Bydd Croeso ac Wythnos Sylfaen ar gyfer Ymarfer Cyfreithiol a Drafftio Uwch (LPC) yn yr wythnos sy'n dechrau 9 Medi 2024.

Bydd y manylion terfynol yn cael eu hanfon atoch yn nes at yr amser a byddant hefyd yn cael eu cynnwys ar y dudalen we hon.

Yn ystod yr wythnos hon, byddwch yn cwrdd â'ch darlithwyr a fydd yn dweud mwy wrthych am eich rhaglen astudio a'n disgwyliadau o fyfyrwyr. Bydd cyfle i chi hefyd gwrdd â rhai staff Gwasanaethau Proffesiynol allweddol yn yr Ysgol a chael gwybod mwy am y gefnogaeth ehangach sydd ar gael i chi.

Oes gennych gwestiynau?

Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr eich Ysgol fydd eich cyswllt cyntaf ar gyfer cael cyngor, cyfeirio ac ymholiadau cyffredinol. Cewch gyfle i gwrdd â'r tîm yn ystod yr Wythnos Groeso, yn y sesiynau Camau Cyntaf ac yn nigwyddiadau cymdeithasol eich Ysgol.

Gallwch gysylltu â nhw drwy e-bost ac ar ôl i chi gyrraedd, galwch heibio i'w gweld yn Nerbynfa'r llawr cyntaf, y Techniwm Digidol

Dyma atebion i rai cwestiynau cyffredin yn y Gyfadran. Os oes gennych ragor o gwestiynau, mae croeso i chi anfon e-bost atom ni!

Cwestiynau Cyffredin