Amserlenni arholiadau mis Mai/Mehefin 2023

Cynhelir asesiadau terfynol Semester 2 rhwng 15 Mai a 9 Mehefin 2023.

Bydd amserlenni asesu yn cael eu rhyddhau ar ôl gwyliau'r Pasg, ond cofiwch drefnu i fod ar gael yn ystod y cyfnod cyfan gan na fyddwn yn gallu symud dyddiadau asesu ar gyfer myfyrwyr unigol.

  • Sicrhewch eich bod yn gwirio'ch amserlen arholiadau yn ofalus, ac yn ogystal â gwirio'r dyddiadau asesu, amseroedd rhyddhau a dyddiadau cau, byddwch yn siŵr o wirio'r lleoliad ac a gaiff yr asesiad ei gynnal ar-lein neu ar y safle/wyneb yn wyneb.
  • Efallai caiff rhai asesiadau gwaith cwrs eu rhyddhau i fyfyrwyr yn gynnar, ac efallai y bydd ganddyn nhw ddyddiadau cau a fydd yn disgyn y tu allan i'r prif gyfnod asesu. Cysylltwch â chydlynydd eich modiwl os oes gennych gwestiynau am waith cwrs.

Os oes gennych gwestiynau ynghylch amserlen yr arholiadau neu os oes angen cymorth arnoch yn ystod yr arholiadau, cysylltwch â Thîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr y Gyfadran er mwyn inni helpu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gweler y Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Arholiadau Terfynol wedi'u diweddaru (gan gynnwys nodiadau ar Addasiadau Cynhwysol ar gyfer arholiadau, awgrymiadau ar gyfer lanlwytho a chyflwyno ar-lein waith ysgrifenedig â llaw, a mwy).

Gweler y dudalen ynghylch Amgylchiadau Esgusodol ar gyfer Arholiadau Terfynol os oes gennych amgylchiadau sy'n effeithio arnoch yn ystod arholiadau. Mae'r opsiynau'n fwy cyfyngedig ar ôl arholiadau, felly os oes angen cymorth arnoch ceisiwch gysylltu â'r tîm ar unwaith a chyn dyddiad cau'r arholiad os yw'n bosibl.