Amserlenni arholiadau mis Mai/Mehefin 2023
Cynhelir asesiadau terfynol Semester 2 rhwng 15 Mai a 9 Mehefin 2023.
Bydd amserlenni asesu yn cael eu rhyddhau ar ôl gwyliau'r Pasg, ond cofiwch drefnu i fod ar gael yn ystod y cyfnod cyfan gan na fyddwn yn gallu symud dyddiadau asesu ar gyfer myfyrwyr unigol.
- Sicrhewch eich bod yn gwirio'ch amserlen arholiadau yn ofalus, ac yn ogystal â gwirio'r dyddiadau asesu, amseroedd rhyddhau a dyddiadau cau, byddwch yn siŵr o wirio'r lleoliad ac a gaiff yr asesiad ei gynnal ar-lein neu ar y safle/wyneb yn wyneb.
- Efallai caiff rhai asesiadau gwaith cwrs eu rhyddhau i fyfyrwyr yn gynnar, ac efallai y bydd ganddyn nhw ddyddiadau cau a fydd yn disgyn y tu allan i'r prif gyfnod asesu. Cysylltwch â chydlynydd eich modiwl os oes gennych gwestiynau am waith cwrs.
Os oes gennych gwestiynau ynghylch amserlen yr arholiadau neu os oes angen cymorth arnoch yn ystod yr arholiadau, cysylltwch â Thîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr y Gyfadran er mwyn inni helpu.