Cam 1 – Datrysiad Anffurfiol
Gellir datrys y rhan fwyaf o gwynion yn hawdd ac yn gyflym drwy eu codi’n anffurfiol gyda’r unigolyn/unigolion perthnasol pan ddaw’r broblem i’r amlwg yn y lle cyntaf.
Fel arfer, rhaid codi cwynion anffurfiol (Cam 1) o fewn 3 mis i ddyddiad achos(ion) y gŵyn.
Os oes modd, dylech drafod eich cwyn yn gyntaf â'r unigolyn sy'n destun y gŵyn. Fel arall, efallai yr hoffech drafod eich cwyn â Phennaeth eich Adran, Cyfarwyddwr eich Rhaglen neu'ch Tiwtor Personol. Mae’n bosib y bydd rhai materion cyffredinol yn addas i’w trafod ym Mhwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr eich Coleg.
Gall Canolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr eich helpu i godi’ch cwyn yn anffurfiol.
Cam 2 – Cwyn Ysgrifenedig Ffurfiol at Bennaeth y Coleg/yr Adran Weinyddol (drwy’r Gwasanaethau Addysg)
Os na allwch ddatrys eich pryderon yn anffurfiol, neu os teimlwch na allwch fynd at yr unigolyn/unigolion perthnasol yn uniongyrchol, dylech gyflwyno cwyn ysgrifenedig at Enwebai Cwynion y Gwasanaethau Addysg o fewn yr amserlen ganlynol:
- O fewn 21 diwrnod i ddyddiad yr ymateb i'ch cwyn anffurfiol (Cam 1); neu
- (Lle na gyflwynwyd cwyn anffurfiol) o fewn 3 mis o ddyddiad achos(ion) y gŵyn.
Dylai'ch cwyn gynnwys:
Manylion eich cwyn – byddwch yn gryno ac yn eglur, a chyfeiriwch at unrhyw ddigwyddiadau neu ddyddiadau penodol;
- Unrhyw gamau anffurfiol a gymerwyd eisoes (gan gynnwys enwau unrhyw staff sydd wedi ymwneud â'r gŵyn) a'r canlyniadau;
- Pam rydych yn anfodlon o hyd;
- Pa ganlyniad yr hoffech ei weld;
- Copi o unrhyw ddogfennau neu ohebiaeth sy'n berthnasol i'r gŵyn neu'n ei chefnogi.
Gallwch anfon eich Cam 2 Ffurflen Cwyno Ffurfiol at Enwebai Cwynion Gwasanaethau Addysg drwy e-bost
Bydd yr Enwebai Cwynion yn ysgrifennu atoch i gadarnhau bod eich cwyn wedi'i derbyn yn ddiogel, a gall ofyn i chi ddarparu rhagor o wybodaeth neu eglurhad. Yna caiff eich cwyn ei chyfeirio at Bennaeth y Coleg/yr Adran Weinyddol berthnasol, a byddant yn ceisio darparu ymateb ysgrifenedig i'ch cwyn o fewn 20 niwrnod gwaith. (Dylech ddisgwyl cael eich hysbysu os nad yw’r Coleg/Adran Weinyddol yn gallu bodloni'r terfyn amser hwn am unrhyw reswm.)
Adolygiad Terfynol o Ganlyniad Cam 2 y Weithdrefn Cwynion ac Adolygiad Allanol
Os ydych yn parhau'n anfodlon ar ganlyniad eich cwyn Cam 2, gallwch ofyn am Adolygiad Terfynol drwy lenwi'r Ffurflen Gais am Adolygiad Terfynol a'i chyflwyno i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Academaidd o fewn 14 diwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr/e-bost yn eich hysbysu ynghylch canlyniad Cam 2 eich cwyn. Gweithdrefn Adolygiad Terfynol
Pan fydd proses yr Adolygiad Terfynol wedi'i chwblhau, bydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg yn anfon llythyr "Cwblhau Gweithdrefnau" atoch yn cadarnhau penderfyniad terfynol y Brifysgol a bod y gweithdrefnau wedi'u cwblhau. Yna gallwch ystyried gofyn i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch (OIA) gynnal adolygiad allanol o'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch achos. Mae rhagor o wybodaeth am Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch (OIA) ar gael gan yr OIA.