Rydyn ni'n cyflwyno'r wyddor Dyfodiaid, felly p'un a wyt ti'n fyfyriwr newydd neu'n fyfyriwr sy'n dychwelyd, rydyn ni wedi rhoi'r canllaw defnyddiol hwn at ei gilydd i dy helpu i ymgartrefu ym Mhrifysgol Abertawe.
A-Y o Gyrraedd

Abertawe
Mae A yn golygu Abertawe ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at dy groesawu di yma!
Rydyn ni'n cyflwyno'r wyddor Dyfodiaid, felly p'un a wyt ti'n fyfyriwr newydd neu'n fyfyriwr sy'n dychwelyd, rydyn ni wedi rhoi'r canllaw defnyddiol hwn at ei gilydd i dy helpu i ymgartrefu ym Mhrifysgol Abertawe
Bwyd
Bwyd, byrbrydau, nwyddau groser, lluniaeth ... mae digon o fannau bwyta ar y campws!
Gelli di hyd yn oed lawrlwytho ap Uni Food Hub o siopau apiau Apple neu Android er mwyn gweld ein bwydlenni ar-lein ac archebu!
Cadwa dy lygad ar ein tudalennau gwe i gael yr oriau agor a'r cynigion diweddaraf yn ein mannau arlwyo.
Cliciwch ar y linc isod i ddarganfod mwy:
Campws
Chwaraeon
Dweud eich dweud
Leisia dy farn! Yma yn Abertawe mae llais y myfyrwyr yn bwysig i ni.
Oeddet ti'n gwybod bod Cynrychiolydd Pwnc Academaidd ar gyfer pob cwrs? Mae'r Cynrychiolydd yn gwrando ar fyfyrwyr, yn coladu adborth ac yn helpu i wella profiad y myfyrwyr.
Ddaear
Mae Dd yn golygu'r Ddaear! Wyddet ti fod Prifysgol Abertawe yn un o'r 10 brifysgol orau yng nghynghrair werdd People and Planet?
Mae cymryd rhan gyda'n Tîm Cynaliadwyedd yn ffordd wych o gwrdd â ffrindiau newydd, meithrin sgiliau gwerthfawr a chael profiad, wrth wneud dy ran dros yr amgylchedd! Dysga am ein Tîm Cynaladwyedd a sut gelli di gefnogi ei ymdrechion yma.
Enrôl
Freshers
Ffioedd / cyllid
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli'n ffordd wych o gwrdd â ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd a gofalu am eich iechyd meddwl wrth wneud gwahaniaeth go iawn i'r gymuned leol!
Mae cynifer o weithgareddau difyr y gallwch gymryd rhan ynddynt yn Abertawe, a'r elusen wirfoddoli i fyfyrwyr ar y safle, Discovery, yw'r lle perffaith i ddechrau.
Hefyd mae llu o ffyrdd y gallwch gymryd rhan yng ngwaith ein tîm Cynaliadwyedd. Edrychwch ar eu tudalennau gwe i ganfod sut y gallwch ennill gwobrau drwy gofrestru eich gweithrediadau cynaliadwy trwy ap SWell.
Fy Nghymraeg
Sut y alla i ddefnyddio fy Nghymraeg?”
Hapusrwydd
Iechyd
Lan ar lawr y môr!
Efallai ein bod ychydig yn rhagfarnllyd ond credwn fod Abertawe'n gartref i’r traethau GORAU.
Mae ein prif ddewisiadau'n cynnwys Langland, Bae'r Tri Chlogwyn a Rhosili, ond peidiwch ag anghofio am Fae Abertawe sydd ar ein stepen drws!
Yn bendant dylech chi eu hychwanegu at eich rhestr o bethau i'w gwneud!
Llety
Rydym yn gobeithio eich bod chi'n gyffrous am symud i mewn i'ch llety yn Abertawe.
Pan fyddwch chi'n cyrraedd, cewch eich cyfeirio at y pwyntiau casglu allweddi . I gasglu eich allweddi ar gyfer eich llety, bydd angen Cerdyn Cyrraedd arnoch. (Gallwch ddangos hyn ar eich ffôn) neu bydd copi o'ch Contract Tenantiaeth hefyd yn dderbyniol.
I helpu i wneud y broses mor llyfn â phosib, rydym ni wedi casglu gwybodaeth ynghyd i'ch helpu chi i symud i mewn.
MyUnihub
Nhw drws nesa
Ôl-raddedig
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig astudiaeth ôl-raddedig arobryn.
O raddau meistr i astudiaethau PhD, rydym yn cynnig rhaglenni ôl-radd mewn amrywiaeth eang o bynciau.
Beth bynnag fyddwch chi'n penderfynu ei wneud ar ôl eich gradd, rydyn ni wedi eich gorchuddio!
Pwnc
Dinas a Phrifysgol.
Er bod Abertawe’n ddinas fach, mae ganddi bersonoliaeth FAWR! Mae’n cynnig egni cerddorol, brwdfrydedd dros gelf a diwylliant, a llu o gyfleoedd i archwilio’r arfordir.
Wrth i chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn sylweddoli’n fuan fod y ddinas hon yn cynnig popeth!
Recriwtio
R is for recriwitio ....
Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe yma i’ch cefnogi i ddatblygu’r sgiliau a’r priodweddau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt!
Paratowch am eich swydd ddelfrydol gyda chymorth ynghylch y broses recriwtio (CV, ceisiadau, cyfweliadau, Cwrs Datblygu Gyrfa), ennill profiad gwaith (lleoliadau, interniaethau a swyddi rhan-amser), digwyddiadau a bwrsariaethau sydd ar gael.
Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael, ewch i'n tudalen we: myuni.swansea.ac.uk/cy/gyrfaoedd/
Rhestr Digwyddiadau
Swyddogion
Fel myfyriwr, cewch eich cynrychioli gan y 6 Swyddog Llawn Amser etholedig a'r 12 Swyddog Rhan amser sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r Brifysgol i wneud yn siŵr bod gennych chi'r profiad gorau posibl i fyfyrwyr!
Teithio
Mae teithio i ac o'r campws mor gyfleus! Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn eich annog i gerdded neu seiclo i'r campws oherwydd mae'n wych i'ch iechyd a'ch lles, ac i'r amgylchedd hefyd.
I'r rhai hynny a allai fod yn anodd, rydym yn hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus fel opsiwn teithio cynaliadwy a fforddiadwy.
Theatr
Undeb MyfUndeb Myfyrwyr yrwyr
Wi-fi
Mae Wifi, e-bost a phopeth digidol yn rhan enfawr o’ch dysgu ym Mhrifysgol Abertawe.
I gael cyngor ar sut i ddechrau, mae gwybodaeth ar gael ar ein tudalennau gwe TG.