cadwch eich arian yn ddiogel

Mae bron pawb yn siopa ar-lein y dyddiau hyn a pham lai? Mae’n syml, yn gyflym a gallwch ei wneud bron ym mhobman. Yr hyn nad yw pobl yn ei ystyried yw’r peryglon diogelwch wrth brynu pethau ar gyfrifiaduron a rhwydweithiau WiFi cyhoeddus. Treuliwch ychydig funudau’n darllen ein canllawiau gorau am sut i gadw eich cardiau banc a’ch manylion adnabod personol yn ddiogel. 

  • Dylech chi brynu o wefannau yr ydych yn ymddiried ynddynt yn unig. Mae hyn yn swnio’n amlwg ond mae llawer ohonom yn anghofio gwneud hyn.

  • Wrth siopa ar-lein, gwnewch yn siŵr bod yr URL yn dechrau gyda 'https' yn lle 'http'. Hefyd, edrychwch am symbol clo neu eicon cwmni diogelwch gan gwmni dibynadwy – mae’r symbolau hyn yn dynodi y dylai’r safle fod yn ddiogel. 

  • Dylech osgoi defnyddio cyfrifiaduron a WiFi cyhoeddus wrth brynu pethau a gwirio eich cyfrifon banc ar-lein. Mae’n dod yn fwy cyffredin i bobl siopa ar-lein ac edrych ar eu cyfrifon banc ar eu ffôn symudol gan ddefnyddio WiFi cyhoeddus. Gall hyn fod yn beryglus gan fod y platfformau hyn yn arbennig o agored i hacwyr. Arhoswch nes eich bod ar gyfrifiadur yr ydych yn gwybod ei fod yn ddiogel cyn i chi brynu unrhyw beth neu edrych ar eich cyfrifon banc.

  • Byddwch yn wyliadwrus wrth dderbyn e-byst gan manwerthwyr/HMRC ayyb sy’n gofyn i chi glicio ar ddolen neu’n gofyn i chi am rifau eich cardiau - mae’n bosib mai twyll yw’r rhain. Y peth gorau i’w wneud yw cysylltu â’r manwerthwr y cawsoch yr e-bost ganddynt i wirio ai nhw a’i hanfonodd.