Yn dilyn eich Penderfyniad Diwedd Lefel, efallai y bydd y Bwrdd Arholi yn cynnig cyfle i chi gofrestru fel Myfyriwr Allanol. Mae hyn yn golygu bod gennych hawl i ailsefyll eich asesiadau yn unig, yn ystod y cyfnod asesu nesaf sydd ar gael. Mae'r asesiad fel arfer yn seiliedig ar y dull ailsefyll ar gyfer eich modiwl, ond bydd natur yr elfen asesu yn cael ei chadarnhau i chi ar ôl cofrestru. Bydd eich canlyniad hefyd yn nodi a fydd eich marciau wedi'u capio ar y marc pasio neu a fyddant heb eu capio.

Beth mae bod yn fyfyriwr allanol yn ei olygu?

Bydd myfyrwyr sy'n cofrestru fel ymgeisydd allanol yn sefyll yr asesiadau a amlinellir iddynt. Ni chânt ymuno ag unrhyw addysgu, mynd i'r campws na chael mynediad at gyfleusterau’r campws. Mae gan fyfyrwyr sy'n ailsefyll eu modiwl traethawd hir hawl i gael un cyfarfod wyneb yn wyneb â'u goruchwyliwr.

PA GYMORTH SYDD AR GAEL I MI?

Ffurflen Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr 

Ar ôl i chi gofrestru, bydd unrhyw ddarpariaethau y cytunwyd arnynt gynt yn cael eu trosglwyddo ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Cadwch lygad ar eich cyfrif e-bost myfyriwr cyn pob cyfnod asesu. Efallai bydd y Swyddfa Arholiadau yn cysylltu â chi drwy e-bost i gadarnhau eich darpariaethau ar gyfer arholiadau ar y safle. 

A fyddaf yn cael mynediad at Canvas?

Fel y gwyddoch, ni chaiff ymgeiswyr allanol ddod i'r campws ar gyfer addysgu neu i ddefnyddio cyfleusterau'r campws. Felly, bydd gofyn i chi gwblhau hunan-astudio yn seiliedig ar y deunyddiau addysgu o'r flwyddyn academaidd flaenorol. Dylech gael mynediad at fodiwlau Canvas rydych chi'n eu hail-wneud. Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw anawsterau wrth ddefnyddio'r modiwlau hyn.

Cymorth gyda Chyllid

Ceir ffynonellau ariannu amgen, gan gynnwys elusennau, sefydliadau ac ymddiriedolaethau. Dilynwch y ddolen am ragor o wybodaeth.

Gwasanaethau Cymorth y Brifysgol 

Nid oes gan fyfyrwyr allanol hawl i'r cymorth y gall timau unigol y Brifysgol ei gynnig. Fodd bynnag, byddem yn dal i annog myfyrwyr i gysylltu â'r Timau Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr gan fod nifer o asiantaethau ac elusennau cymorth allanol ar gael.