Mae myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, a gyflogir ar hyn o bryd gan Brifysgol Abertawe fel Cynorthwywyr Addysgu neu Uwch-gynorthwywyr Addysgu mewn Ysgol neu Adran sy'n rhan o'r rhaglen, yn gymwys i ymgeisio am Gymrodoriaeth Cysylltiol Advance HE (AFHEA) drwy ein llwybr cais mewnol. Bydd y rhaglen hon yn eich galluogi i adeiladu ar eich hyfforddiant cychwynnol i ddatblygu eich sgiliau a'ch ymarfer myfyriol ymhellach ac ennill cydnabyddiaeth am eich arfer da wrth gefnogi dysgu ac addysgu mewn addysg uwch. 

 

Cwestiynau a ofynnir yn aml