Wythnos Groeso

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn yr Wythnos Groeso!

Bydd rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos a gobeithiwn y bydd hon yn rhoi digon o wybodaeth ac ysbrydoliaeth i chi wrth i chi ddechrau eich rhaglen astudio. Bydd llawer o gyfleoedd hefyd i gymdeithasu â'r myfyrwyr eraill ar eich cwrs a dysgu am y cymorth a fydd ar gael i chi wrth i chi astudio. 

Rydym yn eich annog i gymryd rhan mewn cynifer o sesiynau â phosib. Bydd sesiynau gorfodol i fyfyrwyr newydd yn cael eu nodi ar yr amserlen. 

Sylwer bod hon yn wahanol i'ch amserlen addysgu a fydd ar waith pan fydd y darlithoedd yn dechrau ddydd Llun 27 Ionawr.

Dydd Llun 29 Medi

Digwyddiad Arddangos Gwasanaethau Cymorth - 1pm y Twyni

Yn y digwyddiad hwn, byddwch yn cael cyflwyniad i'n gwasanaethau cymorth arbennig sydd ar gael i'ch helpu i lwyddo - yn academaidd, yn bersonol, ac yn gymdeithasol. P'un a ydych chi'n ymgartrefu yn y brifysgol, yn meddwl am eich gyrfa, neu'n chwilio am ffyrdd o gadw'n actif a gwneud cysylltiadau ag eraill, rydym yma i chi.

Cliciwch yma i weld amserau'r digwyddiad a thocynnau am ddim: Support Services Showcase

Dydd Mercher 5ed o Fawrth Dydd Mercher 22 Ionawr Dydd Iau 23 Ionawr Dydd Gwener 24 Ionawr

Oes gennych gwestiynau?

Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr eich Ysgol fydd eich cyswllt cyntaf ar gyfer cael cyngor, cyfeirio ac ymholiadau cyffredinol. Cewch gyfle i gwrdd â'r tîm yn ystod yr Wythnos Groeso, yn y sesiynau Camau Cyntaf ac yn nigwyddiadau cymdeithasol eich Ysgol.

Gallwch gysylltu â nhw drwy e-bost ac ar ôl i chi gyrraedd, galwch heibio i'w gweld yn Nerbynfa llawr tir, Techniwm Digidol ar Gampws Singleton, Derbynfa adeilad yr Ysgol Reolaeth ar Gampws y Bae.

 

Cwestiynau Cyffredin