astudio, fel meddalwedd cyfrifiadurol;
- Cynorthwywyr anfeddygol (NMHs), er enghraifft, cymorth mentora iechyd meddwl neu diwtor sgiliau astudio arbenigol;
- Costau teithio ychwanegol sy'n ofynnol o ganlyniad uniongyrchol i anabledd a;
- Chostau eraill fel llungopïo neu getris argraffydd
Dylai myfyrwyr sy'n gymwys wneud cais am DSA cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod eu cymorth yn y brifysgol yn cael ei drefnu. Gall myfyrwyr wneud cais yn annibynnol neu gallant gysylltu â'r Gwasanaeth Llesiant ac Anabledd i gael cymorth a gwybodaeth am wneud cais am DSA. Dylai myfyrwyr nad ydynt yn gymwys i gael DSA gysylltu â'r Gwasanaeth Llesiant ac Anabledd gan y gallai fod ganddynt hawl i gymorth a ariennir gan y brifysgol.
Mae manylion llawn y DSA a'r gwahanol lwybrau ymgeisio ar gyfer cyrff cyllido gwahanol, ar gael yma - DSA - GOV.UK
C. Gweithdrefnau (Rhan 2)
8. Addysgu a Dysgu
Nod y Brifysgol yw meithrin ethos anwahaniaethol, nad yw'n stigmateiddio mewn gweithgareddau addysgu a dysgu trwy ddarparu canllawiau staff ar gynorthwyo myfyrwyr ag anawsterau iechyd meddwl a hyrwyddo lles meddyliol.
Mae sawl ffordd y gallai anhawster iechyd meddwl myfyrwyr effeithio arnynt yn eu hastudiaethau academaidd (er enghraifft, eu canolbwyntio, eu cof, neu eu gallu i weithredu mewn grwpiau). Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i Gyfadran, lle bynnag y bo'n bosibl, wneud addasiadau rhesymol i alluogi myfyriwr i ddilyn ei raglen astudio. Fodd bynnag, mae terfyn ar yr hyn y gellir ei addasu, ac efallai na fydd modd newid rhai agweddau ar raglen benodol am resymau academaidd neu broffesiynol.
Mae'r Gwasanaeth Llesiant ac Anabledd yn asesu anghenion cymorth myfyriwr gan ddefnyddio tystiolaeth feddygol, argymhellion allanol, trafodaeth â’r myfyriwr a gwybodaeth arbenigol am gyflyrau. Mae'r rhain yn cael eu cyfathrebu i'r Gyfadran a'r Swyddfa Arholiadau drwy'r profforma Cymorth Cynhwysol i Fywyd Myfyrwyr, yna cyfrifoldeb y Gyfadran a'r Swyddfa Arholiadau yw gweithredu'r addasiadau hyn lle bo hynny'n briodol. Mae myfyriwr yn gyfrifol am hysbysu'r Gwasanaeth Llesiant ac Anabledd os oes angen diweddaru ei addasiadau.
9. Asesiad Academaidd
Bydd y Brifysgol yn rhoi ystyriaeth briodol i fyfyrwyr ag anawsterau iechyd meddwl er mwyn sicrhau cyfle cyfartal. Bydd hyblygrwydd o ran dull gweithredu yn cael ei gyfuno â thrylwyredd safonau asesu a gofynion cyrff proffesiynol lle bo hynny'n berthnasol. Gall cyfnodau arholiadau ac asesu greu pwysau ychwanegol ar gyfer pob myfyriwr ac mae cymorth ar gael gan y Gyfadran a Bywyd Myfyriwr.
Er na ellir gwneud addasiadau i'r amcanion dysgu penodol sy'n cael eu hasesu, gellir gwneud addasiadau rhesymol i helpu myfyrwyr i fodloni'r safonau cymhwysedd ac i'r ffyrdd y caiff safonau cymhwysedd eu hasesu fel nad yw myfyrwyr ag anghenion ychwanegol o dan anfantais wrth ddangos eu cymhwysedd drwy'r dull asesu.
Bydd unrhyw addasiadau rhesymol sy'n ofynnol yn y trefniadau ar gyfer arholiadau neu asesiadau’n cael eu nodi a'u rheoli drwy broses Profforma'r Gwasanaeth Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr fel yr amlinellir uchod.
Ar gyfer arholiadau, gall hyn olygu defnyddio ystafell arholi amgen, efallai gydag amser ychwanegol fel y gellir cael seibiannau. Ar gyfer asesiad nad yw'n arholiad, mae'n debygol mai hyblygrwydd dyddiadau cau yw'r ffordd bwysicaf o alluogi'r myfyriwr i gyflwyno ei waith ar gyfer asesiad academaidd heb gael ei rwystro'n ormodol gan ei anawsterau.
Lle bo'n briodol, efallai y gofynnir i Gyfadran ddod o hyd i ffordd amgen o asesu a yw'r myfyriwr yn bodloni cymwyseddau academaidd modiwl penodol mewn dull nad yw'n gwahaniaethu yn ei erbyn. Dylai myfyrwyr nodi, fodd bynnag, ar gyfer rhai rhaglenni, gall yr addasiadau y gellir eu gwneud i'r broses asesu gael eu cyfyngu gan ofynion achredu cyrff proffesiynol allanol.
Dim ond yn seiliedig ar dystiolaeth feddygol neu argymhelliad gan y Gwasanaeth Llesiant ac Anabledd y gellir gwneud trefniadau amgen ar gyfer arholiadau neu asesiadau a hynny ar sail cyswllt sylweddol â'r myfyriwr. Felly, mae'n eithriadol o bwysig bod unrhyw faterion perthnasol yn cael eu datgelu'n briodol cyn gynted â phosibl.
10. Amgylchiadau Esgusodol
Mae Amgylchiadau Esgusodol yn anawsterau tymor byr sy'n effeithio ar allu myfyriwr i gyflwyno neu fynychu asesiadau. Dylai myfyrwyr sy’n wynebu’r amgylchiadau hyn sy'n dymuno gwneud cais i ohirio neu am estyniadau gyflwyno cais a thystiolaeth ategol i'w Cyfadran. Gall Byrddau Arholi ystyried cais Amgylchiadau Esgusodol wrth ystyried opsiynau cynnydd hefyd.
Mae iechyd a lles meddyliol wedi'u cynnwys fel rhesymau a dderbynnir i fyfyrwyr sy'n cyflwyno cais am Amgylchiadau Esgusodol. Os bydd gan fyfyriwr gyflwr iechyd meddwl amrywiol sydd wedi'i asesu fel cyflwr sy'n effeithio ar ei allu i fodloni terfynau amser, efallai y bydd modd amlygu'r cyflwr hwn ar ei brofforma addasiadau academaidd. Yn yr achosion hyn, gellir defnyddio'r profforma fel tystiolaeth ategol o Amgylchiadau Esgusodol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r amgylchiadau ymwneud yn uniongyrchol â'u hanabledd.
Mae'r Polisi Amgylchiadau Esgusodol llawn ar gael yma - Amgylchiadau Esgusodol - Prifysgol Abertawe
11. Teithiau Maes, Lleoliadau ac Astudio Dramor
Dylid archwilio addasiadau pan fydd myfyriwr ag anhawster iechyd meddwl a nodwyd yn dilyn rhaglen astudio sy'n cynnwys cyfnod neu gyfnodau i ffwrdd. Dylai'r myfyriwr drafod goblygiadau hyn gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen neu Fentor Academaidd a'r Gwasanaeth Llesiant ac Anabledd ymhell cyn y daith arfaethedig. Dylid trafod o leiaf dri mis cyn taith maes ac o leiaf chwe mis cyn blwyddyn dramor.
Mae gan fyfyrwyr sydd â lleoliadau ymarfer proffesiynol ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw anawsterau iechyd meddwl y maen nhw'n teimlo a allai effeithio ar eu lleoliad a gallant fod yn destun Atgyfeiriad Iechyd Galwedigaethol. Gall myfyrwyr drafod opsiynau addasiadau ar gyfer lleoliad gyda'u Cyfadran a'r Gwasanaeth Llesiant ac Anabledd.
12. Cyllid
Gall baich ariannol mynychu'r brifysgol gael effaith sylweddol ar iechyd a lles meddyliol myfyrwyr. Mae gan y Brifysgol dîm pwrpasol Arian@BywydCampws i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad er mwyn grymuso myfyrwyr i reoli eu cyllid i gyfyngu ar effaith problemau ariannol ar eu profiad prifysgol.
Mae hyn yn cynnwys cymorth cyn cyrraedd i baratoi myfyrwyr ar gyfer y rhwystrau ariannol y gallent eu hwynebu. Mae cymorth ariannol pwrpasol ar gael hefyd i fyfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol fel bod yn rhywun sy'n gadael gofal, wedi ymddieithrio neu'n feichiog. Gall myfyrwyr sy'n wynebu caledi ariannol fod yn gymwys ar gyfer Cronfa Galedi'r Brifysgol.
13. Myfyrwyr Rhyngwladol
Mae Prifysgol Abertawe yn gymuned fywiog, amrywiol gyda staff a myfyrwyr o 130 a mwy o wledydd. Rydym yn cydnabod y gall myfyrwyr rhyngwladol wynebu rhwystrau a allai effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u lles. Mae gan Brifysgol Abertawe dîm pwrpasol International@CampusLife i gynnig cyngor, arweiniad a chymorth.
Yn ystod y cyfnod ymgeisio, mae'n bwysig gofyn i bob myfyriwr rhyngwladol ddatgan anabledd, cyflwr meddygol, neu angen penodol. Pan fo anabledd yn cael ei ddatgan, dilynir yr un gweithdrefnau ag ar gyfer myfyrwyr cartref. Os yw'r wybodaeth a dderbynnir yn dangos bod angen cymorth anfeddygol ar y myfyriwr, fel cymryd nodiadau, gofal personol neu hyfforddiant ychwanegol, efallai y bydd gofyn i'r myfyriwr dalu ei hun neu geisio cyllid yn allanol gan ei noddwr neu gyfwerth, a geisir gan sefydliad 'cartref' y myfyriwr.
Lle nad oes cyllid ar gael, efallai y bydd yn ofynnol i'r Brifysgol, o dan y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), dalu'r gost. Bydd hyn yn cael ei asesu fesul achos.
Ar ôl cyrraedd, mae llawer o fyfyrwyr rhyngwladol yn profi cyfnod o ddryswch diwylliannol, a all fod yn eithaf brawychus. Mae Rhaglen Ymgyfarwyddo’r Brifysgol yn helpu i leddfu rhywfaint o hyn, ond serch hynny gall hwn fod yn amser anodd i lawer o fyfyrwyr. I rai mae cyfnod cyfochrog o ddryswch wrth iddynt baratoi i ddychwelyd i'r wlad gartref tua diwedd eu rhaglen astudio. Gall y cyfnodau bregus hyn efelychu, sbarduno neu guddio anawsterau iechyd meddwl.
Gall y straen o weithredu mewn iaith a diwylliant gwahanol, yn aml am y tro cyntaf, ynghyd â phryderon ariannol posibl a phwysau mawr i lwyddo o ystyried costau addysg ryngwladol, ysgogi anawsterau iechyd meddwl lle na fu hanes blaenorol.
Mewn llawer o ddiwylliannau, ystyrir bod anawsterau iechyd meddwl yn destun cywilydd a gallant gael effaith fawr ar ragolygon gyrfa myfyriwr yn y dyfodol. Gall hyn ei gwneud yn anodd iawn iddynt adnabod symptomau a cheisio neu dderbyn cymorth a chefnogaeth.
Felly, mae'n bwysig bod y rhai sy'n ymwneud â myfyrwyr rhyngwladol yn ceisio darganfod cymaint â phosibl cyn dod i gasgliad ynghylch yr hyn sy'n digwydd pan fydd myfyriwr rhyngwladol yn arddangos ymddygiad neu'n disgrifio teimladau neu feddyliau a allai awgrymu ei fod yn profi anawsterau iechyd meddwl. Bydd dealltwriaeth o'r unigolyn, ei amgylchiadau presennol, hanes iechyd meddwl a'r credoau diwylliannol sydd ganddo i gyd yn bwysig wrth benderfynu sut i weithredu.
Mae'n bwysig cydnabod hefyd y gallai fod angen cymorth ychwanegol ar fyfyriwr rhyngwladol sy'n profi problem iechyd meddwl i ddeall systemau gwasanaeth iechyd y DU a sut i wneud y defnydd gorau o'r hyn sydd ar gael. Mae agweddau tuag at iechyd meddwl, y derminoleg a ddefnyddir, a strwythur cyfleusterau yn amrywiol ar hyd a lled y byd. Gall hyn fod yn wir hefyd am enwau a disgrifiadau o gyfleusterau cymorth y Brifysgol, nad ydynt yn cael eu deall o reidrwydd gan fyfyrwyr o rai cefndiroedd diwylliannol. Os yw myfyriwr rhyngwladol yn amharod iawn i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael, yn aml mae'n well eu hatgyfeirio at y Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol, lle mae'n bosibl y bydd staff mewn sefyllfa well i allu cynnig esboniadau i annog defnydd o wasanaethau priodol.
Mae'n bwysig cofio y bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr rhyngwladol yn y DU o dan lwybr mewnfudo. Efallai y bydd amodau'n gysylltiedig â'r llwybr hwn (e.e. presenoldeb neu leoliad) a allai gael eu heffeithio os yw triniaeth yn golygu bod absenoldeb neu atal dros dro o astudiaethau yn angenrheidiol. Mae'n bwysig bod myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu hannog i geisio cyngor ynghylch hyn gan International@Campuslife.
14. Rheoliadau Academaidd
Mae Rheoliadau Academaidd yn bodoli er mwyn sicrhau safonau academaidd a thriniaeth deg i bob myfyriwr. Efallai y bydd adegau pan fydd goblygiadau'r rheoliadau hyn yn cael effaith sylweddol ar fyfyriwr. Er enghraifft, myfyrwyr sy'n cael eu hatal rhag parhau â'u hastudiaethau, sy'n methu â chymhwyso i symud ymlaen i gam nesaf eu hastudiaethau neu'r rhai sy'n destun y weithdrefn camymddwyn academaidd.
Er mwyn cynorthwyo myfyrwyr i ddeall rheoliadau academaidd y Brifysgol a chyfyngu ar effeithiau negyddol, fe'u cyhoeddir ar dudalennau gwe penodol ynghyd â gwybodaeth ac adnoddau penodol ar uniondeb academaidd. Gall myfyrwyr sydd angen cymorth sy'n ymwneud â rheoliadau academaidd gael mynediad at hyn gan Dîm Gwybodaeth Myfyrwyr eu Cyfadran, Achosion Myfyrwyr (lle bo'n berthnasol) a Chanolfan Cyngor a Chymorth Undeb y Myfyrwyr. Os yw'r amgylchiadau wedi effeithio ar iechyd meddwl myfyriwr, gallant ofyn am gymorth gan y Gwasanaeth Llesiant ac Anabledd.
Mae manylion llawn Rheoliadau Academaidd Prifysgol Abertawe i’w gweld yma - Rheoliadau Academaidd - Prifysgol Abertawe
15. Cymorth i Astudio
Os yw iechyd a lles myfyriwr yn peri risg sylweddol i addysgu a dysgu ei hun neu eraill, efallai y byddai'n briodol ystyried a yw'n addas i astudio. Nid yw'r weithdrefn Cymorth i Astudio wedi'i chynllunio i fod yn gosbol ond yn hytrach yn fesur cefnogol i sicrhau bod myfyrwyr yn ddiogel ac yn ddigon iach i astudio ar yr adeg honno.
Caiff achosion Addasrwydd i Astudio eu cadeirio gan uwch aelod staff Bywyd Myfyriwr, gyda chefnogaeth Gwasanaethau Academaidd. Gwneir unrhyw benderfyniad gan banel sy'n cynnwys staff o Bywyd Myfyriwr a Chyfadran y myfyriwr. Bydd y panel yn penderfynu ar argymhellion y maen nhw'n teimlo fydd yn fwyaf tebygol o liniaru ar gyfer y risg sy'n cyflwyno, efallai y bydd hyn ar ffurf mewnbwn gan ymarferydd meddygol neu atal astudiaethau dros dro.
Mae'r Weithdrefn Cymorth i Astudio i’w gweld yma - Gweithdrefn Cymorth i Astudio - Prifysgol Abertawe
16. Addasrwydd i Ymarfer
Pan fydd myfyriwr yn dilyn rhaglen astudio sy'n arwain at gymhwyster proffesiynol sydd wedi'i gofrestru â chorff rheoleiddio statudol ac sy'n destun gweithdrefn Addasrwydd i Ymarfer, dylid cyfeirio unrhyw bryderon difrifol am iechyd meddwl at Bennaeth yr Ysgol neu Ddirprwy Is-ganghellor/ Deon Gweithredol y Gyfadran.
Mewn rhai sefyllfaoedd, er enghraifft, pan fydd yn ofynnol i'r myfyriwr ymdrin â phobl agored i niwed, efallai na chaniateir i fyfyriwr ag anawsterau iechyd meddwl difrifol barhau â'r rhaglen. Bydd hyn yn cael ei benderfynu gan y Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer. Pan fydd gofynion corff proffesiynol yn atal myfyriwr rhag cwblhau rhaglen astudio, bydd y Brifysgol yn cynnig cyngor ac arweiniad ar opsiynau astudio eraill.
Gellir dod o hyd i'r rheoliadau llawn ar Addasrwydd i Ymarfer yma - Addasrwydd i Ymarfer - Prifysgol Abertawe
17. Atal Astudiaethau
Pan fydd anawsterau iechyd meddwl yn atal myfyriwr rhag parhau â'i raglen, bydd y Brifysgol yn ceisio darparu cyngor a chymorth ar yr opsiynau sydd ar gael er budd gorau'r myfyriwr. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gallai'r rhain gynnwys:
- Newid o astudio'n llawn amser i astudio'n rhan-amser
- Newid rhaglen astudio
- Atal astudiaethau dros dro
- Mewn rhai achosion, gadael y Brifysgol
Bydd y cyngor a'r cymorth hwn yn cael eu cynnig drwy'r Gyfadran briodol a'r Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr perthnasol. Yn y lle cyntaf, cynghorir myfyrwyr i ymgynghori â'u mentor academaidd a Thîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr y Gyfadran.
Gall cyfnod o atal dros dro arwain at oblygiadau ariannol gan gynnwys ar barhad cyllid myfyrwyr a/neu fwrsarïau. Dylid cynghori myfyrwyr i drafod hyn gyda Money@CampusLife fel eu bod yn wybodus.
I fyfyrwyr rhyngwladol, gallai cyfnod o atal dros dro gael effaith sylweddol ar eu statws neu sefyllfa mewnfudo. Mae'n bwysig cynghori myfyriwr i drafod y goblygiadau hyn gyda International@Campuslife cyn cymryd unrhyw gamau ffurfiol.
Mae gan y Brifysgol weithdrefnau ar waith sy'n galluogi myfyrwyr i atal eu hastudiaethau dros dro (neu rannau o'u hastudiaethau) os yw gallu'r myfyriwr i gyflawni yn cael ei effeithio gan anhawster iechyd meddwl ac yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth feddygol. Mae'n bwysig bod y gweithdrefnau hyn yn cael eu dilyn i atal y myfyriwr rhag bod dan anfantais yn ddiweddarach. Cyn atal dros dro neu adael, dylid annog y myfyriwr i archwilio goblygiadau ei benderfyniad drwy ymgynghori â'i Gyfadran a Gwasanaethau Academaidd. Mewn rhai achosion, gall fod yn ddefnyddiol i'r myfyriwr ystyried newid rhaglen.
Mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb i gydbwyso ei dyletswydd gofal ar gyfer myfyrwyr ag anawsterau iechyd meddwl gyda'i dyletswydd tuag at yr holl fyfyrwyr a staff eraill. Sefydliad addysgol yw'r Brifysgol yn bennaf, ac er bod cymorth iechyd meddwl myfyrwyr yn flaenoriaeth, ni all efelychu gwasanaethau statudol. Os nad yw myfyriwr yn fodlon atal dros dro, gall fod yn ofynnol iddo wneud hynny o dan y Polisi Addasrwydd i Astudio (Adran 15).
Nid yw myfyriwr sy'n atal ei astudiaethau dros dro yn cael ei ystyried yn fyfyriwr cofrestredig yn ystod y cyfnod o atal dros dro. Er bod cymorth yn cael ei gynnig i bontio o'r brifysgol ac ar wrth ddychwelyd, ni all myfyrwyr sydd wedi’u hatal dros dro gael mynediad at gymorth parhaus gan y brifysgol.
18. Dychwelyd i Astudio
Cyn dychwelyd, rhaid i fyfyrwyr sicrhau eu bod yn darparu tystiolaeth feddygol briodol eu bod yn ffit i astudio. Pan fydd myfyriwr yn dymuno dychwelyd i astudio ar ôl cyfnod o atal dros dro oherwydd salwch, fe'i cynghorir i gysylltu â'i Gyfadran a gwasanaethau cymorth priodol ymhell cyn dychwelyd. Mae ymgysylltu'n gynnar â'r Brifysgol yn golygu y gellir archwilio anghenion cymorth sy'n gysylltiedig ag astudio, fel cymorth pontio wrth ddychwelyd i astudio; cysylltu ag asiantaethau allanol; cymorth hirdymor ac unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen.
Wrth ystyried hyd unrhyw gyfnod o atal dros dro a'r amser mwyaf priodol i'r myfyriwr ddychwelyd i astudio, bydd ystyriaeth ddyledus yn cael ei rhoi i strwythur diwygiedig y rhaglen astudio, unrhyw ofynion rhaglen proffesiynol, a gallu'r Brifysgol i gynorthwyo'r myfyriwr.
Dylai myfyrwyr sy'n dychwelyd ac sy'n dymuno gwneud cais am lety Prifysgol gysylltu â Gwasanaethau Preswyl i holi am hyn. Nid yw caniatâd i ailddechrau astudiaethau yn awgrymu unrhyw ymrwymiad i ddarparu llety Prifysgol.
Os na fydd myfyriwr yn dychwelyd wedi cyfnod o atal dros dro, gall arweiniad fod yn hanfodol i baratoi myfyrwyr â phroblemau iechyd meddwl ar gyfer y cam nesaf, neu i gyfeirio myfyriwr tuag at raglen fwy addas.
Atodiad A: Canllawiau i Staff sy'n Cynorthwyo Myfyrwyr ag Anawsterau Iechyd Meddwl
Mae gan y brifysgol amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo staff i gefnogi myfyrwyr ac mae'r rhain ar gael ar dudalennau gwe Cefnogi Myfyrwyr - Cefnogi Myfyrwyr - Prifysgol Abertawe.
1. Arwyddion a Dangosyddion
Gall iechyd meddwl pawb newid ar wahanol adegau, ac mae profi amrywiadau mewn hwyliau’n beth arferol. Mae'n bwysig peidio â gwneud rhagdybiaethau am yr hyn y gallai rhywun fod yn ei brofi neu'n mynd drwyddo. Fodd bynnag, gall rhai o'r arwyddion cyffredin a all ddangos bod rhywun yn cael trafferthion gynnwys:
Newidiadau mewn hwyliau
- Hwyliau isel neu newidiadau mewn hwyliau, o uchel iawn i isel iawn.
- Bod yn hawdd ei gythruddo neu orymateb i sefyllfaoedd neu ymddangos yn ymosodol.
- Swnio'n anobeithiol neu'n hunan-feirniadol iawn.
Newidiadau mewn ymddygiad
- Tynnu'n ôl oddi wrth deulu, ffrindiau a chyd-fyfyrwyr.
- Osgoi sefyllfaoedd neu golli diddordeb mewn gweithgareddau arferol.
- Presenoldeb arferol: cyrraedd yn hwyr, colli darlithoedd neu beidio mynd i apwyntiadau/sesiynau a gynlluniwyd.
- Newid mewn archwaeth - colli neu ennill pwysau sylweddol / yn gyflym.
- Rhoi gwybod am anawsterau cysgu,
- Methu terfynau amser, cyflwyno gwaith nad yw o safon arferol y myfyriwr.
- Newidiadau mewn ymddangosiad personol sy'n awgrymu hunan-esgeulustod h.y. edrych yn anniben, lefelau hylendid is
- Postio/anfon negeseuon sy’n destun pryder ar y cyfryngau cymdeithasol neu wrth gysylltu â'r Gyfadran neu'n mynd yn dawel ag yntau’n weithredol iawn fel arfer.
- Pryder cynyddol ynghylch defnyddio sylweddau/camddefnyddio sylweddau.
- Adroddiadau o ymddygiad di-hid neu gaethiwus sy'n ei roi mewn perygl.
Newidiadau mewn ffordd o feddwl a theimlo a theimladau corfforol
- Teimlo'n orbryderus, mewn panig neu'n poeni mwy.
- Methu canolbwyntio, dim llawer o egni, blinder neu golli ffocws yn hawdd.
- Colli hyder neu deimlo wedi'ch llethu gan dasgau.
- Mynegi credoau ffug neu'n clywed/gweld pethau nad yw eraill yn eu clywed na'u gweld.
Gwybodaeth ychwanegol i'w hystyried
- A yw myfyrwyr eraill, neu staff wedi sylwi ar unrhyw un o'r newidiadau hyn ac wedi mynegi pryderon?
- Ydych chi'n ymwybodol o anawsterau iechyd meddwl presennol neu flaenorol?
- Ydych chi'n ymwybodol o unrhyw ddigwyddiadau allanol a allai gael effaith niweidiol ar iechyd meddwl y myfyriwr?
Cyfarfod â'r myfyriwr
- Ar gyfer pob apwyntiad myfyriwr, dylech wirio gyda phob myfyriwr bod yr wybodaeth a gedwir ar Gofnodion Myfyrwyr (SITS) yn gywir, h.y. cyfeiriad cyfredol, rhif ffôn symudol, a manylion cyswllt perthynas agosaf. Yn ddelfrydol, dylid gwneud hyn cyn yr apwyntiad (ar gyfer apwyntiadau a drefnir ymlaen llaw) neu ar ddechrau eich rhyngweithio (cyfarfodydd munud olaf/galw heibio).
- Dylid cynnal pob apwyntiad i fyfyrwyr ar ddiwrnodau gwaith rhwng 09:00 a 16:00, fel y gall gwasanaethau perthnasol reoli argyfyngau posibl mewn modd amserol, e.e. Meddyg Teulu, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, a Diogelwch. Sylwer, nid yw'n ddoeth trefnu apwyntiadau ymlaen llaw ar brynhawn Gwener ar gyfer myfyrwyr â ffactorau risg hysbys, oherwydd bod llai o opsiynau cymorth ar gael dros y penwythnos.
- Ar gyfer sgwrsio byw, dylid cael datganiad ar ddechrau pob sgwrs na ddylai myfyrwyr ddefnyddio'r adnodd sgwrsio byw ar gyfer argyfyngau (gellir gosod y neges hon ymlaen llaw, felly mae'n ymddangos yn awtomatig ar gyfer pob sgwrs).
2. Cymorth Mewnol i Fyfyrwyr
Mae'r gwasanaeth Llesiant ac Anabledd wedi casglu amrywiaeth eang o wybodaeth a allai fod o gymorth i chi gyfeirio myfyrwyr ati. Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys llawer o adnoddau a rhaglenni ar-lein a lleol sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd.
Togetherall
Mae Togetherall yn wasanaeth iechyd meddwl digidol sy'n rhad ac am ddim i fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe. Gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost yn y Brifysgol, gallwch chi gael mynediad yn ddienw at gymorth 24/7 gyda chlinigwyr hyfforddedig ar-lein unrhyw bryd, yn ogystal â chael mynediad at amrywiaeth o adnoddau defnyddiol. Mae'n lle diogel ar-lein ar gyfer bwrw eich bol, cael sgyrsiau, mynegi eich hun yn greadigol a dysgu sut i reoli eich iechyd meddwl. Trwy gofrestru i gael cyfrif Togetherall, bydd gennych fynediad at adnoddau defnyddiol a gallwch weithio trwy gyrsiau hunangymorth wedi'u teilwra sy'n ymdrin â phynciau fel gorbryder, straen, cwsg, rheoli pwysau, iselder a llawer mwy ar gyflymder sy'n addas i chi.
Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar gael yma: https://myuni.swansea.ac.uk/cy/gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr/adnoddau-hunangymorth/
Lles
Mae Welfare@CampusLife yn dîm sy'n darparu cyngor, cymorth ac arweiniad ymarferol i fyfyrwyr yn ogystal â chyfeirio myfyrwyr at wasanaethau cymorth arbenigol welfare.campuslife@swansea.ac.uk.
Gwasanaeth Llesiant ac Anabledd
Ni fydd angen cymorth iechyd meddwl arbenigol ar bob myfyriwr, ond os oes amheuaeth, dylech gyfeirio myfyrwyr i gysylltu â'r Gwasanaeth Llesiant ac Anabledd yn uniongyrchol.
- Gall myfyrwyr gael mynediad at gymorth gan y Gwasanaeth Lles ac Anabledd drwy'r broses ganlynol.
- Mae myfyrwyr yn defnyddio'r Gwasanaeth Llesiant ac Anabledd trwy ffurflen hunanatgyfeirio ac mae ymgysylltu’n wirfoddol.
- Gofynnir i fyfyrwyr gwblhau Ffurflen Gais am Gymorth lle mae ganddynt gyfle i ddarparu gwybodaeth amdanyn nhw eu hunain, eu hanghenion, a sut maen nhw'n teimlo. Dalier Sylw: mae yna gwestiynau gorfodol y mae angen eu cwblhau cyn y gellir cynnig cefnogaeth emosiynol/seicolegol.
- Gwneir asesiad cychwynnol gan ddau ymarferydd (lle bo'n ymarferol) i benderfynu ar y math o wasanaeth a chymorth sydd ei angen arnynt trwy broses o 'frysbennu’.
- Bydd y Gwasanaeth Llesiant ac Anabledd yn cysylltu â'r myfyriwr yn uniongyrchol i roi gwybod am y camau nesaf ar gyfer cymorth.
3. Cymorth Allanol
GIG 111 opsiwn 2
Mae cymorth iechyd meddwl 24/7 ar gael dros y ffôn ym Mae Abertawe erbyn hyn. Gall pobl sy'n byw yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot sydd angen cymorth brys gyda phroblemau iechyd meddwl bellach ffonio tîm o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol am ddim, ddydd neu nos.
Mae galw 111 a dewis opsiwn 2 yn rhoi galwyr mewn cysylltiad uniongyrchol â thîm o 20 o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. https://bipba.gig.cymru/gofal-cymunedol-sylfaenol/cael-gafael-ar-gymorth/galwch-111-dewiswch-opsiwn-2/
Samariaid
Os ydych eisiau siarad â rhywun am sut rydych chi’n teimlo, beth rydych chi’n ei wynebu neu sut i ymdrin ag ymddygiad rhywun arall, gallwch gysylltu â'r Samariaid sy'n cynnig llinell gymorth 24 awr:
- Ffôn: 116 123 o'r Deyrnas Unedig
- Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 ar gael 7pm-11pm
- Gallwch chi gysylltu â nhw drwy e-bost hefyd: jo@samaritans.org
Hopeline Papyrus UK
Mae HOPELINEUK yn wasanaeth cymorth a chyngor cyfrinachol ar gyfer plant a phobl ifanc o dan 35 oed sy'n cael meddyliau am hunanladdiad, neu ar gyfer unrhyw un sy'n pryderu y gallai person ifanc fod yn meddwl am hunanladdiad.
Os ydych chi’n cael meddyliau am hunanladdiad neu'n pryderu am berson ifanc a allai fod, gallwch chi gysylltu â HOPELINEUK i gael cymorth cyfrinachol a chyngor ymarferol.
Ffoniwch: 0800 068 4141
Neges Destun: 07860 039 967
E-bost: pat@papyrus-uk.org
Shout
Mae Shout 85258 yn wasanaeth cymorth cyfrinachol drwy neges destun sydd ar gael am ddim. Gallwch anfon neges destun atom o ble bynnag yr ydych yn y Deyrnas Unedig. I ddechrau sgwrs, anfonwch neges destun gyda'r gair 'SHOUT' i 85258. Mae ein gwirfoddolwyr hyfforddedig yma i wrando unrhyw bryd ddydd neu nos, ac ni fydd negeseuon yn ymddangos ar eich bil ffôn.
MIND
Rydym yn darparu cyngor a chefnogaeth i rymuso unrhyw un sy'n profi problem iechyd meddwl. Rydym yn ymgyrchu i wella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a hybu dealltwriaeth.
Ffoniwch linell wybodaeth Mind 0300 123 3393
Ffyrdd o helpu’ch hun i ymdopi mewn argyfwng. Adnoddau ymarferol i'w defnyddio nawr, ar eich pen eich hun, ble bynnag ydych chi. Os ydych chi’n teimlo eich bod mewn argyfwng, mae'r adnodd hwn ar eich cyfer chi. https://www.mind.org.uk/need-urgent-help/
4. Myfyrwyr mewn Argyfwng
Wrth weithio gyda myfyrwyr a allai fod yn agored i niwed, mewn perygl, a/neu mewn trallod, gall fod yn anodd dod o hyd i'r geiriau cywir i'w defnyddio.
Isod mae rhai ymadroddion a awgrymir a all fod yn ddefnyddiol i staff wrth gasglu gwybodaeth gan fyfyrwyr i ganfod y ffordd orau o'u cysylltu â'r cymorth sydd ei angen arnynt. Nid yw'r awgrymiadau hyn yn gyfarwyddol o bell ffordd, ac ni ddylid eu defnyddio fel sgript: maen nhw'n cael eu darparu fel awgrymiadau, ac mae croeso i chi ddefnyddio'r rhain neu eich fersiynau eich hun – pa un bynnag rydych fwyaf cyfforddus ag ef.
Casglu neu Wirio Gwybodaeth Gyswllt
- Rydyn ni'n holi pob myfyriwr a yw ein gwybodaeth gyswllt yn gyfredol: y manylion sydd gennym ni ar eich cyfer chi yw... Ydyn nhw’n gywir?
- Rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon rhag ofn y bydd angen i mi eich helpu i gael cymorth gan ran arall o'r Brifysgol.
- Dim ond os byddwch chi'n gofyn i ni rannu’r wybodaeth y byddwn ni’n gwneud hynny neu os ydych chi'n sâl a bod angen i ni eich helpu i gael gafael ar gymorth.
Sefydlu Risg/Bregusrwydd
- Ydych chi’n gallu cadw eich hun yn ddiogel?
- Ydych chi'n meddwl am niweidio eich hun/meddwl am hunanladdiad?
- Ydych chi'n teimlo eich bod chi'n risg i chi eich hun (neu i eraill)?
- Ydych chi'n gallu cadw eich hun yn ddiogel nes y gallwch chi weld eich meddyg teulu?
- Oes angen i ni gysylltu â rhywun i helpu i'ch cadw'n ddiogel? Pwy?
Mae'r broses uwchgyfeirio yr un fath p'un a ydych chi'n cyfarfod â myfyriwr ar-lein (e.e. Zoom), yn bersonol neu drwy sgwrsio byw.
Cwestiwn: Yw'r myfyriwr yn gallu cadw ei hun yn ddiogel? Os nad ydych chi’n siŵr, gofynnwch i'r myfyriwr “Ydych chi'n gallu cadw eich hun yn ddiogel?”
Ateb: Na, ni all y myfyriwr gadw ei hun yn ddiogel ac mae risg uniongyrchol i'r myfyriwr a/neu eraill
Gweithredu: Tîm Diogelwch ar 333 (mewnol) neu 01792 604271 (llinell allanol). Gall y Tîm Diogelwch eich rhoi mewn cysylltiad ag aelod o'r Tîm Rheoli Digwyddiadau a chysylltu â'r gwasanaethau brys.
Ateb: Ydy, ond mae yna bryderon diogelwch yn y tymor byr.
Gweithredu: Argymell bod y myfyriwr yn cysylltu â'i feddyg teulu neu ffonio opsiwn 2 GIG 111. Rhowch wybod i'r Adran Lesiant am eich pryderon gan y gallant gynnig cefnogaeth a/neu sefydlu a yw'r myfyriwr yn ymgysylltu â gwasanaethau cymorth eraill. Yn dibynnu ar y materion a gyflwynir, gall gwasanaethau cymorth allanol fod yn briodol, e.e. Samariaid. Hefyd, dylid annog a chefnogi'r myfyriwr i gael mynediad at gymorth Llesiant gan y Gwasanaeth Llesiant ac Anabledd, os nad yw'n ymgysylltu â'r gwasanaeth ar hyn o bryd, er y gall y tîm Llesiant sefydlu hyn hefyd.
Ateb: Ydy, nid oes unrhyw bryderon diogelwch tymor byr
Gweithredu: Dylid annog y myfyriwr i gwblhau Ffurflen Gais am Gymorth y Gwasanaeth Llesiant. Yn dibynnu ar y materion a gyflwynir, gall gwasanaethau cymorth eraill yn y Brifysgol neu rai allanol fod yn briodol, e.e. Canolfan Cyngor a Chymorth Undeb y Myfyrwyr, gwasanaethau cymorth CampusLife, MIND, Samariaid ac ati.
4.1 Siart Lif Myfyrwyr mewn Argyfwng
5. Cymorth Staff
Anogir staff i drafod achosion anodd yn ymwneud â myfyrwyr gyda'u rheolwyr llinell neu geisio cymorth a chyngor gan gydweithwyr perthnasol yn Bywyd Myfyriwr. Gall staff sydd angen rhagor o gymorth eu hunain gael gafael ar wybodaeth o'r tudalennau gwe Iechyd a Lles Staff sydd ar gael yma - Iechyd a Lles - Prifysgol Abertawe.