Blwyddyn 1 - Er y gallwch ymchwilio i'r posibilrwydd o drosglwyddo i'r rhaglen MEng yn ystod Blwyddyn 1, ni fyddwch yn gallu gwneud cais i drosglwyddo tan Flwyddyn 2.
Blwyddyn 2 - Mae'n bwysig eich bod yn mynegi diddordeb mewn trosglwyddo i'r rhaglen MEng cyn gynted â phosib i sicrhau bod modd bodloni gofynion ffurfiol eich fisa cyn i chi gofrestru ar Flwyddyn 3.
- Gallwch fynegi eich diddordeb drwy anfon Ffurflen Cais i Drosglwyddo o a Holiadur a Datganiad Personol am Astudio Blaenorol i studentsupport-scienceengineering@swansea.ac.uk.
- Byddwn yn cadw eich cais i drosglwyddo nes bod canlyniadau Blwyddyn 2 yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf neu fis Medi (os bydd rhaid i chi ailsefyll arholiadau ym mis Awst).
- Os ydych yn bodloni'r maen prawf o ran marc cyfartalog o 55% neu'n uwch, caiff eich cais i drosglwyddo ei brosesu ar ddiwrnod cyhoeddi'r canlyniadau neu'n fuan wedi hynny.
- Yna bydd rhaid i chi wneud cais am CAS a fisa newydd cyn dechrau eich astudiaethau Blwyddyn 3. I sicrhau nad yw'r broses yn cael ei hoedi, darllenwch y daflen wybodaeth a luniwyd i chi gan ein tîm MyfyrwyrRhyngwladol@BywydCampws yn ofalus.
PWYSIG - Os ydych ar y rhaglen BEng o hyd erbyn 21 Medi 2020 ac rydych yn gwneud cais am fisa o'r tu allan i'r DU, ni fydd modd i chi drosglwyddo i'r MEng yn ddiweddarach.
Blwyddyn 3 - Yn anffodus, nid yw rheoliadau'r Swyddfa Gartref yn caniatáu i fyfyrwyr â Fisa Haen 4 ym Mlwyddyn 3 drosglwyddo i'r rhaglen MEng
Nawdd
Os ydych yn fyfyriwr sy'n cael eich noddi, sylwer y bydd y Brifysgol yn cysylltu â'ch noddwr er mwyn gofyn am ei gymeradwyaeth cyn y gellir prosesu'r cais i drosglwyddo.
Ffïoedd Dysgu
Byddem hefyd yn eich cynghori i wirio beth fydd eich ffioedd dysgu am flwyddyn astudio ychwanegol drwy gysylltu â'n Tîm Cyllid Myfyrwyr drwy e-bost: studentfinance@abertawe.ac.uk.