Ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gyfathrebwr da? Allwch chi esbonio eich traethawd ymchwil mewn ffordd ddarbwyllol i bobl y tu allan i'ch maes chi? Beth am wneud hynny mewn tair munud yn unig?

Mae Thesis Tair Munud, 3MT, yn gystadleuaeth genedlaethol sy'n gofyn i chi wneud hynny.

Mae 3MT yn herio myfyrwyr doethurol i gyflwyno eu pwnc ymchwil i gynulleidfa nad ydynt yn arbenigwyr mewn tair munud yn unig gan roi cyfle iddynt arddangos eu hymchwil a datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd.

Darllenwch am ein henillwyr blaenorol

Prifysgol Abertawe – Thesis Tair Munud 2021

GWYLIWCH Y CYFLWYNIAD BUDDUGOL YN 2019 GAN Laura Broome

Gwyliwch y cyflwyniad buddugol yn 2019 gan Darren Scott o'r coleg gwyddoniaeth