Mae paratoi yn rhywbeth allweddol ar gyfer cyfweliad
Y ffordd orau o leihau’r nerfau yw paratoi a sicrhau eich bod yn perfformio’n dda ar y diwrnod.
Dyma agweddau allweddol o’r gwaith paratoi:
- Yr hyn y mae’r cyflogwr yn chwilio amdano: deall yr hyn y mae’r cyflogwr yn chwilio amdano a sut rydych yn bodloni’r meini prawf penodol. Ewch yn ôl i’r tri chwestiwn cychwynnol hynny (Allwch chi wneud y swydd? Fyddwch chi’n gwneud y swydd? Fyddwch chi’n addas?). Meddyliwch am y sgiliau a’r profiadau sydd gennych, a sut y maen nhw’n addas ar gyfer y swydd rydych yn gwneud cais amdani.
- Ymwybyddiaeth fasnachol: beth yw natur eu busnes? Bydd deall y diwylliant, y cwsmeriaid, y farchnad a’r sawl sy’n cystadlu yn eu herbyn yn eich rhoi chi ar y blaen.
- Gwybod manylion am eich cyfweliad: yr hyn a ddisgwylir – cyflwyniad, prawf neu gyfweliad, amser, lleoliad, teithio, manylion cyswllt rhag ofn y bydd problem. Fel y dywed yr hen ddihareb, mae methu â pharatoi yn paratoi i fethu.