Mae Togetherall yn wasanaeth iechyd meddwl digidol sydd ar gael yn togetherall.com. Gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost y Brifysgol, gallwch chi gael mynediad at gymorth dienw 24/7 ac mae clinigwyr hyfforddedig ar-lein bob amser, yn ogystal ag ystod o adnoddau defnyddiol. Mae’n rhywle diogel i arllwys eich cwd, i gael sgyrsiau, i fynegi eich hun yn greadigol, ac i ddysgu sut i reoli eich iechyd meddwl.

Trwy gofrestru ar gyfer cyfrif Togetherall cewch fynediad at adnoddau defnyddiol a gallwch chi weithio trwy gyrsiau hunan-gymorth pwrpasol sy’n cynnwys pynciau megis gorbryder, straen, cwsg, rheoli pwysau, iselder, a llawer mwy ar eich cyflymder eich hun.

Sut mae cofrestru?

Gallwch chi gofrestru drwy ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost y Brifysgol: hwn fydd eich cyfeiriad mewngofnodi bob tro y byddwch chi’n dymuno defnyddio Togetherall.

  1. Ewch i wefan Togetherall
  2. Cofrestrwch gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost Prifysgol Abertawe
  3. Dewiswch enw defnyddiwr anhysbys
  4. Defnyddiwch y cymorth sydd ei angen arnoch.

Beth yw Togetherall?