CYFLWYNIAD A GWEITHDREFN

1.1

Gellid gorfodi myfyriwr i fynd at asesiad meddygol, gohirio ei astudiaethau neu dynnu'n ôl o'r Brifysgol os yw’r Brifysgol yn barnu, am resymau’n ymwneud ag iechyd, nad yw’n briodol i fyfyriwr barhau i astudio, p’un a yw hynny’n ymwneud â dyletswydd gofal y Brifysgol tuag at eraill neu’n ymwneud â lles y myfyriwr dan sylw. Nodir y weithdrefn y dylid ei dilyn yn y fath amgylchiadau isod:

1.2

Cynghorir unrhyw aelod o staff sydd â phryderon difrifol nad yw’n briodol i fyfyriwr barhau â’i astudiaethau, p’un a yw hynny’n ymwneud â dyletswydd gofal y Brifysgol tuag at eraill neu os tybir nad yw er lles y myfyriwr dan sylw, i gysylltu â'r Pennaeth Cyngor a Chymorth Lles, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol Myfyrwyr
neu (os yw’r pryder yn ymwneud ag anabledd corfforol myfyriwr) â Rheolwr y Swyddfa Anableddau, i drafod y pryderon - yn y lle cyntaf heb ddatgelu enw’r myfyriwr/manylion personol (er mwyn diogelu hawl y myfyriwr i gyfrinachedd). Cyfeirir staff at y ‘Gweithdrefnau i Gynorthwyo Myfyrwyr ag Anawsterau Iechyd Meddwl’ a amlinellir ym Mholisi Iechyd Meddwl y Brifysgol.

1.3

Pan fo'r Pennaeth Cyngor a Chymorth Lles, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol Myfyrwyr
neu Reolwr y Swyddfa Anableddau yn tybio bod y pryderon ynghylch iechyd y myfyriwr o’r fath natur fel ei bod yn ymddangos y byddai parhau â’i astudiaethau yn peri risg neu niwed i’r myfyriwr ei hun neu i eraill, bydd yn sefydlu Panel amlddisgyblaethol a fydd yn cynnwys staff o Wasanaethau Lles a/neu'r Swyddfa Anableddau, y Gwasanaethau Academaidd a Chyfadran y Myfyriwr. Cadeirydd y Panel fydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr neu'r Pennaeth 
Cyngor a Chymorth Lles, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol Myfyrwyr (neu enwebai).

1.4

Lle tybir bod hynny'n briodol, gwahoddir un neu fwy o unigolion eraill i gyfarfod y Pwyllgor er mwyn darparu gwybodaeth i Banel y Pwyllgor. Fel arfer, gofynnir i'r fath unigolion adael y cyfarfod cyn i'r Panel benderfynu pa gamau pellach (os oes angen rhai) sy'n briodol [yn unol ag Adran 1.6 isod], oni fydd y Cadeirydd yn tybio ei bod yn berthnasol iddynt aros. Hefyd, caiff Cadeirydd y Panel ofyn i unrhyw unigolyn ddarparu manylion ysgrifenedig ar gyfer Panel y Pwyllgor yn nodi ei bryderon.

1.5

Bydd trafodaethau'r cyfarfod, ac unrhyw wybodaeth ysgrifenedig a gyflwynir i'r Panel, yn gyfrinachol ac fel arfer, ni chânt eu datgelu i unrhyw unigolyn y tu allan i'r Panel (ac eithrio yn unol ag Adrannau 1.6(ix) neu (1.8) isod). I sicrhau bod y Panel yn ymwybodol o'r holl bryderon a'r ffeithiau perthnasol, ymlacir polisi cyfrinachedd Gwasanaethau Myfyrwyr er mwyn caniatáu llunio asesiad risg.

1.6

Ar sail canlyniadau arolwg y Pwyllgor o’r achos ac yng ngoleuni asesiadau ac argymhellion gwybodus gan staff proffesiynol perthnasol, gall y Pwyllgor:

i. benderfynu nad oes angen gweithredu ymhellach;

ii. trefnu cyfarfod arall o'r Pwyllgor i adolygu'r achos eto yn y dyfodol;

iii. mynnu bod y myfyriwr yn cwrdd â Gwasanaethau Lles a/neu Swyddfa Anableddau'r Brifysgol i drafod ei anghenion o ran cymorth;

iv. mynnu bod y myfyriwr yn cysylltu (naill ai'n uniongyrchol neu gyda chymorth Gwasanaethau Lles neu'r Swyddfa Anableddau fel bo'n addas) ag ymarferwr cymwys addas (manylion i'w penderfynu gan y Panel), o fewn amser a osodir, i drefnu apwyntiad ar gyfer asesiad, a bod y myfyriwr yn cadw'r fath apwyntiad;

v. mynnu bod y myfyriwr yn darparu, erbyn dyddiad a osodir, llythyr/adroddiad oddi wrth yr ymarferwr cymwys addas y mynnwyd i'r myfyriwr drefnu apwyntiad am asesiad ag ef. Bydd y Panel yn nodi pa wybodaeth y dylai'r fath lythyr/adroddiad ei chynnwys;

vi. mynnu bod y myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau os bydd y Pwyllgor o'r farn bod parhau i astudio yn peri perygl go iawn i’r myfyriwr ei hun neu i eraill. Yn y fath amgylchiadau, bydd y Panel yn pennu’r amodau y mae’n rhaid eu bodloni cyn caniatáu i’r myfyriwr ailddechrau ei astudiaethau, megis (ond heb fod yn gyfyngedig i) derbyn cadarnhad ysgrifenedig gan yr Adran Iechyd Galwedigaethol a/neu ymarferwr cymwys arall bod y myfyriwr yn barod i ailddechrau ei astudiaethau a/neu ganlyniad boddhaol yn dilyn asesiad risg;

vii. argymell i Gadeirydd (neu Ddirprwy Gadeirydd) y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd perthnasol bod y myfyriwr yn cael ei dynnu'n ôl o'r Brifysgol, lle mae'r Panel yn tybio:

  • bod dychwelyd i astudio yn y dyfodol gweladwy yn debygol o gael effaith niweidiol ar iechyd y myfyriwr neu ar bobl eraill; a
  • naill ai bod pob opsiwn am gymorth wedi methu neu fod y fath gymorth sydd ar gael yn annhebygol o ddiogelu'r myfyriwr rhag yr effaith niweidiol tebygol ar iechyd y myfyriwr na'r risg o niwed.

Bydd y Cadeirydd (neu Ddirprwy Gadeirydd) yn penderfynu a gaiff y myfyriwr ei dynnu'n ôl o'r Brifysgol. Hysbysir y myfyriwr, yn ysgrifenedig, am benderfyniad y Cadeirydd (neu Ddirprwy Gadeirydd) yn unol ag Adran 1.9 isod.

viii. penderfynu, yn ei ddoethineb, ar unrhyw ganlyniad arall y mae'n tybio ei fod yn addas o ystyried amgylchiadau'r achos;

ix. penderfynu datgelu canlyniad cyfarfod y Panel, unrhyw ddogfen a ystyriwyd gan, neu sy'n ymwneud ag, y Panel a/neu fanylion unrhyw bryderon penodol i'r fath unigolion ag y bydd y Panel yn tybio sy'n addas;

x. penderfynu dilyn unrhyw gyfuniad o'r penderfyniadau uchod.

1.7

Pan fydd y Panel yn penderfynu unrhyw ganlyniad o dan Adrannau 1.6 (iii-viii) uchod, hysbysir y myfyriwr yn ysgrifenedig yn dilyn cyfarfod y Panel, gan nodi'r rhesymau dros benderfyniad y Panel. Fel arfer, ni hysbysir y myfyriwr am y trafodaethau yn y cyfarfod. Eglurir i’r myfyriwr bod y weithdrefn hon ar wahân i Weithdrefnau Disgyblu’r Brifysgol.

1.8

Yn sgil cyfeirio'r myfyriwr at ymarferwr cymwys addas i'w asesu [yn unol ag Adran 1.6(iv) uchod], bydd y Panel, fel arfer, yn darparu'r ymarferwr â chopïau o:

  • y gweithdrefnau hyn; a/neu
  • y llythyr neu'r llythyrau a anfonwyd at y myfyriwr yn cadarnhau canlyniad cyfarfod neu gyfarfodydd y Panel; a/neu
  • gofnod/crynodeb cyfarfod neu gyfarfodydd y Panel; a/neu
  • unrhyw ddogfennau neu ohebiaeth ychwanegol y bydd y Panel yn tybio eu bod yn addas i'w darparu i'r ymarferwr.

1.9

Pan fo’n ofynnol i’r myfyriwr ohirio neu dynnu'n ôl [yn unol ag Adrannau 1.6(vi) neu 1.6(vii) uchod], anfonir llythyr at y myfyriwr yn rhoi gwybod iddo am y gohiriad a’r rhesymau dros fynnu ei fod yn gohirio neu'n tynnu'n ôl. Eglurir i’r myfyriwr bod y weithdrefn hon ar wahân i Weithdrefnau Disgyblu’r Brifysgol. Rhoddir cyfle i'r myfyriwr ofyn i'r Panel ailystyried y penderfyniad hwn drwy gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r Panel o fewn 14 diwrnod gwaith o ddyddiad penderfyniad y Panel.

1.10

Adolygir y gohiriad/tynnu'n ôl gan y Panel yn sgil: derbyn derbynneb o gynrychiolaeth gan y myfyriwr [a wnaethpwyd yn unol â Pharagraff 1.9 uchod]; a/neu unrhyw ddatblygiadau newydd, cyn y cyfnod nesaf ar gyfer dychwelyd at astudio, fel arfer ar ddechrau’r sesiwn academaidd nesaf. Efallai y bydd y Pwyllgor yn cymryd cyngor gan Gadeirydd (neu Ddirprwy Gadeirydd) y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd cyn gwneud penderfyniad. Bydd y myfyriwr yn cael gwybod am benderfyniad terfynol y Panel yn dilyn ailystyried ac am ei hawl i ofyn am Adolygiad Terfynol yn unol â Gweithdrefnau Adolygiad Terfynol y Brifysgol (gweler Adran 2 isod).

 1.11

Bydd ailddechrau astudiaethau'r myfyriwr yn dilyn gohiriad gofynnol yn destun cymeradwyaeth o flaen llaw gan y Pwyllgor ac yn amodol ar fodlonrwydd y Pwyllgor bod yr holl amodau a roddwyd er mwyn caniatáu i'r myfyriwr ailgychwyn ei astudiaethau wedi'u bodloni.

2.0   Adolygiad Terfynol

2.1

Caiff myfyriwr nad yw'n fodlon ar benderfyniad y Panel bod yn rhaid iddo ohirio ei astudiaethau neu dynnu'n ôl [yn unol â pharagraff 1.6 (vi) neu (vii)] ofyn am Adolygiad Terfynol o'r penderfyniad. Rhaid iddo gyflwyno'r fath gais o fewn 14 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad y llythyr yn cadarnhau penderfyniad y Panel ar ôl ailystyried yr achos [o dan 1.10], yn unol â Gweithdrefnau Adolygiad Terfynol y Brifysgol.

2.2

Am wybodaeth ynghylch sut i gyflwyno cais am Adolygiad Terfynol a'r seiliau cymwys ar gyfer adolygiadau gweler y Gweithdrefnau Adolygiadau Terfynol.

Gweithdrefn Cymorth i Astudio Prifysgol Abertawe

ATODIADAU