Sgiliau Trosglwyddadwy ar gyfer eich CV
Sgiliau trosglwyddadwy yw’r sgiliau rydym yn eu defnyddio ym mywyd gwaith bob dydd. Gellir cyfeirio at y sgiliau hyn weithiau fel ‘sgiliau meddalach,’ a bydd hefyd angen sgiliau penodol/technegol arnoch ar gyfer galwedigaethau. Ceir enghreifftiau o wahanol fathau o sgiliau trosglwyddadwy isod. Ceisiwch gynnwys y rhain mewn CVau a cheisiadau am swyddi, ond peidiwch â theimlo bod angen i chi eu cynnwys nhw i gyd – byddai rhai yn ddefnyddiol.
Sgìl | Diffiniad |
---|---|
Gwneud penderfyniadau | Nodi opsiynau, eu gwerthuso, ac wedyn dewis y camau gweithredu mwyaf priodol |
Datrys problemau | Nodi a defnyddio’r dull neu’r dechneg fwyaf priodol er mwyn dod i ddatrysiad |
Cynllunio | Darganfod sut i drefnu’r adnoddau a’r gweithgareddau sydd ar gael er mwyn bodloni amcan neu ddyddiad cau |
Cyfathrebu ar lafar | Defnyddio iaith lafar i fynegi syniadau a rhoi gwybodaeth neu esboniadau mewn modd effeithiol |
Cyfathrebu ysgrifenedig | Creu testunau diddorol, hawdd eu deall, sy’n ramadegol gywir ac wedi’u mynegi yn dda mewn fformat addas |
Trafod telerau | Cynnal trafodaethau gyda phobl er mwyn cyrraedd cytundeb ar y cyd a sicrhau bod y ddwy ochr yn fodlon |
Addasu | Newid neu addasu eich ymddygiad mewn ymateb i anghenion, dymuniadau neu ofynion eraill |
Arwain | Bod yn gallu arwain a chymell, gosod cyfeiriad, ac ennill ymrwymiad eraill |
Ymwybyddiaeth o fusnes | Diddordeb mewn gwybodaeth am yr amgylchedd masnachol |
Gwneud gwaith ymchwil i wybodaeth | Dod o hyd i wybodaeth briodol am fater gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau |
Hyblygrwydd | Bod yn gallu newid cynlluniau ac ymateb i wybodaeth newydd a/ neu sefyllfaoedd |
Llythrennedd TG | Deall a gallu defnyddio ystod o feddalwedd swyddfa megis taenlenni prosesu geiriau a chronfeydd data |
Rheoli amser | Gallu rheoli tasgau personol yn effeithiol a chyrraedd dyddiadau cau |
Rhifedd | Gallu deall a gweithio gyda ffigurau |
Gweithio fel rhan o dîm | Gallu gweithio’n effeithiol gydag eraill er mwyn bodloni amcanion |
Y gallu i flaenoriaethu | Bod yn gallu penderfynu ar flaenoriaethau er mwyn cyflawni targedau |