Adroddiadau Cyflawniadau Addysg Uwch (HEAR): “Tystysgrif mewn Entrepreneuriaeth”
Adroddiadau Cyflawniadau Addysg Uwch (HEAR): Dyfernir gwobr "Tystysgrif mewn Entrepreneuriaeth" i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sydd wedi archwilio a dangos eu gallu i feddwl ac ymddwyn mewn ffordd fentrus, boed mewn cyd-destun busnes, menter gymdeithasol, arloesedd technolegol neu mewn cwmni, neu o fewn y Brifysgol er budd myfyrwyr eraill.
Mae pum llwybr er mwyn llwyddo i gael y wobr efydd, arian neu aur:
- Arwain wrth greu menter newydd – sefydlu busnesau masnachol o'r newydd
- Arwain entrepreneuriaeth gymdeithasol neu ddiwylliannol – creu ateb i ddiwallu angen neu fodloni galw yn y gymdeithas neu yn y gymuned
- Arwain arloesi technoleg – trosglwyddo syniadau newydd i gysyniadau am gynnyrch newydd
- Arwain arloesedd sefydliadol – gwneud gwahaniaeth mewn sefydliad drwy feddwl a gweithredu arloesol
- Arwain datblygu cyfleoedd entrepreneuraidd er budd myfyrwyr eraill y Brifysgol