Wythnos Groeso

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn yr Wythnos Groeso!

Bydd rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos a gobeithiwn y bydd hon yn rhoi digon o wybodaeth ac ysbrydoliaeth i chi wrth i chi ddechrau eich rhaglen astudio. Bydd llawer o gyfleoedd hefyd i gymdeithasu â'r myfyrwyr eraill ar eich cwrs a dysgu am y cymorth a fydd ar gael i chi wrth i chi astudio. 

Rydym yn eich annog i gymryd rhan mewn cynifer o sesiynau â phosib. Bydd sesiynau gorfodol i fyfyrwyr newydd yn cael eu nodi ar yr amserlen. 

Sylwer bod hon yn wahanol i'ch amserlen addysgu a fydd ar waith pan fydd y darlithoedd yn dechrau ddydd Llun 27 Ionawr.

Dydd Iau 26 Medi

10:00 Sgwrs Sefydlu Llyfrgell

Yr Ysgol Reolaeth, Ystafell 011 ac Ar-lein

Cyflwyniad i wasanaethau, adnoddau a chyfleusterau llyfrgell.

https://swanseauniversity.zoom.us/j/91534669605?pwd=ZDQAoY3sPkOcdxuKTpSeYwNwlDsnfF.1

ID y cyfarfod: 915 3466 9605

Cod pas: 507305

 

 

 

 

Oes gennych gwestiynau?

Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr eich Ysgol fydd eich cyswllt cyntaf ar gyfer cael cyngor, cyfeirio ac ymholiadau cyffredinol. Cewch gyfle i gwrdd â'r tîm yn ystod yr Wythnos Groeso, yn y sesiynau Camau Cyntaf ac yn nigwyddiadau cymdeithasol eich Ysgol.

Gallwch gysylltu â nhw drwy e-bost ac ar ôl i chi gyrraedd, galwch heibio i'w gweld yn Nerbynfa llawr tir, Techniwm Digidol ar Gampws Singleton, Derbynfa adeilad yr Ysgol Reolaeth ar Gampws y Bae.

 

Cwestiynau Cyffredin