Rheoliadau Rhaglen MBBCh
RHEOLIADAU A GWEITHDREFNAU ACADEMAIDD AR GYFER MYNEDIAD I RADDEDIGION I’R RADD MBBCH
1. Cyflwyniad
1.1
O dan y rheoliadau hyn, gall ymgeiswyr sy'n cwblhau'r rhaglen astudio'n llwyddiannus fod yn gymwys ar gyfer dyfarnu Baglor Meddygaeth, Baglor Llawfeddygaeth (MBBCh) y Brifysgol.
1.2
Caiff y radd ei gwobrwyo i ymgeiswyr sy’n bodloni’r gofynion fel yr amlinellir yn nogfen y Cyngor Meddygol Cyffredinol, Hyrwyddo Rhagoriaeth: safonau ar gyfer addysg a hyfforddiant meddygol a’r ddogfen Deilliannau i Raddedigion, rheoliadau asesu’r brifysgol, ac sydd wedi dangos:
- Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu fewnwelediadau newydd, sydd i raddau helaeth ar flaen y gad yn y ddisgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes arfer proffesiynol dan sylw neu'n cael eu goleuo gan waith ar flaen y gad;
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o'r technegau sy'n berthnasol i'w ymchwil ei hun neu i ysgolheictod uwch;
- Gwreiddioldeb wrth gymhwyso gwybodaeth ynghyd â dealltwriaeth ymarferol o sut y defnyddir technegau ymchwil ac ymholi i greu a dehongli gwybodaeth o fewn y ddisgyblaeth;
- Dealltwriaeth gysyniadol sy'n galluogi'r myfyriwr:
- i werthuso ymchwil cyfredol ac ysgolheictod uwch yn feirniadol o fewn y ddisgyblaeth;
- i werthuso methodolegau a datblygu dehongliadau ohonynt, a lle bo'n briodol, gynnig damcaniaethau newydd.
Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y pethau canlynol:
- Ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol, gwneud penderfyniadau doeth yn absenoldeb data cyflawn, a mynegi casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg;
- Dangos hunangyfeirio a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a'u datrys, a gweithio'n ymreolus i gynllunio a gweithredu tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol;
- Parhau i ddatblygu ei wybodaeth a'i ddealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i lefel uchel.
A bydd gan y deiliaid:
- Y nodweddion a'r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy'n gofyn am:
- ddefnyddio menter a chyfrifoldeb personol;
- gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu rhagweld;
- y gallu i ddysgu’n annibynnol sy’n ofynnol er mwyn sicrhau datblygu proffesiynol parhaus.
1.3
Mae gradd meddygaeth MBBCh yn cynnwys rhaglen integredig o astudio ac ymarfer proffesiynol sy’n berthnasol i lawer o lefelau astudio. Mae canlyniadau terfynol y cymhwyster yn bodloni disgwyliadau Côd Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU (QAA) a disgrifydd y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch ar lefel 7. Fodd bynnag, yn unol ag ymarfer yn y DU, mae’r cymhwyster yn cadw’r teitl gradd Baglor.
1.4
Fel rheol, bydd ymgeisyddiaeth myfyrwyr sydd yn torri Rheoliad 1.3 yn cael ei ddileu yn syth.
1.5
Ni chaiff ymgeiswyr amser llawn sydd wedi’u cofrestru ar radd israddedig gychwynnol gofrestru ar yr un pryd ar radd arall sy’n arwain at ddyfarnu cymhwyster o’r un fath yn y brifysgol hon neu mewn prifysgol/sefydliad arall heb ganiatâd penodol Cadeirydd y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
1.6
Fodd bynnag, caiff ymgeiswyr na all gofrestru'n unol â pharagraff 1.5 eu cyfeirio at y Deon Addysg Feddygol i'w cymeradwyo.
1.7
Fel myfyrwyr cofrestredig, rhaid i ymgeiswyr gydymffurfio â rheoliadau academaidd a chyffredinol y Brifysgol.
1.8
Dyfernir y radd i'r myfyrwyr hynny sy'n diwallu'r anghenion a amlygir yn nogfen y Cyngor Meddygol Cyffredinol, sef Tomorrow's Doctors 2009, ac yn rheoliadau asesu'r Brifysgol.
2. Strwythur y Flwyddyn Academaidd
2.1
Caiff dyddiadau blwyddyn academaidd y MBBCh eu pennu a'u cyhoeddi gan y Gyfadran/Ysgol bob blwyddyn.
2.2
Bydd cyfnod arholi atodol hefyd, a fydd, lle bynnag y bo modd, yn cydredeg â chyfnod arholi atodol y Brifysgol.
3. Amodau Derbyn
3.1
Derbynnir ymgeiswyr i'r rhaglen astudio yn unol â gofynion penodol y rhaglen a rheoliadau cyffredinol y Brifysgol ynghylch Matriciwleiddio. Rhaid i ymgeisydd am ddyfarniad y MBBCh feddu ar un o’r cymwysterau canlynol cyn cychwyn astudio:
- Gradd Baglor gychwynnol gyfwerth â gradd ail ddosbarth uwch neu ddosbarth cyntaf o Brifysgol yn y DU;
- Gradd gychwynnol o Brifysgol Ewropeaidd neu dramor gydnabyddedig, a gymeradwywyd eisoes neu a gymeradwyir wedyn gan UK ENIC.
3.2
Cyn derbyn ymgeisydd i’r rhaglen astudio, rhaid i'r Gyfadran/Ysgol sicrhau y gall yr ymgeisydd gyfathrebu yn effeithiol yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Gosodir profion TOEFL neu IELTS (neu rai cyfatebol) ac y mae modd cael canllawiau o’r Swyddfa Dderbyn o ran y lefel basio sy’n briodol i'r rhaglen astudio a all fod yn angenrheidiol er mwyn caniatáu i ymgeisydd fwrw ymlaen gyda’i astudiaethau.
3.3
Hefyd, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr fodloni gofynion isaf y Cyngor Meddygol Cyffredinol, fydd yn cynnwys gwiriad o'r Swyddfa Cofnodion Troseddol a phrawf meddygol. Caiff y Gyfadran/Ysgol ystyried ymhellach, ar sail ad hoc, ymgeiswyr na all fodloni'r gofynion isaf yn unol â'r gweithdrefnau a gyhoeddwyd gan y Gyfadran/Ysgol.
3.4
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ymaelodi â sefydliad amddiffyn meddygol neu â chyrff eraill a bennwyd gan Gyfarwyddwr y Rhaglen.
3.5
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ymgyfarwyddo â chanllawiau ymddygiad a gyhoeddir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol, ac i barchu'r cyfarwyddyd hwnnw.
4. Cofrestru yn y Brifysgol
4.1
Mae’r Brifysgol yn disgwyl i bob ymgeisydd gofrestru fel ei fod yn cael ei gydnabod fel myfyriwr yn y Brifysgol. Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gofrestru yn unol â’r cyfarwyddiadau cofrestru ar gyfer y rhaglen astudio benodol, ac o fewn y cyfnod a bennwyd ar gyfer cofrestru.
4.2
Mae’n rhaid i ymgeiswyr gofrestru o fewn y cyfnod a bennwyd ar gyfer cofrestru:
- Os ydynt yn cofrestru yn y brifysgol am y tro cyntaf;
- Os ydynt yn cofrestru ar raglen astudio benodol am y tro cyntaf;
- Os ydynt yn camu ymlaen at lefel nesaf eu hastudiaethau, blwyddyn nesaf eu hastudiaethau neu, mewn rhai achosion, rhan nesaf eu hastudiaethau, ac yn mynychu’n llawn amser neu’n rhan amser;
- Os yw’r Brifysgol yn disgwyl i ffi gael ei thalu yn unol â rheoliadau’r Brifysgol o ran cyllid a ffioedd myfyrwyr.
4.3
Er mwyn cofrestru yn y Brifysgol, gofynnir i fyfyrwyr, lle bo hynny’n berthnasol, gyflwyno tystiolaeth o’u hawl i astudio yn y Brifysgol yn unol â:
- Gofynion penodol y rhaglen;
- Rheoliadau’r Brifysgol ynghylch matriciwleiddio;
- Y cyfreithiau ynghylch astudio yn y Deyrnas Unedig.
4.4
Bydd methu cofrestru o fewn y cyfnod cofrestru a bennwyd yn golygu y daw cyfnod yr ymgeisyddiaeth i ben ac y caiff yr ymgeisydd ei dynnu’n ôl o’r Brifysgol. Caiff ceisiadau i adfer ymgeisyddiaeth a chaniatâd i gofrestru'n hwyr eu hystyried yn weinyddol ar ran y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
4.5
Bydd y Brifysgol yn hysbysu'r awdurdodau perthnasol, o fewn cyfnod penodol yn unol â deddfau’r Deyrnas Unedig parthed astudio yn y DU, o fyfyrwyr y tynnwyd eu henwau yn ôl am iddynt fethu â chofrestru ar raglen astudio o fewn y cyfnod cofrestru penodol.
4.6
Wrth gofrestru, mae myfyrwyr yn derbyn bod disgwyl iddynt gydymffurfio â chanllawiau'r Gyfadran/Ysgol ar ymddygiad proffesiynol, yn unol â'r hyn a gyhoeddir yn llawlyfr y rhaglen.
4.7
Yn fyfyrwyr cofrestredig, bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ymuno â rhaglen imiwneiddio'r Gyfadran/Ysgol.
5. Categorïau Myfyrwyr a Dulliau Mynychu
5.1
Rhaid i fyfyrwyr fod yn gymwys fel myfyriwr "cartref" (h.y. yn ddinasyddion y DU neu'r UE), a rhaid iddynt fynychu ar sail llawn amser yn unig, gan ddilyn 150 o gredydau'r flwyddyn fel arfer.
6. Strwythur y Rhaglen
6.1
Hyd y rhaglen fydd pedair blynedd. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr astudio 150 o gredydau, neu'r hyn a dderbynnir yn gyfwerth, bob blwyddyn academaidd, a rhaid iddynt ennill 600 o gredydau i gymhwyso ar gyfer y dyfarniad.
6.2
O gydnabod natur arbennig y rhaglen, cyfeirir at lefelau gwahanol yr astudio fel blwyddyn 1, 2, 3, a 4.
7. Modiwlau o fewn y Rhaglen
7.1
Cydran addysgol ar wahân o fewn rhaglen yw modiwl. Bydd modiwlau yn y rhaglen hon yn werth 50 o gredydau'r un.
- Neilltuir i bob modiwl rhif cyfeirio unigryw;
- Caiff lefel astudio ei phennu ar gyfer pob modiwl, sy’n adlewyrchu safon academaidd y modiwl a’i ganlyniadau dysgu;
- Neilltuir i bob modiwl hefyd Gredydau System Ewropeaidd Trosglwyddo Credydau. (Y mae 5 credyd CSETC yn cyfateb fwy neu lai i 10 credyd Prifysgol Abertawe.)
7.2
Dosberthir modiwlau i’r categorïau canlynol: Meddyg fel Ymarferwr, Meddyg fel Person Proffesiynol, a Meddyg fel Ysgolhaig a Gwyddonydd.
8. Modiwlau Craidd
8.1
Tybir bod pob modiwl yn fodiwl craidd. Nid yn unig y mae'n rhaid dilyn y modiwlau craidd ond mae'n rhaid eu pasio hefyd cyn i fyfyriwr fynd ymlaen i’r flwyddyn astudio nesaf neu ennill cymhwyster. Bydd raid i ymgeisydd roi cynnig arall ar fodiwlau craidd y mae wedi methu ynddynt.
9. Modiwlau Gorfodol
9.1
Tybir bod pob modiwl yn fodiwl gorfodol.
10. Modiwlau Ychwanegol
10.1
Ni chaniateir i ymgeiswyr ddilyn modiwlau nad ydynt yn ofynnol yn y rhaglen astudio arbennig yn ychwanegol i’r llwyth credyd amser llawn o 150 credyd.
11. Modd a Phatrwm Mynychu
11.1
Llawn amser yn unig fydd modd mynychu'r rhaglen hon. Disgwylir i ymgeiswyr astudio 150 o gredydau ym mhob blwyddyn academaidd.
11.2
Bydd y patrwm mynychu'n cynnwys cyfnodau o wythnosau dysgu, lleoliadau clinigol, a lleoliadau dewisol.
12. Llawlyfr
12.1
Bydd llawlyfr y Gyfadran/Ysgol, neu ddogfen gyfatebol, ar gael i bob ymgeisydd wrth, neu cyn, iddo gychwyn astudio.
13. Trosglwyddo Rhaglen
13.1
Ni chaniateir i ymgeisiwyd ar gyfer y MBBCh drosglwyddo i raglen astudio arall.
14. Trosglwyddo Modiwlau
14.1
Gan y tybir bob pob modiwl yn fodiwl craidd, ni chaniateir trosglwyddo i fodiwl arall.
15. Lleoliadau Dewisol
15.1
Ar ben lleoliadau clinigol, disgwylir i ymgeiswyr fynd ar leoliad dewisol, fel arfer yn nhrydedd flwyddyn yr astudio.
15.2
Trefnir y lleoliad dewisol hwn yn unol â Chod Ymarfer y QAA ar Ddysgu Trwy Leoliad, ac â chanllawiau'r Brifysgol a gyhoeddir yn y Llawlyfr Ansawdd Addysgu.
16. Ymgysylltu
16.1
Mae'r Brifysgol yn disgwyl i fyfyrwyr fodloni'r gofynion ymgysylltu a amlinellir yn Datganiad ar Ymgysylltu.
16.2
Gellir mynnu bod ymgeiswyr y bernir bod eu perfformiad academaidd, eu ymgysylltu, eu hymddygiad proffesiynol, neu ansawdd eu gwaith yn annerbyniol dynnu'n ôl o'r rhaglen.
17. Cynnydd a Phroffesiynoldeb
17.1
Disgwylir i fyfyrwyr ymddwyn yn unol â safonau'r proffesiwn meddygol, fel y'u hamlygwyd yn y dogfennau canlynol:
- Dogfen y Cyngor Meddygol Cyffredinol, sef Good Medical Practice;
- Cyfarwyddyd y Cyngor Meddygol Cyffredinol ar ymddygiad proffesiynol ac Addasrwydd i Ymarfer; a
- Tomorrow’s Doctors.
17.2
Asesir "proffesiynoldeb" yn ffurfiol gan y Gyfadran/Ysgol. Bydd gallu myfyriwr i gyflawni elfennau angenrheidiol proffesiynoldeb yn cyfrannu tuag at asesiad academaidd y myfyriwr ar leoliad - sef a ydynt yn pasio neu'n methu'r lleoliad.
17.3
Ystyr ymddygiad annerbyniol yw ymddygiad cyffredinol gan ymgeisydd nad yw'n bodloni'r safonau a osodir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol neu ddisgwyliadau'r Gyfadran/Ysgol, a bydd y Gyfadran/Ysgol yn ymdrin ag e yn unol â'i Weithdrefnau Cynnydd a Phroffesiynoldeb.
17.4
Bydd unrhyw fethiant i newid yr ymddygiad, neu unrhyw achos difrifol o ymddygiad annerbyniol, yn arwain at gyfeirio'r achos at sylw'r Brifysgol o dan y Rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer.
18. Absenoldeb Myfyrwyr
18.1
Bydd gofyn i ymgeiswyr y torrir ar eu gwaith gan amgylchiadau am fwy na saith niwrnod hysbysu’r Gyfadran/Ysgol a chyflwyno tystysgrif feddygol.
18.2
Bydd yn ofynnol i ymgeisydd nad yw'n bresennol mewn arholiad anfon esboniad ysgrifenedig i'r Gyfadran/Ysgol heb oedi. Yn achos salwch, bydd yn ofynnol iddo gyflwyno tystysgrif feddygol hefyd. Mae'r Gyfadran/Ysgol yn gweithredu polisi "Digon Iach i Sefyll" o ran asesu ar y rhaglen hon. Cyhoeddir manylion yn llawlyfr y rhaglen.
18.3
Rhaid i bob ymgeisydd nodi mai ei gyfrifoldeb ef yw tynnu sylw ei Ysgol, cyn gynted ag y bo modd, at unrhyw amgylchiadau eithriadol a allai effeithio ar ei berfformiad naill ai yn ystod y flwyddyn academaidd neu yn ystod arholiadau. Ni ystyrir apeliadau academaidd yn seiliedig ar amgylchiadau eithriadol y gallasid bod wedi eu dwyn i sylw’r Gyfadran/Ysgol priodol cyn cyfarfod y byrddau arholi.
18.4
Caiff ymgeiswyr ofyn am absenoldeb byr o astudio. Cymeradwyir y cyfryw absenoldeb gan Bwyllgor Amgylchiadau Arbennig y Gyfadran/Ysgol priodol.
19. Gohirio Astudio
19.1
Ystyrir gohirio astudiaethau yn unol â rheoliadau Gohirio Astudiaethau Prifysgol Abertawe.
20. Cyflwyno Gwaith yn Hwyr
20.1
Bydd y Gyfadran/Ysgol yn pennu dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno gwaith. Ymdrinnir ag ymgeiswyr a fydd yn methu â chyflwyno gwaith erbyn y dyddiad cau yn unol â rheolau cosb y Gyfadran/Ysgol am gyflwyno gwaith yn hwyr. Dylai ymgeiswyr gyfeirio at Lawlyfr y Ysgol ar gyfer y gosb a weithredir.
20.2
Oni bai fod y Gyfadran/Ysgol yn derbyn manylion am amgylchiadau esgusodol, tybir nad oedd y myfyriwr wedi'i effeithio'n ormodol ganddynt yn y cyfnod cyn yr asesiad, neu yn ystod yr asesiad perthnasol.
21. Terfynau Amser
21.1
Bydd isafswm ac uchafswm yr ymgeisyddiaeth fel a ganlyn:
- Isafswm - 4 blynedd;
- Uchafswm - 6 blynedd.
22. Estyn Terfynau Amser
22.1
Nid oes modd ymestyn terfynau amser rhaglen gradd, fel y’u gosodwyd yn y rheoliadau penodol, ond dan amgylchiadau eithriadol yn unig ac yn unol â’r meini prawf canlynol yn unig:
- Fel arfer, ni chaniateir ymestyn terfynau amser oni bai fod angen gwneud hynny am resymau tosturiol neu resymau’n ymwneud ag achosion o salwch difrifol, neu anawsterau difrifol gartref y gellir dangos eu bod wedi cael effaith andwyol ar yr ymgeisydd. Rhaid i’r Gyfadran/Ysgol wneud achos llawn a rhesymegol, gyda thystiolaeth feddygol briodol neu annibynnol arall, i’r Brifysgol ei ystyried.
- Mewn achosion sy’n deillio o salwch:
- rhaid cyflenwi tystiolaeth feddygol foddhaol, gan gynnwys tystysgrif feddygol. (Mae difrifoldeb a natur y salwch a ddisgrifir ar y dystysgrif yn hynod werthfawr wrth asesu’r achos.)
- rhaid rhoi datganiad clir, yn dangos bod y Gyfadran/Ysgol dan sylw wedi gwerthuso sefyllfa’r ymgeisydd o ganlyniad i’r salwch ac yr ystyria’r estyniad y gwneir cais amdano yn briodol. Lle bynnag y bo hynny’n bosibl, dylai datganiad o’r fath gael ei wneud ar ôl cyswllt uniongyrchol rhwng yr ymgeisydd a’r Gyfadran/Ysgol.
22.2
Rhaid anfon ceisiadau am estyniad trwy Bwyllgor Cynnydd a Phroffesiynoldeb y Gyfadran/Ysgol i'r Gwasanaethau Addysg, a rhaid i Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau eu cymeradwyo.
23. Darpariaeth Arbennig
23.1
Cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd hysbysu’r Gyfadran/Ysgol perthnasol o unrhyw anabledd neu amgylchiadau eithriadol a all fynnu darpariaeth arbennig ar gyfer asesu. Bydd gofyn i ymgeiswyr gynhyrchu’r dogfennau priodol i ategu cais. Mae’n rhaid i bob cais, boed o ganlyniad i anabledd hirdymor neu amgylchiadau yn y tymor byr, fod wedi’i egluro ar y ffurflen briodol a’i gefnogi, lle bo modd, â thystiolaeth ysgrifenedig.
23.2
Mae manylion pellach a chanllawiau ar drefniadau arholi arbennig yn y ddogfen Canllawiau i Gyfadrannau/Ysgolion ar gyfer Ymdrin â Myfyrwyr gydag Amgylchiadau Eithriadol a/neu Anghenion Arbennig.
23.3
Mae'r Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd yn gweithredu polisi "Digon Iach i Sefyll" o ran asesu. Tybir bod ymgeisydd sy'n mynychu a chwblhau unrhyw asesiad yn ddigon iach i wneud yr asesiad, ac ni fydd y Bwrdd Arholi'n derbyn nac yn ystyried tystiolaeth a gyflwynir ar ôl yr asesiad am amgylchiadau esgusodol yn ymwneud ag amgylchiadau oedd yn bodoli cyn yr asesiad. Cyhoeddir manylion llawn y polisi hwn yn llawlyfr y rhaglen.
23.4
Oni bai fod y Gyfadran/Ysgol yn derbyn manylion am amgylchiadau esgusodol, bydd y Brifysgol yn tybio nad oedd y myfyriwr wedi'i effeithio'n ormodol ganddynt yn y cyfnod cyn yr asesiad, neu yn ystod yr asesiad perthnasol.
24. Trosglwyddo Credydau
24.1
Fel arfer, ni chaniateir trosglwyddo credydau. Disgwylir i ymgeiswyr astudio'r rhaglen gyfan ym Mhrifysgol Abertawe.
25. Byrddau Arholi a Phenodi Arholwyr
25.1
Cynhelir pob arholiad dan awdurdod rheoliadau'r Brifysgol ar gyfer arholi ac asesu.
25.2
Caiff arholwyr allanol eu henwebu a’u penodi yn unol â’r gweithdrefnau a fanylir yn Cod Ymarfer: Arholwyr Allanol.
26. Rheoliadau Asesu
26.1
Fel rheol, caiff cynnydd ymgeisydd ei asesu naill ai yn ystod modiwl a/neu yn y cyfnod yn syth wedi ei gwblhau.
26.2
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau’r rhaglen astudio yn unol â’r rheoliadau ar gyfer dyfarnu credyd fel y’u cyhoeddir gan yr Ysgol Feddygaeth.
26.3
Pennir y marc pasio ar gyfer pob cydran asesu trwy broses pennu safonol. Amlygir manylion y broses honno yn y cynllun asesu.
27. Cymhwyster Ymadael
27.1
Gall ymgeisydd a dderbynnir ar y rhaglen fod yn gymwys i dderbyn cymhwyster ymadael ar yr amod ei fod:
- Wedi casglu isafswm y credydau sydd eu hangen ar gyfer y dyfarniad;
neu
- Wedi bodloni gofynion academaidd y rhaglen ond heb gyrraedd y safon angenrheidiol o ymddygiad proffesiynol.
Bydd y fath ymgeisydd yn gymwys, gan ddibynnu ar nifer y credydau a gasglwyd, ac ar argymhelliad y Bwrdd Arholi, i dderbyn dyfarniad:
- Diploma Addysg Uwch Gwyddoniaeth Feddygol (200 o gredydau);
- Baglor Gwyddoniaeth (Cyffredin) Gwyddoniaeth Feddygol (300 o gredydau).
28. Bod yn Gymwys i Dderbyn Dyfarniad
28.1
I fod yn gymwys i gael ei ystyried ar gyfer dyfarniad israddedig y Brifysgol, rhaid i fyfyriwr fynychu a chwblhau modiwlau o fewn uchafswm y cyfnod cofrestru.
29. Derbyn i Raddau
29.1
Er mwyn bod yn gymwys i’w hystyried am MBBCh o dan y Rheoliadau hyn, dylai ymgeiswyr fod wedi gwneud y canlynol:
- Dilyn y rhaglen astudio fodwlar gymeradwy am y cyfnod a nodir gan y Brifysgol;
- Ennill 600 o gredydau fel y nodir gan y Brifysgol;
- Bodloni'r arholwyr o ran ymddygiad proffesiynol;
- Bodloni unrhyw amodau pellach a fynnir gan y Brifysgol.
29.2
Bydd ymgeiswyr yn gymwys i dderbyn Gradd Pasio, Gradd Pasio â Chlod, neu Radd Pasio ag Anrhydedd yn unol â'r rheoliadau asesu.
30. Apeliadau Academaidd
30.1
Cynhelir apeliadau academaidd yn unol â gweithdrefnau Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd, ac Apeliadau Academaidd Prifysgol Abertawe.
31. Camymddwyn Academaidd
31.1
Ystyrir honiadau o arfer annheg yn unol â Gweithdrefnau Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe.
32. Addasrwydd i Ymarfer
32.1
Ystyrir honiadau bod myfyriwr yn anaddas i ymarfer yn unol â Gweithdrefnau a Pholisi Ymddygiad Annerbyniol, Iechyd ar gyfer Ymarfer, ac Addasrwydd i Ymarfer y Ysgol Meddygaeth Prifysgol Abertawe, a gall hynny cynnwys cyfeirio at weithdrefnau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.
33. Graddau Aegrotat
33.1
Ni fydd myfyrwyr sy'n dilyn rhaglen Meddygaeth y MBBCh yn gymwys i dderbyn dyfarniad Aegrotat. Fodd bynnag, gall ymgeiswyr fod yn gymwys i dderbyn y dyfarniad ymadael.
34. Graddau Wedi Marwolaeth
34.1
Ni fydd myfyrwyr sy'n dilyn rhaglen Meddygaeth y MBBCh yn gymwys i dderbyn dyfarniad ar ôl marwolaeth. Fodd bynnag, gall ymgeiswyr fod yn gymwys i dderbyn y dyfarniad ymadael.
Rheoliadau Asesu Cyffredinol ar gyfer y Rhaglen Mynediad i Raddedigion (MBBCh)
G1
Mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol i'r Baglor mewn Meddygaeth i Raddedigion a’r Baglor mewn Llawdriniaeth i Raddedigion (MBBCh).
G2
Er mwyn symud ymlaen o un flwyddyn i'r llall rhaid i ymgeisydd gronni 150 o gredydau.
G3
Mae’n bosibl y bydd sawl cydran asesu ym mhob modiwl yn y rhaglen. Gall perfformiad ymgeisydd mewn cydran gael ei bennu gan farc canran neu drwy ddull pasio/methu syml. Bydd y marc canran ar gyfer cydrannau asesu yn cael ei bennu gan broses pennu safonol, a bydd y manylion yn cael eu hamlinellu yn y cynllun asesu.
G4
Ystyrir bod yr holl fodiwlau sy'n gysylltiedig â rhaglen MBBCh i raddedigion yn rhai "craidd" a rhaid eu pasio cyn y gall ymgeisydd symud ymlaen o un flwyddyn i'r llall.
G5
Yn ogystal, rhaid i ymgeiswyr fodloni'r safon ofynnol o ymddygiad proffesiynol fel yr amlinellir yn nogfen y GMC "Outcomes for Graduates".
G6
Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion presenoldeb ac asesu pob modiwl. Bydd presenoldeb yn cael ei fonitro yn unol â Pholisi Monitro Cyfranogiad y Brifysgol ar gyfer Myfyrwyr a Addysgir.
G7
Ni chaniateir i ymgeiswyr, sydd wedi cymhwyso i symud ymlaen o un flwyddyn astudio i'r llall, ddewis ailadrodd unrhyw fodiwl neu gydran asesu sydd eisoes wedi'i basio er mwyn gwella eu perfformiad.
G8
Bydd ymgeiswyr y caniateir iddynt sefyll arholiadau atodol neu y mae gofyn iddynt wneud gwaith atodol, yn cael marc wedi'i gapio ar y marc pasio yn yr elfen asesu unigol, ar yr amod eu bod yn bodloni'r arholwyr.
G9
Bydd y Gyfadran/Ysgol yn rhoi gwybod i ymgeiswyr am y gwaith cwrs sydd ei angen, os bydd hi’n ofynnol iddynt gyflwyno gwaith cwrs atodol.
G10
Fel arfer, disgwylir i ymgeiswyr gwblhau blwyddyn o astudio o fewn un sesiwn academaidd.
G11
Caniateir i ymgeiswyr sy'n methu parhau i'r flwyddyn astudio nesaf ar ôl y cyfnod asesu atodol, yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol, ailadrodd y flwyddyn astudio ar yr amod y gellir cwblhau'r flwyddyn astudio honno o fewn cyfnod yr ymgeisyddiaeth. Bydd hi’n ofynnol i ymgeiswyr o'r fath fforffedu unrhyw gredydau a phwyntiau dyfarnu a enillwyd eisoes ac ni ellir cyfeirio ymhellach at y rhain. Bydd disgwyl i ymgeiswyr ailadrodd y flwyddyn astudio gyfan fel ymgeisydd mewnol ac ni fydd y marciau a gyflawnir ar gyfer yr asesiad cyntaf o'r flwyddyn a ailadroddir yn cael eu capio.
G12
Dyfernir penderfyniad academaidd ar gyfer ymgeiswyr "Ailadrodd y Flwyddyn Astudio" ar un achlysur yn unig yn ystod y cyfnod ymgeisyddiaeth. Fel arfer, ystyrir bod ymgeiswyr sy'n aflwyddiannus mewn unrhyw flynyddoedd astudio dilynol wedi methu'r rhaglen a bydd rhaid iddynt roi'r gorau i astudio yn y Brifysgol. Gall ymgeiswyr o'r fath fod yn gymwys i gael dyfarniad ymadael.
G13
Bydd ymgeiswyr sy'n ailadrodd y flwyddyn yn destun craffu manwl gan y pwyllgor dilyniant.
G14
Mae'r Ysgol Feddygaeth yn gweithredu polisi "Addas i Sefyll" mewn perthynas ag asesu. Ystyrir y bydd ymgeisydd sy'n mynychu ac yn cwblhau unrhyw asesiad yn addas i gwblhau’r asesiad hwnnw, ac ni fydd y Bwrdd Arholi yn derbyn nac yn ystyried unrhyw dystiolaeth o amgylchiadau esgusodol a gyflwynir wedi hynny, mewn perthynas ag amgylchiadau a oedd yn bodoli cyn yr asesiad. Bydd manylion llawn y polisi hwn yn cael eu cyhoeddi ar gyfer myfyrwyr.
G15
Cydnabyddir na fydd rhai ymgeiswyr yn gallu mynychu arholiadau e.e. oherwydd salwch neu amgylchiadau esgusodol eraill. Cydnabyddir felly y dylid caniatáu i fyfyrwyr o'r fath ohirio'r cyfle, ac ymgymryd ag asesiad lle nad yw'r canlyniad wedi'i gapio, fel arfer yn ystod y cyfnod asesu atodol. Oherwydd cyfyngiadau amser, ni fydd ymgeiswyr, y dyfernir ymgais ohiriedig iddynt yn ystod y cyfnod asesu atodol ac sy'n aflwyddiannus yn yr ymgais honno, yn cael cyfle pellach i wneud iawn am y methiant. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr o'r fath ailadrodd y flwyddyn astudio yn ystod y sesiwn academaidd ganlynol.
G16
Dylai ymgeiswyr roi gwybod i’r Gyfadran/Ysgol am eu hamgylchiadau esgusodol a chyflwyno cais i ohirio asesiad, cyn dyddiad yr asesiad. Bydd ceisiadau i ohirio asesiad yn cael eu hystyried yn unol â'r Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol. Os bydd ymgeisydd yn cyflwyno cais am asesiad gohiriedig ond wedyn yn ymgymryd â’r asesiad, bydd gan yr ymgeisydd bum niwrnod gwaith o ddyddiad yr asesiad i hysbysu'r Gyfadran/Ysgol o'i ddymuniad i dynnu'r gohiriad yn ôl a gofyn i'r asesiad gael ei farcio.
G17
Gellir caniatáu i ymgeiswyr sy'n methu cyflawni’r asesiad gohiriedig yn ystod y cyfnod asesu atodol ym mis Awst ailadrodd y flwyddyn, ar yr amod nad yw'r ymgeisydd eisoes yn ailadrodd blwyddyn (gweler G12).
G18
Bydd y rheolau a amlinellir yn y Rheolau Dilyniant Penodol fel arfer yn dylanwadu ar Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol wrth ddod i benderfyniadau am ymgeiswyr. Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr beidio â disgwyl, fel hawl, y caniateir iddynt gyflawni asesiad atodol neu gael ailadrodd y flwyddyn astudio. Gall y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu ystyried amgylchiadau eraill sy'n ymwneud â chais yr ymgeisydd cyn penderfynu ar ddilyniant. Ni fyddai disgwyl i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu ganiatáu i ymgeisydd symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf na bod yn gymwys i gael dyfarniad oni bai ei fod wedi bodloni'r meini prawf gofynnol.
G19
Gallai ymgeisydd sy'n cael ei dderbyn i'r rhaglen fod yn gymwys i gael cymhwyster ymadael ar yr amod ei fod:
- Wedi cronni'r isafswm credydau sy'n ofynnol ar gyfer y dyfarniad;
neu
- Wedi bodloni gofynion academaidd y rhaglen ond wedi methu cyflawni'r safon ofynnol o ymddygiad proffesiynol.
Ar argymhelliad y Bwrdd Arholi priodol, yn dibynnu ar nifer y credydau a gronnwyd, bydd ymgeiswyr o'r fath yn gymwys ar gyfer y dyfarniad:
Diploma Addysg Uwch mewn Gwyddor Feddygol (200 credyd)
Baglor mewn Gwyddoniaeth (Cyffredin) yn y Gwyddorau Meddygol (300 credyd)
Cymhwyso ar gyfer dyfarniad
Er y gall ymgeisydd fod wedi cymhwyso ar gyfer y dyfarniad, ar ôl pasio'r holl asesiadau, efallai y bydd achosion lle mae arholwr wedi tynnu sylw at fater ynghylch elfen(au) o gymhwysedd myfyriwr mewn maes ymarferol neu broffesiynol penodol nad yw mor ddifrifol fel ei fod yn effeithio ar y canlyniad academaidd ond bod angen ei ystyried ymhellach. Gall arholwyr dynnu sylw at faterion o'r fath drwy roi "cerdyn melyn" i'r myfyriwr yn ystod yr arholiad ymarferol neu drwy gyfeirio at y mater yn adroddiad yr arholiad.
Bydd yr achosion hyn yn cael eu cyfeirio at Fwrdd Arholi'r Gyfadran/Ysgol i'w hystyried fesul achos. Ni chaiff Bwrdd Arholi'r Gyfadran/Ysgol gymryd unrhyw gamau pellach na'i gwneud yn ofynnol i hyfforddiant pellach neu ychwanegol gael ei gynnal cyn gwneud argymhelliad ar ddyfarnu'r radd. Mewn achosion o'r fath lle mae angen hyfforddiant pellach neu ychwanegol, dyfernir penderfyniad "Atodol" i ymgeiswyr. Darperir hyfforddiant yn ystod neu cyn y cyfnod arholi atodol i sicrhau y gellir ailystyried canlyniadau myfyrwyr cyn graddio. Bydd methu mynychu a chymryd rhan yn yr hyfforddiant yn golygu y bydd myfyriwr yn methu bod yn gymwys ar gyfer y dyfarniad.
Rheolau Dilyniant Penodol
Rheolau i’w cymhwyso yn ystod Bwrdd Cynnydd a Dyfarniadau cyntaf y Brifysgol ar gyfer pob blwyddyn astudio
Bydd ymgeiswyr sy’n casglu 150 o gredydau mewn modiwlau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ac sy’n dangos safon foddhaol o ymddygiad proffesiynol yn cymhwyso i symud ymlaen i’r flwyddyn astudio nesaf yn awtomatig.
S2Bydd ymgeiswyr sy'n cronni naill ai 50 neu 100 o gredydau (drwy lwyddo mewn un neu ddau fodiwl) ond llai na 150 o gredydau (drwy fethu hyd at ddau neu dri modiwl) yn methu cymhwyso i fynd rhagddynt i'r flwyddyn nesaf. Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, fel arfer caniateir i ymgeiswyr o’r math sefyll asesiadau atodol ar gyfer y modiwlau a fethwyd. Disgwylir i fyfyrwyr ailsefyll pob elfen a fethwyd ar gyfer y modiwlau a fethwyd yn ogystal ag ailgyflwyno gwaith cwrs a fethwyd yn ôl yr angen. Ni ellir wella canlyniadau rhai modiwlau drwy asesiadau atodol. Tynnir sylw at yr asesiadau hyn yn y Llawlyfr.
S3Disgwylir i ymgeiswyr y dyfernir asesiad ‘a ohiriwyd’ ar gyfer unrhyw elfen sefyll yr elfen honno yn ystod y cyfnod asesu atodol.
S4Bydd ymgeiswyr sy’n casglu llai na 50 o gredydau drwy fethu pob modiwl, yn methu âchymhwyso i symud ymlaen i’r flwyddyn astudio nesaf ac ystyrir eu bod wedi methu’r rhaglen.
Rheolau i’w cymhwyso yn ystod Bwrdd Cynnydd a Dyfarniadau atodol y Brifysgol ar gyfer pob blwyddyn astudio
S5Bydd ymgeiswyr sy’n casglu 150 o gredydau mewn modiwlau yn y flwyddyn berthnasol ac sy’n dangos safon foddhaol o ymddygiad proffesiynol yn cymhwyso i symud ymlaen i’r flwyddyn astudio nesaf yn awtomatig.
S6Bydd ymgeiswyr, gan gynnwys y rhai hynny y dyfarnwyd cyfle 'cynnig cyntaf' iddynt, sy’n casglu llai na 150 o gredydau, yn methu â chymhwyso i symud ymlaen i’r flwyddyn astudio nesaf. Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi bydd rhaid i ymgeiswyr o’r fath fel arfer ailadrodd y flwyddyn astudio fel ymgeisydd mewnol os nad yw’r ymgeisydd wedi ailadrodd blwyddyn astudio yn barod (gweler G13).
S7Tybir bod unrhyw ymgeisydd sydd wedi ailadrodd blwyddyn astudio o’r blaen ac sy’n methu â chasglu digon o gredydau i symud ymlaen i’r flwyddyn astudio nesaf wedi methu’r radd a bydd rhaid iddo/iddi derfynu ei (h)astudiaethau yn y Brifysgol. Gall ymgeiswyr o'r fath fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad ymadael.
S8Ar ddiwedd pob modiwl, cyfrifir gradd myfyriwr trwy bennu pwysedd pob elfen asesu sy'n cyfrannu tuag at farc y modiwl, fel yr amlygir yn y cynllun asesu. Ni fydd modiwlau y tybir eu bod yn fodiwlau Pasio/Methu yn cyfri tuag at gyfrifo pwyntiau dyfarnu.
S9
Ar ddiwedd pob modiwl, cyfrifir gradd myfyriwr trwy bennu pwysedd pob elfen asesu sy'n cyfrannu tuag at farc y modiwl, fel yr amlygir yn y cynllun asesu. Ni fydd Cydrannau Asesu y tybir eu bod yn fodiwlau Pasio/Methu yn cyfri tuag at gyfrifo pwyntiau dyfarnu.
Cymwysterau Pasio, Pasio gyda Theilyngdod neu Basio gydag Anrhydedd
Caiff graddau modiwlau eu dyfarnu yn unol â’r canlynol:
- Pob cydran asesu wedi’i phasio - Pasio
- Pob cydran asesu wedi’i phasio a’r cyfartaledd rhwng 50% ac 80% - Pasio gyda Theilyngdod
- Pob cydran asesu wedi’i phasio a’r cyfartaledd yn uwch na 80% - Pasio gyda Rhagoriaeth
Cyfrifir dyfarniad terfynol ar ddiwedd y rhaglen yn seiliedig ar nifer y graddau teilyngdod a rhagoriaeth a gesglir, gyda theilyngdod yn cyfri am 1 pwynt dyfarnu a rhagoriaeth yn cyfri am 2 bwynt dyfarnu. Gwneir dyfarniadau yn unol â’r canlynol:
- 7 pwynt neu’n llai - Pasio
- 8 i 12 o bwyntiau - Pasio gyda Theilyngdod
- 13 pwynt neu’n fwy - Pasio gydag Anrhydedd