Tiwtora Personol

Fel myfyriwr israddedig neu ôl-raddedig a addysgir, neilltuir tiwtor personol i chi.  Dyma aelod o staff addysgu yn eich Cyfadran neu'ch Ysgol sy'n gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Abertawe.

Dylech gael cyfarfod unigol gyda'ch Tiwtor Personol o leiaf unwaith bob Semester.  Efallai y cewch eich gwahodd i gyfarfodydd grŵp neu weithiau â'ch Tiwtor Personol hefyd.

Bydd eich Tiwtor Personol yn eich tywys ac yn eich cefnogi drwy'ch datblygiad academaidd, proffesiynol a phersonol.  Gallant eich helpu drwy:

  • Arweiniad a chefnogaeth gyda datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol
  • Cyrchu cymorth academaidd a phersonol, e.e. problemau lles
  • Ateb cwestiynau eraill sydd gennych neu argymell ble sydd orau i gael cyngor
  • Adolygu'ch cynnydd academaid
  • Deall y system arholiadau ac asesu
  • Geirdaon academaidd ar gyfer lleoliadau/ceisiadau swydd

Mae gan Tiwtor 'oriau swyddfa' hefyd, er mwyn i chi allu eu gweld.  Gallwch hefyd e-bostio eich tiwtor os oes rhywbeth yr hoffech eich ei drafod a/neu drefnu cyfarfod.

Cewch ragor o wybodaeth yn y rhan Cwestiynau Cyffredin