Mae angen Tystiolaeth Ategol os ydych yn gwneud cais am ddarpariaethau dros dro neu’n cyflwyno Datganiad o Amgylchiadau Esgusodol. Os gofynnir am dystiolaeth ategol, rhaid ei bod wedi’i dyddio o fewn mis i'r asesiad dan sylw neu'r dyddiad cau perthnasol, a rhaid iddi nodi sut mae'r amgylchiadau wedi effeithio ar berfformiad myfyriwr a/neu sut gallent fod wedi effeithio ar allu'r myfyriwr i ymgymryd ag asesiad, ei gwblhau neu ei gyflwyno'n brydlon.
Rhaid cyflwyno'r holl dystiolaeth ategol fel dogfen Word, JPEG neu PDF. Nid yw systemau'r colegau yn gallu darllen dogfennau ategol yn fformat HEIC.
Rhaid i dystiolaeth ategol:
- Gael ei darparu gan drydydd parti a'i chyflwyno gan y myfyriwr chi.
- Esbonio'r amgylchiadau'n glir.
- Cadarnhau'r cyfnod amser yr oedd yr amgylchiadau'n effeithio arno.
- Cael ei dyddio o fewn mis i ddyddiad yr asesiad dan sylw.
- Cael ei chyflwyno i'r Gyfadran cyn gynted â phosib.
- Yn achos dogfennaeth a ysgrifennwyd mewn iaith arall, rhaid darparu cyfieithiad swyddogol.
Mae enghreifftiau o dystiolaeth briodol yn cynnwys y canlynol:
- Llythyr neu dystysgrif gan feddyg.
- Llythyr yn cadarnhau cyfnod yn yr ysbyty a dyddiad rhyddhau o'r ysbyty.
- Tystysgrif marwolaeth/trefn gwasanaeth angladd/llythyr gan gyfarwyddwr angladdau.
- Adroddiad gan yr heddlu – ni fydd rhif cyfeirnod y drosedd ar ei ben ei hun yn ddigonol.
Os na chaiff dogfennaeth ategol ei darparu, bydd y cais yn cael ei wrthod oni bai y gall y myfyriwr ddarparu esboniad boddhaol yn ei gais pam na fu modd iddo ddarparu tystiolaeth o'r fath. Mae'r Brifysgol yn cydnabod y bydd hi'n anodd i rai myfyrwyr gasglu tystiolaeth yn y sefyllfa bresennol, a bydd yn ystyried ceisiadau â chydymdeimlad os darperir esboniad priodol.
Yn achos problemau technegol (h.y. amhariad ar y wifi/cysylltiad, problemau mynediad etc), bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i ategu eich cais. Gall y dystiolaeth gynnwys:
- sgrinluniau o negeseuon gwall sy'n nodi dyddiad/amser.
- hysbysiad o amhariad ar y gwasanaeth â dyddiad.
- diweddariad o dudalen darparwr y rhwydwaith
- cyfathrebu ynghylch yr amhariad, gan gynnwys e-byst neu bostiadau yn y cyfryngau cymdeithasol.
- gohebiaeth â darparwr gwasanaeth neu dîm technegol sy'n manylu ar y broblem, y dyddiad/amser a'r ymgais i ddatrys y broblem.
Yn achos amgylchiadau sy'n ymwneud ag iechyd neu les/iechyd meddwl, gall y dystiolaeth gynnwys:
- Nodyn gan eich meddyg, meddyg teulu neu ganolfan iechyd yn manylu ar yr amgylchiadau a'r dyddiadau pan oeddent yn effeithio arnoch chi.
- Ffurflen wedi’i chwblhau gan dîm Lles neu Anableddau'r Brifysgol yn cadarnhau'r cyflwr neu'r amgylchiadau. Dylech ddarparu copi o'ch ffurflen fel rhan o'ch cais, fel y bydd y cais a'r ddogfennaeth ategol gennym gyda'i gilydd wrth i ni adolygu'r cais. Os nad oes gennych gopi, e-bostiwch studentsupport-scienceengineering@abertawe.ac.uk a gallwn ddarparu un i chi ei ddefnyddio yn y dyfodol.
Yn achos profedigaeth, sylweddolwn fod hwn yn gyfnod gofidus i bawb ac y gall fod yn anodd casglu tystiolaeth. Mae'r mathau o dystiolaeth y gallwn eu hystyried yn cynnwys, ymysg eraill:
- Copi o dystysgrif marwolaeth (os oes un ar gael).
- Copi o drefn gwasanaeth angladd neu hysbysiad o angladd.
- Os oes gennych broblemau lles neu iechyd meddwl o ganlyniad i brofedigaeth, gallwch ddarparu tystiolaeth ynghylch y problemau lles/iechyd meddwl yn hytrach na'r brofedigaeth ei hun (gweler y nodiadau uchod ynghylch dogfennau ategol ar gyfer amgylchiadau iechyd, lles/iechyd meddwl).
- Enghreifftiau yn unig yw'r manylion uchod ac os yw'n anodd i chi gasglu tystiolaeth, siaradwch ag aelod o'r Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr.
Yn achos amgylchiadau cymwys eraill, megis trefniadau domestig neu gyfrifoldebau gofalu, ceisiwch roi cynifer â phosib o fanylion am yr amgylchiadau a darparu cymaint o dystiolaeth ag y gallwch, a bydd y Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr yn cysylltu â chi os oes angen rhagor o dystiolaeth.