The Society Column... Cwrdd â'n siaradwyr gwadd!

The Society Column ... Podlediad Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe! Mae'r tîm yma ym Mhrifysgol Abertawe yn ymddiddori ym mhob agwedd ar y gwyddorau cymdeithasol. Yn ein podlediad, rydym yn cyfweld ag academyddion y gwyddorau cymdeithasol gan eu holi am eu meysydd ymchwil penodol. Gweler isod am broffiliau siaradwyr ein gwesteion a'r ddolen i'n pennod ddiweddaraf!

Dr Jane Gatley

Dr Jane Gatley

Mae Jane Gatley yn athronydd addysg sydd â diddordebau mewn nodau addysg, y cwricwlwm, gwerth athroniaeth, ac addysgu athroniaeth mewn ysgolion. Dyfarnwyd ei PhD iddi gan Brifysgol Birmingham a bu'n gweithio yno fel Cymrawd Ôl-ddoethur y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Cyn hyn, bu'n gweithio fel athrawes ysgol uwchradd yn Lloegr am saith mlynedd. Bydd llyfr cyntaf Jane 'Why Teach Philosophy in Schools' yn cael ei gyhoeddi yn 2023 gyda Bloomsbury.

Leah Owen

Leah Owen

Mae Leah Owen yn Ddarlithydd Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe. Mae'n arbenigo mewn astudio trais torfol – hil-laddiad, troseddau rhyfel, a throseddau yn erbyn dynoliaeth – gan ganolbwyntio'n benodol ar ysgogi drwgweithredwyr, diogeleiddio, traethu a biwrocratiaethau. Ymhlith ei diddordebau ymchwil eilaidd, mae wedi ysgrifennu ar gyfiawnder ôl-wrthdaro, gan archwilio hanes llysoedd rhyngwladol a chenedlaethol, a'r berthynas anodd rhyngddynt, yn ogystal â materion traws mewn cysylltiadau rhyngwladol.

Pennod Ddiweddaraf

Logo The Society Column

Cliciwch yma i wrando ar ein pennod ddiweddaraf, 'What has Socrates ever done for kids?' gyda'n siaradwr gwadd, Dr Jane Gatley, yr Adran Athroniaeth Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol.

THE SOCIETY COLUMN... DYMA'R TÎM!

Gweler isod am broffiliau ein Tîm TSC gwych!

Florence Currie

Florence Currie

Myfyriwr israddedig blwyddyn gyntaf yw Florence ac mae'n astudio am radd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a Ffrangeg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi'n rheoli ei brand syrffio ei hun, gan weithio yn y cyfryngau creadigol ac ym maes newyddiaduraeth a chydweithredu â chymuned leol Gŵyr. Fel arweinydd y cynhyrchiad, mae hi'n rheoli'r holl weithgareddau brandio, y cyfryngau, marchnata a golygu sy'n ymwneud â phodlediad The Society Column.

Megan Salter

Megan Salter

Myfyriwr israddedig yn ei hail flwyddyn yw Megan ac mae'n astudio am radd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol. Yn ogystal â datblygu The Society Column, hi yw Prif Olygydd Populo, cyfnodolyn academaidd Athroniaeth, Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Abertawe. Mae gan Megan rôl newyddiadurol ac mae'n un o'r cyflwynwyr byddwch yn eu clywed yn The Society Column.

Dr Gideon Calder

Dr Gideon Calder

Mae Gideon yn Athro Cysylltiol Athroniaeth a Pholisi Cymdeithasol, Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n darlithio'n bennaf am gyfiawnder cymdeithasol, plant a'r teulu a damcaniaeth wleidyddol a chymdeithasol. Mae ei ymchwil wedi cynnwys rhoi damcaniaeth wleidyddol a chymdeithasol ar waith mewn amrywiaeth o feysydd, ar hyn o bryd, plentyndod, cyd-gynhyrchu ac agweddau ar lesiant cymdeithasol. Mae Gideon yn un o'r cyflwynwyr byddwch yn eu clywed yn The Society Column.