Bob blwyddyn, rydym ni'n cynnal Gŵyl Ymchwil Ôl-raddedig Abertawe i amlygu gwaith ein cymuned ymchwil ôl-raddedig.

Mae'r Ŵyl Ymchwil Ôl-raddedig yn gyfle i'r gymuned Ymchwil Ôl-raddedig ar draws y Brifysgol ddod at ei gilydd mewn digwyddiadau sy'n arddangos y gwaith anhygoel y mae'r ymchwilwyr ôl-raddedig yn ymgymryd ag ef. Mae'n dod ag ymchwilwyr o ddisgyblaethau gwahanol ynghyd ac yn creu lle i gydnabod a dathlu'r gymuned ymchwil ôl-raddedig.

Mae rhaglen lawn lle bydd cannoedd o fyfyrwyr ac aelodau staff ar draws ein campysau'n cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau a arweinir gan fyfyrwyr, gan orffen gyda'r Arddangosiad Ymchwil Ôl-raddedig lle cynhelir rownd derfynol cystadleuaeth flynyddol y traethodau ymchwil tair munud a'r dyfarniadau ymchwil ôl-raddedig.

YR ŴYL ELENI

Rydym ni wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau cyffrous ar gyfer yr ŵyl eleni, gan gynnwys sesiynau newydd ar ymgysylltu creadigol, hunaniaeth ymchwil a chynhwysiant ac ymdeimlad o berthyn wrth oruchwylio, ynghyd â sesiynau poblogaidd megis Talking Research, Bake Your Thesis ac, wrth gwrs, Ddigwyddiad Arddangos Ymchwil Ôl-raddedig. 

Byddwn ni'n ychwanegu rhagor o fanylion a gwybodaeth am sut i gadw lle ar gyfer digwyddiadau'n fuan. Cadwa lygad ar y tudalennau hyn a dy fewnflwch.

RHAGLEN YR ŴYL - RHAGLEN LAWN YN DOD YN FUAN