Croeso a llongyfarchiadau!
Llongyfarchiadau! Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu i Abertawe ac rydym yn gobeithio eich bod yn edrych ymlaen at ymuno â'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe.
Byddwn yn ychwanegu gwybodaeth newydd yn gyson felly cofiwch wirio'r dudalen we bob wythnos am ddiweddariadau ynghylch amserlenni sefydlu, adnoddau, cysylltiadau a phopeth y mae ei angen arnoch i ddechrau eich astudiaethau.
Camau i'w cymryd!
- Dilynwch ni ar Instagram! Dilynwch ni yn @scienceengineering_community i weld sut rydym yn paratoi i'ch croesawu!
- Cofrestrwch: Bydd Cofrestru ar-lein yn agor ar 9 Medi 2024. Sylwer bod hwn yn gam pwysig ac ni chewch ymuno â sesiynau addysgu neu gyrchu cynnwys modiwlau tan y byddwch chi wedi cofrestru.
- Cyrchwch Canvas: Dewch o hyd i HYB Cymunedol y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ar eich Dangosfwrdd Canvas a chymryd rhan yn y gweithgareddau cyn-cyrraedd.
- Trefnwch eich amser cyrraedd: Cynhelir sesiynau sefydlu yn ystod yr Wythnos Groeso (23 – 27 Medi 2024).
- Ewch i'r canlynol: Cymerwch ran yn yr holl weithgareddau Croeso a Sefydlu ac ewch i Ffair yr Holl Gyfadrannau ddydd Mercher 25 Medi yn Adeilad Taliesin ar Gampws Singleton neu ddydd Iau 26 Medi yn Adeilad Gogleddol Peirianneg ar Gampws y Bae i gwrdd â thimau allweddol, cael nwyddau am ddim a chymryd rhan mewn cystadlaethau i ennill gwobrau.
- Gwiriwch: Gwiriwch dudalen Digwyddiadau (swansea-union.co.uk) am bethau i'w gwneud!