Ar hyn o bryd rydym yn adeiladu rhaglen gyffrous o weithgareddau ar gyfer Wythnos Groeso. Bydd yr amserlenni hyn yn mynd yn fyw o 9 Medi, felly gwiriwch yn ôl bryd hynny am fanylion eich sesiynau.

Yn y cyfamser, gwnewch nodyn o'r dyddiadau allweddol isod, edrychwch ar neges groeso gan eich Pennaeth Ysgol, a dilynwch ni ar Instagram i gael blas ar yr holl bethau cyffrous y byddwch chi'n gallu cymryd rhan ynddynt yn ein cymuned Ysgol a'r Gyfadran.

CROESO CYNNES I FYFYRWYR

Fel Pennaeth yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, mae'n bleser gennyf dy groesawu i Brifysgol Abertawe. Fel tîm o staff academaidd a gweinyddol, rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at gwrdd â thi a dy helpu i ymgartrefu yma yn Abertawe.  

Bydd yr wythnosau nesaf yn llawn cyfleoedd cyffrous a phrofiadau newydd wrth i chi gwrdd â'ch darlithwyr, ymgyfarwyddo â’ch pynciau academaidd, ymuno â chlybiau a chymdeithasau a chreu ffrindiau gydol oes.  Rydym yma i helpu i ateb eich cwestiynau a’ch helpu chi i ymgartrefu.  Gobeithio y gallaf eich cyfarfod wyneb yn wyneb rhywbryd, ond am nawr dymunaf bob llwyddiant i chi am yr wythnosau a’r blynyddoedd nesaf, ac edrychaf ymlaen at ddathlu eich llwyddiannau a'ch cyfraniad i'n hysgol.

Yr Athro Richard Thomas,  Pennaeth yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu  

Llun o Bennaeth yr Ysgol, Yr Athro Richard Thomas