Gwobrau Ymchwil Ôl-raddedig

Mae'r Gwobrau Ymchwil Ôl-raddedig yn gyfle i gydnabod gwaith caled a chyflawniadau pobl ledled ein cymuned ymchwil ôl-raddedig. O ragoriaeth academaidd i sêr ymgysylltu â'r cyhoedd, o staff sy'n mynd y tu hwnt i'r disgwyl i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy'n canolbwyntio ar feithrin eu cymuned a dod â phobl ynghyd.  

Penderfynir ar rai o'n dyfarniadau gan baneli dyfarnu fel rhan o gystadlaethau cyffredinol y Brifysgol megis 3MT. Mae'r rhai isod yn seiliedig ar enwebiadau gan ein cymuned ymchwil ôl-raddedig a staff. Gallwch enwebu eich hun, ymchwilwyr ôl-raddedig eraill ac ar gyfer ein dyfarniad 'diwylliant a chymuned' gallwch hefyd enwebu aelodau staff.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau eleni yw 26 Ebrill 2024, gyda'r enillwyr a'r gwobrau'n cael eu cyhoeddi a'u rhoi yn y Dyfarniadau Ymchwil Ôl-raddedig ar 22 Mai.