Diploma i Raddedigion
Rheoliadau Penodol
1. Cyflwyniad
1.1
Gall ymgeiswyr gymhwyso am ddyfarniad Diploma i Raddedigion dan y rheoliadau hyn pan fyddant wedi llwyddo i gwblhau un o’r rhaglenni astudio modiwlaidd cydnabyddedig naill ai'n llawn-amser neu’n rhan-amser, a ddarperir gan, neu ar ran, y Brifysgol, neu ar y cyd â phrifysgol arall. Os bydd gwrthdaro rhwng rheoliadau’r Brifysgol â gofynion y Corff Proffesiynol, gofynion y corff proffesiynol fydd yn gorchfygu ar yr amod bod y gofynion Proffesiynol yn cael eu derbyn gan y Pwyllgor Addysg y Brifysgol.
1.2
Rhaid i’r holl ymgeiswyr gofrestru’n fyfyrwyr Prifysgol Abertawe a thalu’r ffioedd priodol a bennir gan y Brifysgol. Fel myfyrwyr cofrestredig, rhaid i’r ymgeiswyr gydymffurfio â rheoliadau academaidd a chyffredinol y Brifysgol.
Dylid defnyddio unrhyw deitlau sy’n dwyn y term ‘i raddedigion’ (er enghraifft diploma i raddedigion) ar gyfer cymwysterau rhaglenni astudio sydd fel arfer yn gofyn am fynediad graddedig neu gyffelyb, ac sydd â deilliannau dysgu sy’n cyd-fynd â rhannau perthnasol y disgrifydd ar gyfer cymhwyster ar Lefel 6.
Gall rhaglen sy’n arwain at ddiploma i raddedigion fod ag ychydig o ddeilliannau Lefel 7, ond ni ellir cyfiawnhau’r defnydd o’r teitl ‘i raddedigion’ ar gyfer y dyfarniad oni bai fod y rhan fwyaf o'r deilliannau, neu’r holl ddeilliannau, wedi’u hasesu ar lefel 7.
1.3
Ni chaiff ymgeiswyr Diploma i Raddedigion llawn-amser gychwynnol gofrestru ar yr un pryd ar radd arall sy’n arwain at ddyfarnu cymhwyster o’r un fath yn y brifysgol hon neu mewn prifysgol/sefydliad arall heb ganiatâd penodol Cadeirydd y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
1.4
Fel rheol, bydd ymgeisyddiaeth myfyrwyr sydd yn torri Rheoliad 1.3 yn cael ei dileu yn syth.
2. Amodau Derbyn
2.1
Mae’n rhaid i ymgeisydd ar gyfer y Diploma i Raddedigion feddu ar un o’r cymwysterau canlynol cyn cychwyn astudio:
- Gradd Baglor gychwynnol neu radd Meistr o Brifysgol yn y Deyrnas Unedig;
- Gradd Baglor gychwynnol (neu radd Meistr) o Brifysgol dramor neu Ewropeaidd gydnabyddedig sydd eisoes wedi'i chymeradwyo, neu sy'n cael ei chymeradwyo'n ddiweddarach, gan UK ENIC;
- Gradd Baglor gychwynnol (neu radd Meistr) o Bwyllgor neu Is-bwyllgor Ewropeaidd cydnabyddedig;
- Cymhwyster nad yw’n radd, y cred y Brifysgol ei fod yn gyfwerth â gradd;
- Yn achos y Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith, caiff ymgeiswyr sydd â Thystysgrif o Statws Academaidd eu derbyn i'r rhaglen (a ddarperir gan Awdurdod Rheoli'r Cyfreithwyr neu Fwrdd Safonau’r Bar).
2.2
Ni waeth beth fo cymwysterau mynediad yr ymgeisydd, rhaid i’r Brifysgol ei bodloni ei hun bod ymgeisydd yn cyrraedd y safon academaidd sy’n ofynnol i gwblhau’r rhaglen astudio arfaethedig.
2.3
Cyn derbyn ymgeisydd i’r rhaglen astudio, rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion sicrhau ei fod yn medru cyfathrebu’n effeithiol yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Gosodir profion TOEFL neu IELTS (neu rai cyfatebol) ac y mae modd cael canllawiau o’r Swyddfa Dderbyn o ran y lefel basio sy’n briodol ar gyfer unrhyw raglen astudio, neu’r dysgu a all fod yn angenrheidiol cyn y cwrs, er mwyn caniatáu i ymgeisydd barhau gyda’i astudiaethau.
2.4
Matriciwleiddio yw’r broses o dderbyn ymgeisydd yn ffurfiol i raglen astudio sy’n arwain at radd neu ddyfarniad academaidd arall gan y Brifysgol. Mae’n rhaid i ymgeiswyr sydd heb fatriciwleiddio o'r blaen gwblhau’r ffurflen briodol a darparu tystiolaeth o’u gradd neu gymhwyster cyfwerth ar ffurf tystysgrif wreiddiol neu ddatganiad swyddogol gan y sefydliad dyfarnu neu gorff arall. Oni bai bod ymgeisydd yn matriciwleiddio, nid yw'n gymwys i’w arholi a gall y Bwrdd Achosion Myfyrwyr perthnasol ei atal rhag parhau â’i ymgeisyddiaeth ar adeg briodol yn ystod y flwyddyn academaidd.
2.5
Yn unol â’r Polisi Matriciwleiddio ar gyfer Graddau Meistr, caiff ymgeiswyr nad ydynt wedi matriciwleiddio erbyn y cyfnod ymrestru hawl i ymrestru dros dro a gosodir dyddiad cau o 15 Tachwedd, iddynt ddarparu tystiolaeth o’u cymwysterau. Ar 15 Tachwedd, rhoddir i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg restr o fyfyrwyr sydd heb fatriciwleiddio. Bydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg yn cyfeirio achosion o'r fath at sylw'r Bwrdd Achosion Myfyrwyr ac os bydd y matriciwleiddio’n parhau heb ei gwblhau erbyn diwedd y tymor, bydd y myfyriwr yn cael ei dynnu yn ôl o’r Brifysgol a thybir ei fod wedi methu’r rhaglen.
2.6
Bydd gan ymgeiswyr hawl i apelio yn unol â Rheoliadau Apeliadau Academaidd y Brifysgol.
3. Cofrestru
3.1
Mae’r Brifysgol yn disgwyl i bob ymgeisydd gofrestru er mwyn cael ei gydnabod fel myfyriwr yn y Brifysgol. Mae’n rhaid i bob ymgeisydd ymrestru yn unol â’r cyfarwyddiadau ymrestru ar gyfer y rhaglen astudio benodol, ac o fewn y cyfnod a bennwyd ar gyfer ymrestru.
3.2
Mae’n rhaid i ymgeiswyr gofrestru o fewn y cyfnod a bennwyd ar gyfer cofrestru:
- Os ydynt yn cofrestru â’r brifysgol am y tro cyntaf
- Os ydynt yn cofrestru ar raglen astudio benodol am y tro cyntaf
- Os ydynt yn camu ymlaen at lefel nesaf eu hastudiaethau, blwyddyn nesaf eu hastudiaethau neu, mewn rhai achosion, rhan nesaf eu hastudiaethau, ac yn mynychu’n llawn-amser neu’n rhan-amser;
- Os yw’r Brifysgol yn disgwyl i ffi gael ei thalu yn unol â rheoliadau’r Brifysgol o ran cyllid a ffioedd myfyrwyr.
3.3
Er mwyn cofrestru yn y Brifysgol, gofynnir i fyfyrwyr, lle bo hynny’n berthnasol, gyflwyno tystiolaeth o’u hawl i astudio yn y Brifysgol yn unol â:
- Gofynion penodol y rhaglen;
- Rheoliadau’r Brifysgol o ran matriciwleiddio;
- Y cyfreithiau ynghylch astudio yn y Deyrnas Unedig.
3.4
Os bydd ymgeisydd yn methu â chofrestru o fewn y cyfnod penodedig ar gyfer cofrestru, bydd ei ymgeisyddiaeth yn dod i ben a bydd raid i’r ymgeisydd dynnu'n ôl o’r Brifysgol. Bydd ceisiadau am adfer y ymgeisyddiaeth a'r caniatâd i gofrestru'n hwyr yn cael eu hystyried yn weinyddol ar ran y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
3.5
Bydd y Brifysgol yn hysbysu'r awdurdodau perthnasol, o fewn cyfnod penodol yn unol â deddfau’r Deyrnas Unedig sy'n llywodraethu astudio yn y DU, am fyfyrwyr y tynnwyd eu henwau yn ôl am iddynt fethu â chofrestru ar raglen astudio o fewn y cyfnod cofrestru penodol.
4. Modiwlau o fewn Rhaglen
4.1
Cydran addysgol ar wahân o fewn rhaglen yw modiwl. Bydd pob rhaglen yn cynnwys modiwlau a addysgir a all fod yn fodiwlau sengl sy’n werth o leiaf 5 pwynt credyd Prifysgol Abertawe ond na fydd fel arfer yn werth mwy nag 20 pwynt credyd, ynghyd â modiwl traethawd hir/prosiect sy’n werth 60 o bwyntiau credyd.
Yn ogystal:
- Caiff cod cyfeirio unigryw ei bennu ar gyfer pob modiwl;
- Caiff lefel astudio ei phennu ar gyfer pob modiwl, sy’n adlewyrchu safon academaidd y modiwl a’i ganlyniadau dysgu;
- Neilltuir i bob modiwl hefyd Gredydau System Ewropeaidd Trosglwyddo Credydau. (Y mae 5 credyd ECTS yn cyfateb fwy neu lai i 10 credyd Prifysgol Abertawe);
- Gall modiwl fod â rhagofynion a/neu gyd-ofynion.
4.2
Gellir grwpio modiwlau i’r categorïau canlynol: Seiliedig ar ddarlithoedd; Seiliedig ar waith ymarferol; Seiliedig ar ymarfer allanol; Seiliedig ar draethawd hir; Seiliedig ar waith cyfrifiadurol; Seiliedig ar waith maes; neu gyfuniad priodol o’r categorïau hyn (modiwl cyfansawdd).
4.3 Modiwlau Gorfodol
Yn y rhan fwyaf o raglenni gradd, bydd y Gyfadran/Cyfadrannau /Ysgol(ion) dan sylw yn pennu modiwlau gorfodol. Dylai pob Cyfadran/Ysgol nodi’r cyfryw fodiwlau a'u rhestru yn llawlyfrau'r Gyfadran/Ysgol. Y modiwlau gorfodol yw’r rhai y mae’n orfodol i’r myfyrwyr eu hastudio.
4.4 Modiwlau Dewisol
Yn ogystal â’r modiwlau gorfodol, efallai y bydd disgwyl i ymgeiswyr ddilyn modiwlau dewisol o restr benodedig o ddewisiadau yn y maes/meysydd pwnc sy'n arbenigedd iddynt. Dylai ymgeiswyr geisio cyfarwyddyd y Gyfadran/Ysgol ‘gartref’ wrth ddewis modiwlau dewisol.
4.5 Modiwlau Craidd
Gall Cyfadrannau/Ysgol nodi modiwlau sydd yn greiddiol i raglen. Gall Cyfadrannau/Ysgolion fynnu bod yn rhaid i ymgeisydd ddilyn y modiwlau ‘craidd’ hynny a llwyddo ynddynt cyn y gall symud ymlaen i ran nesaf yr astudio neu fod yn gymwys i ennill y dyfarniad. Bydd raid i ymgeisydd roi cynnig arall ar fodiwlau craidd y mae wedi methu ynddynt.
4.6 Modiwlau Amgen
Fel rheol, caiff y modiwlau hyn eu hastudio yn lle modiwlau y methwyd ynddynt yn flaenorol (ar ymgais cyntaf yn unig). Bydd y marc ar gyfer modiwl a astudiwyd yn lle modiwl a fethwyd yn cael ei gapio, ni waeth beth fo'r marc gwirioneddol.
4.7 Modiwlau Amnewid
Modiwlau amnewid yw'r modiwlau hynny a astudir fel arfer yn ystod yr ail semester, yn lle modiwlau eraill y mae’r myfyriwr wedi tynnu’n ôl ohonynt ar ôl y dyddiad cau a ganiateir.
5. Trosglwyddo Rhwng Modiwlau
5.1
Caniateir i fyfyrwyr drosglwyddo o un modiwl i fodiwl arall, ar yr amod bod y trosglwyddo yn cael ei gymeradwyo gan y Gyfadran/Ysgol berthnasol/Cyfadrannau/Ysgolion perthnasol o fewn yr amserlen ganlynol:
- Modiwlau dwys byr (2 wythnos) cyn diwedd yr ail ddiwrnod o addysgu ar y modiwl penodol;
- Modiwlau byr (un semester o hyd) cyn diwedd yr ail wythnos o addysgu ar y modiwl penodol;
- Modiwlau hir (dau semester o hyd) cyn diwedd y bedwaredd wythnos o addysgu ar y modiwl penodol.
5.2
Mae’n rhaid i drosglwyddiadau sydd y tu hwnt i’r dyddiad cau gael eu cymeradwyo gan Arweinydd Addysg Ysgol, neu Swyddog Cyfadran/Ysgol a enwebir, a all ymgynghori â’r Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
5.3
Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddilyn y gweithdrefnau trosglwyddo a fydd mewn grym ar y pryd ac a fabwysiadwyd gan Senedd y Brifysgol.
6. Terfynau Amser
6.1
Bydd cyfnod uchafswm yr ymgeisiaeth ar gyfer ymgeiswyr sy’n dilyn Diploma i Raddedigion/Diploma Uwch i Raddedigion fel a ganlyn:
Llawn-amser | Rhan-amser |
---|---|
Dim llai na 10 mis | Dim llai na 24 mis |
Dim mwy na 2 flynedd | Dim mwy na 4 blynedd |
6.2
O fewn y terfynau amser cyffredinol hyn, gall Cyfadrannau/Ysgolion bennu terfynau amser is ar gyfer rhaglenni astudio unigol.
6.3
Gellir ymestyn y terfyn amser cyffredinol yn unol â’r rheoliadau a amlinellir ym mharagraff 27 y Rheoliadau Cyffredinol.
7. Newid y Dull Astudio
7.1
Caiff myfyrwyr Diploma i Raddedigion llawn-amser a rhan-amser hawl i newid eu modd mynychu cyn cychwyn y rhaglen ar yr amod nad yw’n mynd yn groes i reolau sy'n llywodraethu Fisâu, nawdd, ac ysgoloriaethau a bod dull astudio llawn-amser neu ran-amser ar gael ar gyfer y rhaglen. Gall ymgeiswyr llawn-amser a rhan-amser newid eu modd o fynychu rhwng 1 neu 4 wythnos ar ôl dechrau ar eu rhaglen gyda chymeradwyaeth y Deon Gweithredol. Fel arfer, bydd ymgeiswyr sy’n dymuno newid eu modd astudio ar ôl y terfynau amser uchod yn cael eu cynghori i ohirio eu hastudiaethau a dychwelyd ar gyfer y sesiwn ganlynol. Serch hynny, gyda chefnogaeth bendant y Deon Gweithredol (neu ei enwebai) gellir cyflwyno achos i’r Bwrdd Achosion Myfyrwyr.
8. Trosglwyddo Astudio
8.1
Fel rheol, ni chaniateir i ymgeiswyr Diploma Ôl-raddedig newid rhaglen astudio oni bai fod y newid hwnnw’n digwydd o fewn rhaglen sy’n cynnig gwahanol ddewisiadau arbenigo. Fel arfer, bydd trosglwyddiadau o’r fath yn cymryd lle yn ystod y bythefnos gyntaf o ddyddiad cychwyn y rhaglen ar ôl ymgynghori â’r Deon Gweithredol (neu ei enwebai). Yn ystod y broses gymeradwyo, rhoddir ystyriaeth briodol i’r gofynion mynediad a’r goblygiadau ariannol o’r trosglwyddiad gan gynnwys y farn/amodau.
8.2
Anfonir ceisiadau trosglwyddo i raglen arall at y Gwasanaethau Addysg am gymeradwyaeth derfynol.
8.3
Ni chaiff cyfnod yr ymgeisyddiaeth ei ymestyn yn awtomatig ar gyfer myfyrwyr sy’n newid rhaglen ac y mae angen iddynt ohirio eu hastudiaethau. Fodd bynnag, gall ymgeiswyr o’r fath wneud cais i ymestyn eu hymgeisyddiaeth yn unol â rheoliadau’r Brifysgol.
8.4
Mae'n bosib na chaniateir i ymgeiswyr sy'n methu gyflwyno ffurflen Trosglwyddo Rhaglen fewnol. Fodd bynnag, ni fydd ymgeiswyr o’r fath yn cael eu hatal rhag gwneud cais drwy’r llwybr derbyn arferol os ydynt am gael eu derbyn i raglen arall.
8.5
Yn achos myfyrwyr rhyngwladol a noddir gan y Brifysgol, mae caniatâd i newid rhaglen yn amodol ar feddu ar fisa ddilys Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt). Cyn y caiff y myfyriwr drosglwyddo i raglen arall, asesir a yw'r broses drosglwyddo'n bodloni deddfwriaeth Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) gyfredol cyn y caiff y cais ei gymeradwyo. Bydd yr asesiad yn cyfeirio at lefel y rhaglen newydd, cyfnod caniatâd i aros presennol y myfyriwr, y terfynau amser cyfredol sy'n llywodraethu astudio Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt); asesir a yw'r rhaglen newydd yn bodloni 'dyheadau go iawn' y myfyriwr o ran ei yrfa ac ystyrir unrhyw ofynion eraill a bennir gan Swyddfa Fisâu a Mewnfudo'r DU. Lle nad oes modd cwblhau'r rhaglen newydd o fewn y cyfnod caniatâd i aros sy'n weddill o dan Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), bydd angen i'r myfyriwr adael y DU i gyflwyno cais pellach am ganiatâd i aros er mwyn cwblhau'r rhaglen. Os oes angen cymeradwyaeth gan y Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS) ar raglen, bydd rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol gael cymeradwyaeth a darparu copi o'r dystysgrif ATAS i'r Brifysgol cyn y gellir cymeradwyo cais i newid rhaglen.
9. Llawlyfrau
9.1
Bydd y Gyfadran/Ysgol yn darparu llawlyfr i bob ymgeisydd cyn, neu wrth, iddo ddechrau ar ei astudiaethau.
10. Gohirio Astudiaethau
10.1
Ystyrir gohirio astudiaethau yn unol â Rheoliadau Prifysgol Abertawe ar Ohirio Astudiaethau.
11. Monitro Cynnydd a Ymgysylltu
11.1
Disgwylir i ymgeiswyr ddod i’r holl sesiynau amserlenedig sy'n gysylltiedig â phob modiwl y maent wedi dewis ei ddilyn.
11.2
Bydd cyfraniad sesiynau addysgu a nodwyd yn cael ei fonitro gan y Gyfadran/Ysgol yn rheolaidd ac yn unol â Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr a Addysgir.
11.3
Bydd cynnydd yn cael ei fonitro drwy gynnal sesiynau trafod cyson â thiwtoriaid a thrwy fyrddau arholi a byrddau dilyniant y Gyfadran/Ysgol.
12. Myfyrwyr Rhyngwladol a Gofynion Fisa
12.1
Dylai myfyrwyr rhyngwladol y mae angen fisa arnynt i astudio yn y Brifysgol nodi bod eu hawl i astudio yn y Brifysgol yn dibynnu ar gydymffurfio ag amodau eu fisa, ac â'r cyfyngiadau amser a osodir gan Asiantaeth Ffiniau'r DU. Am ragor o wybodaeth ewch i http://www.ukba.homeoffice.gov.uk/visas-immigration/studying/.
12.2
Gwneir penderfyniadau gan y Brifysgol o ran statws cofrestru myfyriwr, perfformiad academaidd, cynnydd, a'r dyfarniad, yn unol â rheoliadau academaidd ac ariannol y Brifysgol, ac ni effeithir arnynt gan gyfyngiadau fisa na chyfyngiadau amser a osodir gan Asiantaeth Ffiniau'r DU. Fodd bynnag, mae'r hawl i barhau i astudio yn amodol ar fodloni gofynion cofrestru'r Brifysgol ac ar ganllawiau Asiantaeth Ffiniau'r DU, ac y mae fisa yn hanfodol i'r rheini. Ni chaiff myfyriwr rhyngwladol sy'n gymwys i fynd i'r lefel astudio nesaf, neu'r flwyddyn astudio nesaf, barhau i astudio yn y Brifysgol heb fisa dilys.
Dylai myfyrwyr sydd â phryderon neu gwestiynau ynghylch eu fisa gysylltu â Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol.
13. Absenoldeb Myfyrwyr
13.1
Dylai pob ymgeisydd nodi mai e sy'n gyfrifol am sicrhau bod ei Gyfadran/Ysgol yn ymwybodol o unrhyw amgylchiadau esgusodol a allai effeithio ar ei berfformiad academaidd, naill ai yn ystod y flwyddyn academaidd neu ynteu yn ystod arholiadau. Gweler y Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu.
14. Darpariaeth Arbennig
14.1
Cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd hysbysu’r Gyfadran/Ysgol berthnasol/Cyfadrannau/Ysgol perthnasol am unrhyw anabledd neu amgylchiadau esgusodol a all fynnu darpariaeth arbennig ar gyfer asesu. Bydd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno'r ddogfennaeth briodol i gefnogi eu cais. Rhaid i'r holl geisiadau, boed yn deillio o anabledd tymor hir neu amgylchiadau tymor byr, gael eu hesbonio ar y ffurflen briodol a’u cefnogi, lle bo modd, gyda thystiolaeth ysgrifenedig. Rhaid cyflwyno ceisiadau i'r Gyfadran/Ysgol cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl, ac yn sicr cyn yr arholiad neu’r asesiad dan sylw.
14.2
Gellir dod o hyd i fanylion pellach a chanllawiau ar drefniadau arholiadau arbennig yn y ddogfen Canllawiau i Golegau ar gyfer Ymdrin â Myfyrwyr gydag Amgylchiadau Eithriadol a/neu Anghenion Arbennig.
14.3
Oni bai fod y Gyfadran/Ysgol yn derbyn manylion am amgylchiadau esgusodol, bydd y Brifysgol yn tybio nad oedd y myfyriwr wedi'i effeithio'n ormodol ganddynt yn y cyfnod cyn yr asesiad, neu yn ystod yr asesiad perthnasol.
15. Cyflwyno Gwaith yn Hwyr
15.1
Mae’n rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion osod dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno gwaith. Caiff ymgeiswyr a fydd yn methu â chyflwyno gwaith erbyn y dyddiad cau gosb a bennir gan y Gyfadran/Ysgol am gyflwyno gwaith yn hwyr. Dylai ymgeiswyr gyfeirio at Lawlyfr y Gyfadran/Ysgol am fanylion y gosb a weithredir.
15.2
Tybir, oni bai fod y Gyfadran/Ysgol yn derbyn manylion ynghylch amgylchiadau esgusodol a chais am estyniad neu am ddileu cosb am gyflwyno'n hwyr, nad oedd y myfyriwr wedi’i effeithio’n ormodol wrth baratoi ar gyfer yr asesiad dan sylw.
16. Byrddau Arholi
16.1
Cynhelir pob arholiad dan awdurdod rheoliadau’r Brifysgol ar gyfer llywodraethu arholiadau ac asesu.
16.2
Caiff arholwyr allanol eu henwebu a’u penodi yn unol â’r gweithdrefnau a fanylir yn Cod Ymarfer: Arholwyr Allanol.
17. Trosglwyddo Credydau
17.1
Fel arfer disgwylir i ymgeiswyr astudio’u rhaglen gyfan ym Mhrifysgol Abertawe. Mewn amgylchiadau eithriadol a lle bo’r corff proffesiynol yn caniatáu, gall ymgeiswyr eithrio hyd at 60 credyd.
Bydd y Pwyllgor Matriciwleiddio’n ystyried achosion dros eithrio credydau. Mae'r Brifysgol yn gosod terfyn amser o 5 mlynedd ar gredydau a enillwyd mewn sefydliad arall.
18. Derbyn i’r Dyfarniad
18.1
Er mwyn cymhwyso ar gyfer y dyfarniad o dan y Rheoliadau hyn, mae’n rhaid bod ymgeisydd:
- wedi dilyn rhaglen astudiaeth fodiwlaidd sydd wedi’i chymeradwyo am y cyfnod a bennwyd gan y Brifysgol;
- wedi ennill isafswm y credydau a bennir gan y Brifysgol mewn rhaglen a gymeradwyir gan y Brifysgol;
- wedi bodloni unrhyw amod(au) pellach a fynnir gan y Brifysgol.
Cyflwynir Dyfarniad Diploma i Raddedigion i ymgeisydd yn ystod Seremoni Wobrwyo Prifysgol Abertawe.
19. Apeliadau
19.1
Dylid cynnal apeliadau Academaidd yn unol â gweithdrefnau Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd a gweithdrefnau Apeliadau Academaidd Prifysgol Abertawe.
20. Camymddygiad Academaidd
20.1
Ystyrir honiadau o arfer annheg yn unol â gweithdrefnau a rheoliadau Camymddygiad Academaidd Prifysgol Abertawe.
21. Addasrwydd i Ymarfer
21.1
Ystyrir honiadau ynghylch addasrwydd i ymarfer yn unol â rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.
22. Dyfarniadau Aegrotat
22.1
Bydd ceisiadau gan y Gyfadran/Ysgol ar gyfer Dyfarniadau Aegrotat yn cael eu hystyried yn unol â gweithdrefnau’r Brifysgol, heblaw'r achosion hynny lle mae gofynion y bwrdd proffesiynol yn pennu nad yw hyn yn bosibl (e.e. y Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith).
23. Dyfarniadau ar ôl Marwolaeth
23.1
Caiff ceisiadau gan y Gyfadran/Ysgol ar gyfer dyfarniadau ar ôl marwolaeth eu hystyried yn unol â gweithdrefnau’r Brifysgol.
Diploma i Raddedigion - Rheoliadau Penodol
1.1 Strwythur y Rhaglen
Cynigir rhaglenni Diploma i Raddedigion ar sail blwyddyn o astudio’n llawn-amser (neu ddwy flynedd yn rhan-amser).
1.2
Fel arfer disgwylir i’r holl ymgeiswyr llawn-amser ddilyn cyfwerth â 120 credyd mewn un flwyddyn academaidd.
1.3
Bydd strwythur y rhaglen yn isafswm o 90 credyd ar Lefel 3 a gall hyd at 30 credyd fod ar Lefel 2.
1.4
Nodir y deilliannau dysgu ar gyfer pob rhaglen Diploma i Raddedigion.
Rheoliadau Asesu Diploma i Raddedigion
G1
Mae’r ymgeiswyr sy’n dilyn y Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith yn destun i reoliadau asesu’r rhaglen a gyhoeddir yn Llawlyfr y Cyfadran/Ysgol.
G2
Pan fydd gwrthdaro rhwng rheoliadau’r Brifysgol a gofynion Corff Proffesiynol, gofynion y corff proffesiynol fydd yn cymryd blaenoriaeth, yn amodol ar gadarnhad bod y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau yn derbyn y gofynion Proffesiynol.
G3
Caiff cynnydd ymgeisydd ei asesu fel arfer yn ystod modiwl a/neu yn ystod y cyfnod yn syth ar ôl ei gwblhau.
G4
Mae’n ofynnol bod ymgeiswyr yn cwblhau’r rhaglen astudio ar gyfer y Diploma i Raddedigion yn unol â’r rheoliadau ar gyfer dyfarnu credyd.
G5
Y marc pasio ar gyfer yr holl fodiwlau yw 40%.
Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion presenoldeb ac asesu pob modiwl. Fel arfer rhoddir gwybod i'r Bwrdd Academaidd perthnasol am ymgeiswyr y mae eu presenoldeb neu eu cynnydd yn anfoddhaol.
G6
Mae’n rhaid i ymgeiswyr basio’r holl fodiwlau er mwyn derbyn dyfarniad Diploma i Raddedigion (ni chaniateir methiannau a ddigolledir).
Sylwer: Mae rheoliadau penodol ynghylch ‘cydadfer’ ar gyfer y Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith sydd ar gael yn Llawlyfr y Coleg.
G7
Dyfernir arholiad atodol i’r ymgeiswyr hynny sy’n methu modiwl ar y cynnig cyntaf. Yn ôl doethineb y Bwrdd Dyfarnu gellir caniatáu un cynnig arall pan fo amgylchiadau esgusodol a/neu pan fo gofynion Corff Proffesiynol yn caniatáu. Rhoddir cap o 40% fel arfer ar gynigion o’r fath oni bai fod cynnig sefyll am y tro cyntaf wedi'i gymeradwyo.
Ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl, drwy hawl, y cânt gynnig y nifer uchaf o geisiadau a ganiateir.
G8
Bydd methu â sefyll arholiad/methu â gwneud yn iawn am fodiwl neu asesiad a fethwyd neu fethu â chyflwyno gwaith erbyn y dyddiad penodol yn arwain at gofnodi marc o 0% ar gyfer y modiwl.
G9
Bydd ymgeiswyr sy’n ail-wneud modiwlau a fethwyd a/neu'n ymgymryd ag asesiad atodol, cyn belled â'u bod yn bodloni'r arholwyr, yn derbyn marc wedi’i gapio am 40%.
G10
Ni roddir caniatâd i ymgeiswyr ail-wneud modiwl sydd eisoes wedi’i basio er mwyn gwella eu perfformiad.
G11
Cydnabyddir na all rhai ymgeiswyr fynychu arholiadau yn ystod y cyfnodau asesu Canol Sesiwn a Diwedd Sesiwn, o ganlyniad er enghraifft, i salwch neu amgylchiadau esgusodol eraill. Yn unol â'r Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu, rhaid cyflwyno cais am oedi i'r Cyfadran/Ysgol Cartref naill ai cyn dyddiad yr arholiad neu o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl i'r arholiad cael ei gynnal. Rhaid i geisiadau am oedi gael eu hystyried a'u cefnogi gan y Cyfadran/Ysgol perthnasol a'u cyflwyno i'r Bwrdd Achosion Myfyrwyr i'w cymeradwyo. Bydd rhaid i ymgeiswyr y caniateir iddynt oedi sefyll yr arholiad hwnnw yn y cyfnod arholiadau nesaf sydd wedi'i amserlennu ar gyfer y modiwl(au) dan sylw.
Ni fydd ymgeiswyr y rhoddir cyfle ychwanegol iddynt gael eu hasesu yn ystod y cyfnodau arholiadau atodol ac sy’n methu â chwblhau'r lefel yn cael cyfle pellach i geisio gwneud iawn am eu methiant tan y sesiwn nesaf.
G12
Dylai myfyrwyr sy'n methu sefyll arholiad ar ddiwedd Semester Un ac sydd yn cael gohiriad, sefyll yr arholiad yng nghyfnod arholiadau Semester Dau yn hytrach na'r cyfnod arholiadau atodol.
G13
Mewn amgylchiadau eithriadol a chyda chaniatâd y Bwrdd priodol, bydd myfyrwyr sy’n methu sefyll arholiadau gohiriedig heb eu capio yn ystod y cyfnod atodol yn cael caniatâd i ail-wneud y modiwlau ac ni chaiff y marciau a enillir eu capio.
G14
Gall ymgeiswyr sydd wedi methu yn yr arholiadau yn Semester Un, gyda chymeradwyaeth y Gyfadran/yr Ysgol, ddilyn modiwlau ychwanegol yn yr ail semester er mwyn gwneud iawn am y methiannau. Ystyrir dilyn y modiwlau ychwanegol hyn yn ymgais i wneud iawn am fethiant ac felly mae'r rheol gapio yn ddilys.
G15
Bydd penderfyniadau i ganiatáu i fyfyrwyr rhan-amser barhau yn cael eu gwneud bob blwyddyn, rhan o'r ffordd drwy lefel astudio.
G16
Ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl, drwy hawl, y byddant yn cael sefyll arholiadau atodol neu y caniateir iddynt ail-wneud modiwlau a fethwyd. Caiff y Bwrdd Dilyniant ystyried amgylchiadau eraill yn ymwneud ag achos yr ymgeisydd cyn gwneud unrhyw benderfyniad ar ddilyniant.
G17
Bydd y Cyfadran/Ysgol academaidd perthnasol yn rhoi manylion i ymgeiswyr y mae’n rhaid iddynt gyflwyno gwaith cwrs ychwanegol am y gwaith cwrs gofynnol.
Rheoliadau i’w Defnyddio yn Ystod Bwrdd mis Mehefin
S1
Bydd ymgeiswyr sydd wedi casglu 120 o gredydau yn cymhwyso ar gyfer dyfarniad Diploma i Raddedigion.
S2
Bydd ymgeiswyr sy’n casglu llai na 120 credyd fel arfer yn sefyll arholiadau/asesiadau ychwanegol ym mhob modiwl a fethwyd.
S3
Ystyrir bod ymgeiswyr y mae eu perfformiad yn wan (h.y. mae’r ymgeisydd wedi methu hyd at 40 credyd llawn-amser neu 20 credyd rhan-amser) wedi methu’r rhaglen.
S4
Caniateir i fyfyrwyr rhan amser sydd wedi pasio pob credyd a ddilynwyd ar ddiwedd y flwyddyn academaidd gyntaf ‘barhau’ ar y rhaglen a dilyn y modiwlau sy’n weddill yn ystod y sesiwn academaidd nesaf.
S5
Bydd myfyrwyr rhan-amser sy’n methu modiwlau ym mis Mehefin fel arfer yn sefyll arholiadau/asesiadau atodol ym mhob modiwl a fethwyd.
S6
Bydd ymgeiswyr sy’n ail-wneud modiwlau a fethwyd ac sy’n methu â chymhwyso ar gyfer y dyfarniad, ar ôl ennill llai na 120 credyd yn derbyn dyfarniad o Fethu neu Fethu’r Rhaglen.
Rheoliadau i’w defnyddio yn ystod bwrdd mis Medi
S7
Bydd ymgeiswyr sydd wedi casglu 120 o gredydau yn cymhwyso ar gyfer dyfarniad Diploma i Raddedigion.
S8
Tybir bod ymgeiswyr sy’n methu â chasglu 120 credyd wedi methu’r rhaglen. Fodd bynnag, pan fo amgylchiadau esgusodol a/neu pan fo gofynion y Corff Proffesiynol yn caniatáu, gall y Bwrdd Arholi ganiatáu un ymgais olaf ar fodiwl(au) yn ystod y sesiwn nesaf.
Cymwysterau Ymadael
S9
Nid yw ymgeiswyr sy’n dilyn Diploma i Raddedigion yn gymwys am gymhwyster ymadael.
Cymhwyster ar gyfer Dyfarniad
S10
Er mwyn bod yn gymwys i’w hystyried ar gyfer Diploma i Raddedigion Prifysgol Abertawe, mae’n rhaid i ymgeiswyr fynychu a chwblhau modiwlau o fewn y cyfnod cofrestru hiraf a ganiateir.
S11
Bydd ymgeisydd sy’n cwblhau Diploma i Raddedigion yn llwyddiannus yn gymwys ar gyfer dyfarniad Teilyngdod pan fo wedi ennill marc cyffredinol o 60-69.99% ar gyfer y dyfarniad dan sylw (yn achos y Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith, cyfeirir at hyn fel ‘Canmoliaeth’).
S12
Bydd ymgeisydd sy’n cwblhau Diploma i Raddedigion yn llwyddiannus yn gymwys ar gyfer dyfarniad Rhagoriaeth pan fo wedi ennill marc cyffredinol o 70% neu’n uwch ar gyfer y dyfarniad dan sylw.
Diploma Uwch i Raddedigion – Rheoliadau Penodol
1.1 Strwythur y Rhaglen
Gall ymgeiswyr gymhwyso ar gyfer dyfarniad Diploma i Raddedigion drwy gwblhau rhaglen astudio fodiwlaidd gymeradwy boed yn llawn-amser neu’n rhan-amser.
1.2
Fel rheol, mae’n rhaid i bob ymgeisydd ddilyn cyfwerth â 180 credyd. Rhannir hyn yn ddau gam.
Cam 1 120 credyd (mae’n rhaid i 60 credyd o leiaf fod ar Lefel 3 a hyd at 60 credyd ar y lefel is)
Cam 2 60 credyd (fel arfer modiwl 60 credyd ar gyfer prosiect neu draethawd hir)
1.3
Gall ymgeiswyr sy’n mynd ymlaen i Gam 2 y rhaglen ac sy'n cwblhau Cam 2 yn llwyddiannus, fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad Diploma Uwch i Raddedigion.
1.4
Mae’n rhaid nodi’r deilliannau dysgu ar gyfer pob rhaglen Diploma i Raddedigion.
Rheoliadau Asesu Diploma Uwch i Raddedigion
G1
Pan fydd gwrthdaro rhwng rheoliadau’r Brifysgol a gofynion Corff Proffesiynol, gofynion y corff proffesiynol fydd yn cymryd blaenoriaeth, yn amodol ar gadarnhad bod y Pwyllgor Addysg y Brifysgol yn derbyn y gofynion Proffesiynol.
G2
Caiff cynnydd ymgeisydd ei asesu fel arfer yn ystod modiwl a/neu yn ystod y cyfnod yn syth ar ôl ei gwblhau.
G3
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gwblhau’r rhaglen astudio ar gyfer y Diploma i Raddedigion yn unol â’r rheoliadau ar gyfer dyfarnu credyd.
G4
Mae’n rhaid bod myfyrwyr wedi cwblhau Cam 1 yn y rhaglen yn foddhaol er mwyn symud ymlaen i Gam 2.
Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion presenoldeb ac asesu pob modiwl. Fel arfer rhoddir gwybod i'r Bwrdd Academaidd perthnasol am ymgeiswyr y mae eu presenoldeb neu eu cynnydd yn anfoddhaol.
G5
Y marc pasio ar gyfer y holl fodiwlau yw 40%.
G6
Gall y colegau nodi modiwlau ‘craidd’ fel rhai priodol ar gyfer pob rhaglen, sy’n rhaid eu pasio cyn y gall ymgeisydd symud o un Lefel i’r llall. Mae’n rhaid i’r modiwlau ‘craidd’ ar gyfer pob rhaglen gael eu nodi’n glir yn llawlyfrau’r Cyfadran/Ysgol neu mewn dogfen arall o eiddo'r Cyfadran/Ysgol. Dylai’r Cyfadrannau/Ysgolion ystyried goblygiadau labelu gormod o fodiwlau fel rhai ‘craidd’ ar gyfer rhaglen benodol gan na fydd yn bosib i’r Byrddau Dilyniant ganiatáu methiannau yn y fath fodiwlau. Mae’n rhaid i berfformiad ymgeiswyr mewn modiwlau 'craidd' gael ei fonitro gan y Cyfadrannau/Ysgolion, a chyfrifoldeb cynrychiolwyr y Cyfadran/Ysgol fydd adrodd yn ôl ar achosion myfyrwyr yn y Byrddau Dilyniant. Bydd y modiwl Prosiect/Traethawd Hir yng Ngham 2 yn cael ei ystyried yn ‘fodiwl craidd’ yn ôl ei natur a bydd marc pasio o 40%.
G7
Wrth bennu penderfyniadau cynnydd myfyrwyr yn dilyn arholiadau atodol, mae’n rhaid i’r Bwrdd Dilyniant gyfeirio at y marc gorau a gafodd y myfyriwr ym mhob modiwl penodol yn ystod y Sesiwn. Felly os yw’r myfyriwr yn derbyn marc uwch yn yr ymgais gyntaf, dylai’r Bwrdd Dilyniant gyfeirio at y farc modiwl hwnnw, yn hytrach na’r marc ar gyfer yr ailsefyll.
Mae’r egwyddor Marc Gorau yn berthnasol o fewn un sesiwn academaidd yn unig a bydd ar waith yn ystod Byrddau Arholi mis Medi yn unig. Mae’n amherthnasol i ‘Fodiwlau Craidd’ gan fod yn rhaid pasio'r modiwlau hynny.
G8
Dyfernir arholiad atodol i’r ymgeiswyr hynny sy’n methu modiwl ar y cynnig cyntaf. Yn ôl doethineb y Bwrdd Dyfarnu gellir caniatáu un cynnig arall pan fo amgylchiadau esgusodol a/neu pan fo gofynion Corff Proffesiynol yn caniatáu. Defnyddir cap o 40% fel arfer ar gynigion o’r fath oni bai fod caniatad wedi'i rhoi i ohirio heb gapio.
Ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl, drwy hawl, y cânt gynnig y nifer uchaf o geisiadau a ganiateir.
G9
Bydd methu â sefyll arholiad/methu â gwneud yn iawn am fodiwl neu asesiad a fethwyd neu fethu â chyflwyno gwaith erbyn y dyddiad penodol yn arwain at gofnodi marc o 0% ar gyfer y modiwl.
G10
Bydd ymgeiswyr sy’n ail-wneud/ailsefyll modiwlau a fethwyd yn derbyn marc wedi’i gapio o 40% cyhyd a’u bod wedi bodloni’r arholwyr.
G11
Ni fydd ymgeiswyr yn cael ail-wneud unrhyw fodiwl a basiwyd, nac ychwaith wneud iawn am fethiant sydd wedi cael ei ddigolledu, er mwyn gwella eu perfformiad.
G12
Yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu, cydnabyddir na fydd rhai ymgeiswyr yn gallu mynychu arholiadau yn ystod y Cyfnod Asesu Canol Sesiynol neu Sesiynol e.e. oherwydd salwch neu amgylchiadau esgusodol eraill.
Yn achos yr ymgeiswyr hynny nad ydynt yn gallu mynychu arholiadau oherwydd amgylchiadau esgusodol, rhaid cyflwyno cais am ohirio i'r Gyfadran/Ysgol Gartref naill ai cyn dyddiad yr arholiad neu o fewn pum niwrnod i'r arholiad gael ei gynnal. Rhaid i geisiadau am ohiriadau gael eu hystyried a'u cefnogi gan y Gyfadran/Ysgol berthnasol a'u cyflwyno i'r Bwrdd Academaidd i'w cymeradwyo. Cynghorir myfyrwyr a staff i ymgynghori â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol.
G13
Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn gallu sefyll arholiad ym mis Ionawr, ac sydd wedi cael eu gohirio gan y Bwrdd Achosion Myfyrwyr, sefyll yr arholiad yng nghyfnod arholiad mai/Mehefin yn hytrach na chyfnod arholiadau mis Awst.
G14
Mewn amgylchiadau eithriadol a chyda chaniatâd y Bwrdd priodol, bydd myfyrwyr sy’n methu â sefyll arholiadau gohiriedig yn ystod y cyfnod ym mis Awst yn cael caniatâd i ail-wneud y modiwlau ac ni chaiff y marciau a enillir eu capio.
G15
Gall ymgeiswyr sydd wedi methu mewn modiwlau yn yr arholiadau ym mis Ionawr, gyda chymeradwyaeth y Gyfadran/Ysgol, ddilyn modiwlau ychwanegol yn yr ail dymor er mwyn gwneud iawn am y methiannau. Tybir bod dilyn y modiwlau ychwanegol hyn yn ymgais i wneud iawn am fethiant ac felly mae'r rheol capio'n ddilys.
G16
Caiff penderfyniadau dilyniant ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser eu gwneud gan y Bwrdd Dilyniant dim ond pan wyddys canlyniadau’r portffolio llawn o fodiwlau Cam Un. Bydd penderfyniadau i ganiatáu i fyfyrwyr rhan-amser barhau yn cael eu gwneud bob blwyddyn, rhan o'r ffordd drwy lefel astudio. Caiff marciau ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser eu cadarnhau ar ddiwedd lefel astudio ac nid ar ddiwedd blwyddyn academaidd.
G17
Fel arfer, bydd y Rheolau Dilyniant Penodol yn dylanwadu ar y Byrddau Dilyniant wrth iddynt benderfynu ar gynnydd myfyrwyr. Fodd bynnag, ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl, drwy hawl, y cânt sefyll arholiadau atodol, neu ail-wneud modiwlau a fethwyd. Caiff y Bwrdd Dilyniant ystyried amgylchiadau eraill yn ymwneud ag achos yr ymgeisydd cyn gwneud unrhyw benderfyniad ar ddilyniant. Ni fyddai disgwyl i Fwrdd Dilyniant ganiatáu i ymgeisydd fynd ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf oni bai ei fod wedi bodloni'r meini prawf.
G18
Bydd y Gyfadran/Ysgol academaidd perthnasol yn rhoi manylion i ymgeiswyr y mae’n rhaid iddynt gyflwyno gwaith cwrs ychwanegol am y gwaith cwrs gofynnol.
Rheoliadau i’w defnyddio ar gyfer Bwrdd Dilyniant mis Mehefin
S1
Bydd ymgeiswyr sydd wedi casglu o leiaf 120 o gredydau yn mynd ymlaen yn awtomatig i Gam 2 y rhaglen.
S2
Bydd ymgeiswyr sydd wedi casglu 100 o gredydau yn cymhwyso i fynd ymlaen i’r lefel nesaf ar yr amod:
- Nad yw’r modiwlau y maent wedi methu ynddynt wedi’u dynodi cyn hynny yn “fodiwlau craidd” ar gyfer y rhaglen benodol
- Nad yw’r marciau yn y modiwlau hyn yn llai na 30%
(Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel "methiannau a ddigolledir". Ddyfernir credydau ar gyfer methiannau a ddigolledir.)
S3
Bydd ymgeiswyr sydd wedi casglu 100 o gredydau neu fwy ond llai na 120 o gredydau ond sydd wedi methu modiwl(au) craidd, yn methu â mynd ymlaen i’r lefel astudio nesaf. Ar yr amod nad yw’r marciau ym mhob modiwl a fethwyd yn llai na 30%, bydd gofyn iddynt fel rheol ailsefyll y modiwl(au) craidd yn unig a chaiff y marc(iau) am y modiwlau eraill a fethwyd nad ydynt yn rhai craidd eu cadw. Ni roddir y cyfle i fyfyrwyr wella marciau’r modiwlau nad ydynt yn rhai craidd.
S4
Yn ôl doethineb y Bwrdd Dyfarnu, tybir bod ymgeiswy y tybir bod eu perfformiad yn wan wedi methu’r rhaglen.
S5
Tybir bod yr ymgeiswyr hynny sy’n ail-wneud modiwlau ac yn methu’r modiwl(au) ar yr ail gynnig wedi methu’r rhaglen.
Rheoliadau i’w defnyddio ar gyfer Bwrdd Dilyniant mis Medi
S6
Bydd ymgeiswyr sydd wedi casglu o leiaf 120 o gredydau yn gymwys i symud ymlaen i Gam 2.
S7
Gall ymgeiswyr sydd wedi casglu 100 o gredydau neu ragor ond llai na 120 credyd fod yn gymwys i fynd ymlaen i Gam 2 ar yr amod:
- Nad yw’r modiwlau y maent wedi'u methu wedi'u dynodi cyn hynny yn "fodiwlau craidd" ar gyfer y rhaglen benodol (gweler Rheol Dilyniant Cyffredinol G5);
- Nad yw’r marciau yn y modiwlau hyn yn llai na 30%
(Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel ‘methiannau a ddigolledir’. Ddyfernir credydau ar gyfer methiannau a ddigolledir.)
S8
Tybir bod ymgeiswyr sydd wedi casglu 100 o gredydau neu fwy ond llai na 120 credyd ond sydd wedi methu modiwl(au) wedi methu’r rhaglen. Fodd bynnag lle bo amgylchiadau esgusodol a/neu ofynion y Corff Proffesiynol yn caniatáu, gall y Bwrdd Arholi ganiatáu un cynnig olaf ar fodiwl(au) yn ystod y sesiwn academaidd nesaf.
Bwrdd Dyfarnu Cam 2 (a gynhelir fel arfer ym mis Medi/Hydref ar gyfer cyflwyniadau cyntaf a mis Chwefror ar gyfer ail gyflwyniadau)
S9
Bydd ymgeiswyr sy’n pasio Cam 2 y rhaglen, gyda marc o 40%, yn cymhwyso ar gyfer dyfarniad Diploma Uwch i Raddedigion.
S10
Bydd ymgeiswyr sy’n methu Cam 2 o’r rhaglen ar y cynnig cyntaf fel arfer yn cael ailgyflwyno eu modiwl prosiect/traethawd hir yn unol â’r terfynau amser priodol.
S11
Bydd ymgeiswyr sy’n methu Cam 2 ar yr ail gynnig yn methu’r rhaglen ac ni fyddant yn gymwys ar gyfer Cymhwyster Ymadael.
Cymhwyster ar gyfer Dyfarniad
S12
Er mwyn bod yn gymwys i’w hystyried ar gyfer Diploma Uwch i Raddedigion Prifysgol Abertawe, bydd ymgeiswyr yn mynychu a chwblhau modiwlau o fewn y cyfnod cofrestru uchafswm.
S13
Bydd ymgeisydd sy’n cwblhau Diploma Uwch i Raddedigion yn llwyddiannus yn gymwys ar gyfer dyfarniad Teilyngdod pan fo wedi ennill marc cyffredinol o 60-69.99% ar gyfer y dyfarniad dan sylw.
S14
Bydd ymgeisydd sy’n cwblhau Diploma Uwch i Raddedigion yn llwyddiannus yn gymwys ar gyfer dyfarniad Rhagoriaeth pan fo wedi ennill marc cyffredinol o 70% neu’n uwch ar gyfer y dyfarniad dan sylw.
Cymwysterau Ymadael
S15
Nid yw ymgeiswyr sy’n dilyn Diploma Uwch i Raddedigion yn gymwys ar gyfer cymhwyster ymadael.