Byddwn yn cynnig cymysgedd o weithdai wyneb yn wyneb ar y campws a gweithdai ar-lein y gallwch gael mynediad iddynt o unrhyw le. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio fformat y gweithdy cyn archebu.

Ffordd i Archebu:

  • Gwelwch y gweithdai sydd ar gael isod, wedi’u trefnu yn ôl y mis, a dewis pa weithdai yr hoffech fynd iddynt 
  • Cliciwch ar deitl y gweithdy i gofrestru cyn y sesiwn 
  • Yn achos gweithdai a gynhelir dros Zoom, cadwch y manylion yn eich calendr i wneud yn siŵr eich bod yn derbyn e-bost i’ch atgoffa 

Os oes angen cymorth mwy penodol arnoch, wedi’i deilwra ar eich cyfer chi, cysylltwch â’n harbenigwyr i gael arweiniad un i un i’ch helpu i lwyddo yn eich gradd ymchwil. Gallwch weld y cymorth sydd ar gael yma.

Os oes angen addasiadau arnoch i’ch helpu i fynd i’r gweithdai, neu os oes rhywbeth yr hoffech i’r hwylusydd ei wybod ymlaen llaw, anfonwch e-bost at Dîm Datblygu Sgiliau’r Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig.

 

Ddim yn siŵr ble i ddechrau?

Defnyddiwch ein dull Dadansoddi Anghenion Datblygu a Hyfforddi i adfyfyrio ar sgiliau a galluoedd presennol, ynghyd â meysydd efallai y bydd angen i chi eu datblygu. Gallwch wneud hyn ar eich pen eich hun â'u trafod â'ch goruchwyliwr. Mae hefyd yn syniad da i gadw cofnod o'r holl weithgareddau datblygu a hyfforddi rydych chi'n cymryd rhan ynddynt, naill ai fel rhan o'r ddogfen hon neu fersiwn ar y gweill o'ch CV.

Gweithdai Datblygu Sgiliau 23/24