Mae'r ymgyrch Newid Gyda'n Gilydd yn amlygu'r bartneriaeth bwysig rhwng y Brifysgol a'n myfyrwyr. Ei nod yw dangos i chi pa mor bwysig i ni yw eich adborth a pha gamau gweithredu rydyn ni wedi eu cymryd i wella eich profiad ym Mhrifysgol Abertawe.
Rydyn ni'n talu sylw i lais y myfyriwr, felly daliwch ati i roi eich adborth i ni!
Ehangwch bob adran isod er mwyn gweld sut mae eich adborth wedi helpu i lywio'r Brifysgol a gwella'ch profiad fel myfyriwr.