Myfyrwyr yn gweithio mewn grŵp o amgylch bwrdd

Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig cyfanswm o wyth wobr y gall unrhyw fyfyrwyr eu hennill.

I gael mwy o fanylion am sut i gymryd rhan a gwneud cais am y gwobrau hyn, cliciwch ar y ddolen berthnasol isod.

Gwobr Darganfod
Discovery Gwirfoddoli Myfyrwyr Abertawe logo

Hoffech chi gyfoethogi bywyd pobl sy'n wynebu gwahaniaethu ac anfantais?

Hoffech chi chwarae rôl fwy gweithredol yn eich cymuned?

Beth am gynyddu cydraddoldeb trwy brosiectau dan arweiniad myfyrwyr?

Teithiwch ar hyd 'llwybrau' trwy Darganfod er mwyn ennill tair gwobr wahanol - Gwirfoddolwr, Cydlynydd Prosiect ac Ymddiriedolwr. Bydd y wobr yr ydych yn ei derbyn yn dibynnu ar eich ymrwymiad ac ymwneud.

Mae'r cyfleoedd ichi yn amrywio ar gyfer pob lefel o fynychu prosiect, i gymryd prif rôl mewn prosiectau a strwythur y cynllun Darganfod. Fel gwirfoddolwr, mae hefyd gennych y cyfle i ymweld â Sambia am fis yn yr haf er mwyn ennill gwobr Siavonga Ryngwladol yn gyfnewid am gefnogi partneriaeth Siavonga Abertawe!

Mwy o Wybodaeth a Gwneud Cais

Gwobr Yr Aifft Gwobr Cwrs Datblygu Gyrfa Gwobr Arweinyddiaeth Entrepreneuraidd Gwobr Filwrol Gwobr Llysgennad Myfyrwyr Gwobr Undeb y Myfyrwyr Gwobr Cynaliadwyedd